Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

-Wrorpubau.

] I.NODION ETHOLIADOL.

DWYRAIN DINBYCH.

Y BWRDEISDREFI.

.RHOS.

..,' AM LLOYD GEORGE,

News
Cite
Share

AM LLOYD GEORGE, Arwr yr ethoiiad hon yn ddiau ydyw y gvvr o Griccieth. Trwy'r wlad i gyd edrychi'r arno fel Saul mab Cis o'i ys- gwyddau i fyny yn uwch na neb at all sydd yn brwydro. Dilynir ei hanes yn ddydd- iol gan y miloedd, ac mai pob gair a lefara yn enllyn i'w ganlynwyr. Bydd y tameidiau canlynol o ddyddordeb DILORNI A GHANMOL. Mr Rufus Isaacs yn Bangor, a ddywed- odd mae Mr Lloyd George oedd y dyn gaffai ei ddilorni fwyaf trwy yr holl wlad. Yr oedd yn hynod iawn sut y gallai pobl anghofio mor fuan eu bod ychydig amser ynol yn canmol y Canghellydd am rwystro y streic fygythiedig ar y rheil- ffyrdd. Eto yr un dyn ydoedd ac yr oedd ganddo yr un penderfyniad sefydlog i weithio er lies ei wlad a phan yr ydoedd yn Llywydd y Bwrdd Masnach (cym). LLONGYFARCHIADAU 0 SPAEN. Cafodd Mr Lloyd George delegram oddiwrth Glwb Gwerinol Spaen yr wyth- nos ddiweddaf, yn mynegu fod y pleidiau Gwerinol a Radicalaidd yn anfon dy- muniadau da i Ganghellydd y Trysorlys, creawdwr Cyllideb er lies cymdeithasol- Cyllideb sydd yn nodi allan y ewrs priodol i waredu yr hit ddynol," Ychwanegir eu bod yn ystyried Mr Lloyd George fel noddwr y bydysawd." STORI R J CAMPBELL. Ar derfyn ei bregeth Calan yn y City Temple, adroddodd y Parch R J Camp- bell, hanesyn o berthynas i Ganghellydd y Trysorlys a'i Gyllideb. Digwyddais," meddai, fod yn un o gwmni bychan yn bwyta gyda Mr Lloyd George ychydig amser yn of, cyn iddo gyflwyno ei Gyllid* eb i'r Senedd. Trodd yr ymddiddan, rywsut, at beth tuasem yn ei wneuthur pe yn gwybod nad oedd genym bnd dau fis i fyw. Pan ofynwyd i Mr Lloyd George, dywedodd, 'Deuwn a fy Nghyllideb i mewn a gweithiwn hi, yn miaen nes y deuai yr amser penodedig i ymadael, ac fe adawn y byd gyda chydwybod daweL" MYND TR AMERICA. Y mae Mr Lloyd George wedi derbyn y gwahoddiad a gafodd gan Gymru Amer- ica i ymweled a'r Unol Daiaethau yn ystod yr haf nesaf, a disgwylir y bydd i Syr S T Evans, Mabon, Mr William Jones, ac Aelodau Seneddol eraill fyned gydag ef. Hysbysir y hydd yr Arlywydd Taft yn eu cyfarfod yn Scranton. Yn ei wahoddiad i'r Canghellydd dywed Mr R A Phillips, Llywydd y Gymdeithas Gymreig Ar ran canoedd o filoedd o Gymry yr America, yr ydym yn galonog yn eich gwahodd i ymweled a'r wlad fawr hon yr hat nesaf. Yr ydym yn addaw i chwi daith fuddugoliaethus, yr hon a'ch dug at gatonau miloedd o'ch edmygwyr, ac a estyna i chwithau orphwysdra mawr ^i angen." Ysgrifena Llywydd Cymdeithas Cymro- dorion Pittsburg Mae Americanwyr meddylgar yn canfod fod i'r Gyllideb sydd yn agor ar gyfnod newydd. a chyda'r hon y mae eich enw wedi, ei gysylltu yo annatodol, gymhwysiad pellach nag un Prydeinig, ac y cynwysa egwyddorioo fyddyn y diweddyn thwym o fyned yn mhell i ddadrys y cwestiynau cymdeithas- 01 sy'n awr yn drysu dynoliaeth gyffred- inol trwy'r byd." PWYTH ELLIS GRIFFITH, Clywir ami bwyth o enau'r Aelod troS Fon yn ystod cyrddau'r etholiad, ond yr un yn gryfach i'r byw na hon :—Yr oedd ArglWydd Powys wedi dweyd am Lloyd George, pe buasai fyw yn amser y Fren- hines Elizabeth, y buasai ei ben ar y block. A dyna sylw miniog ddywedodd Ellis Griffith, 11 Well, at any rate, they would have been able to distinguish the I head' from- the' block. There was a lot of difference between a head block" and a block head.' TYSTIOLAETH JOHN DILLON. Ysgrifenodd un o Wyddelod blaenllaw Bangor at Mr John Dillon, i ofyn ei gynghor pa beth a ddylent hwy fel Gwyddelod ei wneyd. yn Mwrdeisdrefi Caernarfon a dyna fel yr atebodd Does i'r Iwerddon well cyfaill yn Nhy'r Cyffredin na'r dyn y meddyliwch gymaint ohono—Lloyd George. Y mae tuhwynt i'm dirnadaeth i sut y gall un- rhyw ddyn a dyferyn o waed Gwyddelig yn ei wythenau bleidleisio i Dori. Rhowch eich holl bleidleisiau i'r dyn a fu bob amser yn ymladdwr am Ymreolaeth." CYMRY DYFNEINT. Bu Lloyd George yn Plymouth ddydd Sadwrn diweddaf, a chyflwynwyd iddo anerchiad Gymraeg o groeso gan Gymry Swydd Devon. Yn ateb dywedodd :— "I Gymry yr wyf yn ddyledus am fy mhobpeth. Yr wyf yn Gymro o flaen dim. Y mae'r goron o ddirmyg a gwawd y mynodd rhai ei gosod ar fy mhen,—y mae hi yno oblegid fy mod yn Gymro. Yr wyf yn gorfoleddu yn hyn. Cefais y cariadsydd ynof at y bobl oddi- wrth fy heriafiaid, Bu Gtveriniaeth yn ein gwaed ni am ddeuddeg canrif, a chymer yn hwy na deuddeg canrif i'w hymlid allan. Lie bynnag y deuaf ar draws Cymry, yn y wlad hon a gwledydd eraill, yr wyf yn eu cael yn ymladd yn bybyr dros ryddid. 'Does dim yn fwy o galondid i mi yn y Frwydr Fawr hon na. chael fod fy nghydwladwyr gyda mi."