Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

-----------AGORIAD Y SENEDD.

Advertising

NODION.

wrpubaUe "a?tr>fptt6au.

CYNGHOR PLWYF RHOS.i

News
Cite
Share

CYNGHOR PLWYF RHOS. i Cynhaliwyd cyfarfod o'r uchod yn y Public Hall, nos Iau, Mr W M Jones yn y Gadair, a'r Cynghorwyr canlynol yn .bresenol. Iri Richard Jones, Samuel Pritchard, D L Price, C Morgan, Wm Garner, Ken Wynne, Tom Roberts, Ted Jones, Samuel Roberts, a'r Clerc Mr J Ttevor Jones. I CARTHION. Darllenwyd llythyr gan Mr P Williams, Aberderfyn, yn gofyn pabam na fedrai ef I gael y carthffosydd at ei dy. Yr oedd y rhai hyn wedi eu tori at y ty nesaf i'w le ef. Penderfynwyd i anfon at Mr Bury yn gofyn y rheswm paham nad oedd y carth- ffosydd wedi eu cysylltu a thy Mr Williams. I CWESTIWN YR ALLOTMENTS. Beth amser yn ol anfonodd y Clerc at y Cynghor Sirol mewn perthynas a thir i Fan Ddaliadau yn Rhos. Yn ateb ys- grifenodd Clerc y Cynghor Sirol yn hys- bysu fod gan y Cynghor eu breichiau yn llawn ar hyn 0 bryd i ddarparu Man Ddaliadau mewn gwahanol ranau o'r Sir, ond yr oeddynt yn dwyn yn mlaen weith- rediadau er sicrhau tir yn Rhos, a gohebent a hwy gyda golwg ar gael y tir a fwriada y Cynghor ei brynu. Dywedai Mr Ted Jones mai cyfeirio yr oedd yr ohebiaeth a ddarllenwyd at y Rhos (Cae Enion), ond mai y wybodaeth a geisient oedd yn nghylch yi allotments yn Johnstown. Sylwodd fod dwy appel wedi eu gwneyd at y Cynghor Sirol am Fan Ddaliadau o'r Rhos, ond fod un dyn am dynu ei appel yn ol os na roddir y 30 aer iddo. Fodd bynag yr oedd y Cynghor Sirol wedi penderfynu i ddau ddyn gael 15 o aceri bob un. Gan fod amryw geisiadau am allotments o Johnstown penderfynwyd i ofyn i'r Cynglior Sirol am hysbysrwydd parthed tir i'r cyfryw yn Johnstown. DIM LAMP. Y Clerc, yn rhoddi rheswm paham na roddwyd lamp i fyny yn ymyl yr Aber- derfyn Halte, a ddywedodd gan y byddai y gost 0 osod pibellau i lawr oddiwrth y lamp sydd yn Aberderfyn at yr Halte yn un fawr, a chan fod y dreth goleuo eisoes yn uchel iawn, gobiriwyd y gwaith am y presenoL I DRAFOD Y TRETHI. Anfonwyd llythyr canlynol iY Cyng- hor gan Mr E 9 Price, Ysgrifenydd y Young Liberal League:— Appwyntiodd Cymdeithas Rhydd- frydwyr ieuainc y Rhos saith o gyn- rychiolwyr i gyd-ymgynghori a ehyii- rychiolwyr o'r Cynghor Plwyfol a'r Gymdeithas Ryddfryaol er cael y modd- ion goru. i. brotestio yn erbyn swm eithriadol uchel y trethi am yr haner blwyddyn presenol, ac i benderfynu ar ryw gwrs pellach a gymerir. Byddwch cystal felly a dewis cynrychiolwyr i gyfarfod yn Ystafell y Public Hall nos Iau am 9 o'r gloch/' Gafynodd Mr Ted Jones a oedd yn wy- byddus i unrhvw un o'r Cynghor a anfon- wyd neges gvffelyb at Gymdeithas Lleol y Ceidwadwyr. Nid oedd yn meddwl y dylent gael eu gadael allan raewa ym- drafodaeth gvfeillgar ar y trethi. Yr oeddynt yn rhv dueddol yn Rhos i ed- rych ar fateujn oedd yn gwbl tu allan i fifwestiynau politicaidd o safbwynt plaid. Yr oedd y trethi yn cyffwrdd pawb. Yr oedd hefyd yn meddwl gan fod yr boli Gynghor yn rheoli y trethi lleol y dylai holl aelodau y Cynghc gjydeistedd yn y cyfarfod a awrymir yn Hythvr Mr Price. Ar y diwedd penderfynwyd fod yr holl Gynghor yn cyfarfod cynrychiolwyr y Young Liberal League. APPWYNTIAD AGOSHAOL. Cyfeiriodd Mr Sim Pritchard at yr ap- pwyntiad wneir yn fuan o ofalwr am y gwaith Outfall yn Gyfelia. Dywedodd yn ol-pob tebygolrwydd mai dyn o Wrecsam a a appwyntir, ond mai y Rhos fyddai yn rhaid talu. Yr oedd yn awgrymu iddynt ysgrifenu at y Cynghor Dosbarth yn nghylch y mater, gan ofyn ar fod dyn o'r Rhos yn I cael ei appwyntio. Cynygiodd Mr C Morgan eu bod yn ys- grifenu at y Cynghor Dosbarth yn gofyn ar tod yr appwyntiad o ofalwr dros yr Outfall Newydd yn cael ei adael yn nwylaw Pwyll- gor Plwyfol y Rhos. Cytunwyd a hyn, gyda'r ychwanegiad fod y Cynghor Dosbarth, yn niffyg caniatau hyn, yn argymell appwyntiad dyn o'r Rhos i gyflawni'r gwaith. YR ETHOLIAD AGOSHAOL. Appwyntiwyd y rhai canlynol fel Lly- wyddion yn y cyrddau a gynhelir yn mhob Ward mewn cysylltiad ag appwyntiad aelod- au newyddion ar y Cynghor Plwyfol am y tair mlynedd nesaf:— I Wardy Ward Mr Jos Stephen Jones, Aberderfyn. « Ward y Rhos Mr Joseph Rogers, High Street, Rhos. Ward y Pant: Mr John Evans, Victoria Street Rhos.

Cynghor yr Eglwysi Rhyddion,…

í ! RHOS.

. PONKEY.

[No title]