Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

Wedi Marw ar y Ffordd.

j Wrotpuhau,'

WEDI'R FRWYDR.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

.LI Wedi yr etholiadau mae amryw o brif ddynion y Llywodraeth yn ceisio ychydig seibiant wedi eu llafur caled, cyn dechreu ar waith tymhor arall. Aeth Mr Asquith i Dde Ffrainc, a dilynwyd ef yn union wedyo gan Mr Lloyd George, a thrachefn gan Mr John Burns yr hwn aeth i Paris. Mae rhai yn enwedig y Toriaid, yn ceisio darllen am- canion i'r symudiadau hyn, ond dyfaliad yw y cwbl, a'r unig reswm yn ddiau ydyw cym- eryd egwyl yr oedd arnynt ei Iwyr angen. Y cwestiwn ofynir fyncbaf yn,, yr argyfwng rhwng diwedd yr etholiad ac agoriad y Ty ydyw, pa gamrau gymerir gan Mr Asquith? A fydd iddo gaiio allan ei fygythiad yn yr Albert Hall rai wythnosau yn ol i beidio eto ymgymeryd a gweinyddiad y wlad hyd nes y bydd gallu'r Arglwyddi wedi ei ddiddymu ? Neu-ynte a fydd iddo ddwyn yn mlaen y Gyllideb fel busnes cyntaf y Ty wedi An- erchiad y Brenin? Mae'r newyddiaduron Toriaidd, yn neillduol y Times, yn garedig geisio'i gyfarwyddo, trwy ddweyd mae y Gyllideb ddylid ei dwyn yn mlaen gyntaf, ac wedi i hwnw gael ei orphen, ceisio dod ryw gyfaddawd ate arweinwyr Toriaidd par- thed diwygiad Ty'r Arglwyddi! Ni fedrant gredu am funyd y bydd iddo ddefnyddio y mwyafrif sydd ganddo i ymyryd a gallu yr Arglwyddi 1 O'r ochr arall ni fvn eraill son am ddod a dim yn mlaen heb yn gyntaf wneyd trefn ar y Ty sydd wedi ymyryd ya gwbl ddiachos a hawliau y Gwerinwyr, nid ydynt hyd yn oed am gyfarfod gofynion y wlad cyn symud y rhwystr hwn o ffordd mesurau gwerinol. Yn nghanOl yr holl ddy. falu y mae un sydd yn cadw'i fwriad iddo'i hun, a phan ddel yr adeg briodol ceir gwel- ad fod Mr Asquith yn ddigon o ddyn i'r argyfwng, y caria i fuddugoliaeth yr hyn fydd oreu ar gyfer y werin bobl sydd wedi gosod eu hynaddiriedaeth ynddo.

Y Radd o Dr. 1 Gymraes.

[No title]