Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Memorial Stone-Laying at Dinas.

HERE AND THERE. --

[No title]

H Only One Second between…

Advertising

The Welsh Ysgol Haf.

--------AMSEIt A DDENGYS.

I ER COF ANWYL I

News
Cite
Share

ER COF ANWYL Am EUENEZER WILLIAMS, Fraich, yr hwn a gyfarfyddodd a damwain yn nglofa y Park, Cwmparc, Mai 26ain, ac a fa farw Mehefin yr 2il, 1904, yn 34 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Hermon, Abergwaun. Mor ddyrys yn ein golwg ni Yw doeth Ragluniaeth lor;- Ei ffyrdd sydd yn y tonog li' A'i lwybrau yn y mor! Yn fynych torrir gan y gwynt Y gangen faethlon, ir; Ac felly angau ar ei hynt, Yr ieuanc gwymp o'r tir I Trwy ddamwain yn y lofa ddu, Dydd Eben ddaeth i ben Ond bydd ei goffa flwyddi lu Fel seren ddysglaer wen. A gardd y teulu heddyw sydd Dan lwydrew'n brudd ei gwedd; Ond serch cyfoedion beunydd fydd Yn gwylio man ei fedd. Mae'i dyner fam mewn galar mawr, A'r perthynasau'n brudd; A llawer deigryn syrth i lawr Fel perlyn dros y rudd. Bydd hiraeth mwy yn troi o gylch Ei fedd, yn drwm a dwys A dagrau fel y gwlith a ylcb Hen fynwent Hermon lwys I 'D yw'r bedd ond Hetty dros y nos I'r teithwyr ar y llawr Tudraw i'r glyn mae'r Ganaan dlos, A'r Gwynfyd pur ei wawr. Y blodau dyfant ar y bedd, Bregethant yn eu hiraeth, Gan ddweyd daw'r corph mewn newydd wedd Rhyw ddydd o'r bcddrod llaith Cwmparc. BONFYL.

Advertising