Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

.YR AIIDDANGOSFA GYD-GENEDLAETHOL.

¡v :~""...irv/•[:"., MASNACH…

;F- v Y ONYDAU. :

News
Cite
Share

;F v Y ONYDAU. MAE lliaws tref a gwlad yn y, dyddiau hyn yn edrych ar y cymmylau, ac yn ceisio gwneyd eu goreu i ddarllen arwyddion yr wybrenau. Dengys yr adroddiadau o bob cyfeiriad fod pob argoelion eleni am gnydau toreithiog, Nid oes dim yn fwy pwysig i'r wlad hon na chnwd hel- aeth a chynhauaf da. Nid ydyw masnach eto wedi adnewyddu ei nerth ar ol y flwyddyn ddi- weddaf. Yr oedd honoyn flwyddyn i'w chofio gan bob dosbarth a gradd, a bydd miloedd o deuluoedd yn Mhrydain yri cofio y flwyddyn gyda thristwch am eu hoes. Mae iechydwriaeth masnach ein gwlad yn dibynu ar gynhauaf y flwyddyn hon. Digon gwir ein bod yn lied ddiogel rhag newyn. Yn nyddiau Deddfau yr Yd, dilynid cynhauaf gwlyb ganangen a newyn; ond yr ydym yn lied ddiogel rhag y drygfyd hwnw, dan oruchwyliaeth masnach rydd; canys y mae digon o arian yn Lloegr, a digon o ddefn- y^d bara yn yr Aipht, a Bwssia, ac TJnol Dal- eithiau America. Ond os bydd cyfartaledd mawr 0 arian y deyrnas yn myned i wledydd eraill am yd, y canlyniad anocheladwy yw, mas- nach farwaidd, a phrinder gwaith. 0 w Yr ydym yn deall fod cnydau helaeth o wair agos yn mhob ardal, ac y mae llawer o hono wedi ei gywain mewn cyflwr rhagorol o dda. Bydd pris y cig am y flwyddyn nesaf yn dibynu yn fawr ar gynhauaf gwair y flwyddyn hon. Os na cheir tywydd teg yn fuan, bydd colled am y gweddill. Gwnaeth y gwlaw diweddar ddaioni nid ychydig i'r cnydau gleision, a'r ydau diw- eddar, canys yr oedd wedi myned yn sych ar diroedd cleuog a thywodog. Gwelsom gnydau trymion o wenith a haidd wedi eu euro i'r llawr gan y gwlaw a'r ystormydd. Dengys ystadegau ar y rhai y gellir rhoddi cael, fod yr holl ddefnydd bara sydd yn ystor genym yn ddigon prih i gyflenwi yr angen dan y eynhauaf. Mae yn wir y gwna y busych a'r cloron, y rhai ydynt doreithiog eleni, lawer iawn i lenwi y diffyg. Etto, nid oes un sail i ddis- gwyl am ostyngiad yn mhris y bara tan y cyn- hauaf. Os oes gwahanol farnau am y Reform Bill, yr Eglwys Wyddelig, a chwestiynau cy- hoeddus eraill, y mae pob gradd a sefyllfa yn un a chyttun yn eu dymuniadau am awyr glir, a chynhauaf da i lenwi ein hysguboriau a digon- oldeb, ac i feddyginiaethu masnach archolledig ein teyrnas.

LLONGAU.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

LLAW-LYFR ETHOLIADOL OYMRU.