Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

FISHGUARD FINANCES.

Advertising

Reportorial Reminiscences.

PEMBROKESHIRE FIELD TRIALS.

HAVERFORDWEST EISTEDDFOD.

DAEARGRYN MESSINA.

HARMONY, PENCAER.

TREFDRAETH.

News
Cite
Share

TREFDRAETH. Cynhaliodd undeb cerddorol Bedyddwyr cylch Cam Ingli-cynwysedig o eglwysi Beth- lehem, Trefdraeth Tabor, Dinas Caersalem, Dyfed a Jabez a Glandwr, Dyffryn Gwaun- eu cymanfa ganu eleni yn Bethlehem, Tref- draeth, dydd Llun Pasc. Prydnawn a hwyr Sul Pasc cynaliodd y gwahanol gorau rehearsal lwyddianus yn Beth- lehem, o dan arweiniad Mr C B Williams (Alaw Ingli), arweinydd y gymanfa. Yn ab- scnoldeb y gweinidog, Parch. D. J. Evans, A.T.S., llywyddwyd gan Mr C Jenkins, mab y diweddar Barch. James Jenkins, gweinidog yr eglwys, yr hwn sydd yn bresenol mewn eu cymanfa ganu eleni yn Bethlehem, Tref- draeth, dydd Llun Pasc. Prydnawn a hwyr Sul Pasc cynaliodd y gwahanol gorau rehearsal lwyddianus yn Beth- lehem, o dan arweiniad Mr C B Williams (Alaw Ingli), arweinydd y gymanfa. Yn ab- senoldeb y gweinidog, Parch. D. J. Evans, A.T.S., llywyddwyd gan Mr C Jenkins, mab y diweddar Barch. James Jenkins, gweinidog yr eglwys, yr hwn sydd yn bresenol mewn ysgol yn Glasgow yn ymbarotoi ar gyfer y maes Cenhadol. Y evfeilvddes oedd Miss C James, West View, Trefdraeth, yr hon aeth trwy ei gwaitb yn ganmoladwy. Cafodd yr arweinydd lwyr foddhad ar waith y dydd, a phroffwydai am gymanfa lwyddianus, ac felly y bo dydd Llun. Llywyddwyd cyfarfod y prydnawn dydd y gymanfa gan y Parch. J. LI. Morris, yr hwn aeth trwy ranau arweiniol y cyfarfod. Ar ol rhai sylwadau gan y Llywydd, gal- wodd ar yr aeweinydd at ei waith, a chafwyd cyfarfod hwylus, y canu yn ardderchog drwy y prydnawn. Yr oedd datganiad o'r anthem Teyrnasoedd y ddaear" yn fendigedig, ac yn dangos 01 h training mawr-, ae yn profi fod yna leisiau ardderchog yn y cor. Ar ddiwedd y cyfarfod rhoddodd y Parch. D J Evans groesawiad cynes i'r ymwelwyr oil, ac yr oedd yr Eglwys wedi darparu yn helaeth yn y festri ar gyfer anghenion corfforol y di- eithriaid. Dechreuwyd cyfarfod yr hwyr am chwech o'r gloch, y Parch. J W Maurice (cyn-Iywydd Undeb Bedyddwyr Cymru) yn llywyddu. Awd trwy tua deuddeg o donau oddiar y rhaglen mewn modd deheuig, pawb yn canu gyda hwyl a bias, a chyda cryn ddwysder. Hefyd cafwyd gwledd eto yn natganiad yr anthem. Yn ystod y cyfarfodydd cafwyd unawdau gan Miss E Edwards, Picton Council School, a Miss M Lewis, College Square; hefyd anerchiadau gan Mr C Jenkins, myfyriwr, a'r Parchn. D J Evans, J Ll. Morris, J W Maurice, a chan yr Arweinydd. Diolchwyd i'r arweinydd am ei waith ardder- chog a'i sylw i wir ystyr yr hyn a ganwyd, ac i'r gyfeilyddes am fyned trwy y gwaith mor ddeheuig; hefyd i'r cantorion a phawb am wneyd y gymanfa yn fath lwyddiant. Hefyd talodd yr Arweinydd deyrnged wresog o ddiolchgarwch i'r arweinyddion Ileol am eu llafur caled yn addysgu y tonau i fath raddau o berffeithrwydd. Cafwyd tywydd dymunol, cynulliadau llu- osog, a chaniadau ardderchog. Credir yn gyflredinol fod hon yn un o'r cymanfaoedd goreu a gafwyd yn y parthau hyn. Gobeithio y bydd i'r oil lafur a ddangoswyd gael ei ddilyn gan ffrwythau daionus, er lies dynion a gogoniant Duw. Yr Arglwydd a barhao i fendithio yr undeb. Penlan. OWEN HUGHES, Ysg.

Advertising

Advertising