Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

_-_____----6-Beirniadaeth…

News
Cite
Share

6- Beirniadaeth Lem gan Gadeirydd Undeb. Yn siarad yn nghyfarfodydd blyt-iy,ldol Undeb Bedyddwyr Siroedd Maesyfed a Threfaldwyn, yr wythnos ddiweddaf cyfeir- iodd y Llywydd, y Parch J G Williams, wrth adael y gadair, mewn araeth lem at dlodi yr enwad. Dywedodd nad oeddynt yn hyn yn waeth nag enwadau eraill. Ni ellid gwadu y ftaith f od eu henwad yn dlawd, ac yr oedd yn rhaid i'w sefydliadau gardota eu cynorthwy o ddrws i ddrws Am yr 133,415 o'u haelodau yn Nghymru gellid dweyd eu bod yn ymatferol yn gorfodi Iesu Grist i gardota o amgvlch am eu bod eisiau cadw i fyny eu cyfrif yn yr ariandy a phorthi chwantaucu natur ddirywiedig. Os oedd un aelod o'r Gymanfa yn methu canfod fod rhywbeth o'i le rhaid ei fod yn ddall yn wir. Yr oedd yn bechod i wenieithio i'r naill a'r llall am eu drygioni. Gormodedd mewn bwyd a dillad oedd un achos o'u tylorii. Ni ofnai ddweyd eu bod yn gwario mwy yn flynyddol ar bethau di- angenrhaid i'w bwyta nag a gyfremd gan yr holl enwadau ynMghvmrugyda'ugitydd at waith yr Arglwydd. Fel rheol anghofiai eu mamau a'u chwiorydd gadw yn sanctaidd y Dydd Sabboth trwy aros adref i barotoi hwyd ar g\fer y corph, ac yn hyn nid oedd wahaniaeth rhwng merched eu hegJwysi a merched y byd. Carai wybod faint o swm arianol y ddiod ddeuai y logellau Bedydd- wyr Cymru. GAerid miloedd o bunau yn flynyddol ar yr eilun-dduw poblogiidd ty- bacco, ac nid oedd neb mor ffyddlon i'r duw hwn a rhai o'u harweinwyr. Yn cyfeirio at y dymuniad orphwyllog i gadw yn y ffasiwn a amlygid gan y merched mewn perthynas a phlu, rubanau, a blodau, s desgrifiodd Mir Williams y rhai hyn fel j dytais y diafol. Ffasiynau melldigedig y j byd oedd un o gynll uniau mwyaf effeithiol y diafol. Yr oedd ugeiniau o'u haelodau yn gweithio eu crefydd er mwyn eu busnes, ac nid eu busnes er mwyn eu crefydd. Talent sylw yn ddibrin iddynt eu hunain a'u gwisg- oedd, a ch.P nilent arian tra yr oedd gwaith Duw yn dioddef o angen arian. Amlygent ddiffyg ffydd yn Rhagluniaeth Duw trwy gynilo arian yn y banc.

! Y Canghellydd yn Ffstiniog,

/.JOHNSTOWN.

[No title]

Advertising

Advertising

Advertising

Priodas Plant Stryt Issa yn…

QCynghor Llywodraethol Coleg…

C,ymanfa Ganu Annibynwyr Din,bych…

Eisteddfod Genedlaethol Colwyn…

--NODION.