Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

Capel, y Wesleyaid.

(Cymdeithas Lenyddol Penuel.

+ ; ~ - fCymdoithati Bethlehem…

Cymdeithasau Mynydd Seion…

! . ISwper Hen Lanciau.

. RHOS

Advertising

RHOS

GOHEBIAETH.

News
Cite
Share

GOHEBIAETH. Y RHOS A'R ETHOLIAD. At Olygydd Heraldy Rhos. SYR,-Teimlaf,yn,dra diolchgar i chwi os goddefwch ychydig o le i'r mater yma. Fel un sydd yn gweithio chwe' diwrnod allan o saith yn y gymydogaeth yr wyf yn gweled y Toriaid yn brysur wrthi yn canaasstO o dy i dy, ac maent wrthi yn Hechwraidd yn gweithio, a gwir yw y ddihareb hono Yn It mhob Uafur y mae elw." Mi fydd y Tori- aid yn cael elw wrth dynnu mwyafrif ein Haelod presenol i lawr: Wna hi mo'r tro i gysgu, a chredu fod y Rhos yn allright, a cholli yn y mwyafrif. Yr wyf yn synnu at Gymdeithas Ryddfrydol y Rhos yn cy- meryd pethau yn rhy ganiataol Yn wir nid w'yf yn gweled ein Haelod, Mr Hemmerde fel pe bae am gymeryd sylw o honom, ond dod yma ar yr unfed awr ar ddeg i geisio ein votes. Ac os yw yn medd- I wl cymeryd ei gamrau ar ol ein Harwr o Gaernarfon i fyned i roddi cynorthwy i eraill mae yn rhaid iddo gofio fod Mr D Lloyd I George wedi bod yn ei etholaeth yn rhoddi cychwyn iddynt, a rhoi pawb ar ei waith yn canvassio a gwneud eu goreu. Mae hefyd j yn gofalu am gael cyfarfodydd, a dynion 1 ardderchog i'w helpu- Rwy'n sicr fod mwy o angen am wasanaeth Mr Lloyd George i j fyny ag i lawr y wlad na neb aelod arall. I Yr wyf yn credu, Mr Gol, y dylai rywun < alw sylw ein Haelod at hyn;—rhaid i ni 4 I ond gafael mewn Papur Newydd a gwelwn fod cyfarfodydd yn mhob etholaeth ond Dwyraip Dinbych, a'r Aelod dros y rhan- barth yn rhoddi ei amser a'i dalent i eraill. Nid yw Clement Edwards, J Herbert Lewis, J Herbert Roberts, Wm Jones, Ellis Davies, I ac eraill, yn esgeuluso eu hetholaeth i helpu eraill; ac os byddant yn myned maent yn gofaly am subsitute Deffrowch ati, a chofiwch fod cannoedd yn y rhanbarth yma heb eu goleuo ar wa. hanol bynciau. Ar adeg etholiad y tyddwn yn cael ychydig o hwyl a goleuni ar faterion poiiticaidd, ond ymddengys ein bod y tro hwn i. gael-ein hanwybyddu, trwy ryw esgus o helpu eraill. Os yw ein Haelod ni yn methu bod yn ei etholaeth, carem gael clywed gwyr fel Mri Wm Jones, Ellis J Griffith, Herbert Lewis, ac yn enwedig Mr Spencer Leigh Hughes (Sub Rosa), feallai y byddai yn gynoithwy i'r gweiniaid rhag gwneud fel un gwr ieuainc y clywais am dano yn y lofa yr wythnos ddiweddaf. Dy- wedai hwn fod ganddo bleidlais y tro hwo a'i fod am ei rhoddi i'r Tariff Reformer er rhoddi prawf ar yr hyn fedrant hwy ei wneyd.-— Ydwyf, I RHYDDFRYDWR.

' Cymdeithas y Ford Gron.

"Un o Breswylwyr Ty yr Arglwvdd."

BARDDONIAETH.

"Un o Breswylwyr Ty yr Arglwvdd."