Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

28 articles on this Page

'IIQ.-W-Pranciau Dau Hogyn.…

News
Cite
Share

'IIQ.-W- Pranciau Dau Hogyn. WEDI EU CRONICLO GAN TWM BETI IFAN. HHIF. XXVIII. YN GARGHAROEION. lMa gin i un stori godda eto i ddeud wrtha hi cin rhoid gora i son am y trampio ar draws sir Fon. 'Roedd Jo a finna wedi gneud y'n meddylia i fyny i'w chychwyn hi am cartra. Rhwng yr amsar y buo ni yn aros hefo e-wyrth Jo a'r am- sar y buo niyn trafaelio, 'roedda ni wedi bod o cartra gryn dipyn. Ond 'toedda ni ddim wedi blino dim. 'Roedda, ni ill dau yn lieio'r trampio o gwmpas yn well bob dydd. A 'roedda ni yn iaehaoh. nag y buo ni erioed. Ma'n debvg fod byw gimin yn yr awyr agorad wedi gneud lies garw i ni. Un bora mi fuo na ffarwelio mawr yn nhy ewyrth Jo, a mi ddaru ni ill dau i chychwyn hi, ar ol cael brecwast ffyrst-clas. 'Ro()l(ld dwy gyfnithar Jo wedi llenwi'n bagia ni hefo "sandwiches" a thacla felly, a ma'n siwr fod gyno ni ddigon o fwyd i bara am dridia, rhwng pob peth. 'Roedd y bagia yn bur drwm, ond roedd o yn galondid i feddwl y basa nhw yn ysg-afnlhau bob awr, fel y basa ni yn ffidio. 'Roedda ni wedi rhoid holl hanas y'n hel- yntion iddy nhw, a welis i neb 'rioed yn en- joio straeon yn well. Tasa chi yn gwelcl ewyrth Jo yn chwerthin pen dd-eudis i fel y daru ni drin y swel hwnw oedd yn trio perswadio merch y ffarmwr redag i ffwrdd hefo fo! Pen oedda ni ar gychwyn, dyma fo 3rndeiid wrtha ni; "Bois, well i chi bidio dangos hannar sofran etc, ne mi ewch i chwanag o drwbwl. Hwda, Jo, dyma .ti dipyn o bres man, a dyma titha dipyn, Tom. Mi barith rhein tan ewch chi adra, siawns." A mi roth tua pum swllt bob un i .ni, y cwbwl mewn cliwedi a thair ceinioga. Hen foi iawn ydi o, "and no mistake Pen oedda ni yn startio i ffwrdd, 'roedd y teulu i gyd yn sefyTI wrth y giat, a mi ddaru'n chwyfio lietiq ai-iia ni nes 'raethon ni rownd y gongol o'r golwg. "Wei, Jo," meddwn i, "dyna gnegwarth go lew o hwyl, beth bynnag. Be 0 fydd y peth nesa, tybad. 'Rydw i yn rhyw feddwl, rwsut, y cawn ni gimin o sport ag ertioed eto." "Wel," medda Jo, "toes gin i ddim un mym- ryn o isio mynd adra erbyn hyn. Os na chawn ni dipyn o hwyl go dda, mi votia i y'n bod ni yn dal ati hi i drampio nes y diigwyddlith rw- bath go lew. Cawswn i un helynt go ddoniol eto, mi faswn i yn ddigon borllion i fynd am cartra a deehra .gweithio eto." Ond 'roedd hi yn edrach yn no wan am sport. Mi ddaru'n gerddad am filldiroedd lawar heb tryfarfod ond amball i labrwr ne las- lanc. Tua amsar cinio, mi fuo na dalu i'r pro- fisLWiis oedd yn y bagia, a cliefis i 'rioed well ,i fiid. I ddeu 1 y gwir i chi, mi Jdal"u Jo a finna dalu gormod o lawar iddy nhw, a 'roedda ni jest yn methu symud wedyn. Mi ddiflanodd bob un o'r "sandwiches," a 'roedda nhw yn gyposd i bara am ddau ddwrnod. Erbyn y'n bod ni wedi claddu nifar go heiaeth o gacena a phetha felly hefyd, mi ell wch. fentro y'n bod ni yn o lawn. "Fedra i ddim cerddad cam pellach heddyw, Twm," medda Jo. "Tydw i ddim yn meddwl y medrwn ina fynd fawr pellach, Jo," meddwn ina. "Y peth gora i neud fydda aros yma am dipyn." 'Ia—aros—yma—aros,aros.—yim—a," medda Jo yn gysidyd,, a'r munud nesa' 'roedd o yn ehwyrnu fel moehyn ac yn gorfadd ar i hyd. 'Roeddwn ina yn t-eimlo awy Id cysgu, ond mi feddylis na fasa fo ddim yn beth saff i ni ill dau gyseu yno. itii drrs fy n^ora .gadw'n effro, oiiii 'roedd hi yn job galad ofnatsan. 'Roe-d ia ni yn ista mewn lie difyr dros ben, ar wellt glas wrth ochor y ffordd, dan gysgod hen goedan fawr braf. 'Roedd 'na afon fechan yn gneud twrw reit wrth y'n oefna ni, a 'roedd hono yn fy hwian i. Mi neis ymdracli galad i gadw fy llygid yn y gorad, ond toedd dim iws. 'Roedda nhw yn blincio fel llygada dylluan yn yr haul, ac o'r di- wadi rai cauis nhw. Tydw i ddim yn cofio dim wedyn am hir. Y peth ruesa gofis i oedd clwad lleisia yn siar- ad: mi agoris fy llygid, mi ddeehreiiis godi. Ond feirwn i ddim symud na bys na bawd. Roeddwn i yn gorfadd ar wastad fy nghetfn, a 'roedd rhyw Awiloh wedi stwffio pedair pig- iforch yn ddyfn i'r ddaear, a fy mreichia i a fy nhraed yn sownd o dany nhw. A dyna lie roeddwn i, yn gorfod gorfadd felly, fel lledan, ac heb fedru symud dim. Mi fuo jest i mi dori fy ngwddw wrth drio gweld pwy oedd yno achos 'roedda nhw yn sef- yll tu nol imi. Ond mi fcdris gael golwg amy nhw o'r di- wadd, a mi welis ddau hogyn tua'r un oed a fi, a tair o enethod del ofnatsan, a'r cwbwl yn chwerihin fel yr andros. A wyddooh chi be. oedda nhw yn neud I Byta'r oacena a'r petha oedd gyno ni yn y bagia. Ma wel^i, o wrth dd'illad dwy o'r merchadl, ma rhe.i go swel oedda nhw. 'Roedd y ddau foi a'r hogan arall yn rhei sro wlelig, a mi ben- derfynis i ma tri o blant un o'r ffermydd oedda nhw, a ma dwy bertlhynas ne ffrinaxa iddy nhw dre oedd y ddwy aratl. Mi ellwch feddwl mod i yn teimlo i'r byw fod yn iestyn iddy nhw fei yna, a roeddwn i wedi gwylltio mwy nag y gwylitis i 'rioed. 'Taswn 1 w^Ji melru dwai yn rhydd y munud hwnw, mi fasa 'na drwbwl. Ond po fwya 'roeddwn i yn trio dwad o'r carchar, y mwya sownd 'roeddwn i yn mynd. A 'roc, -t, 'wn i yn brifo fy hun yn ofnatsan hefyd. Mi benderiynis fod yn llonydd. Jo wedi cael i fastno i lawr hefyd, ond 'toedd o ddim wedi deffro. Mi welis nad oedda nhw ddim wedi Thoid ond dwy big-fforch i'w ddal o. Ma'n debyg nacl oedd L-3-,ny nhw ddim chwanag o hony nhw, a 'roedd Jo yn elraGh yn foi go eiddil, ddaru nhw ddim meddwl y basa nhw yn cael trwbwl hefo fo. Ond mi wyddwn i yn iawn y basa Jo yn beryg tasa fo yn medru mynd yn rhydd. Tydi o ddim yn gawr, ond pen wylltith o, mi fedar neud camlpiia. Yr uni-g beth i neud felly oedd deffro Jo, a I ohael gyno io fynd yn rhydd, a fy rhyddhau ina. Fasa, ni fawr o dro a thalu'r pwyth yn ol wedyn. Erbyn hyn, 'roedda nhw wedi polisio'r cacena i ffwTdd, a mi ddaethon ata i a declira pro- vokio. "Ydi hi yn braf i lawr yna?" medda un ;1'1' tioigia. Atebis i vrun gair, ond mi eiryvlns arno fo fel teigar. Mi welwn fod y mero-had dioyn o ofn pen welson nhw fi yn edrach fel yna. ond 'roedd y boi yn gwbod mod i yn ddieon sownd. "P'ain na 'tebi di fi, y sciamp T' medda fo, .a mi roth gic i mi. Mi deimlvvn y gwaed yn rtiu.thro i fy ngwyn- -ab i, a mi neis ymdiach galad i ddwad yn rhydd. "Mi g?i atab!" meidwrn i, "aros i mi ddwad yn rhyr.'d, a mi gei atab na anghofi di mono fo tra byddi di fyw "Paid a rhoid dim o dy cheek i mi," .medda fo, a mi roth glustan i mi ar draws fy mocli. 'Roeddwn i wedi cynddeiriogi yn lan erbyn hyn, a hefo ymdrach ofnatsan, mi gefis un fraich yn rhyld.. Cin pen haIlDJar munud roeddwn i ar fy nliraei. "Rwan am atab I" meddwn i, ac i lawr a un o'r bois ar wastad i gefn. Rydw i wedi practisio boxio ers blynydd- oedd, a mi gefis pyfla i ddangos faint oeddwn i yn fedru y dwrnod hwnw. {jyda mod i wedi trawo un o hony nhw, mi (Moth, y Hall am dana i, a mi ath a'i drwyn r-alt yn erbyn fy n-wrn. 'Roedda nhw yn fois cry' a mi gefis i dipyn o drwbwl cadw'r ddau draw, ond toedd gyny nhw ddim eidia am gwffio iawn. Bob tro 'roedda nhw yn meddwl rhoid lab i mi, 'roeddr wn i yn medru troi yr ergyd i ffwrdd, ac yn medru planu fy nwrn yn ddel yn rhyw bart o'u gwyneba nhw. Mi gauis ddau lygad um a llygad y llall, a 'roedd 'na friwia go sownd hyd y ddau. Ar ol rhyw dden" munud o gwfno, mi roth y ddau i mewn, a nn ddaru'n ista i lawr ar ochor y ffordd a dechra crio fel babis. 'Roedd Jo wedi deffro ers meityn ac wedi medru codi ar i draed. Ond ddaru o ddim ymyryd a fi, pen welodd o mor handi 'roeddwn i yn medru talu i'r ddau foi. Tra 'roedda ni yn cwffio 'roedd y tair merch yn selyll yn y gongol ac yn sigrechian bob tro 'roedd fy nwrn i yn mynd yn bang yn erbyn nhyw ran o gyfansoddiad y boiis. 'Roedda nhw wedi dychryn gormod i redag 1 ffwrdd, a 'roedda nhw yn edrach fel tasa nhw wedi colli bias ar chwerthin. Ar ol i'r bois ildio, mi drois i at y merchad a mi ddeuidis yn sarug: "Ma'n lwc garw i chi ma merchad yda chi. Tasa chi yn fwdigyn fel rhe.in, mi faswn i yn cymud coes y big-fforch 'ma, ac yn rhoid y gweir 'ora gawsoch chi erioed, i chi, ill tair!" Tasa chi yn i gweld nhw yn crynu pen ddeudis i hyna! 'Roedda nliw yn edrach fel tasa gyny nhw ofn garw i mi gario fy mygythiad allan, a 'iroedda nhw yn liawn o "fegio pardwn" a "diim ond joke" a, phetilia felly. Ond 'toedd gin i ddim ond isio d'ychryn tipyn bach arny nhw. A mi neis hyny liefyd Ar ot rhoid tipyn o gyngor i'r ddau. foi i bidio bod mor bethma hefo pobol wedyn, mi bigodd Jo a finna y'n bagia gweigion, a ffwrdd a ni. (S'tori arall yr wytlmos nesaf)..

Oddiar Fwrdd y Stemar Bach.…

GLO MON.

PENYMYXYDD.

[No title]

Marchnadoedd Diweddaraf

-----------.----- - - - I…

Banger Cycling Club.

-......---Local T de Table.

Shipping.

■i-ym ._---..-_--LONDON AND…

[No title]

Advertising

Nodion Amaethyddol, &c.

AMLWCH. -I

~BEAUMAE-IS.

DEmEL, MABSYLLAN. !

-.-.----._--BODFFORDD. !

0AERGYBI.

j i.LAXivlLIAN-

1I.LAN(;ITFNI.

J\1. E.

POETHAETHWY.

VAL-LEY.

.DAP,GANFYB1)L\I) DYDDOROL…

Marchaaacedd Cymreig.I

Ffeiriau ttcz am y Flwyddyn…

[No title]