Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

-. AP VYCHAN.

Cymdeithas Rhyddfrydwyr Ieu'ainc…

¡GOHEBIAETH.

News
Cite
Share

¡ GOHEBIAETH. GORMES TRETHDALWYR Y RHOS. At Olygydd Heraldy Rhos. SYR,-Carwn gael trethu ychydig ar eich gofod i son gatr bach am y cwestiwn amserol uchod. Mawr yw ein dyled i chwi, ac i John Evans, am alw sylw eich darllenwyr yn barhaus at gyflwr arswydus yr ystryd- oedd, &c, yn ein hardal. Ond hyd yn hyn nid yw pethau wedi gwelta un iot. Naturiol iawn, Syr, ydyw ceisio dyfalu a chael deall beth ydyw y rhesymau dros fod pethau yn cael eu gadael fel hyn yn barhaus. Ond credwn yn gydwybodol fod amser cyf- rif wedi dod, ac y bydd yn rhaid i rywun neu rywrai roi cyfrif o'u goruchwyliaeth. Diolchwn o galon i Mr John Evans am ei lythyr yn eich rhifyn diweddaf yn dangos yn eglur beth a delir mewn dinasoedd a threfi eraill yn y deyrnas, ac er ein syndod gwelwn ein bod yn talu bron lawn cymaint a rhai dinasoedd mawrion, ac hefyd mewn rhai engreifftiau yn talu mwy. Beth sydd gyda ni i ddangos am ein harian ? i-—Y ddinas (!) heb ei haner goleuo. 2-Pawb at y penglun mewn llaid yn y gauaf. 3-Yn yr haf pawb yn ddall gan lwch. A Ilu o bethau eraill ellid eu nodi. Yn bendifaddau mae yn rhaid cael ad-drefniant ar bethau ar unwaith. Mae y swm o 9/2, ac o bosibl rhagor y tro nesaf, yn beth gwrthun i'r eit'haf. Tybed nad oes yna wastraff arian yn rhyw le na ddylid ? Gallwn feddwl ar ymddygiad y botl sydd yn rheoli ein harian yn Ngwrecsam eu bod yn meddwl mai lot o blantos ydyw Treth- dalwyr y Rhos Gwnant a ni fel y mynont. Gwesgir ni gan ein salach. Ond waeth heb son am yr hyn fu, beth wneir yn y dyfodol sydd yn bwysig i ni yn awr. Llawer yw yr awgrymiadau a glywir yma a thraw yn mysg y trethdalwyr. Ac onid yw yn llawn bryd galw holl drethdalwyr yr ardal at eu gilydd a ffurfio Cymdeithas o Drethdalwyr yn Rhos, gan mai ar ein hys- gwyddau ni y mae'r baich yn disgyn drym- af? Onid rhesymol fyddai i gyfarfod a'n gilydd yn awr ac eilwaith i drafod ein budd- ianau, ac i ofalu fod ein cynrychiolwyr yn cario allan ein dymuniadau a'n gwrthdystiad pan fydd galw am hyny ar y gwahanol fyrddau cyhoeddus yn y He. Yn ol ein har- fer ni cheir cyfarfod yn ystod tymhor-was- anaeth ein cynrychiolwyr. Yn wir nid yw hyn yn fwy'o gam a neb nag a'r cynrychiolwyr eu hunain, nid ydynt yn derbyn unrhyw gynorthwy nac ysbrydiaeth gan eu cetnog- wyr, nac ychwaith yn cael eu galw i gyfrif. Credaf, Syr, y dylid symud i'r cyfeiriad hwn ar unwaith. Awgrymir gan eraill fod yn Hawn bryd cael Urban Powers er mwyh gWell pethau. Teimlwn fod yn rhaid i'r mater holl bwysig hwn gaellle amlycach yn mywyd cyhoeddus yr ardal y dyddiau hyn. Son am y Budget a'r House of Lords, yn wir Er mor bwysig ydyw y rhai hyn, yn sicr ddigon, mae Urban Powers i'r Rhos yn Ilawer pwysicach i ni. Cledwn y dylid ymladd etholiadau y Parish a'r District Councils ar y cwestiwn hwn. '7_ IOfnaf, Syr. na-i oes ^balth yr iach- awdwriaeth hwn drwy y rheng flaenaf o'r Parish Council preceaol ac mai y ;• ;h goieu eUj, ei wneyJ ydyw 0 yr House of Lords hwn yn Rhos, a rh i lie i Voting Wales y Progressives i ymddth yr-ia meddianu y wlad.-iivyf, 1 UN DAN Y GORMES

Cynghaws yn erbyn Pwyllgor…

Streic Wynnstay.

Y Ddyfrdwy, o'i Tharddiad…

Advertising

Wrexham Board of Guardians.…

------Daeargryn yn Neheudir!…

Barnabus v. Bersham Colliery…

PONKEY.