Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

Advertising

ABERMAW.

BANGOR.

News
Cite
Share

BANGOR. RHYS AP GRUFFYDD.-Nos Iau, yng nghy- farfod agoriadol Cymrodorion Prestatyn, tradd- ododd y Prof. J. E. Lloyd, Bailor, ddarlith ar "Rhys ap Gruffydd, Gwron y De." CANU'R ORGAN. Nos Fawrth bu Miss Olwen Rowlands yn canu'r organ yn Nhwrgwyn, ac yr oedd Miss Dilys Jones, Llundain, y gan- tores hysbys, yn cymeryd rhan. Elai yr elw at leihau dyled y capel. CYNGERDD Y COR MERCHED.— Amlwg yw nad oes ball ar y dyddordeb gymerir yng Nghor Merched Bangor yn ol a arddangosid yn eu cyngerdd nos Fercher yn y Penrhyn Hall. Lly- wyddai Mr L. D. Jones (Llew Tegid) dros gyn- hulliad mawr. Canodd Mr T. Bryniog Jones, R.A.M., yn rhagorol. Ni bu Mr W. J. Walford yn fyrr o ddangoa alluoced adroddwr ydyw, ac yr oedd ei adroddiad o Rianedd Penrhyn Gwyr yn dra desgrifiadol. Canodd Miss Lily Simons, Miss Myfanwy Jones, Mrs Brooks, a Miss Ida A. Williams, aelodau o'r cor, yn rhagorol. Yr oedd Miss M. L. Eardley (Pencerddes Arfon) gyda'r berdoneg, a chanodd y cor un o ddarnau cystadleuol yn Eisteddfod Caerfyrddin y flwyddvn nesaf. Mr Owen Hughes, Llwynedd, oedd ys- grifennydd gweithgar y cyngcrdd. CERDDOROL.—Bwriada Miss Beatrice Dew, A.R.C.M., roddi cyngerdd yn y Penrhyn Hall, tua diwedd y mis nesaf. SEINDORF Y "CLIO." Yr wythnos ddi- weddaf bu Seindorf yr Hyiforddlong Clio yn canu mewn nodachfa a gynhelid er budd SefydliaJ lleol y Morwyr yn y Midland Hotel, Manceinion. CYNGERDD BLYNYDDOL Y COLEG. Mae Cymdeithas Gorawl y Brifysgol wedi dewis "Pied Piper of Hamelin" (Parry) ar gyfer eu cyngerdd nesaf. LLWYNOG DOF.—Achosid cryii ddifyrwch yn High-street brynhawn Sadwrn pan welid tafarn- wr lleol yn cerdded a llwynog dof wedi ei rwymo gydag cf. Edrychai y ilwynog fel wcdi ei ddych- rynu. DEDDF Y TLODION.-Nos Lun bu nifer o warcheidwaid lleol ac eraill sy'n cymeryd dyddor- deb yn neddfwriaeth y tlodion yn y Queen's Head Cafe yn gwrando araeth a draddodid gan Mr P. Harding Roberts, clerc Gwarcheidwaid Treffynon, ar "Ddoddf y Tlodion." Llywyddai yr Honadur Henry Lewis, Y.H., a diolchwyd i Mr Roberts ar gynnyg Dr. E. 0. Price a Mr A. I. Pryco yn eilio. CENHADAETHAU TRAMOR.—Cynhaliwyd cyfarfod cysylltiol a'r uchod yng Nghapel Horeb nos Lun, a thraddodwyd anerchiadau gan y Parch G. Garrett Roberts, Llanfairfechan, a Mr W. 0. Jones, Bangor. Cadeirydd y cyfarfod oedd Mr R. Conway Williams, Caellepa. LLENORION HOREB.—Penodwyd swyddog- ion i drefnu cyrddau'r Gymdeithas Lenyddol hon am y gaeaf, ac wele a et.holwyd :-Llywydd, Parch R. Jones Williams; is-lywydd, Mr Abi Williams (U.C.N.W.); pwyllgor, y Llywydd, yr Is-lywydd, Miss Roberts, a Mr Fisher Williams; cyd-ysgrif- enyddion, Miss Evans, Cambrian House, a Mr John Bartley; trysorydd Mr W. R. Roberts. YSGOL ST. WINIFRED. Dacth Countess Dundonald i Fangor ddydd Iau o Gastell Gwrych, a thalodd ymweliad ag Ysgol St. Winifred, Ban- gor. Mae'r gwaith o adeiladu y neuadd gynnull y "Pennant Hall," yn neshau at ei orffeniad. YR YNADL YS.-Cynhaliwyd yr ynadlys wytii- nosol hwn ddydd Mawrth, gerbron Mr W. Pughe, Mil. Syr T. H. Marshall, C.B., Cadben N. P. Stewart, Mri J. Evan Roberts, Thomas Hughes, Thomas Roberts, a J. Harrison. Cyhuddwyd Thomas Roberts, Coedhowl, gc;f Bangor, o boidio golchi ei ddefaid cyn diwedd Medi yn ol gofynion y Ddeddf. Rhoddodd yr Heddwas R. Davies dystiolaeth. Dirwywyd ef 20s a'r costau. CYMDEITHAS LENYDDOL PENDREF.— Nos Waner, Hydref 28ain, cyrrhaliodd aelodau y gymdeithas uc.hod eu cyfarfod a.goriadol trwy wisdd r&gorol i'r corff, a chyfarfod amryw- laothol yn dilyn. Awd trwy y rha-g'.en chwaetli- us a gnnlyn:-Dat,-an;ad agoriadol, "Bwthyn ar y Bryn," gan nifer o'r aelodau; anerdhiiad gan y Llywydd, ein parcihus weinido^- Gwedi ad- roddiad campus ga.n y doniol Dulyn, cafwyd eysta,dl-oufi.oth cyfieithu o'r Seisnig i'r Gymraeg, buddugol Mr Jones. Daeth podwar i yixi.srewio yng nghystadieuaeth datganu penhdMIfm gyda'r tarniau, ao aeth y llawryf yn esmwyth i'r ys- grifennydd, Mr WiUiaims. Diamcu mai yn yr Ei(:i^ed<5cod Geivodlacrthol y cawn ail IJianes ncaaf. Y goreu yng nghystadleuiaeth araith fyrfyfyr oedd Miss Th-emag. Da-etli lliaws ymlaen i gymeryd rhan yng ng11yta.d¡Emaoth cyfanBoddi dwy anell odiog ar dfistyn a roddwyd ar y iiryd, a dyfarnlwyd Mr Jones, c Goleg y Br' fyigol, yn oreu. Datganwyd pen Ml ion yn rhaigorol gan Mrs R. Williams ar yr Alaw Penrhaw. Ca-f- wyd eystaclieuaeth fywiog iawn ar adrodd hen ddiarhebkm Cymreig, a bu y frwydr yn, Efalod rhwng Mrs John Jones a Mr Thomas Thomas: rliajiwyd y wobr rhyn.gddynt. Unawd gan Mr I Roberts, Ganth School. Torfynwvd un o'r ryt arIody-drd mwyaf dyddorol ag adeiladol trwy ga.nu yr Anthecn Ganedlaethpl. Nxl yw hyn ond biaeniffrwyth g-w!eddoedd eraill sydd yn aros, gan fod rha^len ohvvae.tliu.s wedi ei threfnu a phwyDgor doeth yn llywodraecfhu.—Aetod. I

BETHESDA.

Terfyn Eithaf Gwendid y Giau.

8ETTWSYCOED,

CRICCIETH.

DYFFRYN NAWTLLE A'R AMGYLCHOEDD.

Advertising

FFESTINIOG.

CAERNARFON.

LLANBERIS.

LLANRWST.

PENMACHNO AtR CWM.

PORTHMADOG. ]

PWLLHELI.

PENRHOSGARNEDD.

TALYBONT (Bangor).

Asthma Bronawl.

Advertising