Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

""'. RHOS

CYNGHOR PLWYF RHOS.

Cymdeithas Rhyddfrddwyr leuainc…

|PONKEY.

I Cyfarfod Cystadleuol yn…

News
Cite
Share

Cyfarfod Cystadleuol yn Ruabon. Nos Fercher, gyda'r amcan o leihau y ddyled sydd yn, aros ar dir y Capel New- ydd, cynhaliwyd prawf gyngherdd o dan nawdd Methodistiaid Calfinaidd Ruabon yn Ysgoldy y Wesleyaid, yr hon a rodd- wyd yn rhad at yr amgytchiad gan y y cyfeillion Wesleyaidd. Cafwyd cynulliad I da, a chystadleuaethau penigamp. Yr oedd y rhaglen yn un ddyddorol a deniad- of, a bu yn foddion i dynu i'r maes rai o dalentau cerddorol disglaeriaf y cylch- oedd. yn enwedig o't Rhos, Cefn a Ruar bon. Hefyd yn nghystadleuaeth yr adrodd gwnaeth dan o'r cystadleuwyr waith rhagorol. Y Llywydd penodedig ydoedd Mr R A Jones, Ruabon, ond oherwydd amgylch- iadau methodd a chyrhaedd hyd haner y cyfarfod, ond llanwyd ei le yn ddeheuig a meistrolgar gan Mrs Jones, ( Mr G W Hughes, G. & L., Johnstown, glorianai y cerddorion, a Mr Wm Parry, Acrefair yn cael ei gynorthwyo gan y Parch D R Jones yr adroddwyr. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Miss Sallie Jones, Cefn, a Mr Garfield Davies, Rua- bon. Dyfarnwyd y rhai canlynol yn fuddug- wyr :— Unawd Soprano neu Tenor, iaf Mr E W Bellis, Rhos 2il, Mr J Hartley Davies, Rhos. Unawd Contralto neu Baritone, iaf, Mr Ll Davies, Cefn; 2il Mr Robert Isaac Jones, Rhos. Pedwarawd, Parti Mr R Isaac Jones, Rhos. Adroddiad, iaf, Miss Blanch Bowen, Ruabon 2il Mr Sam Mitchell, Cefn. Wedi i'r Parch D R Jones gynnyg y diolchiadau arferol, yn cael ei eilio gan Mr Dan Taylor, terfynwyd cyngherdd llwyddianus drwy i Mr R Isaac Jones ganu "Hen Wlad fy Nhadau y gynull- eidfa yn uno ar y cydgan. J. T. -r

Agor Cyfnewidfeydd Llafur.

Advertising