Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

! 'GOHEBUETH.

News
Cite
Share

GOHEBUETH. AT WEITHWYR YR HAFOD. Mr Gol.—Wedi darllen rhifynau diw- eddaf o'r Herald, gwelaf ddarpariadau neillduol ar gyfer dewisiad aelodau y gwatiaiol Gynghorau. sef y Phvyfol a'r Dosbarth. Sylwaf fod y Gweithwyr, neu yn hytrach eu pwyllgor, wedi bod wrthi yn gwthio dau gynrychiolydd, un dros Ward y Ponciau, a'r Hall dros Ward y Rhos. Mae hyn yn dangos ar unwaith ein bod yn haelfrydig iawn gyda'n harian Yr wyf yn weithiwr fy hun, ond nid wyf yn meddwl y gailwn hyfforddio hyn. Hef- yd yr wyf yn sicr nad yw yr holl weithwyr i yn gwybod fod danfon dau ddyn i'w cyn- rychioli i Wrexham bob dydd Iau, yn I costio iddynt 17/- yr wythnos, tua -45 j y flwyddyn, neu y gost am dair blynedd o ^130 ar ein ysgwyddau. Credaf fy I nghydweithwyr, mai gwastraff ar arian I yw y cwbl, a hyny wedi eibenderfynu gan ryw 30 o bobl, a 15 o blant. Y cwestiwn yw, a ydyw y gynrychiolaeth yn deilwng, allan o 1,400 o bobl sydd yn ngwaith yr Hafod ? Ond tebyg mai diangfa y b'b! yma fu wrthi yn dewis fydd, fod y cyfar- fod, pryd y pasiwyd hyn, wedi ei alwi bawb, sef cyfarfod cyhoeddus. Digon siwr, ond a oedd y clique yma wedi rhoddi rhybudd priodol o hyn ? R'wyn sicr mae yr hyn oedd ar y rhybudd ar y bone oedd dewis cynrychiolwyr i fyned i'r Cyfarfod Blynyddol i Wrexham, ac yn nghysgod hyny, yn dod a'r mater yma fel ail beth. Fy nghydweithwyr, yr wyf yn sicr pan y bydd y Rhaglen o'r Cyfrifon wedi dod i'ch Haw am y flwyddyn, y byddwch yn gwelwi ac yn barod i lesmeirio, pan welwch y swm anterth sydd wedi ei wario. Cefais fy syfrdanu wrth edrych drosti, ac os ed- rychwch chwithau yn feddylgar drosti, fe deimlwch yr un peth. Cofiwch, doedd neb yn cael y Report ond y cynrychiolwyr, hyd yn hyn beth bynag. Carem hefyd yn y fan yma ofyn, pwy sydd a hawl, yn ol unrhyw reol, i dalu i'r rhai hvn ? Onid ydym wedi cael gwybod- aeth drwy Test Case Aelodau Llafur Ty y Cyffredin o hyn ? Ac yn ychwanegol, os yw y ddau gynrychiolydd yn meddwl sefyll yr Etholiad am hyn, dylent gofio fod yn rhaid iddynt gadw at y Constitution, sef o dan nawdd yr I.L.P., ac nid yw yn deg dod allan fel Cynrychiolwyr Llafur dan nawdd cymdeithas arall, fel cysgod, rhag fod y gweithwyr yn deall eu bod yn aelodau cyflogedig. Byddwch yn blaen a gonest ar y mater. Rwyncofio i, ni gael etholiad yn gyfFelvb ar y C. Dosbarth, ac fe gostiodd tua 'i i os wyf yn cofio'n iawn, ac fe ddewiswyd Ysgrifenydd y Gymdeithas Ryddfrydol yn Agent i'r ael- od Llafur. M«ae'n rhaid i chwi gofio nad oedd ganddynt hawl i hyh, os am gyn- rychioli Llafur. A'pha gwestiwn Llafur sydd yn y Council ond cwestiwn Treth- dalwr ? Byddwch yn effro weithwyr, a rhoddwch stop ar hyn yr wythnos nesaf, cyn y bydd yn rhy ddiweddar. Mae cost- au Cymdeithas Glowyr Gogledd Cymru yr anfertbol, heb ychwanegu dim atynt, neu mi fyddant yn y man yn gofyn am geiniog yn ychwanegol at yr hyn yr ydym yn ei dalu yn awr. Yr wyf yn sicr fod yr hyn ddywedais yn berffaith deg- a gonest. Os yw y rhai hyn am geisio anrhydedd, elent ar eu cost eu hunain. Rwy'n sicr fod digon o ddynion yn Rhos a'r Ponciau a chyflawnder o fedr ynddynt i hyn, heb roddi baich ar y gweithiwr druan. Ydwyf, GWEITHIWR. _n_

Advertising

DATHLIAD DYDD GWYL DEWI.

Etholiadau Cynghor Sirol ,Dinbych.-

.¡ DADGYSYLLTIAD CY MREIG.…

Yr Anghydfod yn Masnach Lo…

Advertising

Evan Roberts, y Diwygiwr.

Y Meddygon a Gwyrthiau. !

Dosbarthiadau Dawnsio mewn…

. NODION.