Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

EISTEDDFOD BWLCHCWYN.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD BWLCHCWYN. Cynhaliwyd yr Eisteddfod uchod eleni >:ÜI arfer ar y Llungwyn. Daeth cynull- cgidfaoedd mwy nag arfer ir Llanerch fyrydferth. Profodd y tywydd braf yn jgaffaeliad neillduol i lwyddiant yr Eis- teddfod. Yn ystod y flwyddyn cafodd y Pwyllgor yr anffawd ddifrifol o golli eu -jhysgrifenydd llafurus, Mr Alun Roberts, -,trwy farwolaeth. Bu yo gysylltiedig a'r Eisteddfod er ei chychwyniad yn 1897, a tsron er hyny efe fu yn Ysgrifenydd iddi. Vn Rhaglen y dydd yr oedd y pwyligor wedi rhoddi darlun o Mr Roberts ac "ysgrif goffa fer am ei lafur ai ymdrech o blaid yr Eisteddfod. Nid oedd hyn ond f £ yfiiawn ynddynt ar ol un wnaeth gymaint .£f ei llwyddiant. Cynhelid yr Eisteddfod mewn pabell wedi ei rhoddi ar faes cyfleus yn ymyi Dyffryn Nant y Ffrith. Cynhaliwyd o gyfarfodydd y rhai a brofodd yn fjsoblogaidd dros ben. Arweiniwyd yn ;bynod ddoniol trwy'r dydd gan y Parch harles Jones, Llanfyllin. CYFARFOD Y BOREU. Llywyddwyd gan j P Evans, Ysw., "0ryn Awelon, Bwlchgwyn, yr hwn yn .doddedig a gyffiiriodd at y gelled a gaf- I y i e yr' Eisteddfod trwy tarwolaetheu I "dhveddar Ysgrifenydd. Cyfeiriodd hefyd 1 it alar y wlad o achos colli ei Brenin, a j jfofynodd i'r gynulieidfa sefyll ar eu traed lei datganiad o gydymdeimlad a'r teulu I brenhinol. Unawd Baritone, 44 O'r Dyfnder," (Lucas Williams), daeth mfer dda o gys- -iadleuwyr, ac wedi cystadleuaeth ragorol .dyfarnwyd y wobr i Mr R Roberts, Hal- .'1 Jsyn. Adroddiad i blant, "Ora Pro Nobis," (Eifion WyHn). Idris Williams, Brym- irSyO- Unawd ar y Berdoneg i blant, Miss fcnes, Liverpool. Cymerwyd gweddill cyfarfod y boreu i yny i'r brif Gystadleuaeth Gorawl. Cyn- ygid gwobr o £ 20 i gorau heb fod dan 30 mewn nifer am y datganiad goreu o I iH Martyrs of the Arena," (De Rille). Anfonodd deuddeg o gorau eu henwau i :!aw, ac o honynt trodd wyth i fyny, y rhai Ji ganasant yn y drefn ganlynol:— < I-Brunswick-F A Knight. 2-Habergham-E Hitchin. 3—Waryngton—S Hassall. 4-Brymbo-R J Wright. 5-Maelor (Cefn)- J Wright. 6—Liverpool—J 0 Reilly. 7-Wigan-A Bullock; 8—Penuel (Rhos)-I Llovd Tones. Y FEIRMADAETH. Wrth draddodi y feirnia,daethidywedodd Dan Price eu'bod wedi gwrando cys- tadleuaeth ardddrchog. Yn wir, yr oedd o'r corau bron yn anorchfygol. Yr ,sedd rh ii o'r perfformiadau, fodd bynag, wedi eu hanurddo trwy i rai o'r corau jyymeryd y berdoneg i'w cyfeilio. Nid doeth cymeryd cyfeiliant y berdoneg pan siad oedd cyfeiliant arbenig wedi ei ys- grifenu i'r dernyn. Weithiau pan ddig- wyddai y donyddiaeth yn dueddol i fod j ychydig yn uchel, yr oedd y berdoneg yn JSU hatgas adgoffa o'r diffyg, tra heb y berdoneg gallai y beirniad yn hawdd sdrych dros wall fel hyn. y r- -BRUNSWICK.-Yr oedd y cor hwn yn gyfuniad o leisiau lied dda. Ychydig yn 4vasgaredig, fodd bynag, oedd y seiniau. Teirnlid diffyg unoliaeth trwy'r holl ber- ifbrmiad, a dinystriwyd purdeb y gyng- hanedd trwy ganu agored a chaled y tenoriaid, Teimlid hefyd fcrd diffyg ar- ddull a chydsymudiad. 2-HABF-RGHAM.-Vr oedd hwn yn gor a leisiau eithriadol gyfoethog. Nodwedd- id eu canu trwyddo gan fywiogrwydd a chydsymudiad. Yr oedd y cyffyrddiadau ibeiddgar a dramataidd yn goJeuo y darn, ac yni a thrydaniaeth y perfformiad yn fSidw y dyddordeb yn eirias hyd y diwedd. Ifr oedd y basswyr yn fawreddog, yn ardderchog, ac yn odidog, a'r perfformiad )To un cithriadol uchel gan gor eithriadol "-co' wych. Yr oedd rhan y roaring lions yn ddyrchafol fawreddog, a'r adranau hum ming yn neillduol felodus. Trwyddo oil perfformiad tra uehel. 3—WARRINGTON.—Yr oedd y cor hwn hefyd yn un o leisiau rhagorol. Dangvs- wyd gryn allu yn ngweithiad ailan yr aJ- ranau dramataidd. ond nid oedd digon o addfedrwydd yn y lleisiau i wneyd y rh:n- au tyner yn effeithiol. Gwnaed And when the life-blood is pouring" yn rhag- orol iawn. 4-BRYMBO, —Cychwynodd y cnr hwn yn lied addawol, ond yn fuan canfyddwvd fod y lliwiad braidd yn wan. Gotynai y dernyn am gyflawnder o danbeidrwydd, ac yn hyn teimlid eu bod yn ddiffygiol. 2!1 Dygent i mewn j'w canu gryn lawer o deimlad gwirioneddol, yr hyn wnai ber- fformiad lied ddof ar wahan i hyn yn ddyddorol. Yr oedd cyfeiliant y berdoneg gan Yl<cor hwn yn mhell o fod yn gyn- orthwy iddynt, ac adgoffai hwy yn bar- haus nad oedd y donyddiaeth yn hollol bur. 5—CEFN.—Yr oedd y Bass yn y cor hwn ychydig yn rhy dywyll, a theimiid yr effaith cyfFredinol yn rhy drymaidd, nid oedd digon o loywder. Er hyny nod- weddid y datganiad gan amryw bwynt- iau da. 6—LIVERPOOL.—Yn y cor hwn yr oedd y basswyr yn rhy dueddol i chwy.rn'u yn yr adranau uchel, tra yn yr adran sy'n desgrifio y Hewod yr oeddynt braidd yn ddof. Nid oedd y perfformiad yn un cyn- hyrfus, er eu bod ar brydiau yn ymgais at fod yn dramataidd. I 7-WIGAN.-Gan y cor hwn yr oedd yr adranau a wir ofynent am arddull lawn, dranaataidd, a chydsymuid yn wan. Yr oedd eu desgrifiad o'r llewod rhyadwy yn llawer rhy lwfr a thawel, a cherddai y panthers yn hytrach na Hamu. 8-RHOS.-Gwnaeth y cor hwn agoriad rhagorol. Yr oedd y lleisiau yn addted a mynegiadol, gyda'r canlyniad fod y teimlad yn wirioneddol ac yn cyffwrdd eraill. Ar y trydydd ar pedwerydd tu- dalen yr oedd y canu yn dda, er fod y donyddiaeth yn anmhur ar brydiau. Yr oedd y llewod yn Hawn afiaeth a chyn- ddaredd, a'r olygfa yn yr arena yn hynod o ddramataidd o ran ei ddirnadaeth a'i weithiad allan. Nid oedd y gynghanedd ar brydiau, fodd bynag, yu hollol gywir, fel yr adgoffheid hwy yn garedig gan y berdoneg. Tueddai y tenoriaid i fod yn sharp. Nid oedd cydbwysedd hollol yn peddwarawd, ond yr oedd yr unawd tenor yn llawn ysbrydiaeth a gwres. Cenid y rhanau de-fosiynol, 11 G-odof the martyr," yn wir eneiniedig, a chytfyrddent y teim- lad ir byw. Ar y cyfan dangosai per- fformiad y cor hvffn dde^illd A?riaeth uchel o'r dernyn. s Yn ddilynol rhoddodd Mr Price y marc- iau canlynol i i Habergham 78 Warrington 72 Rhos 7 t Wigan .70 Brymbo 68 Maelor 65 Brunswick.60 Liverpool 58 CYFARFOD Y PRYDNAWN. Ltywyddwyd gan J Stanford, Ysw., Maer Gwrecsam. Yn ei sylwadau dy- wedodd y Cadeirydd nad oedd gwahodd- iad o Wrecsam am yr Eisteddfod Gened- laethol yn 1912 yn golygu o angenrheid- rwydd y byddai yn skid ei chynal yn Ngwrecsam, ond yn myw le yn Nyffryn Maelor. Yn mhen llai nag wythnos wedi anfon allan cylchlythyrau yn ymofyn am Drysorfa Gwarantwyr, yr oedd addewid- ion a»m ^500—-haner y swm gofynol- wedi ei dderbyn. Credai ef y byddai yn gamgymeriad difrifol os na dderbynid gwahoddiad Gwrecsam. Hyderai, fel mái i Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon v bu yr ymweliad Brenhinol diweddaf, mai yr un'nesaf fyddai i Eisteddfod Gened- laethol Gwrecsam yn 1912-(cym). Cystadleuaeth Adrodgl, "Gatit y Gof- al, {Llewelyn Ddu 0 Fon). Idris Will- iams, Brymbo. Unawd Tenor. Yr Anwyl Oen," (Tom. Price), Mr D J Williams, Prescot. Unawd iBlant, "Bwthyn yr Amddi- fad," (J Henry),, iaf, Miss Williams, Rhos 2il Miss Jones, Minera. Yn yr ail gystadleuaeth o Gorau Meib- ion cynygid gwobr o £ 5 i gorau heb fod o dan 16 o leisiau, am y datganiad goreu o Cydgan y Morwyr/' (Dr Parry). Ymddangosodd chwech o gorau ar y llwyfan, a dyfarnwyd y wobr i Barti Prescot dan arweiniad Mr D J Williams. Cystadieuaeth Corau Plant, Gwobr ^4 am, ganu "Croesaw Wanwyn," dernyn j buddugol gan Mr J P Hughes. Coed- poeth, yn Eisteddfod Bwlchgwyn 1908 Dau gor ddaeth ymlaen sef Broughton (B Fisher) a Coedpoeth (J Williams). Llongyfarchodd y beirniaid y Pwyligor 1 am ddewis dernyn gan gyfansoddwr lleol, yr hwn oedd yn adlewyrchu clod mawr ar yr awdwr. Wedi cystadleuaeth dda dyf- arnwyd y wobr i Coedpoeth. CYFARFOD YR HWYR. Llywyddwyd gan Dr Moss, Gwrecsam, gan yr hwn y cafwyd anerchiad yn cyfeirio at y Bwlchgwyn o safle iechydol. Dy- wedai fod pob peth yn ffafr y fangre fel cyrchfan iechyd, ei huchder uwch arwyn- ebedd y mor, a'i hawyr iach a digymysg, a'i llonyddwch a'i thawelwch. Dywedodd y carai roddi gwohr o gini am y traeth- 'N' awd goreu ar Welii Cvmdeithasol yn ystod teymasiad Victoria," neu ryw j destyn a ddevvisa y Pwviigor. j Unawd Sop'a'K Hen W..li--s F .ndig- | aid." If" o Miss H Eiia 1, Cefn. Araeth dueg rn-j'-tyd, B\C1¡wyn fet cyrchfan Iechyd." Mc John Rube res, Hall street, Rhos. Cystadleuaeth Corau Cymy^g, "We never will bow down (Handel), corau heb fod dan 30 o leisiau, gwobr £15 Dau gor yn unig ddaeth yn rniicn set Stretford (Thomas Corlett) a Prescot (D J Williams). Dywedai y beimidid fod y gystadleuaeth hon eto fel un y Cor Meib- ion yn y boreu, o safon uehel. Cafwyd canu rhagorol gan y ddau gor. Yr oedd gan y naill a'r Hall eu rhagoriaeth.iu a'u diffygion, yn y blaenaf y lleisiau Sop- rano oedd ar ol, yn yr ail nid oedd y bass yn gyfoethog. Yr oedd amseriad yr olaf yn rhy araf, tra yr oedd y cyntaf yn canu pob symudiad yn gydbwys o ran amser- iad, mynegiant a thonyddiaeth, ac felly trwy ychydig dyfarnai Stretford yn oreu. Cystadleuaeth Adrodd i bob oed. ".Yr Amheuwr yn y Glyn," (Dyfed), Mr Wm Edwards, Acrefarr. Deuawd T. a B," Y Morwyr," (Emlyn Evans), Mri Tom Morris. Brymbo, ac R Roberts. Halkyn. Cystadleuaeth Canig i bartion o 16 i 20 mewn nifer, U H una, huna Blentyn Iesu," ,,Ci.. Un cor yn unig ddaeth yn mlaen sef Glanyrafon a dyfarnwyd y wobr iddynt. Beirniadwyd y gerddoriaeth gan Mr Dan Pi ice, R.C. M., Liundain, a Mr W M Roberts, Gwrecsam, rhoddasant foddlon- rwydd cyffredinol. Cyfeiliwyd gan Mr E Emlyn Davies, A.R.C.O., Rhos, yr hwn sydd yno bob bl\vyddyn ers amser bellach, er boddhad dirfawr i'r cystadleuwyr.

" EISTEDDFODAU ERAILL,

—— ; EISTEDDFOD PRESTATYN.

+—: EISTEDDFOD POWYS.

---EISTEDDFOD MON.

Advertising

Advertising

, .i IMR D JENKINS A PHWYLLGORAU…

PONKEY. |

Advertising

---EISTEDDFOD MON.