Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

— Pell ac Agos. —

News
Cite
Share

— Pell ac Agos. — Gan "CLUDYDD." Fel darlithydd, ac hefyd fel pregethwr, mae y Parch Dan Davies, Hermon, Abergwaun, yn ddiameu yn y radd ilaenaf o gewri'r pwlpud Cymreig. Bu yn darlithio yn Saron, Llande- bie, yn ddiweddar, a desgriiir ei ddarlith yno fel y canlyn yn Seven Gymru am yr wyth- nos ddiweddaf :—" Nos Sadwrn, Medi 29ain, bu y Parch Dan Davies, Abergwaun, yn Saron, Llandebie, yn darlithio ar y Parch Robert Jones, Llanllyfni.' Y mac Mr Davies wedi traddodi hon tun. 120 o weithiau o'r blaen, ond credwn na ddariu iddo godi i dir mor uchel a'r tro hwn. Cadwodd y gynulleidfa fawr amdros ddwy awr yn nghanol llif o swynion hanesiol a barddonol, ac yr oedd ei arabedd a'i ddyn- warediad o'r hen batriarch yn ddiguro. Yn ddios, y mae ein brawd o Abergwaun yn meddu ar ddoniau darlithydd gwir enwog." Mae dros 25,000 o gamelod yn eiddo'r Llywodraeth Brydeinig. Ni cheir suddo ffynon o fewn dau can' Hath i fynwent yn Ffrainc. Mae yn y byd oddeutu 180 o drefi gyda phoblogaeth o gan' mil. Yr hyn ag yw'r gwlith i'r blodeuyn yw gciriau caredig i'r galon. Cymcr oddeutu 3,300 o redegfeydd ceffylau Ie yn flynyddol yn y wlad hon. Mae gan y Great Western fwy o orsafoedd nag unrhyw gwmni rheilffordd Prydeinig arall. Mae nerth ceffyl yn gyfystyr i nerth saith a hanner o ddynion. Mae mwy o Brotestaniaid ar gyfartaledd yn Norway a Sweden nag sydd mewn unrhyw wledydd ereill yn y byJ. Mae wytb o ieithoedd mewn llawn arferiad yn yr India. Mae'r Saesoneg yn un o honynt wrth gwrs. Nifer cyfartalol y gynnulleidfa ar y Sabbath yn St Paul's, Llundain, yw 3,400, a mynychir Westminster Abbey gan ddwy fil. Mae gan rywogaeth o bysgodyn a adwaenir fel y "starfish," allu i newid ei liw i on y gwrthddrychau oddiamgylch. Gellwch farnu gwraig yn weddol dda oddi- wrth y darluniau fydd yn hongian ar fwriau ei pharlwr, Mae wedi bod yn arferiad er's amser maith i beidio cario allan y ddedfryd o farwolaeth a'r bersonau o dan un mlwydd ar bymtheg oed. Allan o bob cant o fabanod sydd un marw cyn bod yn flwydd oed, mae ugain yn marw o'r dirdynwst (convulsions). Cred Mr Thomas Evans,Tynant, Ceinewydd, hen gymrawd diddan a Ifraeth, a Chymro o'r iawn ryw gyda hyny (meddai y Goleuad ') mai Cymro oedd yr Adda hanesyddol, ac mai y Gymraeg oedd iaeth gynhefin Paradwys y cynfyd. Gesyd ei gred ffansiol allan yn y penill a ganlyn o'i eiddo :— Cymraeg oedd yr iaith gynt yn Edeu, Hen Gymro oedd Adda, mae'n wir, A Chymro yw eto'n y nefoedd, Mae'n cadw'r hen iaith yno'n bur Dychmygaf ei glywcd yn canu, A Chymro'n arweinydd y gan, Y Saesneg a'r ieithoedd canghenog Yn y nefoedd ddiflanant yn ljtn

GWLAD FY NGENEDIGAETH.

Advertising

—AT EIN GOHEBWYR.—

- NODION. —

Prison Reforms.

Incorporation of St. Dogmaels…

Wreck of the < Royal Charter'…

BOAT CAPSIZED AT MILFORD HAVEN.

Advertising

Haverfordwest Baptist College…

,Up Mails Delayed.

FAIRS AND MARKETS.

Goodwick Case at the County…

People's Banks and Thrift,

[No title]

Advertising