Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
l¡jMO;¡; vJ"fI,4Tr I CHOOSE YOUR I OVERCOAT 5 WITH CARE. | On account of the rough wear it is l bound to be subjected to, your t Overcoat should be selected with | more than usual care. It must be j; durable both as regards material and j workmanship—durable enough to withstand the ravages of the weath- ( er-and what is perhaps more im- portant still, it must be warm and comfortable. You can ensure get- ting the right article by purchasing one ot our famous 25 Overcoats. I Ask to see one. I THOMAS and SON, Hope Street, WREXHAM.
Capel, y Wesleyaid.
Capel, y Wesleyaid. Cynhaliwyd Watch Service yn, Nghapel y Wesleyaid Cymreig Nos Calan. Daeth cynulliad rhagorol yn nghyd, a chafwyd gwaganaetb hynod ddwys.
(Cymdeithas Lenyddol Penuel.
(Cymdeithas Lenyddol Penuel. !Nos Calan cynullodd aelodau yr uchod -In Ysgoldy Penuel i gyfranogi o swper ar- jiderchog oedd wedi ei ddarparu. Gwasan- .^ethwyd wrth y byrddau gan y Meistresi JEmma Davies H Rowley, M J Luke, Jenny 'Thomas, Amy Owens, Miss M E Davies, .yn cael eu cynorthwyo gan Misses H Thomas, C Jones, H E Hughes, a F Jones. fSfoteddodd dros 100 wrth y byrddau, a chafwyd gwledd ardderchog. Ar ol swper cynhaliwyd cyfarfod amryw- Ictethol. Cafwyd unawdau gan Mr John Rogers a Miss H E Hughes; dadleuon, Mr M Owen a'i Barti, Misses J Thomas a I H E Hughes adroddiadau, Masters Tom jglHs Jones, T lorwerth Thomas, a Miss I Jessie Roberts; cystadleuaeth unawd i fclant, pedwar yn ymgeisio, Louisa Mile yn £ ttddugol. Lywyddwyd yn hynod ddoniol gatt Mr Wm Garner, Halt street. Beirniad. 4vyd y canu gan Mr Watkin W Williams, Ponkey, a chyfeiliwyd gan Miss Annie Rogers* Terfynwyd cyfarfod rhagorol ar ^ynygiad o ddiolchgarWch gan Mr Saml Rowley, a Mr R T Ellis yn eilio.
+ ; ~ - fCymdoithati Bethlehem…
+ fCymdoithati Bethlehem a Salem. Daeth oddeutu cant o aelodau a ohyfeill- Jon y Gymdeithas uchod at eu giiydd Nos ,Calan ddiweddaf, i gyfranogi o Swper a ,4darparwyd ar eu cyfer gan rai o chwior- ,ydd y ddwy eglwys. Haedda y merched y ganmoliaeth uwchaf am y modd deheuig y cyflawnasant eu dylcdswyddau, er gwneuthur yr amgylchiad yn llwyddianus. iGwasanaethwyd gan y boneddigesau can- Hyaol Y Meistresi J D Edwards, Hall Street: J Davies. Swan street; James JSdwards, Bryn Derw W E Jones, jBronrugog Ben Pritchard, Pant Farm J Roberts, Ponlrey R Davies, Princes 'JLoad. Y Rhianod Jones, Gwalia House JParry, Bank street; Davies, Chapel St Roberts, Roberts Lane Thomas, John- son street; Edwards, Mountain street. Ar ol y wledd, gwnaed trefniadau ar gyfer cyfarfod adloniadot ar ffurf o eis- teddfod. Cymerwyd yr Arweinyddiaeth San yr Js-brif Athro W E Jones, Coleg tOrango, a gwnaeth ei waith mewn dull Atoniol, a naturiol. Iddo ef yn benaf y ge Ilir priodoli llwyddiant y cyfarfod. oofftymwyd Gweddi yr Eisteddfod gan Mr Jfcaac Smith, Bryn Awelon. gydag urddas ,teilwng'o'r testyn a'r amgylchiad. Yna ,cafwyd Can Agoriadol gan Miss Gretta Davies, mewn gwisg Gymraeg, a derbyn- iodd gymeradwyae-th uehel. Y peth nesaf oedd croesawu cynrychiol- wyr ceohedloedd Celtaidd, a rhoddwyd .debeulaw cymdeithas i nifer fawr mewn gwtsgoedd barddol. Cymerodd y cyfeill- fod hyn eu lie ar y llwyfan, a chynorth- wyasant yn barod iawn yn nrgwaith yr eis- teddfod. William Edwards (Brydydd Prudd) J5edd yr Archdderwydd, ac yn ei ofal I 5jmanwl ef, aeth y beirdd drwy y gorch- wylion anhawdd o goroni a chadeirio y jbetrdd lIawryfog yn llwyddianus dros ben. St oedd ei lais cryf a'i acen eglur yn Jlanw'r adeilad. Rhoddwyd coron o 4dail (box ac eiddew) am ben Mr William Jones (Will Bryan) am y gamp-bryddest or "Tom* os Bartley' Risiart o Arfon (Richard Thomas, Hall fiteeet) gyhoeddwyd yn fatdd cadeiriol Eisteddfod Nos Calan, Bethlehem a Salem, Sim y flwyddyn Igag, ynghanol banllefaio "Heddwch." tago Ddu, (James Ed- .wards) a Miltwn, (J Milton Thomas) oedd beirniaid Awen ac Areitheg, ac yr oedd beirniaeth yr olaf, a enwyd ar Awdl y Gadair Y Pla Chwain" yn hynod J ddyddorol. Ar yr Englyn Gen Mal," xlytarnwyd neb yd deilwng, y goreu o'r .ymgeiswyr heb fod yn ddigon cyfarwydd j | o'r cynghaneddion, na'r c;eadur ei hun an, hyd yn nod i fod yn berchenog asyn. I Canodd Miss Hilda Davies unawd effeithiol a mclus, a'r P^ncerdd Jacob | Edwards beniliioa yo ei ffordd ragorol ei hun. Y Pencerdd E W Bellis ganodd j gan y cadeirio mewn llais dymunol a hun. Y Pencerdd E W Bellis ganodd j gan y cadeirio mewn llais dymunol a j meistrolgar. Arweiniodd y ddau uchod gorau mewn cystadleuaeth, y Proffeswr E Emlyn Davies, A.R.C.O. yn beirniadu y gerdd- oriaeth. Yr oedd y ddau gor yn sefyll mor agos mewn safon, fel yr oedd yn rhaid i'r arweinyddion fyned allan i ben- derfynu yr ornes mewn ffordd mwy effeithiol nag a allai y beirniad. Thomas Roberts, Johnson street, ym- geisiodd yn unig yn y gystadieuaeth adrodd, a dyfarnwyd ef yn oreu. Rhodd- odd ddesgrifiad tarawiadol o'r Gweith- iwr," a chafodd encore, ond yr oedd hyny allan o'r cwestiwn mewn cystadleuaeth. Lllywyddwyd gan Syr David Edwards, H.M.I., Melbourne- House, yr hwn a draddododd anerchiad wefreiddiol o ddon- iol. Yr arweinydd, wrth ei gyflwyno i sylw'r gynulleidfa, a ddywedodd na wydd- ai pawb, efallai, ystyr y llythrenau ddilyn-, ai ei enw, ond ei fod ef, ar ol ymchwiliad manwl, wedi dod i'r penderfyniad mai Hyddysg mewn ieithoedd" feddylient. Rhoddodd hefyd gyfrinach allan am y boneddwr uchod, ei fod ar fedr cynyg ysgoloriaeth mewn iaith a llenyddiaeth Gymraeg i bobl ieuainc yn Mhrifysgol Tainant. Y Proffeswr John Williams, Jones St., oedd y cyfeilydd, a Mr J T Davies, Swan St., chwareuai ar y crwth. Am haner nos, terfynwyd un o'r cyfar- fodydd goreu gawsom erioed yn swn i 44 Hen Wlad fy Nhadau a "Blwyddyn Newydd Dda." G.F.H.
Cymdeithasau Mynydd Seion…
Cymdeithasau Mynydd Seion a I Bethel, Ponkey. j Nos Calan cynhaliodd y ddwy uchod j gyfarfod unedig yn Mynydd Seion, o dan lywyddiaeth y Parch E. Isfyyn WilJiams. Yr oedd daal wedi ei hysbysu ar y testyn A ydyw yn briodol i Broffeswyr Crefydd gefnogi chwareuon yr oes ? Agorwyd r yr ochr gadarnhaol gan Mr C. Morgan, ac ategwyd ef gan Mri Edw Jones, Clarke street, a Thos Evans, Bank street ac ar yr ochr nacaol gan Mri Edw Roberts, New st, yn cael ei attegu j gan Mri Thomas Jones, Clarke st, a Henry Williams,. Stanley street. Yn ddilynol eis- teddwyd i swpera ar wahoddiad chwiorydd Mynydd Seion y rhai oêddynt wedi darparu gwledd ardderchog. Cifwyd noson hynod ddifyr a therfynwyd trwy i bawb ewyllysio 1, Blwyddyn newydd Dda y naill i'r llall.
! . ISwper Hen Lanciau.
Swper Hen Lanciau. Yn Nghapel Sion, Ponkey, nos Calan, cynhaliwyd Swper, yr hwn oedd wedi ei barotoi yn gyfangwbl gan y meibion. Hul- iwyd y byrddau am 8 o'r gloch, pryd yr eisteddodd nifer dda i gyfranogi o'r danteith- ion. Gweinyddwyd wrth y byrddau gan y William Parry, Robert Parry, Isaac Thomas Williams, Samuel Griffiths, W R Williams, Sylfanus Williams, Samuel Mitchell, David Jones. Torwr cig, Mr Thomas Davies. I Torwyr Bara, &c., Mri John Griffiths (Queen ¡ street), Joseph Jones, a Thomas Griffiths (Stanley road). Yn tywallt te, Mri Richard I Pritchard ac Edwin Jones. Golchi llestri, Mri Robert Morris a Thomas Morris. Gof- alu am y List, Mri Thomas Hughes, a Thos Griffiths (Fennant road). Yn ddilynol cynhaliwyd cyngherdd dan lywyddiath y Parch E Mitchell, pryd y cymerwyd rhan gan y rhai canlynol:— Detholiad ar y Gramophone Mr Samuel Griffiths can, Lizzie Jane Edwards; anerch- iad gan y Hywydd; uuawd ar y crwth, Mr Thomas Griffiths, encore; Detholiad ar y Gramophone; can, Mr W W Williams; ad- roddiad, Miss Mary Evelyn Jones; can, Mr Daniel Morris rhangan, Parti Mr Thomas Griffiths deuawd, Mii Samuel a Thomas Griffiths. Cyfeiliwyd gan Mr Jos Jones. I derfynu carioifdyr holl gynulleid- fa emyn briodol i diwedd blwyddyn. Diolch- wyd i Mr a Mrs Davies am ddarparu mor eithriadol dda.
. RHOS
RHOS SIOMEDIGAETH.-Achosodd absenoldeb Mr Robert Jones, Mona Gardens, o Gyfarfod Cystadleuol Seion, Gwrecsam, oherwydd afiechyd, gryn siomedigaeth i'w gyfeillion yno. Yr oedd i feirniadu yr adroddiadau, ac yn ol ei feddylgarwch a'i haelioni arferol, os oedd wedi peri siom- edigaeth i'r plant trwy ei absenoldeb gwnaeth hyn i fyny i fesur trwy gyfranu rhodd sylweddol o ugain darn o arian i'w rbanu rhwng y rhai oedd yn cystadlu.
Advertising
ThE EASIEST WAY TO FURNISH YOUR HOME 15 without a doubt, to furnish it on the gradual payment system. 'r This rational and straightforward plan has made home furnishing an easy matter for hundreds of couples of limited means. The gradual payment system- ours. for instance, which is absolutely fair and simple and demands no annoying interest payments-enables you to furnish your home completely and to pay for the goods in easy amounts, week by week or month by month. Let us explain the matter to you. THOMAS AND SON. Furnishing Department, 40, HOPE STREET, WREXHAM.
RHOS
RHOS ETHOL SWVDDOGION.- Y Sabboth diw- eddaf, yn Ysgpl Sul Penuel, etholwyd Mr J air us Jones, School street, yn arolygwr, a'r Mri J P Thomas, Johnstown, ac Isaac Jones yn Ysgrifenyd(hon am y flwyddyn ddyfodol. TROI YN OL!I'lt- ARBAL -Deallwn fod Miss Sussie Morris-, (diweddar o Leeswood House, Rhos), wedi troi yn ol i'w hen ardal, ac wedi gwneyd ei chartref yn Teg- id House, Johnstown. Er pan adawodd y Rhos mae wedi bod yn dilyn cwrs o ymarferiad mewn nursing, a deallwn y bydd yn dilyn y brofeswriaeth hon yn yr ardal. Diau y caiff bob cefnogaeth, yn enwedig mewn achosion o famogaeth Bu ei mham o'i blaen yn dilyn yr un gorchwyl yn yr ardal ya hynod lwyddian- us am flynyddau.- LLWVDDIAN-R-EYA genym groniclo o bryd i bryd am y llwyddiant sy'n dilyn plant yr ardal mewn gwledydd estronol Mewn llythyr gafwyd yr wythnos ddi- weddaf hysbysir ftd y Parch William I Williams, America, yn dod yn ei flaen yn rhagorol gyd'i efrydiaeth. Yn ych- wanegol at hyn mae llwyddiant eithriadol yn dilyn ei weinidogaeth. Sul Nadolig yr oedd yn bedyddio 14 yn ei Eglwys, ac ar ddiwedd y dydd yn rhoddi deheulaw cymdeithas i 23, y nifer fwyaf dderbyn- iodd erioed. Llongyfarchwn ef ar y llwyddiant, ac eiddunwn iddo fwy yn y dyfodol. ■
GOHEBIAETH.
GOHEBIAETH. Y RHOS A'R ETHOLIAD. At Olygydd Heraldy Rhos. SYR,-Teimlaf,yn,dra diolchgar i chwi os goddefwch ychydig o le i'r mater yma. Fel un sydd yn gweithio chwe' diwrnod allan o saith yn y gymydogaeth yr wyf yn gweled y Toriaid yn brysur wrthi yn canaasstO o dy i dy, ac maent wrthi yn Hechwraidd yn gweithio, a gwir yw y ddihareb hono Yn It mhob Uafur y mae elw." Mi fydd y Tori- aid yn cael elw wrth dynnu mwyafrif ein Haelod presenol i lawr: Wna hi mo'r tro i gysgu, a chredu fod y Rhos yn allright, a cholli yn y mwyafrif. Yr wyf yn synnu at Gymdeithas Ryddfrydol y Rhos yn cy- meryd pethau yn rhy ganiataol Yn wir nid w'yf yn gweled ein Haelod, Mr Hemmerde fel pe bae am gymeryd sylw o honom, ond dod yma ar yr unfed awr ar ddeg i geisio ein votes. Ac os yw yn medd- I wl cymeryd ei gamrau ar ol ein Harwr o Gaernarfon i fyned i roddi cynorthwy i eraill mae yn rhaid iddo gofio fod Mr D Lloyd I George wedi bod yn ei etholaeth yn rhoddi cychwyn iddynt, a rhoi pawb ar ei waith yn canvassio a gwneud eu goreu. Mae hefyd j yn gofalu am gael cyfarfodydd, a dynion 1 ardderchog i'w helpu- Rwy'n sicr fod mwy o angen am wasanaeth Mr Lloyd George i j fyny ag i lawr y wlad na neb aelod arall. I Yr wyf yn credu, Mr Gol, y dylai rywun < alw sylw ein Haelod at hyn;—rhaid i ni 4 I ond gafael mewn Papur Newydd a gwelwn fod cyfarfodydd yn mhob etholaeth ond Dwyraip Dinbych, a'r Aelod dros y rhan- barth yn rhoddi ei amser a'i dalent i eraill. Nid yw Clement Edwards, J Herbert Lewis, J Herbert Roberts, Wm Jones, Ellis Davies, I ac eraill, yn esgeuluso eu hetholaeth i helpu eraill; ac os byddant yn myned maent yn gofaly am subsitute Deffrowch ati, a chofiwch fod cannoedd yn y rhanbarth yma heb eu goleuo ar wa. hanol bynciau. Ar adeg etholiad y tyddwn yn cael ychydig o hwyl a goleuni ar faterion poiiticaidd, ond ymddengys ein bod y tro hwn i. gael-ein hanwybyddu, trwy ryw esgus o helpu eraill. Os yw ein Haelod ni yn methu bod yn ei etholaeth, carem gael clywed gwyr fel Mri Wm Jones, Ellis J Griffith, Herbert Lewis, ac yn enwedig Mr Spencer Leigh Hughes (Sub Rosa), feallai y byddai yn gynoithwy i'r gweiniaid rhag gwneud fel un gwr ieuainc y clywais am dano yn y lofa yr wythnos ddiweddaf. Dy- wedai hwn fod ganddo bleidlais y tro hwo a'i fod am ei rhoddi i'r Tariff Reformer er rhoddi prawf ar yr hyn fedrant hwy ei wneyd.-— Ydwyf, I RHYDDFRYDWR.
' Cymdeithas y Ford Gron.
Cymdeithas y Ford Gron. Cyfarfyddodd yr uchod Nos Calan yn Ysgoldy Capel Mawr, i gyfranogi o swper ardderchog oedd wedi ei ddarparu ar gyf- fer yr aelodau gan Mrs Morris, The Cross Cafe. Wedi clerio y bryddau trefnwyd ar gyfer cyfartod adolygiadol. Cymerwyd y gadair gan Mr John Davies, Lodge. Ca- fwyd anerchiad gan y Parch R Jones, yr hwn sydd ar fedr tori ei gysylltiad a'r Gymdeithas, yn adolygu ei gwaith ei gy- syUtiadia hi, ac yn amlinellu y cwrs a ddy- lai gymeryd yn y dyfodol. Siaradwyd I yn ddilynol gan y Mri Wm Hughes, I D Hooson, Joseph Davies, a Michael Roberts. Mae'r Gymdeithas yn ei heilfed dymhor a'r hugain a golwg cryf ac ieueng- aidd ami. I
"Un o Breswylwyr Ty yr Arglwvdd."
"Un o Breswylwyr Ty yr Arglwvdd." Yn marwolaeth Mr Jonathan Thomas, collodd EgJwys Bethlehem un o'i choloin- au cryfaf a dyogieiriaf, Bendithiwyd^ hi I yn ystod cyfnodau ei hanes a dytiion rhagorol iawn o ran eu doniau, eu cymer- iad glan, a'lf gWfisanaeth gwerthfawr. ymhlith y thai y gellir rhestfu yr hynaf- gwr tywysogaidd sydd wedi ein gadael. Dynanghyffredin yn ddiau ydoedd o ran ei gyfarwydd-deb a geiriau Duw, ei amgyffrediad clir, a'i brofiad ysbrydol a dwfn ohonynt. Er nad yn dywysog yn nghyfrif dynion y byd y rhai y mae eu rhan mewn bywyd o'r byd yma," eto, yr oedd yn dywysog yn Israel, wedi enill iddo ei hun radd dda ac anrhydeddus, yn ygol yr Hwn sydd yn arcs, ac i aros yn Athraw athrawon pob oes. Nid oedd yn gyffredin yn ei ymddang- osiad corfforol, yn hytrach cafodd ei fen- dithio a chorff, os heb fod yn fawr, oedd yn lluniaidd a dynodiadjl iawn. Ni j byddem yn mhell o'n lie pe dywedem ei fod yn meddu ar y gwyneb tebycaf i'r Cadfridog Bcoth a ellid ei gyfarfod. Yr oedd yn gyfryw wynebpryd ag a fuasai yn arwain unrhyw ddyn meddylgar i ddysgwyl rhyw beth mawr oddiwrtho, a diau pe buasasai heb ei lesteirio gan anhwylder corfforol yn mlynyddoedd pwysicaf ei fywyd, na buasai wedi dringo yn uwch yn nghraddau dysg, a'i wasan- aeth wedi bod yn llawer lletach, Ond er pob anfantais a brofodd, bu yn llwyddian- us mewn ami i gylch o ddefnyddioldeb yn Eglwys Crist, fel y ceir heddyw adwyon wedi ei gwneyd, drwy ei symudiad ef, a gymer gryn amser i'w llenwi. Cafodd oes faith o ran amser sef 80 mlynedd, ond gwnaeth ef drwy ymrodd- iad a bywyd glan ei ddylanwad yn rhy fyw i'w roi o dan ddeddfau amser, erys i dyfu ac i ffrwytho eto yn mywydau y rhai gafodd y fraint o'i hyfforddiant yn ei deulu siriol a lluosog, a'r eglwys y bu y fath arweinydd a noddydd iddi. Fel y dywedodd un o'r brodyr yn ei angladd, yr oedd yn hen ddisgybl oblegid yr oedd wedi cychwyn yn gynar ar y gwaith o'i ddilyn Ef. Da iawn iddo ef oedd dechreu yn gynar. O'r braidd y meddyliem ei fod yn hen hyd o fewn ychydig amser cyn iddo farw, gan mor heini ei osgo a'i symudiadau, a dyddorol i ni yn awr yw meddwl ei fod ef yn un o'r rhai gyflwynwyd i'r Arglwydd y drwy fedydd gan yr enwog Williams o'r Wern, a'i fod yn 11 oed pan y bu y seraff- bregethwr hwnw farw. Ychydig yw nifer y rbai gaf odd y fraint hono. Bu yn Bethlehem ar hyd ei oes., a faint bynnag a gofiai efie am Williams, nid oedd ball ar ei edmygedd—edmygedd ffiniai ar addoliad—o'r pregethwr hylithyr David Price, ei olynydd, y cawraidd fardd-bregethwr Ap Vychan, ac yn en- wedigol y sanctaidd Thomas Evans. Bu eu dylanwad arno yn aruthrol ar hyd ei oes. Rhoddodd y gwyr hyn ffurf arbenig i'w feddwl a chyfeiriad neillduol i'w efryd- iau, y cyfryw ag nas mynai, os gallai, yn wir, ymryddhau oddiwrthynt. Calfiniad o uchder anghyffredin oedd efe, a pha ryfedd, pan gofiom pwy fu yn tori iddo o fara'r bywyd, ac yn tynu allan iddo o ffynhonau iachawdwriaeth Cyfamod Duw, a'i arfaeth gref" ffydd a chyfiawn- had, gwaith yr Ysbryd, a pharhad sicr y saint mewn gras, oeddynt y pynciau yr hoffai efe son a gwrandaw am danynt. Dysgybl ffyddlon i'r cawraidd Jonathan Edwards ydoedd. Myfyriodd lawer ar lyfrau y duwinydd hwnw, ar yr "Ewyllys a'r Pechod Gwreiddiol," a'r Prynedig- aeth." Gwnaeth hyny hefyd i bwrpas, ac amser difyr ydoedd hwnw pan y cyfar- fyddai ag un o. syniadau gwahanol. Eithr nid pethau i ddadleu yn eu cylch oedd gwirioneddau'r efengyl iddo ef, ond hefyd, ynddynt hwy y cai efe ei gysur a'i lawenydd penaf' Darllenodd lawer i gyfeiriadau eraill, ar faterion gwyddonol a chymdeithasol, ond diau mai Gair yr Arglwydd, a'i Dy fuont yn ad-dyniad eryfaf i'w feddwl ar hyd ei oes. Bu ei gyfarwydd-deb agos a'r Beibl, o fantais eithriadol iddo fel athraw a blaenor am dymhor hir. Gallai ein brawd siarad am rywbeth heblaw am gasgliad, am y peth- au uchaf, a gwnaeth hyny yn ffyddlon, er budd ysbrydot yr eglwys. Wedi bod yn aelod ffyddlon am dros 60 mlynedd, yn athraw yn yr Ysgol, am 58 mlynedd, ac yn ddiacon defnyddiol am 31 mlynedd, hawdd yw credu fod ei brofiad yn Ilawn a gwerthfawr. Magodd deulu Iluosog a chretyddol sydd yn y gwahanol gylchoedd ag achos Crist yn agos at eu calon. Erbyn heddyw mae wedi newid ei fyd. Dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd," o hyn allan, fydd y geiriau melodus, a dwyf-gyfareddol yn tori ar ei glyboedd byth- Cafodd angladd uywysog. ijyoa Llun, am haner awr webi dau ymgasglodd tyrfa fawr o wyr a gwragedd bucheddol i dalu iddo eu cymwynas olaf. Wrth y ty, darllenodd y Parch R Roberts Psalm 23 a gweddioddy." Parch J Howell, Myn- ydd Seion. yn Saesneg, yn briodol a thaer. Wedi hyny, ffurfiwyd yn orym- daith tua Bethlehem, a chludwyd y corff gan 12 o ddynion ieuainc parod yr Eglwys. Yna cafwyd anerchiadau gwerthfawr, a chyfeiriadau tyner at yr ymadawedig gan y Parchn T E Thomas, Coedpoeth. E Isfryn Williams, Ponkey, J W Humphreys, R Williams, Hill street, ac E Williams, Penuel. Agorwyd y
BARDDONIAETH.
BARDDONIAETH. ER COF Am y diwedlar Mr Jonathan Thomas, Campbell Street, Rhos. Jonathan aeth i ganu-ei folawd Yn felus i'r lesu Gan addas ogoneddu, Uwch yr hen Iorddonen ddu. Yn Bethlehem," gem heb gamwedd f uodd, A'i fywyd oedd rinwedd Un lion ei hwyl, llawn o hedd, A duwiol hyd y diwedd. EDMYGYDD. ADGOF SERCH Er cof am Mr Edward Jones, 10 School Road. 'Rhos, a fu farw Ionawr, 1909. Nid yn hawdd gall serch anghofio, Er yn byw ym merw'r byd, Gwres y galon fu yn gwylio Dros y cartref dedwydd clyd Nid yn hawdd-gall beidio cilio At y fam, cartrefle hedd, Er cael egwyl i fyfyrio Am ei chymar sy'n ei fedd. Nid yw amser yn rhoi olew Yn y briw sydd dan y fron, Mae y byd o hyd dan lwvurew, Ciliodd haul o fywyd hon Crwydra'n unig fel y wylan, Geilw am ei chymar gwiw, Ond daw adsain dros y geulan, ? Gwnaeth ei nyth ym mynwes Duw. ¡ Bu yn hir yn crwydro'r tonnau, Tynnr i north o fron yr aig Ceisiodd gysgod hyd y glannau, Yn y storm ca'dd gysgod Craig Yna torra'i orfoleddu, Clywai'r don yn marw'n brudd, Ac o fedd y storm sy'n trengu Cododd haul tragwyddol ddydd. Ni chaiff mwyach broli gofid, Ni chaiff yfed werajaod byd, Ni chaiff bellach dea'mlo'r gwendid Fu yn ddioddef yma cy'd; Mae awelon iach y bryniau, A grawnsypiau Canaan dir, Yn rhoi olew yn ei friwiau, Ceidw ei brofiad byth yn ir. Gwag yw'r gadair ar yr aelwyd, • Gwag yw'r sedd yng Nghapel Mawr, Gwag yw'r llecyn lie offrymwyd Gweddi ganddo lawer awr Ond os collodd cadair teulu, Fe eniUodd orsedd wen, f » Dan ei goron mae yn canu = Gyda'r llu tu hwnt i'r lien. Nid yw'r Nei yn awr i'r teulu Fel rhyw wlad estronol bell; Denodd Duw ei serch i fyny, Aeth yn wir yn gartref gwell f Dyna fel mae Duw yn dattod Gwraidd ein bywyd yn y byd, Ac i'w gwneud yn berffaith barod ,yribau..v G-anaauglyd. T. J. lfw
"Un o Breswylwyr Ty yr Arglwvdd."
I. cyfarfod hwn- gan y Parch E Mitchell, Ponkey, a therfynwyd y cyfarfod gan y Parch 0 J Owen, Ebenezer. Pan ,ddyg- wyd y corff i'r Capel, chwareuai Mr Caradog Roberts. n 0 rest in the Lord," (Mendelssohn). Chwareuodd hefyd gyd- t, y ag effiath anorchfygol, tra'r gynulleidfa yn sefyll yn fud a gwylaidd, y -1 Dead March," (Handel), A phan oedd y gynull- eidta yn myned allan, Lamentation in D Minor, (Guilmant). Gwnaeth y cwbl gyda'i feistrolaeth a'i chwaeth arferol. Gwasanaethwyd wrth y bedd gan y Parch R Jones, Capel Mawr. Heddwch i'w lwch hyd y dydd pan y bydd Dorau.beddau y byd Ar un gair yn agoryd," Dyddanwch Duw lawenycho galon ei weddw unig a'i blant hiraethus, yw fy nymuniad. CVFAILL.