Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

-. AP VYCHAN.

Cymdeithas Rhyddfrydwyr Ieu'ainc…

¡GOHEBIAETH.

Cynghaws yn erbyn Pwyllgor…

Streic Wynnstay.

Y Ddyfrdwy, o'i Tharddiad…

News
Cite
Share

Y Ddyfrdwy, o'i Tharddiad j'w Hymarllwysiad. [Gan DAVID ROBERTS, Plas Issa.] Cafodd y Tywysog Gruffydd ap Cynan ei garcharu yn Nghastell Caer, ac fel hyn y bu ei helynt ef. Mewn lie o'r enw Rug, ger Haw Corwen, y cafodd Gruffydd ei fradychu gan un o'r enw Meirion Goch, yr hwn a'i h'udodd gan gymeryd arno fod yn gyfaill iddo, i grafangau Irall Caer. Llwyddodd hwnw trwy ffalsder i gael ganddo gyfarfod yn gyfeiligar ag Iarllod Caerlleon ac Am- wythig, y rhai a ddarparasant lu mawr o filwyr i ymguddio gerllaw. Cymerodd y cytarfyddiad le, a daliwyd Gruffydd, gan ei ddwyn i G stell Caerlleon lie y bu yn gar- charor am 12 mlynedd. Gollyngwyd ei warchodlu ymaith, eithr nid cyn tori ymaith y fawd oddiar law ddehau pob un o honynt. Fe wnaethant y creulondeb hwn arnynt er eu anghymwyso i ddwyn y cleddyf o hyny allan. Felly, am 12 mlynedd bu Gwynedd yn gruddfan o dan ormes yr estron Huw Lupus, larll Caerlleon a'r Tywysog Gru- ffydd ap Cynan yn dihceni yn nghasteU y gormesydd. Ond yn mhen 12 mlynedd fe gododd gwr ieuanc cryf. gwrol, a phender- fynol, o'r enw Cynfrig Hir. Yr oedd y gwr hwn yn preswylio yn Nyffryn Edeyrnion, a phenderfynodd gael Gruffydd ap Cynan yri thydd. Cychwynodd am Gaer mewn dull marsiandwr, ac yn y ffordd hon y cafodd fynediad i'r Castell. A'r noswaith hono yr oedd gwledd i gael ei chynal yn y Castell, a chafodd y marsiandwr wahoddiad i aros yn y wledd. A hyn y cydsyniodd, a phan oedd pawb yn llawn o win melys, ac wedi syrthio i gysgu, dyna y pryd y gwelodd Cynfrig ei gyfle. Aeth i edrych am Gru- ffydd ap Cynan, ac fe'i cafodd yn rhwym draed a dwylaw mewn cadwynau; Ac ebe Cynfrigwrth Gruffydd, yn awr am dy rydd- had, ac fe'i cariodd yn ei gadwynau allan o'r Castell i ddiogelwch. Bu Gruffydd yn teyrnasu ar Gwynedd am lawer blwyddyn ar ol hyn. Ceir yn aros hyd heddyw yr hen Esgob- dy, yn yr hwn y preswyliai Esgobion Caer lawer o flynyddau yn ol. Ceir y dyddiad canlynol arno, sef 1615. Ceir ty henafol arall o'r enw Ty Stanley, perthynai y lie hwn i Iarll Derby, y mae wedi ei ddyddio yn 1591. Y mae'r Castell wedi ei adeiladu ar y dull Normanaidd. Y mae y Groes, Ile y byddid yn arfer gweinyddu y gyfraith ar y trosedrlwyr, a'r ryffion (stocks) lie yr arferid a thoddi troseadwyr i'w poenydio, a'r golofn wrth ba un yr arferid rhwymo troseddwyr i'w fflangeilu, ar gael y dyddiau presenol Y mae hen Gapel Matthew Henry, ar gael hefyd yn awr. Ac nid oes dim yn rhoddi mwy o fwynhad i'r rhai a ymwelant a thref henafol Caer na thalu ymweliad a hen Addoldy y Pregethwr a'r Esboniwr mawr ac enwog hwnw. [I'w BARHAU. J

Advertising

Wrexham Board of Guardians.…

------Daeargryn yn Neheudir!…

Barnabus v. Bersham Colliery…

PONKEY.