Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
- i Dychryn Glowyr rhag y…
i Dychryn Glowyr rhag y Black; Damp yn atal Fwaith. i I Yn antfortullus nid yw gobeithion per- I chenogion Pwll y Wellington, White- haven, y byddai i'w gwaith yn cau i fyny y lofa ddiffodd y tan a achoswyd trwy y danchwa gymerodd le ar yr lleg 0 Fai, yn cael eu sylweddoli. Cyneua gyda chynddaredd cynyddoi, a bygythia yai- ledu trwy y rhan a gauir i mewn gan y rhagfur. Mor fawr ydyw'r oadaeth fel yr ofnir y rhaid mabwysiadu y cwrs eithafoi o arlifo y pwll a dwfr. Ar byn o bryd j mae'r swyddogion yn ymdrechu darganfod Z3 9 y ffyrdd gwynt sydd yn 01 poo tebyg wedi eu hesgeuluso. Yn y gwaith cyfagos, y William Pit, mae'r dynion wedi atal gwaith am byth- efnos oherwydd eu hameuaeth fod black damp o'r gwaith sydd ar dan yn gwneyd ei ffordd i'w gwaith hwy. Yn naturioi mae hyn yn ychwanegu at y caledi sydd eisioes yn y dref. Mae goruchwylwyr y lofa hou, yn nghyda Mr Abbot, Arolygwr Mwnfeydd, wedi gwneyd archwiliad man- wl o hono, a thystiant yn bendant nad oes olion o'r black damp yn y lofa. Fodd bynag haera y dynion iddynt nos Wener ei ganfod yn rhan Delavel o'r gwaith, a bu rbaid iddynt redeg am en bywyd. Rhifa y dynion hyn sydd wedi dod allan oddeutu 800, rbwng y bech- gyn. Dywed goruchwyliwr y gwaith nad yw ofnau y gweithwyi ond dychymyg noeth, ac nad oes perygl o un math. dynion yn naturiol wedi ofni, ond mae teimiadau gor-gyffrous y gwragedd wedi cymeryd pob calon o honynt. Yeh- wanega fod y gwahan-fur rhwng y ddau bwll yn rhy drwcbus i ganiatau i, ddim o'r tawch dreiddio drwyddo, ac heblaw byn mae cylch o ddwfr wedi ei osod fel rhagocheliad ac i dawelu y gweithwyr. Ma'r percbenogion yn teimlo yn ddig- llawn oherwydd ymddygiad y dynion. Wrth oheb^id dywedodd Mr Hanlon, Agent y Glower fod y dynion yn argy- hoeddedig o bresenoldeb y black damp marwol am fod eu lampau yn diffodd ynddo. Ac er profi hyn i sicrwydd yr oedd parti 0 dri o ddynion, dau check, a'i hunan yn myned i'r pwll i archwilio a oedd yn ddiogel ai peidio Betb bynag y canlyniad byddai i'r dynion aros alian am beth amser.
Advertising
-u- I!I. 1'11>'0 \G. Weare showing A at present a large stock of 1 MILLINERY ''i\ Of the Latest Fashions and Styles. See our Special Window Display this week. J. w. JONES 7 PARIS HOUSE, RHOS. I
Advertising
minMWiii iMHimiimiiiiini iiiiniiiiiiiiiiiiiiiiiiiii'iiii iiiwh iimnii i iiiini imiiiiiniiiiii—iwiiiMii iiiiiiBiiiMiiia«ii«i miiiiiii n mini m m m mi n nril i iiiimii ■mil mill ill ISN'T IT SIMPLE To understand the saving that can be effected by one in the know when buying. It is to your benefit to inspect our Ifu Spring AV Aff Ih Suiting ffiffll Patterns before buying elsewhere. We guarantee I 1 M satisfaction in style and fit. |1 9 | Special prices from 21s. up. 111! J. W. J (D N ESo J |4 PARIS HOUSE, RHOS. -I' Butter is eheaveiir .1 Best Fresh Butter, lid. per Lb. Choice Butter, lOd. and lOtd.. per Lb. New Laid Eggs 13 for Is.—Direct from the Farms. ( Home Cured Hams-sliced at Is. per lb. Snow-White Flour, 8 lbs. for Is. I gfejgr' Best Quality, Lowest Prices AT I E RICHARDS GWALIA STORES, J ■!> HIGH STREET, RHOS T HANKS- T HANKS- MR RICHARD JONES a ad Family, beg to acknowledge the sympathy shown to them in their recent sad bereave- ment, and for the floral tributes sent. 2.Belgrave Terrace, Johnstown.
,WrVUÔŒU.
WrVUÔŒU. (PULPIT SUPPLIES) SABBOTH, MEHEFIN 5, i-gio. Y METHODISTIAIP OALFINAIDD i)-sv i Mawr--10 a 6, Owen Owens, Rbyl Stthel, Poskov-10 a 6, E fsfryn Williams itforiah, Pmkoy-10 a 6 Oyfarfod Gweddi em-st,-lO-SO & 6, a Williams Jo \nstonon—10-36 a 6. W 3 Lewis PentrefeUn-10 C'yf Plant, 2 Yagol,,6,Gwasauaeth GroBI-Bobert Davies, Llidiardau rcimmt-Robert, Davies, Llidiardau YR ANNIBYNWYR. ,.Bsthlohowi,10 E Evans, Nant, 6 J P Roberts, Caergwrl.3 Saitm, Bank-si—10 J P Roberts, 9 E Evans Mynydd Seioi*,—10 a 6, J HoweU Jbenezer, Queen St.to a 6, Pritehard Conwy Johnstown (8)—10-S04 6 ? SICDYDDWYB. j a 6, Evati J Hughes, Manchester &tha.iø.lO So. j Ponkey—lO a 61 E JlitcheH "Tabernacle Ponkey-10 Cyf Gweddi, 6 S Davies Boar, Aberd9vfyii>—10 Stephen Davies, 6 J S Jones j Viljaria, Rhos-~lQ & <> Jarires Jones Mi Pltasemt, Ponl'ty—10-30, & 6, J W Humphreys Yodafa, Johnatmifk—10-30 a Õ. JC JOtH8 ?*"C,ao--lo a 6, W B Joaee &r»«s—at 2 W B Jones I DISGYRLION OarST. Hfihel,. Campbell Strmt-LO a 6, j Y WKSLEYAID. 140,-10 a 6 D D lones, Llangollen 1: Jehnttowm—lO-SO. 2 a 6, Cyfarfod Pregethu-O Madog Bo Caettiarfim, a Charles Jones Llanfyllin ) iifyt issa-10 Titos Roberta € Wan Lloyd j f J»*&»»»*«*—10-30 Cyf Gweddi, 6 Eiiocfa. Jones PRIMITIVE METHODIST. 10-30,2 & «, R W Eraoa, Rhoaymedre I <hp],sra.s—2-30 <6 6, 8 Ll. Mosymedre m 'LWY6 BBFYDLBUit,, ykmr, Row J H Thtwaas aurat. Jenkins- Maciove. # f Jt W and fl. 8i, Mtham.1O a Jof Vary's QKvrahim—S«rvia* a< 3 A ,6 PENYCAE | view-p-ow Joseph Daviea a; Thomas t Church—Service at 10-30 and 6 SALVATION ARM lr. Vicar—H>nv Joseph Daviea J|: Thomas t Church—Service at 10-30 and 6 SALVATION ARli JT. Jmrrackt, 8cwage 8fr*6t—11-15,2, M5 FENATGN | Shepherd, A Lieutenant K Lazzell, |
] VVWVWIM,\UUMM,MWVLMW«W1.LWUVVM%…
VVWVWIM,\UUMM,MWVLMW«W1.LWUVVM% | Mr W. G. C. Gladstone, a Bwr- deisdrefi Dinbych. | Yr wythnos o'r blaen ymddangosodd y paragraph canlyool mewn amryw new- yddiaduron:— Mae enw Mr W G C Gladstone, Ys- wain Penarlag, yn cael ei awgryuiu yn agored mewn cysyiltiad a ehynrychiol- aeth Seneddol Bwrdeisdreft Dinbych. Y mae teimlad eryf yo mysgy Rhyddfryd- i wyr y dylid gofyn iddo dderbyn yr ym- geisiaeth Ryddfrydol yn yr etholiad nesaf, fel gwrthwynebydd Mr W Ormsby Gore, yr aelod presenoL Mae Mr Gladstone a | Mr Gore yn gyfeiiiioa personol ago, a j dilyuid ymdrech rhwng y ddau gyda'r f dyddordeb mwyaf." Mewn cylchoedd Rhyddfrydol yn Ngwrecsam dywedir nad oes sail o gwbl i'r uchod. Nid yw Pwyligor Gweithiol y Rbyddfrydwyr yn y Bwrdeisdrefi yn gwybod dim am y mater. Yn wir yr unig enw sydd gerbron ydyw Mr Clement Edwards, ac maent yo dibynu ar addewid Mr Edwards y bydd iddo eto sefyll dros y Bwrdeisdrefi fel ymgeisydd Rhyddfrydol os gwahoddir ef, Onibae am farwolaeth y Breuin Iorwerth yr oedd yn mwriad y Gymdeithas Ryddfrydol i estyn gwahodd- iad iddo dair wythnos yn ol, gan i gyfar- fod a alwyd i'r perwyl hwnw gael ei ohirio oberwydd y galar cenedlaefchol, O'r ochr arall, er ei bod yn wybyddus i Mr Edwards wrthod cynygion gan am- ryw etbolaethau i'w enw ddod gerbron, achosir gryn anesmwythyd ya y Bwr- deisdrefi am y gwyddis ei fod yn un o'r cbwe pherson sydd wedi en dewis i ym- ddangos 0 flaen Gymdeithas Ryddfrydol Dwyrain Morganwg, gyda.llr bwriad o ddewis ymgeisydd Rhyddfrydol fel olyn- ydd Syr Alfred Thomas, yr hwn fydd yn ymddisyddo yn yr etholiad eyffrediuol nesaf.
[No title]
Hysbysir fod Mr J Eldon Banker K.C., wedi penderfynu aieiladu Neaadd Blwyfol yn Shaughton, ger Caer, er cof am ei fab hynaf a fu farw ychydig ainser yn ol.
; Cao Glofeydd yn y De.
Cao Glofeydd yn y De. j Dydd Mawrth taflwyd 1,400 o ddynion allan o waith yn Nglofeydd y Garth a'r Oakwood, Maesteg, Deheudir Cymru, I oherwydd penderfyniad y perchenogion, Cwmni Navigation Elders i atal y glo- feydd. Gwnaeth Mr W Abraham, A.S., (Mabon), a Mr Vernon Hartshorn, Agent y Glowyr eu goreu i geisio gohirio atalfa y glofeydd, ond yn aflwyddianus. Mewn cyfarfod cyffredinol o'r gweith- wyr a gynhaliwyd dydd Sadwrn, eglurodd y ddau i'r dynion fod eu hymweliad a Syr Owen Phillips wedi profi yn anffrwyth- lawn. Yr oeddynt wedi ymdrechu i gael gan y perchenogion i gadw y lofa yn mynd am 118 arall o leiaf, ac appwyntio boneddwr annibynol i chwilio i mewn i'r achos er gweled ai ni fedrid dod i ryw drefniant i gadw y glofeydd yn mynd, ond methodd hyn. Maer angbydfod yn Nlogefeydd Nav- gation y Mri North yn cael chwilio i mewn iddo gan aelodau y Bwrdd Cyfla- fareddol, a gobeithir yn hyderus y llwy- ddir i adrodd am derfyniad heddychol yr anghydfod pan -gyferfydd y Bwrdd ar Fehefin lOfed. Llwyddodd y Pwyllgor a appwyntiwyd i drin yr anghydwelediad yn Ngtofeydd y Mri Cory Bros., Pentre, yn y rhai y gweithia dros 1,000 o ddynion, a'r rhai fu yn sefyll am amryw wythnosau, i ddwyn y partion yn nghyd, a therfynu yr anghydfod. ■
'Ffrwydriad mewn GIofa yn…
Ffrwydriad mewn GIofa yn Iladd dau Ddyn. Dydd Mawrth diweddaf digwyddodd damwain, trwy yr hon y lladdwyd dau ddyn ac yr anafwyd amryw eraill, yn Nglofa Gorseinion, Dyffryn Abertawe. Am haner awr wedi un y boreu hwnw saethwyd pymtheg o ergydion bron ar unwaith, ac yn ddilynol aeth y fireman a nifer o ddynion eraill i glirio y cwymp- iadau fel arfer. Yr oeddynt wedi Ilenwi amryw ddramian, ac yn parhau i weithio tua 8-30 pan y cymerodd ffrwydriad le trwy i un o'r tyllau neu ran o hono fethu tanio. Yr oedd chwech o ddynion wrth y wyneb ar y pryd, ac o honynt lladdwyd dau yn y fan, sef Samuel Morse, dyn ieu- anc dibriod o Pen-lle'r-gareg, ac Edward Moore, gwr priod a cbanddo un plentyn, o Pontardulais. Derbyniodd pedwar er- aill niweidiau mwy neu lai, un o honynt yn ddifrifol iawn, Yr oedd oddeutu 50 o ddynion i lawr ar y pryd, a phan gyr- haeddodd y newydd am y ffrwydriad i'r pentref rhuthrodd eu perthynasau at y pwil mewn dychryn vuwr.
RHOS.|
RHOS. | EGLWYS BETHLEHEM.—Nos Su! diweddaf bu yr Eglwys uchod n ethol detddeg o aelodau i gydweithredu a'r swyddogion er (ffurfio pwyligor i wne,d trefniadau yn nglyn a dewis Gweinidog newydd. Cafodd y thai dewisedig bleidlais gref, a dangosir y bodd- lottrwydd mwyaf yn v dewisiad. Mae'r pwyllgor wedi ei drwyddedu a gdllu i wa- hodd gweinidogion gvda'r bwriad i'w hen- wau ddod o flaen yr Eglwys am y dewisiad terfynol. ARWAIN CYMANFA—Dydd Mercher bu Mr Jacob Edwards, Jones street, yn arwain y canu yn Nghjmanfa Ysgolion Annibyn- wyr Coedpoeth a'r cylch. Yr oedd y tonau wedi eu dethol o Ganiedydd yr Ysgol Sul," ac yr oedd mynH a hwyl angyffredin arnynt. Diolchwyd yn gynes i Mr Edwards am ei wasanaeth, a chanmolwyd ef yn fawr am y modd deuheuig y C) flawnodd ei waith ARHOLIAD DIRWESTOL -Cariwyd yn mlaen arholiad Dirwestol yn Ysgoidy Penuel nos Wener, pryd yr eisteddodd nifer dda o ymgeiswyr o'r eglwys hon. Tretnir yr ar- holiadau hyn gan Gymdeithas Ddirwestol Gogledd Cymru Bu yr ymgeiswyr yn di- lyn dosbarthiadau rhagbarotoawl, y rhai oedd dan otal y Parch E. Williams. APPWYNTIAD Y CAPEL MAWR.—Hysbys- wyd yn ffurfiol benderfyniad y Parch Wynne Davies, Bangor, i dderbyn yr alwad gafodd gan Eglwys y Capel Mawr i'w bugeilio, yn Nghyfarfod Misol M C Dwyrain Dinbych a gynhaliwyd dydd Llun yn Llandegla. Y cynrychiolwyr o'r Capel Mawr oeddynt Mr Joseph Rogers a Mr Robert Jones, Mona Gardens. YR EISTEDDFOD.—Deallwn fod rhagolyg- on yr uchod yn ddisglaeriach nag y buont un adeg. Parotoir yn ddygn ar ei chyfer yn ei holl adranan. Yr wythnos hon eis- teddai y Pwyligor Celf l dderbyn dyfarniad Mr Taylor, Arolygydd Ysgolion, ar y cyn- llun goreu o wyneb-ddalen i raglen v dydd Derbyniwyd nifer dda yn y gystadleuaeth, ond dyfarnwyd yn ffafr un Mr Dd Thomas, Manchester, (gynt o Campbell street, Rhos,) yr hwn gydag ychydig bach o gyfnewidiadau a ystyrir yn un hynod arwyddocaol a dest- lus. Llongyfarchwn Mr Thomas ar ei waith yn emll ar y cynllun o wyneb-ddalen | am yr ail waith. Yn nglyn a'r adran ger- ddorol mae'r brwdfrydedd yn codi, ar ofnir y bydd yn uchel iawn erbyn dydd yr Eis-! teddfod, yn enwedig yn nglyn a chystadleu- aeth y Corau Meibion, a'r Ail Gorawl. Y rheswm am hyn ydyw y nifer fawr o gorau fwriada ymgeisio. Bydded iddynt wneyd en goreu i drechu y naill a'r Hall, ond gofalent am gadw teimladau da. Mae'r tocynau eis- oes allan a'r gwerthwyr yn br\sur gyda'u gwaith, ac yn ol pob adroddiad maent yn gwerthu yn dda. [ CYMDEITHAS DDIRWESTOL Y MERCHED— Trefnwyd cyfarfod o'r uchod yn Nghapel Moriah nos Lun diweddaf, o dan lywydd- iaeth Mrs W R Hughes, High street, pryd y daeth cynulliad lluosog yn nghyd. Yn ngwrs anerchiad fer cyfeiriodd y Lywyddes at eu gofid oherwydd marwolaeth y Brenin a'r dinystr ofnadwy ar fywyd trwy y dan- chwa yn Whitehaven. Sylwodd hefyd ar y golled ddirfawr gafodd y Dywysogaeth yn marwolaeth Gwyneth Vaughan. Cyfeiriodd at y gwaith a gyflawnwyd gan y Gymdeith- as yn ystod y misoedd diweddaf. Yr oedd yn ngwyneb llawer o anhawsderau wedi gwneyd cynydd calonogol yn rhif yr aelod- au. Ymunodd deg o'r newydd fei canlyniad ymweliadau mewn un rhan o'r ardal yn unig, a chredai yr ychwanegir aiynt eto pan ym- welir a'r rhanau eraill. Cafwyd anerchiadau Cymreig hynod ddyddorol gan Mrs Thos Lewis, Gwrecsam, a Mrs Thomas Davies, Gwrecsam. Yn ystod y cyfarfod canwyd yn effeithiol gan Miss Davies, Stryt Issa. Cyfeiriwyd at y Gynhadledd Ddirwestol sydd i'w chynal yn Ngwrecsam, a phender- fynwyd fod aelodau y Gymdeithas yn gwneyd eu goreu i sicrhau ei llwyddiant. Ar gynygiad Miss Sefton pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r siaradwyr.
!PONKEY.
PONKEY. LLWYDDIA'. T. Llongyf arch wn Mr W E Jones, Ysgol y Grango, ar ei waith yn enill y brif wobr yn Arholiad Undeb Y sgolioo Sabbothol yr Annibynwyr Cym- reig. Yr oedd nifer fawr trwy yr oil o Gymru yn ymgeisio, ac anrhydedd nid bychan oedd i Mr Jones gipio y Bathodyn Aur mewn arholiad mor uchel. Mae Annibynwyr y cylch yn gyffredinol, ac Eglwys Salem yn ymfalchio yn ei Iwydd- iant.
PENYCAE.
PENYCAE. SCARLET FEVER.—Hysbysir fod yr afiech- yd hwn wedi tori allan o'r newydd yn y cylch, ac fod nifer o blant wedi eu symud i'r Fever Hospital. MARWOLAETH.—Yn dra sydyn dydd Gwener bu farw Mrs Eliza Lloyd, Pentre- christionydd. Mor ddiweddar a'r dydd Iatt blaenorol yr oedd yn myned oddiamgylch er ei bod mewn oedran mawr. Yr odd ya aelod gyda'r Wesleyaid yn Stryt Issa. Cvmerodd y gladdedigaeth le dydd LIun yn Mynwent Eglwys Penycae, pryd y daeth -tyrfa fawr in nghyd. Gwasanaethwyd gan y Parch T Nichols Roberts, Cefn, a Ficer Penycae, y Parch Joseph Davies.
RUABON.
RUABON. BLWYDD-DAL I'R HEN-Cynhaliwyd cy. farfod o Is-Bwyllgor Ruabon yn Llys Rua. bon prydnawn Mawrth, y rhai canlynol yn bresenolHenadur C Jones, Cefn; Hen D W Roberts, Cefn; M r J Stephen Jones, C.S Ponkey Mr E Lloyd Jones, U.H., Rhosymerire; Mr R A Jones, Ruabon; yn nghyda'r Clerc, Mr S Galland. Ail-eth- olwyd yr Hen C Jones yn Gadeirydd, a Mr Jos S Jones yn Is-Gadeirydd. Derbyniwyd pum o geisiadau em flwydd-dal, a phender- Iynwyd arnynt fel hynDau i dderbyn s/ un i dderbyn 4/ a chafodd y ddau arall eu taflu allan--un am ei fod o dan yr oed, a'r Hall oherwydd derbyn cynorthwy plwyfol yn ystod 1908.
Gwrecsam ag Eisteddfod Genedlaethol…
Gwrecsam ag Eisteddfod Genedl- aethol 1912. Nos Fawrth diweddaf cynhaliwyd cyfarfod ° r Pwyllgor Rhagbarotoawl a appwyntiwyd i drefnu at wahodd Cymdeithas yr Eistedd- fod Genedlaethol a Gorsedd y Beirdd i gyn- al Eisteddfod 1912 vn Ngwrecsam. Lly- wyddwyd gan y Maer, Mr J Stanford. Dywedodd y Maer fod yr atebiad roddwyd i'r appel am addewidion tuag at drysorfa y gwarantwjr wedi bod yn hynod foddhaol. Allan o'r £1,000 oedd yn angenrheidiol, derbyniwyd addewidion am £ Soo. ac nid oedd yn meddwl y ceid unrhvw anhawsdra. i sicrhau y ,C,-yo-o gweddill Deallai fod J Bangor, Caernarfon, a Lerpwl am wneyd | cais am yr Eisteddfod yn 1912 hefyd, ond gan r bob un o'r lleoedd hyn gael yr Eis- teddfod er pan y bu yn Ngwrecsam ddi- weddaf, credfi fod eu cais hwy yn un cryf iawn. Ar awgrymiad y Ficer, y Parch Daniel Davtes, penderfynodd y rhai oedd yn bres- enol i wneyd eu hunain yn gyfrifol am godi y gweddill o'r arian oedd yn angenrheidiol. Penodwyd y Maer, y Ficer, a'r Parch R Peris Williams i gyflwyno y cais o Wrecsam i Bwyllgor yr Eisteddfod yn Colwyn Bay, mis Medi, a phenderfynwyd gofyn i Esgob Llanelwy, Arglwydd Kenyon, Edward G Hemmerde, Ysw., A.S., W Ormsby Gore, Ysw., A.S., ac eraill, i fyned gyda hwy i gefnogi'r cais. EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 191 i. Cynhelir Gorsedd i gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1911 prydnawn Iau, Mehefin 23ain. Bydd yn bresenot gynulliad mawr o brif-feirdd, lienor ion, eer- ddorion, ac Eisteddfod wyr o bob rhan olr Dywysogaeth. Gwahoddir yn gynes gan V Pwyilgor bawb a allont fod yn bresenol.