Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

WATERFORD STEAMERS.

Advertising

- Sir Owen Philipps and Free…

-------:-Y MODD GOREU I IAWN…

News
Cite
Share

Y MODD GOREU I IAWN DREULIO'R SABBATH. (Buddugol yn nghyfarfod cystadleuol Saron, Trelettert, Rhagfyr 28ain, 1909.) Gan JOHN THOMAS, Cleddau House. Ystyr y gair Sabbath yw gorphwysfa. Y mae'r Sabbath yn sefydliad pendant. Ceir yr awdurdod yn Genesis ii, 1-3: A Duw a fen- digodd y seithfed dydd," nen a fwriadodd y dydd hwn i fod yn ffynonell bendithion neill- duol i ddyn, gan ei osod o'r neilldu i gael ei ddefnyddio at ddibenion cretyddol. Gwelir yn amlwg fod yr apwyntiad wedi ei fwriadu i'w holl greaduriaid, ac nid i unrhyw bobl neillduol; ac ymddengys fod y patrivehiaid yn talu sylw iddo, a bod yr Israeliaid yn ei gadw cyn rhoddiad y gyfraith yn ffarfiol ar Sinai. Gwelwn fod gwaith Duw yn gorphwys ei hun yn esiampl i ni, ac fod lie i ddisgwyl bendith neillduol Duw wrth sancteiddio y Sabbath a'i dreuliogyda Duw a'i waith. Gorchymynodd Dnw drwy Moses, pan yn rhoddi y deg gorchymyn ar Sinai, i gofio cadw yn sanctaidd y dydd Sabbath, ac 08 oea un gorchymyn yn fwy pendant na'r llall, fcwn ydyw. Cyfnewidiwyd y Sabbath dan yr efengyl o'r seithfed dydd i'r dydd cyntaf o'r wythnos, yn goffadwriaeth o adgyfodiad Crist oddiwrth y meirw, a chredwyf fod y Sabbath yn arwYdd o'r orphwysfa sydd yn Nghrist i bechadur llwythog a blinderog, ac hefyd ei fod yn at- wydd sicr o'r orphwysfa sydd eto'n ol i bobl Dduw yn y nefoedd. Y mae yn amlwg nad yw newidiad yn y di. wrnod yn gwneuthur dim cyfnewidiad yn nod- wedd foesol a rhwymedigaeth y sefydliad, yn gymaint ag yw gwaith y prynedigaeth yn fwy gogoneddus na gwaith creadigaeth y mae yn hawlio i'r Sabbath gael ei newid o'r seithfed dydd i'r dydd cyntaf. Ond yr ydym yn cael fod y Cristionogion cyntefig, am y ddwy ganrif gyntaf, yn cadw'r ddau ddiwrnod yn hollol ar wahan, ond nad oeddynt yn ymatal rhag gweithio ond ar y seithfed dydd yn unig. Yn I foreu yn y drydedd ganrif, cawn fod Tertullian yn taer gymhell y Cristionogion ac eraill i ymatal rhag gweithio ar y dydd cyntaf o'r wythnos, sef y Sabbath Cristionogol, ac mewn amser fe fabwysiadwyd yr ymarferiad yn gyffredinol. Yr ydym yn cael fod loan yn Ynys Patmos yn ei alw yn ddydd yr Arglwydd, a chan mai ei ddydd Ef ydyw, dylai fod yn gysegredig iddo. Ac nis gallwn lai na chysylltu a'r geiriau yr ydym yn sylwi arnynt y troion hyny y mae hanes Crist genym yn ymddangos i'w ddys- gyblion ar ol Ei adgyfodiad, yn y rhai yr oedd mewa ystyr yn hawlio y diwrnod fel yr eiddo Ei hun. Yr ydym yn byw dan oruchwyliaeth ysbryd- ol, ac a ydyw yn nodwedd o oruchwyliaeth ysbrydol i bob dydd fod yn gyffelyb? Nac ydyw, meddaf, ac a oes rhyw sefydliad Dwy- fol yn fwy nodedig o gyfaddas, er meithrin a dwyn ar gynydd ysbrydolrwydd meddwl, na dydd yr Arglwydd, pan y cedwid ef yn dei- lwng ? Ond fel y mae yn alarus meddwl fod canoedd, ie miloedd lawer, hyd yn nod yn Nghymru uchel ei breintiau, yn byw ac yn treulio eu Sabbathau yn hollol anheilwng o'r Sabbath ac o Dduw. Er mwyn iawn dreulio y Sabbath, dylem fod fel loan yn Ynys Patmos, "Yn yr ysbryd." Dylem ofyn am gael ein bedyddio a'r Ysbryd Glan, ac am Ei arweiniad Dwyfol yn ystod y dydd. Yr ydym yn cael fod Iesu, pan yma ar y ddaear, yn arfer myned i'r synagog y dydd Sabbath i addoli, a chawn ei fodEf yn esiatnpl i ni. Dylem ninau hefyd fynychu moddion gras, ac nid eu h isgeuluso. Er fod y Sabbath i fod yn orphwysfa i ddyn ae anifail, eto y mae i fod yn gytleusdra i Dddoli Duw yn fwy cyhoeddus ac arbenig nag ar brydiau ereill. Dywed Crist, Y mae fy N had yn gweithio hyd yn hyn, ac yr wyf finau yn gweithio." Gwelwn fod genym ninau ein gwaith hefyd i'w wneuthnr ar y dydd hwn, ac mai nid dydd i segura yw dydd yr Arglwydd i fod. Y modd goreu i'w dreulio, credaf, yw myned i gysegr Duw i addoli, ac nid myned i rodiana, diota, i edrych am ein cyfeillion a'n perthynasau, nen i weled yr anifeiliaid a'r fferm, a phethau ereill cyffelyb, a thrwy hyny esgeuluso addoliad y gwir a'r bywiol Dduw yn ddirgel a chyhoeddus. Dylem orphwys oddiwrth bob difyrwch cnawdol, gan fod halogiad o'r Sabbath yn cal- edu y gydwybod, ac yn arwain i bechodau ereill. Yr wyf yn ofni fod mwy o deithio a negeseua ar y dydd hwn yn awr nag oedd ugain mlynedd yn ol, oddiar mae y bicycles, y motor cars, a'r electric cars wedi dod i arfer- iadj ac yr ydym yn sicr mai nid un o'r ffyrdd hyn yw y ffordd oreu i iawn ddefnyddio dydd yr Arglwydd. Dylem fel eglwysi Crist godi ein lief yn erbyn y pethau hyn, gan eu bod yn niweidiol iawn, yn neillduol i'n ieuenctyd. Hefyd, er mwyn iawn dreulio'r Sabbath, dylem egwyddori ein plant a'n teuluoedd yn Ngair Duw, trwy gyfrwng yr Ysgol Sul. Dyma un o'r sefydliadau goreu, os nid y goreu, a sefydlwyd yn unrhyw oes o'r byd or meithrin ein plant a'n cenedl yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Dylem fel Cristionogion wneyd llawer mwy gyda'r sefydliad hwn. Beth sydd wedi gyru yr ofergoelion a'r sothach yna i ffwrdd, ac wedi llwyddo i gadw ein hen iaith anwyl yn fyw ond yr Ysgol Sul yn benaf? Pa faint o'n gweinidogion mwyaf ymroddgar a llafurus sydd wedi bod yn sugno maeth o fron- au yr Ysgol Sul ? A chan mai magwrfa yw hi i fagu a meithrin y do ieuanc sydd yn codi, bydded i ni wneyd ein goreu drosti drwy ei mynychu, ac hefyd drwy gael pawb a allom i ddod yn ddeil- iaid ffyddlon iddi. Gwir a ddywedodd y Pab, Rhoddwch i mi y plant, byddaf sicr o'r oes nesaf Cotiwn nad oes genym ond un diwrnod i lafurio am eu llesad tragwyddol, pan y mae gan Satan a'r byd chwe' diwrnod. Dylem fel Ymneillduwyr wneyd mwy o'r plant, nid yn unig yn yr Ysgol Sul, ond hefyd yn ein cyfarfodydd pregethu, a'n cyfarfodydd gweddi. Dylem ddod a hwynt gyda ni i bob cwrdd, a cheisio ganddynt ddweyd lle'r oedd y testyn, yna mha lyfr, pwy benod, a phwy adnod. ac ymdreehu cael ganddynt'gofio geiriau'r testyn, Fe fyddai hyny yn gwneyd iddynt dalu mwy o sylw i'r pregethwr pan yn pregethu, ac hefyd yn arferiad da i'r plant yn ot Ilaw- Er fod manteision addysg grefyddol yn ami a lluosog, fel mai ychydig iawn o ddeg mlwydd oed i fyny sydd yn analluog i ddarllen Gair Duw; ond mae He i ofni mai ychydig yw Difer 11 gwneu- thur wyr y Gair ag gydd yn cymeryd y Gair yn rheol eu hymddygiadau, gellir dweyd am lawer o honom ein bod yn gwybod ewyllys ein Har- glwydd, ond eto heb ei gwneuthur. Y mae fel rhyw amlygrwydd fod y diafol a'i angelion wedi deffro ac adnewyddu eu hymdrech- ion 0 blaid eu teyrnas yn ein gwlad y dyddiau hyc* Beth yw y eyriydd mawr sydd ar Anffydd- iaeth, ac hefyd y cynydd mawr sydd ruewn cys- ylltiad a'r lenyddiaeth waeJ, druenus, sydd fel diluw yn gorchuddio ein gwlad anwyl ? Onid chwaeth yr oes sydd wedi myned mor isel fel nad oes dim yn gwneyd y tro i'n hieuenctyd ond novels," a'r rhai hyny o'r dosbaith iselaf pos- sibl; ac onid yw yr ystyriaeth ddifrifol o'r peth- au hyn yn galw yn uchel arnom fel Cristionogion —yn weinidogion, diaconiaid, ac aelodau crefydd. ol-i ddeffro ac i arjer ein holl alluoedd yn erbyn y pethau hyn. Bydded i ni wisgo am danom holl arfogaeth Duw, a defnyddio cleddyf yr Ysbryd- yr hwa yw Gair Duw-ac i yindrechu dylanwadu ar ein hieuenctyd anwyl i ddarllen ac yniwneyd mwy a'r Beibl, a thrwy hyny gyflawni gorchym- yn Crist, yr Hwn a ddywedodd, Chwiliwch yr ysgrythyrau, canys ynddynt hwy yr ydych yn meddwl cael bywyd tragwyddol, a hwynt hwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu am danaf ti." Bydded i ni oil, yu hen ac ieuanc, i iawn dreulio ein Babbathau, drwy ofalu bod yn bres- ejiol yn mhob cyfarfod, ac hefyd yn yr Ysgol Sul. Trueni yw gwel'd cymaint o'n haelodau crefyddol yn aros draw o'r Ysgol Sul, llawer o honynt a fjddent 0 wasanaeth mawr fel athrawon ac sthrawesau yn ein hysgolion Sul. Nid rhyfedd fod cymaint o'n becbgyn a'n merched ieuainc yn cadw draw, gan fod cymaint o'n haelodau mewn oed yn anffyddlon iddi. Bydded i ni fyfyrio mwy yn nghyfraith yr Arglwydd, a pheidio gadael y byd a'i bethau allunyddu'r nieddwl yn ormodol, ond ymgysegru ein hunain yn drylwyr, gorph a meddwl, i fab Duw, yr hwn a ryddodd Ei einioes werthfawr drosom, Ac fel y mae yr Apostol yn ein hanog i ruddi ein cjrph yu aberth byw, sanctaidd, cymeradwy, i Dduw, bydded i ni dreulio ein Sabbathau yn gyfangwbl i wasanaeth yr Arglwydd, gan goiio fod Sabbath (neu orphwysfa) eto nol i bobl Dduw. Ac os Jdym mewn atiecl-jyd, tieu henaint, yn methu cadw ein cydgynulliad, bydded i ni fod mewn ystad addolgar, gan ganu a phyncio yn ein calon i'r Arglwydd," yn ein hanedd-dai gar- tref, a thrwy hyny sancteiddio yr Arglwydd ar ei ddydd sanctaidd. DIDYMUS.

Fishguard Urban Council.

Dissatisfied With Sentence!

FISHGUARD'S OPPORTUNITY.

Advertising