Hide Articles List

23 articles on this Page

Cymdeithas Ddirwestol lVlon.…

News
Cite
Share

Cymdeithas Ddirwestol lVlon. OYFARFODYDD BLYNYDDOL YN LLAN- KHDHY)lliDD. [Oddiwrth eiii Gohebydd Arbenig]. I ran yr hen dreiiaji nchod y syrthiodd yr anrhydedd eleni o gioosawu y gymdeithas hon yn ei chyfarfo-dydd blynyddol adydd Mawrth. Ond ni fix pobl dda, y lie yn fyr gyda thalu yn ol: teimlid fod eu cioell,awlad yn wir gynes; a diau fod hJ ny yn elfen fawr yn y llwyddiant a'r deimlid oedd gyda holl weithrediad- au y dydd. Y GYNHADLEDD. Yn nghapel y Bedyddwyr am ddeg o'r gloch cvnhaiiwyd y cyfarfod cyntaf dan lywyddiaeth y Parch J. Jones, Hebron, Bryngwran ac yr oedd yn bresenol gynrychiolaeth dda o wahan- ol eglwysi y sir. Dechreuwyd gan y Parch R. Rowlands (W.), Caergybi. Yna traddododd y Llywydd ei anerchiad agor- iadol, a chymerodd fel testyn ychydig sylwad- au fater roddwyd iddo gan y pwyllgor, sef yr a-rferiad o ysniygu yn mysg plant, a phwysodd ar y cynrychiolwyr .wneud a allent yn y cyfeir- iad o wrth-weitliio yr arferiad. Llongyfarch- odd y Llywydd he-fyd y cynulliad ar y llwydd- iant parhacl sydd ar yr achos dirwestol. Yr Ysgrifenydd (Mr 'R. Davies, Ysgol y Bwrdd, Llangefni), a gyflwynodd ei adroddi.a.d yn yr hwn y cyfeiriodd at yr hyn wnaed yn ystod y flwyddyn gyda'r achos yn y sir. Ar- gymhellai y Pwyllgor gyflogi cyfreithiwr ar- hosol i'r gymdeithas. Cyfeirid hefyd at wrth- dystiad Jlwydduus pobJ Dodffordd i'r cais am drwydd-edu dwy dafarn newydd yn y lie. Mr R W. Roberts, Porthaethwy, a ddarllen- odd bapyr ar "Ddirwest a masnach." Oyfyng- odd ei sylwadau yn benaf i un agwedd ar y testyn, sef perthynas dirwesta. llwyddiant y masnachwr yn iei gysylltiadau cymdeithasol. Siaradwyd yn mhella-ch gan y Llywydd, Mr Hugh Williams, Pantysaer; y Parch O. M. Jeiikms (A.), Llangefni; Mr Williams, Gron- a.nt; Mr R. H. Roberts, Llangefni a phasiwyd pleidlais o ddiolchgarwidi i ddarlleny dd y papyr. Y Parch D. Pugh Bevan. (B.), Llanfachraeth, a ddarllenodd bapyr ma,ithar "Ddyledsrwydd penau tenluo-edd ac arweinwyr crefydd a moes i roddi eu hwyneb yn erbyn anfoesoldeb a llygredigaeth." Sia,radodd yn benaf ar anniweir- deb ein gwlad, ac yr oedd ei sylwadau yn gyf- ryw ag a ddylent dd,effro pawb a'i gwrandawent ac yn neillduol penau teuluoedd i'w dyled- swyddau. Siaradwyd yn mhellach ar gynwys y papyr gan Mrs Charles Jones, Porthaethwy; y Parch J. Williams, Llangefni y Parch John Roberts, Taihen; a'r Parch Abel Parry, D.D., Oefn- mawr. Pasiwyd hefyd ddiokhgarwch i Mr Bevan am ei sylwadau gwrol a phwrpasol. Yn nesaf cyflwynïryd adroddiad yr arholwyr yn yr arholiad dirwestol. Yr oedd y manylion fel y canlyn — Dosbarth hyna-f (unrhyw oed) mater Adroddiad. y Ddirprwyaeth Frenhinol ar Drwyddedu"' (cyfieith- iad Eiddon Rhys Jones, B.A.). Beirniad, Parch J. Jones, Hebron. Gwobrwyon. medal aur i'r goreu, a Ip i'w rhanu i'r ddiau nesaf a.to yn ol eu teilyng- dod. Uwchafrif y Ell, ciall, 100. Y tri uchaf oedd- ynt:- Mr E. O. Jones, o Demi Berw, Gaerwen. 94 Mr Ellis Joiie), Regent House, Llangefni. 86 Mr Jonathan Rogers, Boded era 73 Do-sbarth canol (dan 21ain oed) "Y Meddygon ac Yfed," hyd ddiwedd tudalcn 21. Bemnadi, Parch E. Cynffig Daries, M.A. Gwobrwyon, 2p i'w rhanu rhwng yr wyth goreu: 1. Miss Hughes, Llanfawr, Uangristaolus 85 2. Jones, CSarniel 80 3. R. Owen 76 4. Samuel Rogers, Bodedern 55 Ni cliawsom enwau y lleill. Dosbarthi ieuengaf (dan 14eg oed) "Gatechism yr Yinrwymiad Pedwar Plyg." Y rlutn gyntaf hyd tudalen lleg." Beia-imad, Parch D. Lloyd, Gaer- gybi. Gwobrwyon, 3p i'w rhanu rhwng y deuddeg goneui: — 1. Dryhurst, Carmel. 2. Edward Rowland, Carmel. 4. James Howel Rogers, Rodedern. Y r.eth «esaf oedd penodi lie y gymanla y flwyddyn ddyfodol. Yr oedd Oymanfa Gwyn- edd yn oael ei chynyg i Fon, a phenderfynwyd ill derbyn yn groesawgar. Yr oedd dau le yn barod i'w derbyn, Amlwch a Chaergybi. Dy wed odd brawd o Borthaethwy hefyd fod ganddo gomisiwn i wahodd Oymanfa Mon yno. Dadleuwyd yn ddoniol dms Glliergybi gan. y Parchn. E. B. Jones, R. Rowlands, a John Evans tra yr oedd y Parch Owen Hughes ac eraill yn pleidio Amlwch. Pleidleisi.wyd, a chafwyd 96 o blaid Amlwch a 54 o blaid Caer- gybi. Bydd cymanfa y sir yn cael ei llyncu i fyny gan un Grvynedd ond trefnir yr arholiad' gan y pwyllgor fel eleni. t, Pasiwyd y penderfyniad canlynol ar gynyg- iad y Parch E. B. Jones:—"Llawenhawn yn ddirfawr wrtli weled y tai dirwestol yn amlhau yn Mon, ac anoigwn yn daer ar fod cymydog- aetliau eraill yn dilyn esiampl dda y cymydog- aethau sydd wedi ac yn ymdrechu ac ymaberthu gyda'r symudiad hwn." 1 Hiwedd-wyd trwy weddi gan y Parch T. Evans (A.), Amlwch. OYTARFOI> Y PRYHNAWN. Y cyfarfod hwn am ddau o'r gloch, yn Nghapel yr Annibynwyr, a ddechreuwyd gan y Parch E. B. Jones (A.), Mount Pleasant, Caergybi. Yna, traddododd y llywydd (Dr. Hughes), Llanerchy- medd, anerchiad cynes me,wn ysbryd rhagorol. Sylwodd fod yn Llanerchymedd bedwar o addol- d.ai, ond fod y gelyn meddwol wedi gosod i fyny unarddeg o dafamau i wrthweithio dylanwad yr addoldai hyny. Yna cafwyd adroddii-dau gan ysgrifenyddion y gwahanol am sefyllfa yr achos dirwestol yn y sir, fel y canlyn: —Amlwch, gan y Pa.rch Owen Hughes (yn absenoldeb yr ysgrifenydd); Llanfechell, gan Mr Robert Edwards; Catergybi, gan y Parch E. B. Jones; Gwalchmai, gan Mr R. R. Parry, Brynala; y De, Mr Pierce Williams, Gaerwen (dros Miss A. Williams, Berwuchai); Beaumaris, Miss G. Tliomas, Ty Fry (darllenwyd ei hadroddiad gan y Parch Robert Thomas) Tabernacl, gan Mr Hugh Williams LL nerchyme-dd, gan y Parch R Thomas a Mr Thomas Williams (yr hwn a gyfeiriodd yn benaf at y ty dirwestol bwriad- edig yn y lie); a Bodedt rn, gan Mr Jonathan Rogers. Tra yr oedd rhai o'r adroddiadau hyn yn bur galonogol, nid oedd y lleill gymaint felly. Y Parch David Adams, B.A., Lerpwl, yn nesaf a anerchodd y cyfajfod ar y sjmudiad i gael miliwn o ardystiadau newTyddion. ° Y Parch Owen Hughes, Amlwch, a gynygiodd y penderfyniad canlynol: — "1. Fod y genhadaeth hon i gael miliwn o ardystiadau raewyddion i fyned yn mlaen yn mis Hydref. 2. Fed cyfar- fklvdd cyhoeddr.s i'w cynal yn mlaen Haw yn mhob cymydogaeth, a chyfarfodydd gweddi i ofyn am lwvddiant ar yr achos dirwestol. 3. Fod ymweiiad i'w wneud a phob cartref i geisio ardystiada'i. 4. Y rheftr i g'el e1 rhanu yn an dosbarth—(i.) rhai oeddynt yn ddirwestwyr or blaen; (ii.) rhai J71 PrNv ddo am y tro cyntat, (iii.) plant dan 14eg o;>d: 5. Yr enwau iW han- fon i'r ysgriftniydd sirol erbyn diwedd Tach- wedd."—Eiliwyd y cynypiad gan y Parch R. Rowlands, Oaergybi, a phadwyd.—Ychwaneg- wyd ychydig eiriau gan y Parch Abel Parry a'r Parch J. Vcnmore Williams. -1 Cynygiwyd y penderfyniad canlynol gan y Parch J. Jones.. Hebron eiliwyd gan y Rarch O. M Jenkins, a pha«iwyd trwy i bawb sefyll. Pasiwyd hefvd i anfon y penderfyniad i'r llysgenad Am'&Ticanaidd vn Llundain: "Ein bod ni, reloda- Cyn.dfl.thas I>d™tol Mon, Gogledd Cynnm, a, -y^.bwyd yn Llan- erchymedd, Med^l^- ^dmunocyflwyn, drwor.h i Mrs M'Kinlev tnun, a phobl yr XJinol Rak?tta, fynesnaid <> r cydymdermlM dyfnaf ar farwolaeth s' dv11 t >w> ^wv fradlofruddiad, dyn o vvmeyiad rh:^0™1; ™; bur i'.w Dduw, i'w wlad, ar i w fyniad. o fywyd Cristionogol. Hefvd. dyrtrm/n gofn?dl ean dvgasedd at ecwvddorion drvgiotius a dialeld y Blaid Anarchaidd v rhai ydrt.}. mor gro^i dre^n ac awdurdod. Erfvuiwn roddi i Mrs Nillilnley a'r genedl Ameri-^na.'dd y nerth na all ond Efe ei roddi i ddioddef y ddyrnoa ddifrifol hon." Gydag ychydig gyfnewidiadau ail-etholwyd y Pwyllgor Gweitiiiol a.'r ysgrifenyddion dos- barthol. Y Parch E. B. Jones a gynygiodd ddiolchgar- wch y cyfarfod i bawb gynierasant ran yn ngwaith y dydd, yn llvwyddion, siaradwyr, etc., a chymerodd fantais o'r cyfle i ddatgan ei lawen- ydd o weled meddyg yn y gadair, dyn'ieuanc yn meddu digcn o nerth moesol i sefyll i fyny^ mor gadarn a selog dros yr achos dirwestol.—Ycjiwan- egwyd enwau y tri arholwr, Parchn. J. Jones, E. C. Davies, a D. Lloyd, at y penderfyniad, a phasiwyd. Diweddwyd ycyfarfod gan y Parch John Wil- liams, Llangefni. CYFARFOD Y MERCHED. Am bedwar o'r gloch cynhaliwyd cyfarfod i'r chwiorydd yn Ngliapel y Bedyddwyr, Mrs Charles Jones yn y gadair. Dechreuwyd trwy weddi gan Miss Owen, Oemaes. Traddodwyd anercbiadau gan Mrs Williams, Tre'rgof; Mrs Capt. Jones, Fagwyr; Mrs Jones, Llanerchy- medd Mrs Owen, Bryniau; ac eraill. Deall- wn mai cyfarfod rhagorol oedd hwn cto, a naws grefyddol ar yr holl weithrediadau. CTYFARFOD YR HWYR, Yn y Capel Mawr ychydig wedi pump dechreu- wyd y cyfarfod, diweddaf dan lywyddiaeth Mr A. McKillop, Y.H. Y Parch W. Roberts, Gartreglefn, a ddarlleaiodd ychydig adnodau ac a arweiniodd mewn gwcddi. Yr oedd amryw o'r cynrychiolwyr wedi troi tuag adref erbyn hyn, ond yr cedd y capel eang yn weddol lawn. Y siaradwr cyntaf ydoedd y Parch R. Garrett Roberts (W.), Aberffraw. Gellir desgriflo ei anerchiad fel pregeth ddirwestol. Seiliodd ym- resymiadau cryfion ar gvngor Paul, "Da yw na fwytaer cig ac na yfer gwin," etc. felly, gwelir mai at y cymedrolwr ac nid at y meddwyn j' cyfeiriai ei sylwadau yn benaf. Wedi canu penill, y Parch John Williams (M.C.), Caergybi, a anerchodd y cyfarfod, yntau yn seilio ed sylwadau ar adnod, "Na fydded i chwi gyd-gyfeillach," etc. Yr oedd rhai c'i ddywediadau yn geinion. Meddai: Nid dyn mewn meddiant o arian yw y cybydd, ond yr arian wedi cymeryd meddiant o'r dyn. Nid mater o swm ond mater o seix-h ydoedd. Bywyd doifl oleuni ar bechod—dyna fywyd yr E,o,,Iwys. -Ma-e dylanwad y dafarn yn eangach nag yw ar y meddwon. Mae dynion yn gadael y ddiod yn y dafarn, ond yn dyfod a'r iaith i'r heolydd. Mae tlodi llawenydd yr eglwys yn fantais i feddwdod yn y wlad. Mae'n syndod nad aethai aelodau isel-ysbryd yr Eglwys i chwilio am lawenydd arall—llawenydd gwin. Rhown fwy o ysbryd Grist yn ein dirwest: Orist nis boddhaodd ei hun. Wiedi canu emyn cafwyd anerchiad gan y Parch D. Adams. Nid gwaith hawdd, meddai ef, oedd diwreiddio derwen oedd wedi cael tyfu am oesau. Felly gyda'r fasnach feddwol, a, rhaid oedd edrych ami fel y mae, yn ei nerth a 1 chadernid, ac ymwroli i'w chyfarfod. Y cwestiwn oedd a allem ni alw i'r maes alluoedd fyddent yn gryfach na, galluoedd y gelyn hwn. N ododd aniryw o'r galluoedd oedd genym heddyw o'n plaid, megis gwirionedd gwyddonol, cydwybod y wlad, nerth hunanfantais, etc., ond uwch pobpeth gallu Duw. Yr oedd ,ei gondemn- iad o esiampl y cymedrolwr yn ofnadwy lym. Y Parch Abel Parry a adolygodd hanes yr achos dirwestol yn ystod tymor ei oes. Ei farn gydwybodol ef-ydoedd fod dirwest yn gryfach heddyw nag y bu c-Tioed,-wiadi cael tir cad am, sefydlog, dan e-i draed. » Yr oedd darpariaeth IragoTol ar gyfer y cynrychiolwyr yn y New Hill, dynion a merched icuiaine y lie yn taflu eu holl yni i'r gwaith o weini "lluniaeth a llawenydd." Diolch yn raw- i chwi, ddirwestwyr Llanerchymedd. Rhaid yw crybwyll hefyd am ymroddiad diflinoi ysgrif- enydd y igytnd:eathas (Mr n. Davies) a'r trysorydd (Mr E. M. Roberts, Bank, Llangefni) gyda'r gwaith. Yr oedd pobpeth yn myned yn mlaen yn dangnefeddua a hwylus.

Cyfarfod Misol Mon.

Advertising

It "AMEN." j

CEMAES.

ILLAN GEINW EN.

LLANFACHRAETH.

LLANFAlK P.G.

jLLANGEFNI.

Advertising

!GYMDEITHAS GWARTHEG DUON…

CYNGHOR DINESIG AMLWCH.

METHODISTIALD MON A CHRONFA…

Cyfarfod CLw:.ner Bedyddwyr…

Oofgolofn "Ap Pfarmwr." -

Advertising

AMLWCH.

BEAUMARIS.

CAERGYBI.

LLANRHYDDLAD.

--LLAN ER CH YM EDD.

RHOSYBOL.

[No title]