Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

1;4"1 w fl,-) tt 6 a 1,1 ,I…

Y SENEDD.

Mr Lloyd George fel landowner.

-RHOS''

Advertising

DARLITH YH BETHUL, PONKEY.

News
Cite
Share

DARLITH YH BETHUL, PONKEY. Daeth tyrfa fawr yn nghyd i Bethel, nos Lun diweddaf, i wrando ar y Parch R R Jones, Abergynolwyn, yn traddodi ei ddarlith boblogaidd ar "V Ddau Deil- iwr," Yn absenoldeb Dr E D Evans, Gwrecsam. yr hwn a anfonodd lythyr yn ymddiheuro am na fedrai fod yn bresenol ac yn amgau swm sylweddol tuag at yr amcan, cymerwyd y gadair gan y Parch R Jones, Capel Mawr, yr hwn mewn anerchiad bwrpasol a alwodd ar y darlith- ydd at ei waith. Pan gododd y dariithydd rhoddwyd iddo dderbyniad gwresog, ac amlwg ydoedd fod cryn ddisgwyliad wrtha, Wedi ychydig sylwadau agoriadol dywed- odd y darlithydd mai y cymeriad cyntaf o'r ddau y gwnai sylwi arno fyddai yr Englynydd dihafal TREBOR MAI. Ar fyr eiriau rhoddodd fywgrafKad o oes Trebor Mai, ac yna aeth ar ei union i ddifynu o'i weithiau. Cytyngodd eihuD yn gyntaf at ei gynyrchion yn y Mesurau Rhyddion, ac adroddodd lawer iawn o'i ganeuon byrion syml, y rhai fel y tystiai oeddynt yn dangos fod yr awdwr yn fedd- ianol ar wir athrylith bardd, yr oeddynt mor glir a'r ffynon risialaidd, ac mor ystwyth a rhediad yr aberig. Cafodd ei adroddiad o Mynd yn Hen ddylanwad neillduol ar y gynulleidfa, yr hon gyda'i tharawiadau ffraeth-bert a barai ysgafn- der ond YIfunyd nesaf a gyffroai y teim- ladau mwyaf dwys. Ond er mor dda ydoedd yn y Mesurau Rhyddion credai ef ei fod yn tra rhagori yn ei gynyrchioo Cynghaneddol. Yn y rhai hyn yr oedd wedi gadael cynysgaeth o farddoniaetb oreu y genedl. Nid oedd odid neb fel Trebor Mai am fedru crynhoi ei feddwl i lebychan. Gorweddai cryfder ei athrylith yn yr englyn, a phwy yn debyg iddo am fedru dweyd llawer yn y cylch cyfyng hwn ? Nid oedd y cynghaneddion yo rhwystr yn y byd iddo, canai mor naturiol ynddynt a byrlymiad y ffynon. Adrodd- odd gyfres faith o'i englyuion wedi eu dewis ar antur megis o'i waith, a rhyfedd y meddwl coeth ac aruchel a gynwysent oil. Yr oedd nodiadau y darlithydd ar- nynt yn wir eglurhaol ac yn ychwanegu yn fawr at ddyddordeb ei ddifyniadau. DEWI HAVESP. Hwn oedd yr ail gymeriad yi, ymdrin- iodd ag et. Dywedai nad oedd yn dy- muno sylwi ar fywyd Dewi, yr oedd fel llawer un arall o feibion athrylithgar Cymru y cyfnod hwn yn rhy agored i ryw bechod neillduol. Yr oedd yn Dewi Havesp, ebai y darlithydd, gyfuniad ardderchog o'r anhebgorion i wneyd bardd-arlunydd; meddai lygaid i weled anian, calin i deimlo, ac eofndra i roddi datganiad. Gwisgai ei feddyliau mewn cynghanedd mor ystwyth a helyg y dyff. ryn. Difynodd yn helaeth o weithiau Dewi yn neillduol ei englynion. Yr oedd un peth tarawiadol yn ngweithiau Trebor Mai a Dewi Havesp,—nid oedd y cyn- yrchion a gyfansoddwyd ganddynt ar gyfer cystadleuaeth yn haeddu eu gyffel- ybu a'r rhai a ganasent yn wirfoddol ac heb gymelliad mwy nag a gawsent gan yr awen ei hun. Adroddodd nifer o englynion I Dewi i ddangos mor drylwyr y deallai natur, ac mor gywir oedd ei bortread o honi, rhai o'r neillduolion yn y dosbarttf oedd ei eiddo i'r Milgi a'r Geinach, a'r Aderyn Du. Ysywaeth bu Dewi yn y carchar, ond er mor ddu oddi hi arno medrodd ganu yn y fan hono. Wedi dod 0"£ carchar y canodd "Cyffes y Medd- wyn," englynion nad oedd mo'i hafal yn yr iaith o ran dwysder teimlad ac edifeir- wch. Yr oedd yn y rhai hyn yn canu ya debyg i wnai awdwyr ysbrydoledig yn y Beibl dan deimlad dwfn o'u heuogrwydd. Anhawdd oedd credu na chafodd un fed- rai deimlo ei bechod mor ddwfn, ac a ymbiliodd mor angherddol am drugaredd, fel yr amlygir yn y llinellau hyn, faddeuant am ei holl wendid. Dywedai y darlithydd wrth derfynu ei fod yn rhyfeddu at bwyllgorau cyfarfod- ydd cystadleuol ac Eisteddfodau yn eio gwlad. yn medrupigo darnau i'w hadrodd o farddoniaeth oeddynt yn rhy tynych heb fod yn yr ail na'r trydydd dosbarth, tra yn medr pasio heibic emau mor dryloew a'r rhai hyn. Nid oedd llawer o'r pethau ddewisid ond sothach o'u cyferbynu a'r I rhai hyny, oblegid ynddynt ceid yr hyn oedd gyfoethocaf mewn meddwl ac iaith. Byddant byw tra bydd byw acenion swyn- 01 y Gymraeg. < Nis gallwn lai na thalu ieyrnged uchet i chwaeth y gynulleidfa hefyd, yr hon fed. rodd eistedd yn dawel ac amyneddgar am oddeutu dwy awr o amsr i wranda adroddiadau barddonol. Yr oedd yn profi, fel y dywedai y Cadeirydd fod ryw reddf naturiol yn y Cymro at farddon- iaeth. Vn sicr cafodd pawb oedd yno werth yr hyn dalasant, a chredwn y bydd darlith D'r fath yn foddion i godi chwaeth pobl ieuainc yr ardal at farddoniaeth eu gwlad, yr hon yn rhy. fynych a esgeulusir am sothach isel a rhad y wasg Seisneg. Cyflwynwyd diolchgarwch calonog j'r: Darlithydd ar gynygiad y Cadeirydd, a'r Parch E Isfryn Williams yn eilio ac i'r Cadeirydd ar gynygiad y Darlithydd a'r Parch W H Lewis, Johnstown yn eilio Elai yn elw i drysorfa y Capel at ddileu v ddyled.