Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

Advertising

ABERMAW.

BANGOR.

News
Cite
Share

BANGOR. LLADRADAU. — Yn yr heddlys wythnosol ddydd Ma wrth, cyhuddwyd John Jones, 17 mlwydd oed, Water-street, Hirael, o dorri i mewn i Bafiliwn Golff Bangor ar Hydref 10fed a llad- rata oddiyno tua 40 o becynnau o aigarennau, pedwar 3wllt a chwech cheiniog, siswrn, eiddo'r Clwb, a dau bar o esgidiau golff, eiddo aelodau o'r clwb.-Erlynai yr Arolygydd Guest, a rhoed tystiolaeth dros yr erlyniad gan W. H. Ball a'r Heddwas Evans (60).-Amddiffynai Mr Pehtir Wilhams.A,r y cyhuddiad hwn a brofwyd rhoed dirwy o lp a'r cost;Fe'i cyhuddwyd hefyd o dorri i fasnachdy ffrwythau yn y Garth a llad- rata oddiyno chwe' lemon.—Gohiriwyd yr achos tan y Frawdlys Chwarterol, a rhyddhawyd y cy- huddedig dan feichiafon efe mewn 20p a'i dad mewn 20p arall. YR ETHOLIADAU BWRDEISIOL.—Ar ran Cymdeithas Masnachwyr Bangor a'r eylch mae Mr Harold Evans, yr ysgrifennvdd, wedi cyhoeddi cylehlythyr i drethdalwyr y ddinas yn gofyn idd- ynt ystyried rhai cwestiynau arbonnig er sicrhau yn eu cyleh farn ymgeswyr am aelodaeth ar y Cyngor Dinesig. Cred y Gymdeithas fod amryw faterion o bwys yn cad eu hesgeuluso. Dyma'r cwestiynau a awgrymir i'w gofyn i'r ymgeiswyr: (1) A ydych yn barod, os y'ch etholir, i sicrhau arolygiaeth ianylach gan swyddogion y Gorffor- aeth dros y gwahanol wasanaethyddion ? (2) A fynnwch ddefnyddio'ch dylanwad ar y GorfForaeth er rhoi cyfle i fasnachwyr lleol gyflenwi'r nwyddau a ddefnyddir gan y Gorfforaeth? (3) A ydyoh yn barod i roi'ch pleidlais dros gad gwell goleu i'r dref? TAFODIAITH ARFON.-Mown cyfarfod o Gyradeit-has Gien'edlaethol Cymry M-ancein- ion traddododd Mr Ifor Williams, M.A., o Athxofa Bangor, ddarlith ddifyr ar "Dafod- iaith Arfon." Yng nghyfarfod nceaf y Gymdeithas, nos Wiener nesaf, bydd Dr. Uoyd William's, Bangor, yno yn darlithio ar "Ganeuou Cymru." CAPEL HOREB (W.).-Y Saboth porfform- iwyd y cantawd "Cymrodorion" yn y Capel Wesleyaidd gan gor y plant, dan arweiniad Mr D. R. Ellis. Canwyd alawon gan Mr H. F. Williams, & Miss Blodwen Pritchard; a tlrraddodwyd anerchiad gan Mr Perry Da- vies. Llongyfa-rchir Mr Fergusson Jones a Mr R. D. Roberts iam y trefniadau llwydd- ian-nus. Y mis nesaf cynhelir eisteddfod yn y c-apel hwn dan nawdd yr Ysgol Sabothol. YR HEDDLYS.—Cynhaliwvd yr heddlys wyth- nosol ddydd Mawrth gerbron Mr W. Pughe (cad- eirydd), Mil. Syr T. H. Marshall, C.B., Cadben N. P. Stewart, a Mri H. Lewis a J. Evan Rob- erts.—Cyhuddwyd Solomon Taylor, cymeriad ad- nabyddus heb gartref sefydlog, o ladrata dwy gynfas, toweli a bwrdd addurn, eiddo rhywun an- adnabyddus. Yr wythnos ddiweddaf, meddai'r Arol. Guest, galwodd Taylor mewn masnachdy ym Mangor, a chynh y^iodd werthu'r ddwy gynfas oeddynt mewn eyffwr rhagorol. Gofynnodd am 8s arny-nt, ond sylwodd y gwasanaethwr yn y siop fod yr enw ar y gongl newydd gael ei dorri yraaith. Hysbysodd yr heddlu gyda'r canlyniad i Taylor gad ei gymeryd i'r ddalfa. Pan ofyn- wyd iddo egluro y modd y daeth i feddiant o'r cynfasau dywedodd Taylor iddo eil prynnu flyn- yddau yn ol, a golchwyd hwy ddeufis neu dri yn ol gan ei briod. Dywedodd iddo dorri'r enw i ffwrdd ddeuddeng mis yn ol. Yr oedd yn an- hygoel, meddai yr Arol. Guest, i ddyn o safle Taylor ddifetha yn fwriadol ddwy gynfas er mwyn cael yr enw i ffwrdd pe deuent i'w afael drwy foddion gonest. Gofynnai am ohiriad o'r achos am bythefnos, a chaniatawyd hyn, a rhydd- hawyd Taylor dan feichiafon. TALU IAWN I WEDDW.—Yn y Llys Sirol ddydd Llun gwnaeth Mr Harold Evans gais am i'r iawn o 176p a basiwyd i'w roddi i Mrs Porter, Crewe, gweddw Mr James Porter, a gafodd ei ladd ar y rheilffordd ym Mangor, gael ei dalu. Gorchymynodd y Barnwr i 20p gael eu talu'n uniongyrchol a 3p y mis wedi hynny. PREGETH t'R MYFYRWYR.—Traddodwyd y bregeth flynyddol i'r myfyrwyr yn y Brifeglwys nos Fawrth (Dygwyl Luc Sant) gan Esgob Caer. Dacth torf fawr ynghyd. TALU'R DIOLCH.—Y?i holl gapeli Ymneill- duol y dref cynhaliwyd gwasanaethau diolch am y cynhauaf wythnos i heddyw, a chauid y mas- nachdai a'r ysgolion. PERSONOL.—Penodwyd y Parch W. Morgan, M.A. (cadcirydd), yn gynrychiolydd y Gwarclioid- waid ar y Pwyllgor Ccnedlacthol ynglyn a'r Gof- eb Gymreig i'r diweddar Frenin. Y.W.C.A.-Dydd Sadwrn cynhaliwyd cyfarfod o ferched y gymydogaeth yn y Y.M.C.A. i'r ari- can o geisio sefydlu adran o'r Y.W.C.A. yn y ddinas. EI ARLLWYS I'R FFOS.—Dydd Iau, gerbron Mr J. Evan Roberts, dirwywyd Kate Jones, Pcn- maenmawr, 5s ac 115 o gostau am fod yn analluog feddw yng ngorsaf y rheilffordd. Gorchymynodd y cadeirydd fod cynnwys costrel o whisci ocdd ganddi gad ei dvwallt i'r ffos. LLADRAD HONEDIG.—Yn yr un heddlys cyhuddwyd dyn ietianc or enw James Charles, a drig ym Mryn Owen, Glanadda, o ladrata n wydd- au o faelfa ei feiatr, Mr Edward Jones, cerbyd- wneuthurwr, Bangor. Mynegodd y Rhingyll Griffiths iddo gyhuddo'r cyhuddedig ac addefodd yntau iddo eu Iladrata. Apeliodd y diffynydd am feichiafacth, a sylwodd fod ganddo brio3 a phed- war o blant. Caniatawyd meichiafaeth; efe ei hun mewn lOp. DWYN CYW L-R.Am ladrata cyw iar o faelfa Miss Roberts, y Farchnad, dirwywyd Ann Davies, dynes briod, o Fangor, 10s a'r costau yn heddlys Bangor' ddydd Mawrth. Amddiffynai Mr S. R. Dew a lhodlwyd irslioW'th gan Mrs lioweil, Prmce of Wales, ar Heddwas J. R Jones. Y FEIBL GYMDEITHAS.—Cynhaliwyd cvfar. fod o adran Bangor o'r Feibl Gymdeithas yng Nghapel Twrgwyn nos Iau. Agorodd y Parch Ellis Jones, Ebenezer, y cyfarfod, a chaed areith- iau gan y Parch Hugh Jones, D.D. (y cadeirydd), Parch J. R. Hughes (yr hwn a ddarllenodd lythyr yn gofidio ei abscnoldeb oddiwrth Syr Harrv Reich el), y Parch Mostyn Jones, y Parch T. Ga,squoine, a'r Parch D. Charles Edwards, M.A., Llanbedr (dros y Fam G.ymdeithas). Yr oedd y Parchn Thos. Hughes, H. Rees Davies, Morgan Daniel, Daniel Rovfraid^ hefyd yn bresennct. Yn ystocl y flwyddyn a basiiodd cyfrannodd Ban- gor 20p i'r gymdeithas allan o gyfanswm o 940p o Arfon. AM GAEL EISTEDDFOD. -G al wyd cyfar- fod cyhoeddus yn y Queen's Head Cafe nos Lun gan Ddeiniol Fychan ac eisteddfodwjT aiddgar eraill, i ystyrkd y priod-oldeb o gynnal eisteddfod yn y ddinas ar Ddygwvl Awst. Seiliwyd y bwriad ar y ffaith 11 ad oedd yn awr yr. unrhyw atdyniad i'r ddinas ar Ddygwvl Awst. Uywyddai Deiniol Fyclian; eithr am mai ychydig a ddaoeth vng-hyd pasiwyd i al-W cyfarfod arall nos Wener. Furfiwyd pwyllgor yn cynnwys Dein.iol Fyoban, Mr David Williams (o swydd- feydd y Gorfforaeth, efe i weithredu fel ysgrifennydd dros dymor), Mr Will Roberts, a Mr Mathew Hughes, i wneud y darpariadau agoriadol. Nos Wener, yn y Queen's Head Cafe, cynhal. iwyd cyfarfod arall i ystyried y mater uchod, a daeth niter dda o Ei.itoddfodwyr pybyr y ddinas yn&hyd, dan lywyddiaeth Mr T. J. Williams, Y9jro3 St. Paul' Gwooi i Dosiniol Fychan roddi adroddiad byrr o amoan y cyfarfod gwnaeiih Mri T. J. Wuiiams (y cadeirydd). Fculk Jones. J. Lloyd Jones, H. T. Owen, WiQaams (Elwy Villa), Dul,}"n Davies, E. Davioe, J. A. Williams (Penoerdd Seiriol), J, Morris Jone-i (Friars_rd.), T. Davies a Llw. D. Jones. Up. Bangor, amryw srylwiadau ar wahanoJ agweddau i'r cwestiwn, a ohynygiodd Mr J. A. Williams fod Eisteddfod i'w ohyn-nal, ao eiliodd dan ar unwaith. a pbassiwyd Yn-unfrydoi. Gan weithredai ar awaryrn y Cadeirydd, cynhvgiodd Mr John A. Williame, yn cael ei eilio gan Mr LlDW. D. Jones, fod pwyUgor i'w benodi i weith rodiu fel Pwyllgor Arkmml i drefnoi ar gyfor y guarantee er cael gwyl iawn. ac wele a bei,d ,vyd:Mr T. J. Williams, Deiniol Fychan. K Edwards, J. R. Jones, R. J. James, W. J. Waifopd, Tom Davies, Pcwerdd Seiriol, John Humphreys (Upper Bangor), J. Lloyd Jc.ne;, (T Mathew Hughes, Fouik Jones, ao E. D. W i^iama. HAWL AM FERFA. Yn y Llys Sirol, ddydd Llun, gerbron y Barnwr Moss, hawliodd William Owen, 26, Friara Avenue, Bangor, 3p 12s 6c oddiar William Stanley, cer- bydwr, Biwmaris, am ferfa doredig. Dywedodd Mr S. R. Dow, dros yr hawlydd, niai ohcrwydd esgeulusdra y diffynydd y malur- iwyd berfa'r achwynydd. Gadawodd yr achwyn- ydd, gynrychiolydd lieol Sutton, cludwyr, ei ferfa gerliaw ystordy nwyddau Cwmni Rheilffordd y L. and N.-W. a gadawodd y diffynydd ei geffyl a'i gerbyd yno. Dychrynwyd y ceffyl ac acth yn eibyn y ferfa gan ei mala yn yfflon, a chostiodd ei thrwsio 3p 12s 6c. Dywedodd yr hawlydd i'r diffynydd addef mai ei geffyl a'i gerbyd vvnaeth j y niwed. Pan y'i croeshohvyd dywedodd yr ach- wynydd fod y ferfa yn werth 6p neu 7p pan yn newydd. Cafodd garviatad gan gyn-lywodraethwr adran y nwyddau i adaol ei ferfa gerliaw yr ys- tordy. Rhoes J. Ellis Jones, Penchwintan, dyst- iolaeth o blaid yr hawlydd Gwadai Mr Thornton Jones dros yr amddiffyn- iad fed y diffynydd wedi bod yn euog o esgeul- ustra. Mynegodd swyddogion y rheilffordd na chafodd yr hawlydd ganiatad i adael ei ferfa ger- ilaw yr ystordy. Pa un bynnag yr oedd yr hawl- ydd mewn rhan yn euog o esgeulustra wrth adael ei ferfa heb neb i ofalu am dani. Rhoed tyst- iolaeth o blaid i diffynydd gan Robert Jones, 401, Carnarvon-i-oad, ac Owen Evans, 56, Hill-street, a mynegodd yr olaf y gallai'r hawlydd symud y ferfa mewn pryd pe bai o fewn cyrraedd. Sylwodd y Barnwr fed y diffynydd yn euog o esgeulustra, ond credai fod yr hawl am iawn yn ormod. Yr ocdd gan yr hawlyda yn awr well berfa nag a feddai cynt. Rhoddai iawn o lp 15s.

BETHESDA.

FCETTWSYCOED.

CONWY.

. CRICCIETH.

CAERNARFON.

DYFFRYN NANTLLE A'R AMGYLCHOEDD.

FFESTINIOG.

LLANFAIRFECHAN.

--.--.----.LLANRWST.

PENMAENMAWR.

PENRHYNDEUDRAETH.

PORTHMADOG.

PWLLHELI.

Advertising