Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

.YR AIIDDANGOSFA GYD-GENEDLAETHOL.

News
Cite
Share

YR AIIDDANGOSFA GYD-GENEDL- AETHOL. PAN afaelodd Napoleon yn awenau llywodraeth Ffrainc, meddylid a siaredid yn dra dirmygus am dano. Yr oedd wedi gwneuthur cais un- waith neu ddwywaith o'r blaen am y goron, ac wedi methu. Peth methedig iawn ydyw meth- iant, a pheth llwyddiannus iawn ydyw llwydd- iant. Haerid nad oedd dim rhagoriaethaxx yn- ddo, ond yn unig ei fod yn 'nai i'w ewytlir.' Ond erbyn heddyw y mae barn y byd am dano wedi newid yn fawr iawn. Yn y blynyddoedd diweddaf dadlenodd ansoddau yn ei gymmeriad na feddyliodd neb ei fod yn eu perehen. Diau ei fod yn un o'r personan galluocaf a fu erioed yn llywio gwlad. Arweiniwyd ein meddwl at hyn'gan gynllun o'r Arddangosfa gyd-genedlaethol yn Paris, yr hwn sydd yn awr ar y bwrdd ger ein bron. Meddylddrych ysplenydd oedd yr un a da- rawocld fynwes y Tywysog Albert—ALBERT DDA --meddyldffitcli a emiillodd ei lioll galon, ac a ddygwyd i gyflawniad yn 1851 yn Llundain. Bu Arddangosfeydd yn Llundain ac yn Dublin wedi llyny, ond tybiwn mae yr un bresenol yn Paris ydyw yr un ardderchocaf o honynt oil. Yno y mae cyrchfa Amherawdwyr, Breninoedd, a Thywysogion o bellafoedd y byd; a dynion o bob gradd o blith gwahanol genedloedd y ddaiar. Ni all neb meddylgar, yn yr olygfa, lai na go- fyn, Beth fydd diwedd y pethau hyn? Beth yw cyfeiriad y peth newydd hwn ar y ddaear? Nid ydym ni ar y pryd hwn am draethu ein barn gyda golwg ar gyfreithlondeb neu anghyf- reithlondeb rhyfel, ac nid ydym yn barnu bod rhyfeloedd ar ben. Nid yw y Milflwyddiant Wedi dyfod; gall y bydd cryn amser cyn y daw. Nid yw teyrnasiad heddwch wedi dechreu. Y mae cenedl yn parhau i ymladd yn erbyn cen- ed!. Ni ddilewyd soriant pobloedd. Nid yw cleddyfau wedi cael eu troi yn gwlltyr erydr, na gwaywffyn wedi cael eu troi yn bladuriau. Trwst tabyrddau sydd eto yn byddaru y byd. Nid yw sain melusber heddwch wedi distewi ndgom rhyfel. Ond er y ffeithiau hyn gallwn gredu yn ddyogel fod yma gychwyniad yn yr iawn .,gyfeiriad. 01 troed yn y tywod ydyw, sydd yn arwyddofod dyno liaeth yn camru at nod mwy rliagorol. Y mae dynoliant yn myned rhagddi. Er nad yw yr awr wedi dyfod (ie, er ei bod yn bell allan o'r golwg,) pan y teflir ymaith y cleddyf a'r waywffon, eto yr ydym yn gweled cwmwl bach fel clodr llaw gwr, yn ar- wyddo amseroedd gwelL Canfyddwn doriad gwawr sydd yn creu gobaith am ddiwrnod braf. Y mae cydymdrechion cenedloedd y ddaear mewn celfyddyd a diwydrwydd yn foddion i ladd ysbryd dinystr, ac i fagti ysbryd tangnef- edd. Dylai geiriau Napoleon gael eu hargraffu iiaew-n Ilythyrenau aux-geiriau a lefarodd o flaen Araherawdwr Twrci, Tywysog Cymru, Ty-' wysog Prwssia, a Thywysog Japan—' Boed i'r rhai sydd wedi byw yn ein plith am ych- ydig amser ffurfio -barn gywir am ein gwlad, a bod yn hollol [ddarbwylledig o'n parch tuag at, a'n cydymdeimlad a chenedloedd eraill, gyda y rhai, ein dymuniad diffuant ydyw byw mewn heddwch.' Ni allwn fod yn anhyddysg o'r cyfnewidiad mawr .sydd yn y perthynasau rhwng Lloegr a Ffrainc. Ni buasai ein tadau yn coelio—yr oeddynt liwy yn treulio haner eu hamser mewn rhyfeloedd o oes i oes—ni bu- asent hwy yn coelio y dygwyddasai y fath beth byth a bod Prydain yn treulio haner canrif mewn heddwch a'i 'gelynion naturiol'! Boed i'r heddwch hwn barhau, ac na foed i ddim ddygwydd i ddadfachu undeb y ddwy wlad. a- casglodd yr hen Napoleon ex fyddm o haner CM* O filoedd, yn 1815, i wynebu ar Waterloo, ar y maeg hwnw, y mae adeilad ardderchog yr Arddangosfa wedi cael ei adeiladu. Y mae'r' olyofa, yn aruthrol. Pan yn amrodio oddifewn teimlir dyddordeb mawreddus! Dylai pawb fyned yno a all fyned. Os nad ydym yn camgymeryd, gwnaed darpariaeth ar gyfer cludiad gweithwyr Deheubarth Cymru i Paris, ond nid ydym yn gwybod fod dim dar- pariaeth o'r fath wedi cael ei wneyd ar gyfer gweithwyr y G-ogledd. Mor werthfawr faasai i lafurvvyr y cloddfeydd yn Arfon a Meirion, ac i lafurwyr y gweithfeydd glo yn Dinbych a flint, gael gwibdaith i dremio ychydig ar y tIlYfeddodau! Buasent yn cael tipyn o olwg ar y byd, yn dychwelyd adref a'u meddyliau wedi ymelxangu, ac. yn argyhoeddedig nad yw pob gwaith celfydd yn gyfyngedig i Brydain.— Nid yn Lloegr a Chymru yn unig y mae pob cywreinwaith. r" ,J! '20.¡¡': Rhaid ini ochel bod yn rhy hyderus yn ein rhag-olygfeydd, oblegid ein bod yn byw mewn 0 byd lie y mae Satan yn trigo, ai chanddo lid mawr at y saint sydd ar y ddaear. Y iiiae ni) ganddo bob amser ddosbarth o ddynion sydd am ddwyn y Bibl oddiar yr Arglwydd a'i roddi i bleidio amcanion diafol. Ymdrech Satan bob amser ydyw gwrthweithio daioni. Pan yr enfyn Duw Moses, enfyix diafol swynwyr. Hyderwn y gwel cenedloedd y byd fwyfwy o ddrygedd rhyfel ac o werth tangnefedd. Grail fod rhyfel mewn rhai amgylchiadau yn angelirliei(h-ivydd poeixxxs; gall rhyw fanteision ei ddilyn ambell dro. Gall fod yn achlysur i ddangos gofal a gwroldeb; gall ty ar dan fod yn achlysur cy- ffelyb. Ond credwix na chwenyclxai nob osod tai ar dan i'r dyben o fod yn aohlysuron i amlygu gofal a gwrolder. ,,4 •} f 1 :j ¡; li.

¡v :~""...irv/•[:"., MASNACH…

;F- v Y ONYDAU. :

LLONGAU.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

LLAW-LYFR ETHOLIADOL OYMRU.