Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

Advertising

ABERMAW.

BANGOR.

BETHESDA.

News
Cite
Share

BETHESDA. ANGLADDAU'R WYTHNOS. — Dydd Mawrth, yng Nghoetmor, claddwyd William Hughes (saer maen), Quarry View Stores. Gwein- yddwyd gap y Parch Rhys J. Huws. Yr oedd cynrychiolacth o'r Odyddion yn bresonnol yn y dorf fawr, a darllenwyd gwasanaeth claddu yr Urdd ar lan y bedd gan Mr Thomas Morris. Coctmor Mount.—Yr un dydd, yn Llanllechid, claddwyd John Jones (qnwnwr); a dydd Mercher, yn Llanllechid, claddwyd Richard Evans, Treflys, mab i'r diwcddar Richard Evans, o'r un lie, a brawd i Mr Jercmiaii Evans, Carncddi. Gwein- yddwyd gan y Parch J. T. Job. MARW SYDYN.— Fore lati cafwyd Mrs Pierce, priod Mr Thomas Pierce, Pantygwair, Llanllechid, yn farw yn oi gwcly er braw mawr I i'r teulu. Mr Thomas Pierce yw arweinydd Cor Eglwys Llanllechid, ac y mae yn swyddog yn Chwarel y Penrhyn er's blynyddau lawer. TROI'N OL I'R WLADFA.-Wedi treulio rhai I misoedd ar ymweliad a JChymru, trodd Mr D. R. Pritchard, amaothwr cyfrifol o'r Wladfa, yn 01 am gartref yr wythnos ddiweddnf. Mab ydyw i'r diweddar Richard Davies, Maen Caradoc, Nant Ffrancon,a brawd i Mrs David Roberts, Tanygraig. Mawr ganmolai garedigrwydd pawb iddi yn ystod ei ymweliad a bro ei febyd, a nnvyn- haodd ei hun yn fawr yn ei deithiau drwy Dde a Gogledd Cymru. CYMDEITHAS LENYDDOL JERUSALEM. —Agorwyd y tymor nos Fercher, gyda darlith gan y Parch Henry James Davies, Penygroes, ar "Farddoniaeth Bywyd." M: D. R. Jones, Lon- don House, yn y gadair. EWYLLYS 0 FETHESDA.—Yr wythnos ddi- weddaf profwyd ewylly3 y diweddar Mr T. J. Thomas, Anfield-road, Lerpwl, am 22,902p. Mab ydoedd i'r diweddar John Thomas, Pant Glas, Bethesda. Aeth i Lerpwl yn ddyn ieuanc, a gwnaeth ei gyfoeth fel goruchwyliwr a pherch- cnnog tai. Y WEINIDOGAETH.-Mae Mr John Jarvis, mab hynaf Mr Thomas Jarvis, ysgolfeistr Gerlan, wedi ei benodi i guradiaeth ym Mlaenau Ffes- tiniog, a'r Parch Tegid Davies, Gelli, wedi ei ddewis i fywoliaeth Llanfihangel-y-Pennant. Gwneir trefniadau i anrhegu *Mr Davies cyn ei ymadawiad ar ol cyfnod o waith llwyddiannus a gweithgar yn y Gefii. FFAIR LLANLLECHID. — Cynhaliwyd hi ddydd Sadwrn, a chan ei bod yn disgyn ar Sad- wrn setlo yr oedd yn boblogaidd neillduol. Ceid yno yr atdyniadau arferol i dreiglo'r ceiniogau, a mawr oedd y miri a'r helynt yn yr hwyr. Caf- odd y cerbydau teithwyr o'r Carneddi i'r ffair fasnach fywiog. Pris llai o tua Is y pen gafwyd am y defaid nag a gaed yn Ffair Bethesda, a methwyd gwerthu rhai cannoedd o honynt am fod y gwcrthwyr yn gyndyn i ostwng y priaiau.

Terfyn Eithaf Gwendid y Giau.

8ETTWSYCOED,

CRICCIETH.

DYFFRYN NAWTLLE A'R AMGYLCHOEDD.

Advertising

FFESTINIOG.

CAERNARFON.

LLANBERIS.

LLANRWST.

PENMACHNO AtR CWM.

PORTHMADOG. ]

PWLLHELI.

PENRHOSGARNEDD.

TALYBONT (Bangor).

Asthma Bronawl.

Advertising