Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

Wedi Marw ar y Ffordd.

j Wrotpuhau,'

WEDI'R FRWYDR.

[No title]

News
Cite
Share

f Un peth rhagorol yn i-iglyn a'r etbol- iadau Cymreig ydyw iddynt gael eu hen- ill trwy rym y werin bobl yn unig. Nid 1 yw nerth Rhyddfrydiaeth Gymreig yn dibynu cymaint ar drefniadaeth peirianol, nac ychwaith ar faint ei chyliid, na'i d y- lanwad cymdeitbasol, oDd yn nerth eg- wyddor y genedl ei hun. Mae Rhydd- frydiaeth megis pe yn rhan o'i cbrefydd, ac yn cynrychioli y dyheadau dyfnaf yn ei natur. Yn y uaw etboliad cyfFredinol sydd wedi eymeryd lie er 1868, mae Cymru wedi dychwelyd ar gyfartaledd j bump ar hugain o seddau allan o'r deg ar hugain. Dangosa hyn deyrngarwch digyffelyb i Ryddfrydiaeth. Mae'r can- lyniadau wedi pwysleisio yn groywach nag erioed yr angenrheidrwydd dros fod Cymru yn cael ryw fesur mwy o reoleidd- iad nag a feddiana yn awr. Dylai pob etholaeth ddwyn hyn yn eglur gerbron eu cynrychiolydd Rhyddfrydol. Credwn mai neges fawr yr etholiad i'r Blaid Gym- reig ydyw, ar iddynt ymuno ar unwaith yn gorph cydnerth i weithio dros hyn. Mae Cymru eto wedi dangos ei bod ar y blaen o ranei barn wleidyddol bron i un rhan arall or deyrnas, ac anghyfiawnder )'r mwyaf ydyw ei chadw heb feddu y mesurau hyny y mae wedi llwyr addfedu iddynt. Dyna Fesur Dadgysylltiad, bu Cymru wrth borth Rhyddfrydiaeth yn curo am hwn yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Ar faterion trwyddedol hefyd y mae'n barod ers llawer blwyddyn am Local Veto, a phaham y rhaid iddi aros hyd nes bydd barn ansefydlog Lloegr wedi addfedu ar gyfer hyn ? Mae'r eth- oliad ddiweddaf mewn modd digamsyniol yn galw ar i'r cynrychiolwyr Cymreig anghofio pob uchelgais persoaol, gan ym- uno i ymladd o blaid materian hollol Gymreig, a chreu dipyn mwy 0 asgwrn cefn annibyniaeth ynddynt nag maent wedi ei feddianu cyn hyn. Mae genym nifer o ddynion newydd wedi eu hych- wanegu at y blaid trwy yr etholiad hon, gobeithio y bydd i'r rhai hyn gynyrchu gwaed newydd yn yr hen aelodau, a'u symbylu i fwy o ddiwydrwydd o blaid yr hyn y mae Cymru wedi bod yn eu ceisio mor hir.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Y Radd o Dr. 1 Gymraes.

[No title]