Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

RHOS COMPENSATION CASES.

i Ruabon Education- Committee.

Advertising

t Y DDU WINY DDIAETH NEWYDD.

Young Liberal League.I

ADGOF HIRAETH

I Y Bdyfrdwy, o'i Tharddlad…

News
Cite
Share

Y Bdyfrdwy, o'i Tharddlad i'w Hymarllwysiad. ¡ [Gan DAVID ROBERTS, PUS Issa.] Ynnes?f deuwn at h o'r enw Caerlleon- neu Chester, a elwid gan y Rhufeiniaid yn Cestria neu Ceaster, oddiwrth Cpstrum, gwersyll milwraidd yr hwn a ymddengys oedd yn y lIe hwn cyn mynediad Agricoia i'r Vpgotland, yr hwn a'i gwnaeth yn brif sefylifan y llengau Rnufeinig. Y mae'r ddinas hon yn gorwedd yn Sir Caerlleon, ar Ian yr afon Ddyfrdwy. Yn adeg y Fren- hines Elizabeth Caer oedd y pnf borthladd o'r hwn yr elai Ilongau yn ol a blaen i'r Ivverddon ond fel y cynyddodd Liverpool, ar lan yr afon Mersey, fe gollodd Caer lawer ar ei thrafnidiaeth forawl. Cawn fod un o'r pontydd mwyaf ardderchog wedi ei hadeil- adu dros y Ddyfrdwy, ac nid oes i'r bont hon ond un bwa, yr hwn sydd yn 200 troedfedd o hyd, a'i huchder yn 40 troed- fedd pa un a orphenwyd ac a agorwyd ^yn mis Rhagfyr, 1833. Y mae y Caerau sydd yn awr yn am- gylchynu y ddinas yn arddangos y dull Rhu- feinaidd o adeiladu. Ymddengys fod Caer- lleon, yn amser Iorweith y Conffeswr, yn cynwys 431 o dai trethadwv, heblaw 56 oedd yn perthyn i'r Esgob. Bu y ddinas hon dros ddwy neu dair canrif yn sefyllfan y lluoedd a anfonid yn erbyn Cymru, a dioddefodd lawer iawn o daifrod rhwng y ddwy blaid pan oeddynt yn rhyfela yn erbyn eu gilydd. Dygodd Llewelyn ap Gruffydd ei luoedd at byrth y ddinas yn y flwyddyn 1255, a dinystriodd bob peth o'i hamgylch hi a'r tan ac a'r cleddyf. Pen- derfynodd Iorwerth y Cyntaf ar y llefel man i'r Tywysog Llewelyn i ddyfod i ym- ostwng iddo yn 1275, ond ni wnai y Cymro dewr hwn y fath beth ag ymostwng i Sais. Yr oedd gormod o'r gwaed Cymreig yn llifo trwy wythienau Llewelyn i ymostwng i Iorwerth, ac am na phlygai parhaodd y rhyfeloedd gwaedlyd dilynol. Yn ystod y Rhyfeloedd Cartrefol yn amser Siarl y Cyntaf goddefodd Caerlleon lawer gwarchead, gan wrthwynebu galluoedd- y Senedd am dros dair blynedd o amser, ac yn y diwedd rhoddodd i fyny ar amodau anrhydeddus ar y 3ydd o Chwefror, yn y flwyddyn 1645. 0 fewn dwy flynedd i hyny ymwelodd haint arswydus a'r ddinas, yr hwn a gymerodd ymaith dros ddwy fil o'r trigolion. Gwnaeth yr erchyllwaith hwn ddifrod mawr ar drigolion y ddinas, ac a'i gadawodd- bron yn anghyfanedd. GWell- hawyd ei phorthladd yn fawr iawn yn y blynyddocdd 1730, a 1750 tnvy dori llong WY garnlas hyd i Ie gerllawFint. Yn adeg teyrnasiad Man Waedlyd yr oedd Pabyddiaeth yn uchel ei phen yn yr Iwerddon, a Phrotestaniaeth yn gorfod di- oddef creulondeb mawr oddiar law y Bab- aeth. Yr adeg hon fe anfonwyd cenad o'r Iwerddon r Lundain at y Frenhines Mari, I yn deisyf arni roddi gwarant fel os na throai y Protestaniaid a chofleidio Pabyddiaeth y Ueddid hwy a'r cleddyf, ac fe roddodd, y I Frenhines ei sel yn ol y cais. Ar hyn -fe drodd y cenad Pabaidd yn ol tua'r Iwerddon gyda'i neges greulon, ac yr oedd yn rhaid iddo aros noswaith neu ddwy yn Nghaer- t lleon am y llong i groesi i'r Iwerddon. Cafodd letty gyda christionogion, ond nid oedd ef yn gwybod hyn. Ryw fodd neu gilydd daeth yn wybyddus i'w lettywraig beth oedd ei neges, ac fe fu y wraig mor ffortunus a llwyddo i gael ei warant pan aeth ef allan o'r ty, ac fe'i llosgodd, gan roddi papur tebyg o ran maint yn ei le. Pan gychwynodd y llong aeth y gwr yn ei flaen yn llawen, a phan gyrhaeddodd aeth ar ei gy union at benaeth y Babaeth.. Wedi agoryd y llythyr nid oedd y warant yno, ac nis gaUai y cenad ddyfalu beth a ddaeth o honi. Penderfynwyd myned yn ol drachefn er fod myned yn ot a blaen o'r Iwerddon i Lun- dain y dyddiau hyny yn waith hir oblegid fod y cyfleusderau teithiol mor araf. Ond cyn iddo gyrhaedd Llundain bu farw y Frenhines, ac felly ofer fu ei siwrne. Fe wnaeth y wraig o Gaerlleongawr gymwynas fawr a christionogion yr Iwerddon wrth losgi y death warrant. [I'w BARHAU ]

Tysteb Cenedlaethol i Mr Lloyd…

Advertising

Dilating Rum at Wrexham.

[No title]

;. i i The County Council…

Ruabon County School.

---___-Ruabon Old-age Pensions.