Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

FISHGUARD FINANCES.

Advertising

Reportorial Reminiscences.

PEMBROKESHIRE FIELD TRIALS.

HAVERFORDWEST EISTEDDFOD.

DAEARGRYN MESSINA.

News
Cite
Share

DAEARGRYN MESSINA. Buddugol yn eisteddfod Dinas, Ebrill 14, 1909. Ust! clywch y swn o'r llwnc daearol, A gwaedd wylo mewn beddau oesol; Wrth oddef gwasgfa mae ochain erchyll, A thwrw'n treiddio drwy'r gwyll teryll Tai yn ddrylliau i'w safn yn suddo, Dol a mynydd yn gwyllt ochneidio Miloeddo ddynion mewn un gladdfa, Tewfwg didor o'i chylch ymdorcha. 0 ddychryn erch, angau a bywyd Yn gwyllt ymladd yn hollt daearfyd Clywch y waedd o enau y geulan, Fel mewn gwewyr esgor ar daran Cyflegrau anian dania'r cigion, Gan dreiddio trwyddo wyllt ebychion Muriau o gyrph a dawel hunant Mewn beddau diflan, diogoniant. Dychrynllyd ryfel, swn elfenau, Daear yn berwi mewnol flamau Angerddol wres cread yn crynu, Swn ochain o'r llwch yn dyrchafu Aberau baerant hylifaidd lafa Ar ben dynol anwel gymanfa Tywyllwch dudew a hyfleda Ei fantell ddu uwchben 'r amguddfa. Pa le, 0 pa le y mae Messina ? Ai yn y dyfnder yn mhwll collfa Pa le mae'r temlau a'r tai mynor, Ai dan lafa echrys ddigyfor ? Y plant anwyl a'u rhiaint tirion Lyncwyd mewn eiliad i wane eigion O Dduw, mor rhyfedd yw'th weithredoedd, Anfeidrol wyt yn dy alluoedd. Rosebush. T. PHILLIPS (Glan Syfnau).

HARMONY, PENCAER.

TREFDRAETH.

Advertising

Advertising