Hide Articles List

6 articles on this Page

.,YR HEN DEILIWR.

,,CYEARFOD YSGOL YN ARFON.

News
Cite
Share

CYEARFOD YSGOL YN ARFON. Mr. GOL., —— Yr yciym yn dueddol iawn i ddyweyd yr hyna irelwn ac a glywn am bethau a pbersonan hwnt ac yma wrth wibio drwy y byd. Y mae hyn weithiau yn gwneyd daioni ond yn amI yn achosi llawer o anghydfod ac anghysur. Os byddwch mor hynaws ag agor y drws, bwriadaf nnnau ddyweyd ycbydig 11 z!1 o'r pethau a welaistic .a glywais wrth dclarllei-invyr y TYST' CYMEEIG, gan hyderu y deillia peth daioni oddi wrth hyny. Yn ddiweddar, wrth ymlwybro, dyg'wyddodd i'm coelbren syrthio i fod yn treulio y Sabbath Olaf yn Mehefin yn ardal Siloli, Felinheli. Yr oedd hwn yn digwycld bod yn Sabbath i Gyfarfod Ysgolion Dosbarth Bethel gael eig-ynnal yn y lie. Deallwyf fod yr Undeb Ysgolion hwn yn hen sefydl- iad, ac wedi dal ei dir. yn llwyddiannus, a gwneud lies nid bychan i'r ysgolion sydd yn perthyn iddo. Tua hanner awr wedi naw, cyfeiriasom tua'r capel. Yi- oedd y rhan hono o'r dydd i gael ei dreulio mewn areithfo gan rai o aelodau yr Undeb ar ddyledswydd y gwragedd i ymdrechn rhoddi en presennoldeb yn yr Ysgol Sabbathol. Ac yn ddilys ddigon i ti cldar- llenydd areithio da ar y cyfan oedd yno hefyd. Erbyn i mi gyrhaedd y capel, yr oedd amryw o'r "b-vyr,,wedil dyfodynghyd, ac un hen frawd brig, lwyd barfog a'r olwg arno yri arwach na'i gyfeill- ion yn dechreit y eyfarfod drwy ddarllen y rhan hono o'r Ysgrythyrau, lie y sonir am Phillip a'r eunuch. Deallais yn fuan nad darllenwr eyffredin oedd yr hen frav/d hwn; darllenai gan osod allan y synwyr, fel y deallent wrth ddarllen a gwnai ychydig nodiadau byrion ac i'y pwrpas yno ddoctor- aidd wrth fyncd yn mlaen. Wedi i hwn derfynu ei waith, gwelvn ddyn lied gorphol, golygus. tua chanol oed, feddyliwn, yn codi ar ei draed. Dyna lywydd presennol yr undeb, yr hwn a adnabyddir yn dcla gan Annibynwyr y rhan hon 0 Arfon, a rhanau eraill o'r Dywysogaeth, fel dyn haelionus ac ymroddgar gyda phob gwaith da. Dechreuodd ar ei waith yn ddeheuig a dirodres heb fyned i ormesu yn ormodol ar ofod yr areithwyr. Galwodd i ddechreu ar un o aelodau ysgol Cwm- yglo i anerch y cyfarfod. Swm a sylwedd araetli" y brawd hwn ydoedd adrodcl am effeithiau daioniis y cyfarfod diweddafyn Cwmyglo. Deallwn ocldi; wrth don ei anerchiad fod yno gryn ymddiddan wedi bod ar y pwnc oedd i fod dan sylw heddyw, a bod hyny wedi effeithio er symbylu rhai o'r gwragedd i ddyfod 1 i'r Ysgol Sabbathol. Yr oedd hyn yn dda fel ar- weiniad i mewn. Galwyrd yn nesaf ar un o gynnrychiolwyr ysgol Llanberis i roddi anerchiad. Dechreuodd hwn guro ar y pwiigc go-odedig, sef Dyledswydd.y gwragedd; ac er nas gellir dyweyd fod ei ddyrnoiiau yn drym- ion, eto yr oedd yn amcanu yn dda; yr oedd ei sylw- adau i'r pwrpas. Y nesaf i sefyll i fyny ydyw cynnrychiolwr un o ysgolion Caernarfon, yr hwn a wnaeth ei ymddang- osiad yn mherson dyn ieuangc, a'r olwg arno dipyn yn fachgenaidd ond dangosodd yn iuan nad bach- gen jcloedd yn mhob ystyr o'r gair. Amcanai hwn eto anelu ei saeth i'r un cyfeiriad a'i frawd o Lan- beijis. Ymddangosai fel wedi ei Iwyr argyhoeddi fod gan,y rhyw deg ddawn neillduol i addysgu y rhai nis medrant," ac i "hyfforddio plentyn yn mhen y fFordd." Erbyn hyn, y mae yn dechren myned yn lied boech ar y gwragedd druain; y mae y gwyr a'r meibion fel wedi penderfynu eu hargylioedcli o'u hesgeulusdra a'u. codi at eu gwaith. Dywedai yn helaeth am eu cymmhwysderau i addysgu plant, a'u z, rhwymedigaethau i wneud hyny. Yn awr, yr ydym yn.myned i gael gair gan yr hen wron barfog a ddeel-ireliodd y cyfarfod. Dywedodd ar unwaith nad oedd ef am ddilyn llwybreiflaenor- iaid,—ei fod ef yn eu gweled yn debyg i'r heliwr yn curo y twmpath am ysgyfarnog; ond erbyn eclrych; yr oed c1 y piyf- clustiog y tu arall i'r clawdcl da ydoedd dyweyd am ddyledswydd y gwragedd, ond yr oedd eisiau clyweyd yn eu ciywedigaeth nid oedd ef yn gweled ond ychydig 0 honynt yno. Ac o'i ran ei bun, creclai fod yn ammhossibl i lawer o wragedd roddi eu presennoldeb yn yr Ysgol Sabbathol, am. fod eu dyledswyddau teuluaidd yn attalfa arnynt. Dywedai ei fod ef ei hun wedi ei fagu yn un o dri- ar-ddeg a blant; ac ar foreu Sabbath, byddai rhaid i'm mam ofalu 13 o grysau glan, 13 par o liosan- au, 13 par o esgidiau, &c.; mewn gwirionedd, nid allai y fam oedd yn y cyfryw sefyllfa fyned i'r ysgol heb adael ei phlant yn eu carpiau. Gofynai pa fodd y gallai y fam fyned i'r ysgol ar foreu Sabbath pan fyddai y gwr a'r meibion yn hnvyr yn dyfod adref nos Sadwrn ? Byddai yn rhaid iddi hi, yn ami lan- hau el-i liesgidi a Li ar foreu Sabl)ath, libii, eu gadael heb eit glanhaii. Gwnaed y gwyr eu rhaji er hwycLdh,-tu,y f,ordd i'r gwragedd fyned i'r ysgol. Gofalant am ddyfod adref yn brydlawn nos Sadwrn; na fydded cywiiydd ganddynt gario dwfr, a gwneud rhyw fan s'wyddau er eu helpn, yn lie bod fel stivy. ardiaid yn gwaeddi hwi, a rhedeg byth a hefyd ar y gwragedd, fel pe byddent hollalluog.. _Go dda yr hen frawd; yp wir, yr oeddyln yn teimlo awydd euro ei gefn am gymmeryd plaid: y gwragedd: o blegid credwn fel yntau, fod yn am- mhossibl i'r gwragedd fynychu yr Ysgol Sabbathol, er mor dda fyddai eu cael yno, dan lawer amgylch- iad heb i'r gwvr wneud mwy er eu cynnorthwyo. Da chwi, wyr, helpwch eich gwragedd, ac nafydclwch feistriaid lawer, ac yn ormod o lords i gario, ychydig ddwfr, a gwneud man .swyddau eraill iddynt nos Sadwrn. Byddai yn fendith i'r byd pe byddai modd cael y gwragedd yn amlach i'r Ysgol Sul. Wedi rhyw arweiniad i mewn fel yna, troes y brawd bwn gyfeiriad ei araeth at Lyfr yr Ysgol. Profai ei hun yn un cadarn a nerthol" yn yr Ysgrythyrau nid ydym yn cofio i ni erioed o'r blaen gael y fath g'ronfa o wybodaeth Ysgiythyrol mewn cylch bychan gan ddyn eyffredin. Yr.oedd yn amlwg mai un o blant yr Ysgol Sabbathol ydoedd, a'i fod er yn fachgen yn gwybod yr Ysgrythyr Lan. Buasai yn dda genym wneud nodiadau pellach ar ei araeth ond rliag bod yh rhy faith, ymattaliwn ar hyn. Caiwyd gair et.to yn fyr gan yr atliraw hynaf yn Felinheli, sef Thomas Jones, ar Ffyddlondeb gyda'r Ysgol Sabbathol. Yn nesaf, cafwyd anerchiad gan frawd o Bethel ar bwogc y gwragedd eto. Yr oedd ei sylwadau yn dda a naturiol: dangosai mor ddeheuig oedd y fam wrth roddi bwyd i'r plentyn, a'i bod yr un peth wrth gyfranu addysg iddo. Maddeued y brodyr oil am hyn o sylwadau caredig arnynt hwy a'u hareithiau gan gyfaill calon iddynt. Cefais fy moddhau dros ben yn eu hanercliiadau. Ewch rhagoch, frodyr,' y mae' genych waith da, a chwi a wobrwyir am eich llafur. Yn yr hwyr, holwyd Ysgol Siloh yn y bennod gyntaf o'r Hebreaicl, gan T. Roberts, n?yfyri\vr o Athrofa y Bala. Yr oedd yr holi a'r atteb yn dda, ac o duedd adeiladol. Bellach, dyna ni wedi rhedeg yn fras dros rai o'r pethau a welsom ac a glywsom yn y cyfarfod hwn ac os yw pob cyfarfod a gynnelir gan yr undeb yn debyg i hwn, credwn eu bod yn gwneud lies mawr i achos crefydd yn y gwahanol eglwysi. Os yw sylwadau yr Arcliddiacon Foulkes am ddylanwad yr Ysgol Sabbathol oddi fewn i'r Eglwys Sefydledig.. yn wirionedd, edryched ar Ymneillduaeth yn Arfon, a chaiff weled fod ei ddylanwad yn hollol wahanol. Yr eiddocii, &c., > EDRYCHYDD.

AT OLYGWYii Y TYST CYMREIG.'

PORTHMADOG A'R CYFFINlAU.

AT OLYGWYR Y "TYST CYMREIG."

Y PARCH. WILLIAM JONES, OEK"…