Hide Articles List

14 articles on this Page

"GWEITHIWR" ARALL YN APELIO…

0 FOR Y WERYDD I'R MOB TAWELOG;…

Y FERCH O'E SCER:

PEITNOD IY,—GWYL MABSANT Y…

News
Cite
Share

PEITNOD IY,—GWYL MABSANT Y 11 LLiow DU." Yn amser y Ferch \'1' Scer,yr oeddyr hyn aelwid yn Wyl Mabsant mewn bri mawr gan drigolion y wlad, ac ymdyrai holl drigolion y cymydogaethau, ynfWyr ac yn wragedd, meibion a marched, gwreng a. boneddig, cyfoethog a thlawd, iddynt. Nid wyf erioed, ac nid oes yr un henafiaethydd ychwaith, wedi cael allan i foddlonrwydd pa bryd y declireuwyd eu cynal, na pha beth ydoedd amcan eu sefydlwyr. Y lie y cynhelid hwy ydoedd mewn tafarnau, a pharai yr wyl am wythnos nea ychwan- eg, ac nid oedd y fatli beth a stop tap yn adnabyddus, fel ag y mat yn yr oes "oleu" hon. Parhai y rhai ag oedd wedi ymgynull i olwynaw eu cyrph o flaon y delyn, hyd nes y byddai i lygad aur y wa.wr i ymagor dros gaerog fynyddoedd y dwyiain. Yr oedd diagwyliad mawr yn mhlwyf Llansamled am y Gwyl Mabaant blynyddol. Pan fyddai yr adeg i'w gynal yn nesau, byddai holl drigolion y plwyf yn sefyll megys ar flaenau eu traed mewn awydd a dif-gwyliad am dano. Rhifid yr wythnosau, ac hyd yn nod cyfriiid yr oriau a'r mynudau; ac yn wir, rl,iifai ambell i hen frawd gorselog yr eiliadau all oedd rhyngddo a'i hoff wyl. Yr oedd yr wyl i idecbreu nos Lun, am saith o'r gloch, yn ngwesty y Llew Du, ac yr oedd gwr y ty wedi sicrhau gwasan- aeth un o'r teijmwyr goreu yn y gymydogaeth, o'r entr Thomas Bhn, yr hwn oedd a'i glod yn uchel am ei fedv\i?rwyM i dria y tannau. Yr oedd ein hen ffl-jjfv" r: yn bwriadu bod yno. ond thtddiwyj I • of yn ei fwriad i roddi ei bresanoldeb yn yr wyl gan effaith y niweidiau ag oedd newydd eu derbyn wrth syrthio dros y bont, yn ei ffoedigaeth rhag yr yspryd ar y noson fythgoliadwy liono. Yn wir, er cymaint ydoedd bwriad gwasanaeth- ddynion, yn nghyda merched y Seer, i fod yno, methasant a magu digon o wroldeb i anturio tuag yno, gan eu bod yn credu yn sicr rnai rhyw arwydd o flaen rhyw dryebineb, neu So allai -angladd un ohonynt ydoedd drylliad disymwt-h gwydr y ffenestr ycliydig o no3weithiau yn flaenorol i'r wyl. Amser lied annymunol a dreuliwyd ganddynt noswaith lied annymunol a dreuliwyd ganddynt noswaith gyntaf yr wyl. Yno yr oeddynt o ran eu meddyliau, jl er fod eu cyrph yn mhell oddiyno. Ond, yn ngwyneb yr awydd a phob peth, yr oedd yn an- mhosibl iddynt aros gartref yr ail noswaith, a phendorfynodd dwy ferch y ty yn nghyda'r ddwy forwyn i anturio tuag yno; yn nghwmni y ddau- was, y rhai oeddynt i tod yn fath o warchodlu iddynfc rhag pob yspryd, anvydd, a chaiiwyliau cyrph. Yr oedd y He yn llawn pan gyrhaeddasant. Ar y llawr yn y gegin yr oedd gv/ehilioa y gymydogaeth wedi ytngynujl, ac yr oedd yr olwg 'atiach ag oadd arnynt yn ffiaidd, ac yn t'wy cydnaws iig anianau a thueddfryd preswylwyr y twlc," nag a bodau rhesymol, a phob un ohonynt yn tynu allan lonaid ei enau o fwg o'i Milol pridd,- gan ei chwythu allan bob yn ail, nes peri i'r lie yinddangos yn t'wy tebyg i weithfa haiarn nag i gegin tatarn. Dim ond caniadau anfoesol, ymadroddion anllad, a rhegfeydd arswydlawn oedd i'w clywed yn yr ystafell hon. Yn y parlwr yr oddd amaethwyr y plwyf yn ymgynull- odig, ac nid oedd oud dadwrdd parhaus a diorphwys am aredig, trin tiroedd, &c., oedd i'w-glywed yma. Yr oedd y llofft wedy'n yn Uawn o ddynion ieuainc yn ymddifyru mewn dawnsio o flaen y delyn. Nid oedd gair o'r glust i'w gtywed yma-dlm ond swn y traed yn dyfod i gyffyrddiad a'r llawr, ac yn awr a phryd avail, yn nghanol y stwr, gellid clywed swn Piethiadau y tannau tynion y del rn yn aDeglur. Ond cyn hir biinodd y dawnsyddion, a gorfu arnynt gymeryd ychydig seibiant, er mwyn rhoddi ychydig orphwys i'w cyrph blinedig, ac er cadw yr hwyl i fyiiy, ac lief yd ar cael ychydig o amrywiaeth, neidiodd llanc yn mlaen tuagat y delyn er rhoddi can. Yr oedd hwn yn tybio ei hun yn dipyn o fardd yn gystal a dadganwr, a chanodd can o'i gyfansodd- odd ei hnn i fachgen arall o'r gymydogaeth, yr hwn oedd wedi ceisio dwyn ei gariad, ae wedi llwyddo hefyd ychydig amser cyn hyny yn Mhastai y Ddraenen. Yn w hlith y penillion a gynwysai y gan, yr oadd y rhai awenyddol (?) a ganly-a Al enw yw Will Robert diiobaith, Didoraeth ysywaeth rwy'i yn son? Pe gwelwn y t llwgryn un Ilygad, Ymaflwn mewn cry-maid o'i groen, Am iddo nos Sul pastai'r Ddraenen, I ymaflyd mor gymhen am Gwen, Dangosodd ddrwg falais fel lilain Drwy 'i phwnjan yn ocitr ei phen." Rhag-brophwydai yn y gan y byddai i'w carwriaeth derfynu mewn priodas, a diweddai fel y canlyn Er mwyn i'n gael neithior ddifyras, Gysurus o fewn i'w bwth, Cain chwareu'n eu priodas ddyn enwog, Shon Arthur fawr greithiog a'i grwth." Tra y canai y bardd, yr oedd y dyetawmydd Uwyraf yn teyrnasu, ond pan y byddai peiriant chwerthin ambell i un mewn ysgogiad, a phan orphenodd y cantor, adseiniai muriau yr ystatell gan daranau byddarol o gymeradwyaeth iddo. Ond nid cystal a hyny yr oedd pob un oedd yno yn mwynbau y gan. Yn llechu mewn congl o'r ystafell yr oadd y Will Robert" a oganid ynddi, ac mewn congl arall yr oedd yr eneth a ddirmygid, sef merch yr hen grythwr fel ei gelwid, yn nghyda'i brodyr. Yn mhen ychydig amser wedi i dawelwch gael ei adferu ar ol datganiad y gan, cyfododd "Will Robert" ar ei draed, gan ddynesu yn araf at y man lie yr oedd y cantor yn eistedd, a phryd y daeth yn ddigon agos ato, rhoddodd' anerehiad'gwresog yn ei dau<vm«0.(\ w'1i a'i ddwrn cauedig, nes ei ddwyn i'r llawr fel marw. Yr oada cy^cMUon y cantor ar eu traed mewn eiliad yn barod i ymdduiy sarhad di- aehoa a dialw-am-dano ag oedd eu cyiaiv. wedi ei dderbyn od liar law Will; ond erbyn hyny yr d.d brodyr yn nghyda chyfeillion yr eneth i iyny yn barod i'w derbyn. Y canlyniad ydoedd, ymladdfa law-law drwyddi draw. Tra yr oedd yr annrhefn a nodwyd yn myned yn mlaen yn yr ystafell, gellid canfod gwr a golwg wladaidd arno yn dyfod i fewn drwy ddrw# yr ystafell, a'i lygaidyn fflamio gan dan digofus, ac ar ol cyrhaedd hyd at y telynor, tarawodd y llawr "yn gryf a'r pastwn mawr a gariai yn ei law, gan waeddi yn uchel am ddyatawrwyud. Ye oedd rhywbetll yn hynod o awdardodol yn ngolwg & th6n y gwr dyeithr ag a barodd ddychryn mawr i bawb o'r g .vyddfodolion, aeyr osdd yr ystafell mewn y chydig amser yn borffaitli ddystaw a llonydd. '• Fechgyn a merched," taranai a'i lais, "03 na fydd i chwi rad ii 1 fyny eich hannuwioldeb a'ch paehod, bydd pob un ohonoch yn sefyll ar ei bea yn mhwll y domen cyn pan chwarter awr." Nid oedd eisiau rhagor, waith adnabyddodd y rhfin ef, fel yr hen batriarch hynod a adnabyddid wrth yr enw l "Siency» Penhydd," a chredai yr holl wlad atn dano ei fod yn berffaitli gyfarwydd ac hyddysg yn holi gyfrinion consuriaeth, a chyda fod y gair diweddaf yn ymadael ■ a'i wefusau, ymwthiaaant allan bob un am y cyntaf. Yr oedd merched y "Seer" yn digwydd bod yn mhlith y rhai olaf yn yrenciliad disymwth. Wedi iddynt gyrhaedd i gegin y tafarndy, nid bychan oedd eu syUdod wrth weled y lie oedd mor llawn pan ddaethant yno gyntaf, heVneb ynddo yn awr ond yn unig y gwr dyeithr, yr hvm a-eisteddai yn dawel yn y gomal wrth y tan, ac heb ryfygu sia- rad yr un gair aethant ymaith. Ar ol iddynt fyned yniaith encyd 0 ffordd oddi- wrth y ty, wele ddau o wyr ieaainc yn eu cyfarch, gan ofyn iddynt, osnad oedd ganddynt wrthwvnab- iad, a fuasent yn caniatau iddynt hwy i'w hebrwng adref. Gan eu bod wedi colli eu cwmni, ac yn ofni tywyllwch y nos, derbyniasant y cynyg yn 1 la wen. Nid oedd y gwr iauanc ymaflodd yn Elizabeth yn neb amget1 na Tomos Ifan, y telynor, yr hwn oedd wedi ei gyflogi i chwareu yn yr Wyl Mabsant. Yr oedd Tomos yn ddyn glan a theg yr 01Wg- arno, ac yn llawn bywyd ac Ifoander; yn wir yraserchodd hi ynddo ya yr olwg gyataf ar gafodd arno. Yr oe(ld yn Ilawn 0 arabedd, ac mor swynol a deuiadol ei ymadroddion ag y gailai un o feibion Adda fod. Y fath blr a fwynhai yn ei gwmni nes yr oedd wedi cyrhaedd i ymyl y Seer cyn ei bod yn meddwl ei bod wedi cerdded haner y ffordd. Safasant ychydig amser wrth y ty, ac wedi iddi roddi addewid iddo y byddai iddi ei gyfarfod y tro nesaf y deuai, ac i nifer 0 gusanau gael eu hargraphu ganddo ar ei gwefusau ceiriosaidd, ymadawsant. "Twlc," gwerinair a arferir yn Morgaawg am letty y moehyn. t t Liwgryn," gwermair yn gyfygtyr ft "chefngrwm." I Mae yr hane3 hwnya hollol wir. Pragethwr «yda v M«thodiatiaid CalQnaidd ydoedd Siencyn, a plireswylia, mewn amaethdy o'r enw "Penhydd" yn ngorllewin Mor-* ganwg. Casglwyd lianea ei fywyd yn ng'ayd gan y Parch E. Matthews, o C%nt>OR, a chyhoeddwyd 6f ya llytryu swlit can Mri Hughei a'i Pab, Gwrecaam. o

[No title]

iitamon iEirlurgiou

DYJSTI0i\ CYHOEDDUS AE BYNCIAU…

ARDALYDD LORNE AR GYFLWR CANADA.

ME TREVELYAN Â'R WEEBDON.

MR STANHOPE, A.S., A'R ETHOLFRAINT.

AEDALFDD SALISBURY A CHEID-WADWYR…

LLEFARYDD TY'R CYRYREDIN-

ilotlTOtt etu IttlJbbol.

[No title]