Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

Advertising

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

Yr un noson yn Ngwrecsam, yn mhlarftl Mr Clement Edwards, yr oedd y Drill Hall dan sang, a chanoedd ychwaneg yn methu ymwthio i mewn. Oherwydd y gwaith mawr a wnaed gan yr ymgeisydd b,'i gefnogwyr yn y dref, yr oedd y lie yn ulw-boeth. Disgwylid i anerch y dorf Syr S T Evans, y Cyfreithiwr CyffredinoL Pan wnaeth ei ymddangosiad cododd y dorf anferth fel UD, ac am rai munydati methwyd mynd yn mlaen, Ail-weithred- wyd hyn pan gododd i siarad. Y mae Mr Evans yn ddyn 0 olygiad allanol tarawiadol, tal o gorpholaeth, a lluniaidd yr olwg arno. Ond nid oedd hyn yo ddim pan ddechreuodd siarad. Agorodd gyda chynllun i'w anerchiad, ac yn raddol gweithiodd we o resymeg a dadleuaeth mor glos nes cael pwy bynaer oedd wrth- wynebol iddo i'w rwydau. Cyfyngodd ei hun i waith yr Arglwyddi, at ddarpariad- au y Gyllideb, ac i ddadrys twyll Diffyn- dolliaeth. Yr oedd ei ymresymiad yn anwrthwynebol, ac yn argyhoeddiadol i'r eithaf. Posibl nad oedd llawer o hyawdl- edd ynddi, ond hoeliai ei wrandawyr at yr hyn oedd ganddo gyda grym a nerth ei ymresymiad, a thaflai ffrwd o oleunt argyhoeddiad ar ei hoil g westiynau. Difynai gyfeiriadau Ysgrytbyrol cyfaddas yn fynych, a phob un 0 bonynt mewn Cymraeg croyw, er boddhad mawr i'r dorf. Yn ystod yr holl etholiad dyma yn sicr un o'r areithiau mwyaf argyhoedd- iadol a wrandawsom. Yn fan tell ar yr oil gwisgid ei sylwadau yn yr iaith fwy- af dillyn, ei eiriau yn ddewisedig, a'i frawddegau yn gaboledig. Yn wir yr oedd yn wledd feddyliol i wrando arno. Er mor dda oedd gweddill y siaradwyr ymgollai eu geiriau yn holiol yn yr ym- gais ardderchog hon. Tybiem wedi ei gwrando, ac wedi teimlo y brwdaniaeth trydanol oedd yn y cyfarfod, nad oedd dim i atal rhoddi Mr Clement Edwards ar ben uwchaf y pol. Ond, ond-

[No title]

.lahwfpudcm.

YR ETHOLIAD.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]