Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

RHOS.

GALAR MAWR, CYFFREDINOL «

News
Cite
Share

GALAR MAWR, CYFFREDINOL « Gyda gofid dwys y clywodd y wlad am farwolaeth y Brenin nos Wener. Nid oedd wedi bod yn wael yn hir, yn wir yr awgrym cyntaf a gafodd y cyhoedd am ei waeled-i oedd yn y papurau newydd foreu Gwener, ac nid oedd neb yn meddwl yr adeg hon y deuai y diwedd mor sydyn ac mor fuan. V mae'n wir yr hysbyswyd yn ystod y dydd ei fod yn gwaetfcngu, ac fod ychwaneg o fedd- ygon wedi ei galw ato, ond ni freuddwydiodd neb y byddai Prydain heb deyrn erbyn boreu Sadwrn. Bu farw yn esmwyth ychydig cyn haner nos, nos Wener. Dioddefai oddiwrth fronchitis, ac ,n ystod ei ymweliad diweddar a Biarritz bu raid iddo aros yn ei welv am rai dyddiau. Pan ddy- ich>*elodd i Lloegr od^eutu wythnos yn ol Lcafodd anwyd drachefn, a gwaethygodd yn raddol, hyd nes y daeth y diwedd nos Wen- er. Dydd Gwener hysbyswyd trwy y wlad ei fod yn bar wael, ac oddeutu haner awr wedi chwech yn yr hwyr mynegwyd ei fod gryn lawer yn waeth, ac fod ei gyflwr yn ddifrif- ol. Eibyn hvn yr oedd y wlad yn dechreu ,sylweddoli fod ei afiechyd yn ddifrifolach nag y tybid ar y dechreu Tua saith o'r gloch galwyd ar y teulu Brenhinol ynghyd Yr oedd Tywysog Cymru vn y Palas ar hyd y dydd, ac ymwelwyd a'i Fawrh/di yn ach- lysu ol gan a^lodau ereill o'r teu'u er na arhosent yn hir yn ei gwmni. Yr oedd torf fawr tuallan i'r Palas trwy'r nydd a chvnvddai at yr hwyr, a phan wnaed yn hysbys g\ fl wr difrifol y Brenin oddeutu haner awr wedi chwech dangoswyd yn am- Iwg mor boblogaidd oedd. Am enyd teyr- nasai distawrwydd dwys dros y dorf fawr. Yna clywid mynegiadau o dristwch a chyd- ymdeimlad a'r teulu Brenhinol. Tua chwarter wedi saith yr oedd yr oil o'r teulu Brenhinol wedi eu galw i'r Palas, ac oddi- wrth hyn yr oedd vn amiwg i bawb yr ofnid y gwaethaf. Ac fel yr hwyrhai cynyddai y pryder, a gwylid ffenestr oleuedig yr ystafell, yn mha un y gorweddai y Brenin claf gyda dwysder anarferol. Oddeutu haner awr wedi deg, fodd bynag, dechreuodd wlawio, ac anfonodd arolygydd heddweision y Palas apel at ysgrifenydd cyfrinachol y Brenin i ofyn a oedd yn debyg y ceid newyddion vchwanegol, ac atebwyd na cheid y nos houo, ac yn raddol chwalodd y dorf. BYR HANES. Ganwyd Edward y Seithfed yn Mhalas Buckingham. Llundain, lie y bu farw, ar y 9fed o Dacliwedd, 1841, ac efe oedd mab hynaf y Frenhines Victoria a'r Tywysog Albert. Yr oedd iddo chwaer hynach nag ef, ond mawr oedd y disgwyliad am aer, a phan anwyd ef ni fu y fath lawenjdd mewn unrhyw wlad erioed. Pa., oedd yn fis oedi gwnaed ef yn Dywysog Cymru, ac adnabyddid ef dan y -teitl hwnw hyd nes yr oedd bron yn diiugain oed, pan fu farw ei fam. Gofalodd ei fam yn fawr am ei ddygiad i fyny, a dewiswyd pendefiges adnabyddus, sef Arglwvddes Lyttelton, yn athrawes iddo, a llanwodd hi y swydd bwysig hyd nes yr oedd y Tywysog yn chwe' mlwydd oed. Ychydig a ellir ei ysgrifenu am gyfnod ieuenctyd y Brenin, heblaw iddo gael yr addysg oreu. Wedi iddo fod o dan athraw- on cymwys am rai blynyddoedd aeth i Goleg Edinburgh, ac oddiyno i Goleg Crist, Rhyd- vchain, He y bu am flwyddyn. Yna bu am bed war tetm yn Nghaergrawnt, a phan ar ymweliad ag ef yma yn niwedd 1861 y caf- odd ei dad, y Tywysog Albert, yr anwyd a derfynodd yn angeuol iddo. EI BRIODAS. Blwyddyn yn ddiweddarach, pan ar ym- weliad byr a'r Almaen, y cyfarfu a'r Dywys- oges Alexandra o Denmark, yr hon a ddy- weddiwyd iddo. Dywedir iddo cyn hyny sy.rthio mewn cariad a'r Dywysoges wrth edrych ar ei llun, ac yn Medi, 1862, h>sbyswyd am ei briodas agoshaol a hi. Bu y seremoni ar y ddegfed I o Fawrth, 1863, ac ni roed derbyniad mwy croesawgar i briodferch eriod nag a roddwyd i'r Dywysoges Alexandra pan gyrhaeddodd y wlad hon. Aeth y Tywysog i Greenwich i gyfarfod ei briodferch, ac yr oedd yn nos pan gyrhaeddodd Gastell Windsor gyda hi i'w chyflwyno i'r Frenhines Victoria. Gwein- yddwyd y briodas yn y Capel Brenhinol yn Nghastell Windsor, yn mhresenoldeb y Frenhines Victoria. Profodd y Dywysoges yn briod yn ngwir ystyr y gair, ac fel Bren- hines anhawdd yw cael ei rhagorach. Gan- wyd iddynt chwech o blant. Yr hynaf oedd Due Clarence, a fu farw yn 1892, yn wyth ar hugain oed, er galar mawr i'r wlad yn gyff- redinol. Ganwyd yr ail fab, sef y Brenin presenol, yn 1865. FEL TYWYSOG CYMRU. Yn gynar ar ei fywyd dechreuodd deithio. Ymwelodd a holl wledydd cred, a gwnaeth hefyd gydnabyddiaeth fanwl a gwahanol ranau yr Ymherodraeth, yr oedd wedi hyny iV llywodraethu. Pa le bynag yr elai derbynid ef gyda'r gwresogrwydd a'r rhial- twch mwyaf, ac ymddengys mai efe oedd y gwr ieuainc mwyaf poblogaidd ei gyfnod. Yr oedd ei feddylgarwch, ei ymddygiad car-

Advertising

Advertising

nIlYBUDD PWYSIG.

l§*u>f:pudau.

GALAR MAWR, CYFFREDINOL «