Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

CAPTAIN BARHAM'S CLAIM.

I The County Member.

MOYLGROVE.

Advertising

ER SERCHUS GOFFADWRIAETH

News
Cite
Share

ER SERCHUS GOFFADWRIAETH Am Richard Howells (Myfyriwr), mab John a Mary Howells, Trefach, Cilgwyn, plwyf Nevern, yr hwn a hunodd yn yr Iesu dydd Iau, Gorphenaf iaf, 1909, yn 24ain mlwydd oed. Daearwyd ei ran farwol y Llun can- lynol yn mynwent Caersalem. Efe oedd ganwyll yn llosgi, ac yn goleuo a chithau oeddych ewyllysgar i orfolcddu dros am§er yn ei oleuni ef."—loan v, 35. Ein Richard hoff, fel teulu cofiwn ef, Gadawodd ni yn gynar am y nef; Mewn galar dwys yr y m o golli un Oedd mor obeithiol, hardd, a chun Er cryfed c'lymau serch i'w gadw'n fyw, Atdyniad crvfach oedd i orsedd Duw 0 hyd y coflwn am ei serchus wedd Sydd heddyw'n welw yri y distaw fedd Ei barabl per a'i ymddiddanion lion, Sy'n codi fel ysprydion ger ein bron; Ein hanwyl fab, diniwed, gWylaidd, mad, Dieithr oedd i ddichell, twyll a brad; Ei Grewr da wnaeth gofio'n foreu iawn, A gwasanaethodd ef yn wych ei ddawn Ni wyddal beth oedd malais, Hid, na gwg, Ond ofnai Dduw, a chiliai oddiwrth ddrwg Deddf lan y nef oedd yn ei galon wiw, A'i 'wyllys oedd i wybod meddwl Duw; Ei fuchedd loyw oedd fel goleu ddydd, A'i enw da yn perarogli sydd; Myfyrio'r Gair yn ddiwyd y ceid ef, A dal cymdeithas bur a'i Dad o'r nef; Ei lusern glaer oleuai'r ardal gun, Gan adlewyrchu rhiniau Mab y Dyn Uchelgais fawr ei fywyd ar bob pryd Oedd byw a dweyd dros Grist, Iachawdwr byd; Ond och ei nerth a ballodd ar y daith, A gwendid blin, llesteiriodd ef a'i waith; Tra yn dihoenu yn ei gystudd briw Mor ymostyngol oedd i drefn ei t)duw; Gafaelodd gwywder yn y blod'vn blydd, A haul ei oes fachludodd tra hi'n ddydd; Rhagorfraint oedd na chafodd fyn'd yn hen, Bu fyw yn dda, bu farw ar ei well; Rhy dyner oedd a hardd i'r ddaear hon, Trawsblanwyd ef i ardd y Wynfa Ion; Er cymaint.oedd ei eisieu yn y byd, Ei eisieu'n fwy oedd yn y Ganaan glyd; Ein bachgen hoff sydd yn y nef yn awr, Ond ar ei ol 'rym ni mewn galar fflawr Mae ef yn iach yn mhlith y dyrfa laii, Sydd wrth eu bodd yn beraidd iawn eu can. Mae 'i babell bridd yn cysgu 'i esmwyth hun, Awn ar ei ol cyn hir o un i un Henffych y dydd cawn eto 'i weled ef, A melus fydd ail-gwrdd wrth fwrdd y nef.

ETHOLIAD 1910.

The Welsh Language Society.

MAENCLOCHOG.

TREVINE.

Advertising