Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

-----------AGORIAD Y SENEDD.

Advertising

NODION.

wrpubaUe "a?tr>fptt6au.

CYNGHOR PLWYF RHOS.i

Cynghor yr Eglwysi Rhyddion,…

í ! RHOS.

News
Cite
Share

í RHOS. I Nos Fercher nesaf bydd Cymdeith- as Gorawl Unedig Bethlehem yn rhoddi datganiado" Samson" (Handel). Dyma y pumed cyfanwaith iddynt roddi per- fformiad o hoao. Cofus gan ein darllen- wyr am y cyngherdd uwchraddol gafwyd y llynedd, ac yn ol pob argoel yn awr bydd un nos Fercher nesaf yn sicr o fod yn ogystal. Mae'r Cor wedi meistroli eu rhanau yr un mor drwyadl, a gellir dweyd am yr unawdwyr eu dod o'r rheng flaenaf yn y byd cyngherddol. Afraid yw canmol peth da, a gwna pawb yn ddoeth i bwrcasu tocynau ar unwaith gan ei bod eisioes yn gwerthu yn rhagorol. CYMDEITHAS BETHLEHEM A SALEM.— Cyfarfyddodd aelodau yr uchod nos Sad- wrn diweddaf i wrando anerchiad gan y > Parch J P Roberts, Caergwrle, ar Cys- ondeb Natur a Datguddiad." Lly- wyddwyd gan Mr Wm Edwards. Prof- odd yr anerchiad yn un hynod ddyddorol, gan ei bod yn ddiau yn ymwneyd a phwnc oedd yn newydd i lawer o'r rhai a'i gwrandawerit. Siaradwyd mewn modd canmoliaethus am dani ar y diwedd gan y Mri Joseph Green, John Parry, John Roberts, James Edwards, a'r Llywydd. CYNGHERDD.-Mewn cysylltiad a Band of Hope y Wesleyaid cynhatiwyd cyng- herdd rhagorol yn eu haddoldy yn John- son street, nos Fercher diweddaf, pryd yr oedd tyrfa fawr wedi ymgynull. Arwein- iwyd y gweithrediadau gan y Parch W Price. Y plant gymerai y rhan fwyat blaen- liaw ynddo a chyfranent gydganau, unawdau, adroddiadau, &c. Nid y peth mwyaf annyddorot oedd y ddadl gyiran- } wyd yn ystod y cyfarfod gan Mrs David ) Jones, Mrs Jdhnson, a'r Misses N Price, Hannah J Davies, a Zephorah Davies, t y rhai oeddynt wedi ymwisgo a'r ddull y gwahanol gymeriadau a gynrychiolent. i, Liongyfarchodd y Parch T N Robertsf Gweinidog y gylchdaith, y plant ar y modd rhagorol yr oeddynt wedi cyflawni eu gwaeth. Mrs W Price oedd yn gyfrifot am eu diwylliant, a llefara eu deheurwydd yn uchel am ei gallu neillduol gyda'r plant. Cyfeiliwyd gan Mr Ben Jones. i CVFARFOD DIRWESTOL.-Nos Lun di- weddaf, o dan nawdd Cymdeithas Ddir- s westol y Merched, cynhaliwyd cyfarfod hynod Iwyddianus yn Y sgoldyy Capel Mawr. Llyvvyddwyd gan y Parch R Jones. Y prif siaradwr oedd y Parch J Glyn Davies*. Ysgrifenydd Undeb Dir- westol Gogledd Cymru, yr hwn a dradd- y ododd anerchiad gref y ymwneyd a'r achos dirv^estol yn ei wahanol agweddau, j Cynygiwyd dlolchgarwch iddo ar y' diw- edd gan Mrs W R Hughes, Trade Hall, ac eiliwyd gan Mrs R Jones, Mona Gardens.

. PONKEY.

[No title]