Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
[No title]
LLANDDANIEL, MON.—Nos Sadwrn, Gorph. 6, cynhaliwyd cyngherdd yn Oana, addoldy helaeth yr Annibynwyr yn y lie hwn, gan Gor Eglwys Porthdinorwig. Yr oedd y capel yn or- lawn ar yr achlysur. Llywyddwyd gan y Parch. R. E. Williams, Beaumaris; ac arweiniwyd y cor gan Mr. W. Williams, Siloh Cottage, Porth- dinorwig. Cynhwysai y programme ddetholiad chwaethus o weifchiau yr awduron enwocaf, o ba rai yr oedd y mwyafrif yn Gymry, ac un yn aelod o'r cor. Canwyd a chwareuwyd yr holl ddarnau gyda chwaeth ac yspryd rhagorol. Haeddasai amryw o'r cantorion eu cydnabod genym wrth eu henwau, oDd y mae yr olwg ddirodres a gawsom arnynt yn peri i ni feddwl mai prin y diolchent i ni am hyny. Nis gallwn, pa fodd bynag, beidio cyfeirio at y rhai ieuengaf—a'r rhai yn wir a gawsant ddwyn eu rhan yn helaeth o'r baich. Canodd Miss Owen amryw solos yn swynol iawn; a chwareuodd Master Bucking- ham a Miss Richards yn fedrus ar y piano. Teimla y gynnulleidfa hon dan rwymedigaethau cryfion i'r cor, ac i'w harweinydd galluog a char- edig, yr hwn yn mhlith ei gyfeillion gartref a werthodd uwchlaw gwerth. £ o o docynau, a rhoddodd yr holl arian, yn nghyd a'i lafur ei hun a r cor tuag at dalu dyled ein haddoldy.— Gohebydd, CASNEWYDD.- Urddiad.-Mae hen egl wys yn Mynydd Seion, Casnewydd, ond dydd Mawrth, Gorphenaf 2, y bu yr urddiad cyntaf erioed yno. Yr urddiedig oedd Mr. D. Dayies, o Goleg Aber- honddu, gwr ieuanc o ardal Olydach ar y de- chreu. Dechreuwyd y cyfarfodydd nos Lun, Pryd y pregethwyd gan y Parchn. E. Owens, Clydach; a W. Williams, Hirwaun. Am haner awr wedi deg ddydd Mawrth, dechreuwyd gan y Parch. D. Edwards, Coed duon; pregethwyd ar Natur Eglwys gan Proffesswr Roberts, Aber- honddu holwyd y gofyniadau gan y Parch. E. Owens, Clydach gweddiwyd am fendith gan y Parch. D. Dayies, New Inn; yna pregethwyd i'r gweinidog gan y Parch. W. Williams, Hir- waun. Erbyn hyn yr oedd yn llawn bryd cael cmiaw, yr hyn a gafwyd yn nhy Mr. J. Jones. Am ddau pregethwyd yn Saesoneg gan Proffes- wr Morris, Aberhonddu; a phregethodd Dr. Rees, Abertawe, i'r eglwys. Am saith pregeth- odd y Parch. H. Samuel, Abertawe, a Dr. Rees. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol, a hyderwn y bydd Mr. Davies yn ddedwydd yn ei le newydd. Cafodd gymeradwyaeth uchel gan ei athrawon, a chan Mr. Owens, Clydach, a hyderwn y caiff nerth i gadw ei gymeriad yn loyw tra byddo byw. Bydded i'r eglwys fod yn gylch o'i am- gylch ac yn gweddio trosto.-Gohebydd. BETHANIA, OWMA vON.-Traddodwyd darlith yn y capel uchod, nos Lun yr 8fed cyfisol, gan y Parch. E. Hughes, Penmain, ar Ddeuddeg Apos- tol yr Oen. Cymerwyd y gadair gan y Parch. W. Thomas, y gweinidog, yr hwn a'i llanwodd yn deilwng o hono ei hun. Cafwyd cynulleidfa ragorol. Yr oedd y darlithydd yn ymddangos ynhynod o gartrefol—ytestyn a'r darlithydd yn cyfateb i'r dim. Gallesid meddwl ei fod yn cydoesi a'r Apostolion santaidd, ac wedi en dilyn yn eu hanturiaethau beiddgar a gogoneddus Danghosodd gydnabyddiaeth helaeth a manwl iawn, nid yn unig a'r gyfran gyssegredig o'u hanes, ond hefyd a manylion eu holl deithiau llwyddianus i wahanol wledydd y ddaear, y rhai a brofir gan hanesion, a thraddodiadau y tadau, a chenhedloedd yr oesau a fu. Yr oedd ei ddar- nodiad o natur apostolaeth yn eglur a syml, ei ddesgrifiad o nodweddau ac amgylchiadau natur- iol yr apostolion yn fyr ac i'r pwrpas, ei ddar- 5™ ° gwahanol deithiau yn fawreddog a i n° a'r ^raddodiad mor rwydd ac effeith- io y codwyd y gynnulleidfa i ryw hwyliau o ganinol a gorfoleddu.—IEUAN AFAN. ,T^r'XI)fTLL0- Yn nglyn a chyfluyniad tysteb' Mi. Pugh, cynnaliwyd cyfarfod pregethu. Nos 0 r blaen yn y capel, decln'euwyd gan v Parch J. Peters, Bala; a phregethwyd gan y Parch. T. Jones, Llangiwc, a Dr. Rees, Liverpool. Yn yr un lie boreu dranoeth am haner awr wedi deg, dechreuwyd gan y Parch. E. Evans, Llangollen, I a phregethodd y Parchn. D. M. Davies, Llan-! fyllin, ac R. Williams (Hwfa Mol).yll vr ysgoldy am 6 o'r gloch, dechreuwyd gan y Parch. R. Thomas, Llanuwchllyn; a phregethodd y Parch. R. Williams, a Dr. Bees. Cafwyd prell- ethau da a chynnulleidfaoedd lliosog bob tro; ■ disgwylir i'r odfeuon ynglxyd achyfarfod y dysteb wneud lies, ac nid oes ammheuaeth nad felly fydd. CAIWIEL, VOCHRIW.—Ar y 7fed a'r 8fed cyiisol, cynnaliwyd cyfarfodydd agoriacl y lie ucliod, pan y pregethwyd am 10, 2, a 6, y Sabbath gan y Parch. D Thomas, Ystradfelite, a'r Parch. B. Williams, Canaan. Am 10 dydd Llun, dechreu- PTLN/R11 y Parch. J. Evans, Gellideg, a phreg- Thoma<=y/~<?>arc^m" Thomas, Abercanaid, T. dechr;?1^' a ])avies» Caerdydd. Am Morgan, Troedvrliiw, 1 F] Pr^e AH J FARCLM- J- Bowen, Pendaren, T 6, dechreuwyd gan Mr! p j 'p Aterhonddu, a pln'egethodd y Paiclm. 33. Williams, Canaan, P. Howells, Ynysgau, aJ. Davies, Caerdydd Cafwvd era- milliadau Uuosog, pregethaw a dylamvadol, a eliasgliadau rhagorol o dcla. Moo "yr adeilad newydd yn addurn ir gymmydogaeth, yn "lod i'r Parch. T. Thomas, Glandwr, y t'.ynlliutvCufi ac yn enwogrwydd i Mr. D. Jenkins, Mertliyr, yr adeil- adydcl. Fe ddaw pob manylion am daiiys^rifiad- au yr eglwys a'r ardal, yn gystal a lxaelioni eglwysi y cyfimdel) ac eraill tuag atom mewn rhifyn dyfodol o'r TYST.— W. H. Thomax. P-\ NTKG, tam CAI-;RITIIDI3I^.—Traddodwyd dar- lith yh y Ile iieliod,, nos Luii, Goijrfi. 8, ar Yr angenrheidrwydd o ga<el addysgfti'af derneugciyd: gan Mr. John Williams, Llanelli. Nid digon vw dyweyd i'r daiiitliydd fyned trwy ei waith yn dda, ond credaf fod ei enw yn fwy uchel nas gallaf ei osod allan, a buom mor hapus trwy bobpeth fel y cawsom gadeirydd gwych dros ben, sef Mr. T. t, y Thomas, myfyriwr o Glasgow, yr hwn, fel arwein- iad a ddywedodd ei feddwl mewn modd profiadol a syml. Hoffem fel cynnulleidfa gael cyffelyb wledd etto yn fuan.—J. D. LIANSAMLET.—Ar y 4ydd cyfisol, cynnaliwyd cyfarfod yn Bethel, Llansamlet, i'r diben o ordein- io Mr. Rowland Rowlands, diweddar fyfyrhvr o Goleg Caerfyrddin. Declireuwyd yr oedfa gan y Paxch. E. Griffith, Abertawe. Pregethodd y Parch. W. Morgan, athraw duwinyddol Coleg Caerfyrddin, ar 'Natur Eglwys.' Derbyniwyd cyffes ffydd y gweinidog ieuangc, a gweddiwyd yr urdd-weddi gan y Parch. J. Jones, Machynlleth. Pregethodd y Parch. D. Hughes, B. A., Tredegar, siars i'r gweinidog; a'r Parch. J. Rees Rees, Rod- borough, siars i'r eglwys; a rhoddwyd y pennill- ion allan gan y Parch. E. Evans, Sciwen. Preg- ethwyd hefyd yn y prydnhawn ar yr un dydd a'r noson o'r blaen gan amryAV o weinidogion. Yr oedd nifer fawr o weinidogion a myfyi-wyr ynghyd. MERTHYR.—Ysgolion Brytanaidd.—Nos Ian, Gorph. 11, cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn nghapel Zoar, mewn cyssylltiad a'r Ysgolfon Brytanaidd. Cymmerwyd y gadair gan Mr. G. T. Clark. We(li ychydig eiriau gan y cadeirydd, yn hysbysu nas gallasai Meistri Fowler a Bruce fod yn bresennol, galwodd ar y Parch. Mr. Thomas, yr ysgrifenydd, yr hwn a roddodd statement o'r anhawsderau yr aethant drwyddynt. Dywedai mai oddeutu £3,700 oedd y ddyled ar y dechreu, ond fod y swm hwnw yn awr wedi disgyn i X999. Diolchai yn wresog i'r gwyr haelionus fn mor garedig a'u cynnorthwyo. Cafwyd areithiau pwTpasol gan y cadeirydd, y Parchn. Mr. Howell, E. Thomas, W. Davies, a Meistri Chas. James, D. Davies, Goodfellow, a R. Lewis. Wedi talu diolchgarwch i'r cadeirydd, terfynodd y cyfarfod. PORTH J.)INORWIG.-Yehydig o fanau yn y Gogledd sydd wedi cynnyddu mwy mewn byr amser na'r lie hwn. Y mae yma ddigon o dai, ond eu bod ar wasgar, i ffurfio tref o gryn faint- ioli, ac adeiledir rhai newyddion yn barhaus, yr hyn sydd yn argoeli yn dda gyda golwg ar ami- bad y bolilogaeth yn y dyfodol.-Y Tafarnau. -Y mae yma bedair yn barod, a gwneir ymgais yn awr at gael rhagor; ond y mae cyfeillion sobrwydd ar ddihun, a hyderir y llwyddant i attal y fath drychineb rhag cymmeryd He. Y Wesleyaid.-Cynnalia y brodyr hyn gyfarfod pregethu yr wythnos hon. Traddodwyd dar- lith nos Lun diweddaf yn nghapel Elim gan y Parch. W. Powell, ar 'Whitfield a Wesley.' Cy- hoeddwyd y Sabbath diweddaf ybyddai y cyfar- fod yn dibenu nos Fawrth yn un o gapelau yr Annibynwyr, pryd y disgwylid gweinidog pobl- ogaidd perthynol i'r Bedyddwyr (gwr dall) o'r Deheubarth, i bregethu gydagun o weinidogion y Wesleyaid. Disgwylir cyfarfod da. Mae y W esleyaidyn gryfion a dylanwadol yn yr ardal hon. Y TysT.-Da g6nym ddeall fod iddo dderbynwyr lawer yma yn barod, a chredwn mai cynnyddu a wnant, os gofala y dosbarthwr am anfon y papyr yn rheolaidd a phrydlawn i dai y derbynwyr. Rhoddai y rhifyn diweddaf fodd- had neillduol i bawb. Ystyrir fod y prif erth- ) glau ynrhai campus. Clywsom, pa fodd bynag, fod rhai yn meddwl y byddai yn dda er mwyn y lluaws pe ceid ychydig yn rhagor o newydd- ion cyffredinol, ac y byddai yn fantais i'r TYST pe crynhoai rhywun ychydig o hanes gweithred- iadau pob enwad crefyddol ar wahan, bob tro, rywbeth yn debyg i'r drefn a ddilynir yn y Christian World. Ond dylai y cyfeillion hyn fod yn ymarhous, oblegid credwn y llawn fodd- lonir hwyi t yn mhob ystyr bob yn dipyn. GWERNAFFILD, GER WYDDGRUG.—Yr wyth- nos ddiweddaf, ymgynnullodd pwyllgor gweith- iol cyfarfod llenyddol y lie uchod, i ddewis tes- tynau, ac i ardrefnu pethau ar gyfer euhwythfed gylchwyl flynyddol, yr hon a gedwir ar bob dydd Calan. Cedwir cyfarfodydd y gymdeithas yn yr Ysgoldy Gwladwriaethol. Cyfansoddir y pwyllgor o Eglwyswyr, Bedyddwyr, Annibyn- wyr, a Wesleyaid. Cynnaliwyd y blynyddoedd a aethantheibio gyfarfodydd llewyrchus, lluosoo, a llwyddiannus; ac, a chymmeryd i ystyriaeth y pleidiau, o'r rhai y gwneir i fyny y pwyllgor, gallwn ymffrostio gryn lawer ein bod yn lied lan oddi wrth ysbryd plaid a difriaeth; a dymunem o'n calon weled a chlywed am undeb a chyd- weithrediad o'r fath yn mhob llan a thref trwy Gymru oil. WYDDGRTJG.—Nos Iau, Gorph. I i, yn Ysgoldy y Trefnyddion Calvinaidd y lie uchod, ymgyfar- fu amryw o gyfeillion y Feibl Gymdeithas Fryt- anaidd a Thramor. Yr oedd yn bresennol y Parchedigion canlyiiol:-W. T. Thomas, J. M. Thomas, a C. R. Edwards; a Meistri B. Dowell, E. Davies, E. Griffiths, H. Jones, D. Dowell. Penderfynwyd fod Mr. Hugh Jones, argraffydd, i fod yn Uyfrgellydd o hyn allan yn lie W. J. Jones. J. Bankes, Ysw., o Balas Sychtyn, i fod yn gadeirydd y cyfarfod blynyddol nesaf. CLYDACH, HEBRON.— Cynnaliwyd cyfarfod blynyddol y lie uchod ar y Sabbath, y Heg o'r mis hwn, pryd y pregethwyd gan y Parchn. Daniel, Mynyddbach; Jones, Llangadog; a Roberts, Cwmavon. Cafwyd cyfarfod da yn mhob ystyr.
[No title]
LLOSGIAD MELIN GOTWM.-Boreu Iau di- weddaf, torodd allan un o'r tanau mwyaf di- nystriol a fu erioed yn mwrdeisdref Wigan, mewn Hielin gotwm berthynol i Mr. William Brown. Ll vvyr losgwyd hi mewn llai na tLaic awr. Yr oed<| yn.; ^lin lied newydd, yti jTf hdii [y gweithiai oddeutu 3b0. 'Cyffiffr y gollfed £ 6B,000j oiid gwneir y rhan f" af o'r swm mawr hwn i fynu t.iwy yswiriant. TAN E10 YN ST. HELEN'S.—Yr un boreu di- nystriwyd gwerth £ 3000 o eiddo, mewn gwaith glo yn Sutton, ger St. Helen's. Ni chafodd yr un o'r gweithwyr niwed, ond teflir llawer o honynt allan o waith nes adgyfanu pethau. Y mae y cwmni wedi yswirio am swm y g-olled. YNAD SIROL AR FFO.-Y mao W. S. O. Stand- ish, Ysw., o Duxbury Hall, ger Chorley, ar ffo, gan ei fodyn cael ei gyhuddo o saethu at amryw bersonau gyda y bwriad o'u lladd. Ystyrir fod rhyw wendid ar ei synwyrau ar adegau. CAERFYRDDIX.—Mae y dref ar gymmydogaeth 171.y hon wedi cael eu tailu i gryn ddychryn yn ddi- weddar oblegid y damweiniau gaiarus sydd wedi cymeryd lie, un o ba rai a ddygwyddodd yn y gwaith alcam yn y dref, ac a fu yn aclios o farw- olaeth gweithiwr o'r enw John Evans. Yr oedd y trancedig yn nghyd ag eraill yn darpam He i osod olwyn newydd mewn cysylltiad a'r gwaith, ond syrtliiodd darn o ddaear yn ddisymmwtli, a chladdAAyd ef dan y pridd. Pan ddeuwyd o liyd iddo yn mlien haner awr wedi y ddamwain, yr oedd pob arwyddion o fyAAyd wedi ymadael. Boddiad.-Dydd Iau, yr lleg o'r mis hwn, daeth dyn ieuanc 16 oed i'w farwrolaeth trwy foddi yn yr afon Tywi. Ei enw oedd John Gillieland, yr hwn oedd egwyddonvas yn SAAyddfa y Welshman. Aeth ef ac un arall o'r swyddfa i ymdrochi yn yr afon, ond gan nad oedd yr ymadawedig yn nofied- o ydd, ac iddo fyned i bwil dyfnach nag a dybiodd, methodd gyi'haedd y lan, a bu foddi yn union- gyrchol. Yr oedd yn fab ieuanc gobeithiol, 0 ymddygiadau da, ac yn barchus gan bawb o'i gydnabod. Cyngherdd Owain Alaw.—Cynal- iodd y cerddor niedrus, Owain Alaw, gyngherdd anrhydeddus yn yr Ystafelloedd Cyhoeddus yn y dref hon nos 1-nn diweddaf, yn cael ei gynorthwyo gan brif gantorion y dref. Yr oedd yr organydd yn ei hwjdiau goreu, a'i ddarnan cerddorol yn ddetholion o weithiau yr aAvduron medmsaf. Rhoddodd foddlonnvydd cyffredinol i'r gwran- dawyr, ac hyderir i'r achos yr ymdrechid drosto gael ei lesoli yn fawr. MON.—Ystorm, 0 Fellt a Tharanau.—DdA'dd Gwener diAveddaf tarawyrd tair 0 Avartheg 0 eiddo Mr. John Jones, Cors-yr-eira, ger Llanerchymedd, yn gelaneddau meirwon gan fellten. Yr oedd y tair mewn cyfeiriad 0 tua deuddeg Hath oddiwrth eu gilydd, ac oeddynt yn gorwedd neu yn sefvll ar ganol cae, ar ddull triangle, neu dri throed trybedd, fel y dywedir. A dyna oedd yn rhyfedd, eu bod oil wedi eu taro gan yr un fellten. —Ond mae holl weithredoedd DUAV yn rhyfedd ac yn ofnadAAy, ac yn rhoddi ffordd i'r inellt a'r taranau. LLANFAIR-CLYDOGAU, CEREDIGIOX.—CynlialiAvyd arholiad ar blant yr ysgol ddyddiol yn yr ysgoldy ger capel yr Annibynwyr ar yr wythfed o'r mis hwn. CynorthAyyAAyd yn yr arholiad gan y Parch. T. Thomas, gweinidog y lie; Mr. Lloyd, yr ysgol- feistr; a Mr. D. Worthington, o Goleg Caer- fyrddin. Pasiodd y plant eu harholiad yn dda, ac y mae Mr. Lloyd yn deilwng o barcli am ei lafur gyda hwy. Ar ol yr arholiad aeth y plant i'r capel i fwynhau gwledd dda 0 de. Y mae y cyfeillesau canlynol yn liaeddu clod am baiotoi y wledd:-Afrs. Morgans, Parkneuadd; Mrs. Evans, y Shop; Mrs. Davies, Llanfair fawr; Mr. Wal- ters, Teifi Cottage; Mrs. Williams, Pentrelan; Miss Davies, Llanfair; a Miss Richards, Penlan: a Mr. W. Abel, Silver Mines. TreuliAAyd pryd- nawn dedwydd. LlAAyrddiant mawr i egwyddori y plant. Mae Mr. W. C. Leng, golygydd y Sheffield Telegraph,wedi derbyn amryw 0 lythyrau bygyth- ,,y iol 0 herwydd y rhan y mae yn gymeryd yn ei bapyr er dynoethi Undebau y GweitliAAyr. Mae yn rlioi rhybudd i bawb yperthyn iddynt ei fod yn u eysgu bob nos a llaAv-ddryll dan ei obenydd. t, Dywed y Manchester Examiner y bydd ym- chAviliad manwl i Aveitlirediadau Undebau y Gweithwyr yn cymeryd lie yn fuan yn Man- chester, Stockport, a'r lleoedd cylchynol. Bu farw Mr. Sclioleifeld, A. S. (h-os Birii-iingliam, yn bur ddisymwtli. Bu yn cynrychioli bwrdeis- dref Birmingham er 1847, ac yr oedd yn uchel ei barch gan bob dosbarth o'r etholwyr. Nid oedd ond prin wedi cyrhaedd ond 60 oed.
MARWOLAETH Y PARCH. JOSEPH…
MARWOLAETH Y PARCH. JOSEPH EVANS, CAPEL SEION. DmvG genym gofnodi fod y gweinidog parchus lnvn wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Fel pregethwr, yr oedd nid yn unig yn barchus yn mhlith yr Annibynwyr, ond cerid a mawrygid ei ddoniau gan bob enwad yn agos ac yli ii-iliell. Yr oedd anhwyldeb corfforol wedi ei analluogi i bre- gethu am gryn amser, a thrwy hyny wedi rhoddi gofal ei eglwysi i fynu, ac 3m presAA-ylio yn nliref Caerfyrddin. Dydd Gwener ddiAveddaf iiebryng- wyd ei weddillion marwol i'w claddu yn mynwent yr eglwys lie yr oedd yn gAveinidogaethu, ac yr oedd nifer fawr 0 AAreinidogion yr enwad, a gwa- honol enwadau eraill yn ei ganlyn i'w argel Avely, a phawb yn liiraethus ar ol un 0 bregethwyr goreu y sir. o
ABERTAWE A'R GYMYDOGAETH.
ABERTAWE A'R GYMYDOGAETH. Caplan 1 r Oweithdy.—Y mae y pwnc hwn wedi tynu cryn sylw yn y dref hon a'r CAvmpas- oedd yn ystod yr AAythnosau diiveddaf. Er rhoddi rhyw ddrychfeddwl am sefyllfa pethau, a'r hyn a gododd y pwnc i sylw, rliaid i mi ddweycl fod holl weinidogion y dref, 0 bob enwad crefyddol, wedi bod yn gwasanaethu mewn pethau crefyddol i'r tylodion ar gylch—pob un yn ei dro—heb dder- b^ai, na gofyn, na disgAvyl tAl; yr eglwysA\yr a'r ymneillduAAyr yr un modd. Ond yn ddiweddar anfonodd yr otfeiriad rybudd i Fwrdd y Gwar- cheidwaid nas gallent roddi eu gwasalUteth yn liAyy,_ ac am^hyny y dylasai yr. Tjiideb gyflogi Caplan i'r Gweithdy. Yr wytlmos cyn y ddiweddaf gAvelais bapurau wedi eu gosod yn y ffenestri ac t, hyd oclirau yr heolydd, yii hysbysu fod Mr. John Glassbrook (un o'r gwarclieidwaid dros blAAyf maAAT ymneil duol Llallyfelach, yr hwn sydd un cynwys rliyAA" AAytli capel am bob eglwys, a rhai o'r capeli yn ddigon maAAT i gynwys CArnnulleidfa tair eglwys,) yn myned i gynyg fod Caplan i gael ei gyflogi. Yn unol a'i fwriad daeth INIr. Glassbrook. a plian gafodd amser cyfaddas rhoddodd ei gynyg- iad ger bron. Dywedodd y buasai yn dda gan- ddo pe buasai yr achos wedi syrthio i well dwy- laAv. Ei resAvm ef dros ddAAyn ei gynygiad yn mlaen oedd fod capel wedi cael ei adeiladu yn nglyn a'r GAveitlidy, a hyny cyn cwhl orplien y Gweithdy ei hun, ac fel y tyhiai ef gyda'r bwi-iad 0 Caj^lan iddo (na, 11a); Avel, nis gAAyddai ef paham yr adeiladwyd yn y fl'urf hono os nad ar gyfer gAveinidog perthynol i Eghvys Loegr, (cliAverthin). Y mae yn amhll i'r offeiriaicl was- anaethu yn y Tyloty, ac AT oedd yn galed i gyn- null cynnifer 0 dylodion yerthynol i'r eglAAys i'r GAveitlidy' heb ddarpar iddynt addysg grefyddol; tybiai ef eu bod mor haeddianol o hyn ac oedd- ynt i gael bAvyd a dillad. Yna aeth" 3-11 mlaen i n ddangos fod y gweinidogion 3Tmneillduol gymaint yn lluosocacli nac eiddo'r eglAAysAvyr. Hyd y gallai efgyfrif, yr oedd 23 o'r blaenaf yll y dref, tra nad oedd ond 2 o'r olaf; a bod un gweinidog 3anneillduol yn, ei ardal ef wedi cael cynyg llawer mwy o dai nag'oedd un o offeiriaid Abertawe yn ei gael. Yr oedd ef gan hyny 3m cynyg— 'Fod Caplan i\v gyflogi am dai heb fod dros .= £ 40 y flwychfyn.' Mr. O. G. Williams a ddywedai nas gallai ef gyduno a hyny, ei fod ef yn rhoddi mwy na hyny i'w was, (chwerthin). M3riiai rhai benderfynu 3- pwnc yn gynataf a gyflogid Caplan, ond eraill a fynent gael 3- Caplan a'i g3rflog i tynu yr un piyd. Cyfuewidiodd "ilfr. Glassbrook ei gvnygiad driiy roddi £ 50 yn lie £ 40, ond ni chafodd neb i eilio ei gynygiad. Yna cododcl Mr. Brock i fynu, a dyAvedai fod ei adnabyddiaeth ef o'r Undeb yn rhoddi iddo gystal cyíie i farnu ar 3* pwnc hwn ac un o'r aelodau, yr oedd efe gan lyny yn cynyg- Fod y GAvarcheidAvaid o'r farn ei fod yn an- fuddiol ac annymunol i nodi Caplan cyflogedig i'r Gweithdy, a'u bod 3-11 sicr pe byddai y General Poor Law Board yn ymwybodol 0 farn a theini- lad cyffredinol yr Undeb mewn cysylltiad a'r mater na byddai iddo gymeradwyo y cyfryw gyn- ygiad, a bod copi o'r penderfyniad hwn i'w anfon i'r General Board. Eiliwyd gan T. Phillips, Ysw., Maer y,.(h-ef. Mr. W" Gilbertson a gArfodai i fynu i gynyg fel ,gwelliaiit,- 'Fod Caplan i gael ei ddewis mewn c dff-Lirf- z;1 iaeth a cliymeradAAyaeth y BAATdd Cyfiredinol.' EiliAvyd gan Mr. O. G. Williams. Siaradodd amryw dros ac yn erbvii yr ap- pwyntiad. Gosodwyd y mater i fynu, pryd y cafwyd dros y cynygiad 18, sef Mri. Pliillips, Brock, Powell, Z. Evans, J. Jones, T. Harry, J. D. Rees, Isaac Jones, Col. Morgan, J. Walters, P. Roger, J. Rees, W. Morgan, J. M. Ellery, Harries, R. Hughes, Daniel, a P. Evans. Z, Y, ii erbyn y cynygiad, a thros y Caplan, 10, sef y Cadeirydd, Mri. G. Nancarrow-, Gilbert- son, O. G. Williams, Parch. E. B. Squire, J. C. Richardson, T. Gasbrook, S. R. Dawe, D. Jones, ac E. F. Daniel. Ni phleidleisiodd Mr. Glassbrook, ac felly gwrthodwyd y Caplan gan fAAyafrif 0 8.-Gohebydd.
LLOFRUDDIAETH FRA WYOHUS,…
LLOFRUDDIAETH FRA WYOHUS, GER ABERGELE. YN Abergele, yr wythnos ddiweddaf, cyhudd- wyd Robert Hughes, henaf, a Robert Hughes, ieu., tad a mab, o lofruddio Evan Jones, Tymoel, Llanddulas, i'r hwn le y perthynai y carcharor- ion. Ar y nos SadAvrn; blaenorol, aeth y tranc- edig fa'r carcharorion i'r Ship Inn, Abergele, i gydyfed, a phan gychwynasant adref, yr oeddynt o dan effeithiau diodydd meddwol. Ar y ffordd adref, ymosodoad y tad a'r mab ar y trancedig, trwy ei daflu i lawr, a'i gicio yn ei ben, a'i faeddu yn erwin. Cariwyd Evan Jones i dy ei fodryb oedd gerllaw, a bu farw yno prydnawn Sabbath. Daliwyd y carcharorion. Dywedai yr I ynaf fod yn ddrwg ganddo fod Evan Jones wedi marw, ond fod hen gasineb wedi bod rhyngddynt erys pedair blynedd, yn Ngholwyn. Nid oedd dim prawf fod y trancedig wedi cy- ffwrdd a'r carcharorion, ond yr oedd ei got oddiam dano pan welodd y tystion yr ymosod ad. Traddodwyd y carcharion i gymeryd eu prawf am lofruddiaeth.
tw!Jddion ramgt.c
tw!Jddion ramgt.c Y mae Berezowski, yr hwn a gynnygiodd am fywyd Ymerawdwr Ewssia, yn Paris, wedi cael ei brofi yn euog, ac wedi cael ei ddedt'rydu i alltudiaeth am ei oes. Teimlir cryn anfoddineb trwy Ffraingc at y lywyddiaeth ymerodrol. Y mae methiant yr ymgyrch i Mexico wedi peri diflasdod mawr, ac y mae gwaith yr ymerawdwr yn attal y cynllun diwygiadol addawedig, a sefyllfa arianol y wlad, yn gwneyd i amryw am- mheu ei ddoethineb llywyddol. Edrychir ar y Bil a ddygir yn awr o flaen senedd Itali mewn perthynas i'r eiddo eglwysig, yn fwy rhyddfrydig na'r un a gynnygiwyd etto. Y mae yr holl eiddo eglwysig i gael ei gydnabod yn eiddo cenhedl- aethol. Tybir y bydd i Ymerawdwr Awstria wedi dyddiau galar ar ol ei frawd Maximilian. dalu ymweliad a Ffraingc, ac y bydd i'r ymwel- iad hwnw ddwyn y ddwy wlad yn nes at eu n eu gwladlywiad. Y mae brenin ieu- angeGroegar ymweliad a'i dad, brenin Den- marc. Disgwylir y Dug Cop"tr ato yr wythnos hon.