Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
"V; l'nf I CHOOSE YOUR ¡ OVERCOAT WITH CARE. On account of the rough wear it is bound to be subjected to, your I Overcoat should be selected with more than usual care. It must be durable both as regards material and workmanship—durable enough to withstand the ravages of the weath- ■ er—and what is perhaps more im- portant still, it must be warm and J comfortable. You can ensure get- ting the right article by purchasing ■■ one ot our famous 25/- Overcoats. I Ask to see one. THOMAS and SON, Høpe Street, WREXHAM. i —
Eisteddfod Nadolig y Capel…
Eisteddfod Nadolig y Capel Mawr. Cynhaliwyd yr uchod prydnawn a nos IKadoiig yn y Public Hall, Rhos. Bellach mae'r sefydliad hwn am lawer blwydd- yn wedi llanwadwy yn yr ardal ar yr Wyl arbennig hon. Rywfodd nid oes neb yn awyddus i fyned oddicartref ar ddydd .awyddus i fyr. Nadolig, end trwm yw'r dydd heb ryw foddion o adloniant, ac ni fedrir cael dim .sydd o chwaeth uwch. Gresynem nad oedd yr anturiaeth y flwyddyn hon yn edrych mor lewyrchus ag y bu nid oedd y cystadleuwyr mor lluosog nag o an- sawdd mor aruchel a'r blynyddoedd a fu, na'r ,c,ynulliadau ychwaith mor lluosog, er fod un y nos bron yn llanw y Neuadd ■Gyhoeddus. Credwn fod yr hen sefyd- liad eisiau ei thrwytho a bywyd newydd, -DS am gadw i fyny enw da yr am&er a fu. CYFARFOD Y PRYDNAWN. Lfywyddwyd gan y Parch J Howell, Jkjynydd Seion, gan yr hwn y cafwyd ,anerchiad ragorol. Arweiniwyd gan y Parch R Williams, Hill Street, yr hwn ifiefyd a wasanaethai yn yr un swydd yn jsghyfarfod yr hwyr; mae Mr Williams bellach yn anebg >rol i Eisteddfod y Nad- ;Ðlig a chyflawna ei waith bob amser Ijyda deheurwydd, ac er boddhad cyffred- Tool. Agorwyd gyda Chan Eisteddfodol gan Me J Tudor Owen, A R.C.M., ac yna aed ,.drwy y rhaglen ganlynol Arholiad Ysgrythyrol i rat dan 21 oed, Jklaes Llafuf Actau, penod 13, 14, a 15, J T Pritchard, Rhos. Cystadleuaeth Unawd ar y Berdcneg i ,rai dan 16 oed, Llwyn Onn," gwobr 5/ Xelestine Parry, Rhos. Traethawd i rai dan 25 oed. "Mr Meddal o Daith y Pererin," William J Edwards, Rhos. Adroddiad i Blant dan 16 oed, 44 Dy tStomi Gei," iaf, Lloyd Evans, Penycae, ailt Sarah Dodd, Rhos. Atebion i Gwestiynau ar y Cyfiawnhad (Dr Edwards), gwobr 7/6, John Griffiths, Market Street. Cystadleuaeth unawd i Enethod dan 16 oed, "Tros y Garreg," iaf, Agnes Nor- man, Johnstown, ail, Mary L Evans, JPenycae. Cystadleuaeth, Ymgom o Enoc Huws (Daniel Owen), gwobr 10/ John Griffiths a W Davies, Penycae. Unawd Baritone, 44 Cwm Llewelyn (W. Davies), gwobr 12/6, John Williams, ponkey. Cystadleuaeth Corau Ptant heb fod dan go mewn nifer, na thros 16 oed, "Casab- lanca" (Tom Price), Gwobr 44 a Bath- odyn Arian i'r Arweinydd. Un Cor yn ttnic ddaeth yn mlaen, sef Cor Gobaith ,dan arweiniad Mr H Iorwerth Lewis, a dyfarnwyd hwy yn deilwng o'r wobr. CYFARFOD YR HWYR. Llywyddwyd gan Mr Dan Roberts, Gwrecsam, gan yr hwn y cafwyd anerch. lad ddyddorol yn adgoffa ei gysyljtiac iboreuol a'r Rhos, ac yn enwedig ei gysyll. tiadau cerddo,rol a hen Gor y Rhos dar arweiniad Mr Hugh Griffiths, Pentre, a'r diweddar Mr R Mills yn ddilynol. Yr oedd y cystadleuon fel y canlyn :— Arholiad Ysgrythyrol pob oed, Maes Llafur laf loan) pennod i a 2, iaf John Pavies, Lodge; 2il John Roberts. Unawd ar y Crwth i rai dan 16 oed, At Abide with: me," gwobr 5/ Albert E Tones, School street. Barddoniaeth, Pedwar penill i "Mari, Mam Rhys Lewis," gwobr 5/ D J sJRoberts, Penycae. Ffurfio penill wyth jlineH o wahanol emynau, gwobr 3/ John Itoberts, Rhos. Unawd i Fechgyn, Dyffryn Clwyd," Thos. Griffith, Penycae, a Robt Edwards, Rho;, yn gyfartal. Unawd Soprano, 44 Merch y Scer (W, Pavies), gwobr 12/6, Mrs Jenny Roberts, Rhos, Unawd Tenor, "Llwybr y Wyddfa (W Davies), gwobr 12/6, J Hartley Pavies, Rhos. Cystydleuaeth pedwarawd, 0 ddydd i ddvdd" (W Davies), gwobr £ 1, dau I-fcarti yn cystadlu ac eiddo J Hartley pavies yn oreu. ) Prif Draethawd, Natur yn ei dylao- 1 wad ar Emyoyddiaeth Gymreig- gwobr I -;1. A Owen Menai Bridge. "Cystadieuaeth Parti o 16 0 fy lesu (Pughe-Kvans), gwobr £ 2. Un yn unig ddaeth yn mlaen, sef eiddo J Hartley Davies, a dyfarnwyd ef yn llawn deilyngu I y wobr. Yn ystod y cyfarfod hwn cafwyd dwy rangan gan Gor Plant Jerusalem, dan ar- weinid Mr J Hartley Davies, sef 44 Awn i Chwareu yn yr Eira" ac Excelsior." Am yr olaf ca wsant encore fyddarol, ac ailganasant "Gwcw Fach," Hen Alaw Gymreig wedi ei threfnu i Gorau Plant gan Mr Dan Roberts, A.C. Hefyd yn y cyfarfarfod hwn cafwvd ail-adroddiad o'r I Ymgom o "Enoc Huws" gan y parti buddugol, yr hon a ddilynid gyda'r astud- I rwydd a'r pleser mwyaf gar y gynulleid- fa. Beirniadwyd y gerddoriaeth gan Mr Tudor Owen, A. R.C.M., Blaenau Ffestin- Tudor Owen, A. R.C.M., Blaenau Ffestin- iog, yr hwn hefyd oedd yn datganu yn ystod y cyfarfodydd. Ychydig waith gafodd Mr Owen gan nad oedd nifer y cystadleuwyr yn lluosog, ond gwnaeth yr hyn oedd ganddo mewn modd chwaethus, yn fyr ei eiriau ond cyuwysfawr. Enill- odd ei ddatganiadau gymeradwyaeth uchaf y cynulliad, yn enwedig yr un yn yr hwyr o "The Heavenly Song (Hamil- ton Grey), am yr hon yr ail-alwyd ef, pryd y rhoddodd y gan syml-dlos 44 Dorothy May." Cyfeilwyd iddo, ac hefyd yn ystod y dydd i'r cystadleuwyr gan Miss Laura Pritchard, yr hon a gyflawnodd wasanaeth rhagorol. Beirniadwyd ar y gweddill o'r testynau gan y rhai canlynol :-Barddoniaeth, Mr Hugh Griffiths, Pentre Prif Draethawd, Parchn R Jones a W H Lewis i rai dan 25 oed, Parch J Howell, Mynydd Seion Arholiadau, Mri R Jones, Mona Gardens, D Roberts, Square, John Davies, Lodge, Wm Edwards, Hall streeet, J H Thomas, Square, ac R Edwards, Campbell street, Adroddiadau, Parch R Williams, Hill St, a Mr J H Richards, B.A. Gwasanaeth- wyd fel Ysgrifenyddion gan Mr Joseph Davies, Brook street, a Mr W J Edwards, Campbell street, y rhai a wnaethant waith rhagorol yn nglyn a'r cyfarfodydd.
IGOHEBIAETH.
GOHEBIAETH. GWARCHEIDWAID GWRECSAM. A t Olygydd Herald y Rhos. SVR,-Mewn perthynas a David Davies, mae o yn fachgen ac wyf yn hoffi yn fawr. Wrth son am y Licensing Bill gwyr, neu fe I ddylai wybod, nad oes genym fel Board ddim i'w wneyd mewn perthynas ac enwad- aeth na gwleidvddiaeth, ond mae perftaith hawl iddobleidio ei dduw bychan o Frymbo, os ydyw yn meddwl fod gallu meddyliol y duw bach hwnw yn twy na'i eiddo ef; mae yn gwestiwn genyf a ydyw hwnw yn fwy galluog na David Davies ond fod gan hwnw ¡ y cheek. t Mewn perthynas ac Eiddigus," mae ei iaith Gehenaidd yn rhy faswedd, ac ofnaf y bydd ef a'i ganlynwyr fel ac y dywedodd Trebor Crugog unwaith am yr angylion syrthiedig yn ngwaelod y fall, yn grinio I mewn cages y naill ar y llall. ¡ MORRIS KYFFIN.
Glowyr Deheudir Cymru a'r…
Glowyr Deheudir Cymru a'r Wyth Awr. Cynhaliwyd cyfarfod pwysig o Undeb Glowyr Deheu Cymru yn Nghaerdydd, dydd Mawrth diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr W Abraham (Mabon), A.S., i ystyried pa gamrau gymerir gyda'r diben o wneyd i ffwrdda'r an' genrheidrwydd o weithredu tri mis o rybudd i'r meistriaid ar y 31ain o'r mis hwn yn terfynl1 cytundeb presenol y Bwrdd Cyflafareddol sy'n rheoli cyflogau. Cynygiodd y Glowyr i ofyn i'r meistriaid roddi o't neilldu eu gofynion am iawn-daliad yr hwn sy'n ddyledus iddynt fel canlyniad gwrthodiad y glowyr i weithio yr awr ych- wanegol yr wythnos o dan adran y 60 oriau I yn Neddf yr Wyth Awr. L Os cytuna y meistradoedd a hyn, mae Undeb y Glowyr yn barod i gymell ar y I dynion i beidio gweithredu rhybuddion, ac i agor ymdrafodaeth er cael cytundeb new- ydd, neu orchymyn i atal unrhyw rwystr i I fasnach a fyddai yn debyg o ganlyn. Cafodd hawl y meistradoedd i ofyn i'r i dynion weithio yr awr- ychwanegol ei drafod yn mis Mehefin diweddaf, pryd y dadleuai cynrychiolwyr y dynion ar y Bwrdd Cyf- lafareddol nad oedd darpariadau y Ddeddf ond yn ymweyd ag achosion eithriadol, ac y penderfynwyd fod y mater yn cael ei ym- ymladd allan trwy'r Llysoedd Cyfreithiol. Y canlyniad oedd i Ynad Cyflogedig Pont- ypridd, Mr Lleufer Thomas, ddyfarnu yn ffafr y meistadoedd, a chadarnhawyd hyn gan y Llys Adxanol pan appeliwyd yno, Oherwydd hyn mae iawn daliad wedi bod yn crynhoi yn erbyn bob dyn a wtthododd ufuddhau yr archebion sy'n cael' eu gosod ar y bone yn wythnosol. Yn mhellach bu'r cyfaricd yn trafod hawliau y dynion i gael tal am lo man, ac ymgynghorasant a Mr W P Nicholas, cyt- reithiwr yr Undeb, yr hwn oedd yn bresenol. Deallir y bydd gwrth-hawl i eiddo y meis- tradoedd yn cael ei ddwyn yn mlaen os bydd iddynt hwy orfodi eu hawliau cyfreith- iol yn llawn o dan ddyfarniad yr Uchel Lys. Os bydd i'r dynion ymatal rhag gweithredu rhybuddion, bydd iddynt ofyn caniatad y meistradoedd i roddi rhybudd 0 fis ar y iaf o Fawrth i derfynu ymrwymiadau, yn He y rhybudd arferol o dri mis. moo,- -o
Y SYMUDIAD YMOSODOL.
Y SYMUDIAD YMOSODOL. LLYTHYR BLYNYDDOL YR AROLYGYDD. Y mae dechreu y flwyddyn yn agoshau, sef yr adeg i wneyd y Casgliad Blynyddol at y Symudiad PWYSlg hwn. Yr oeddvvn yn gobeithio y buasai Tryso fa Goffidwr- iaethol Dr Pugh, wedi ei chwblhau cyn hyn, ond yn y mater ymd fe'm siomwyd a rhaid wrth ryw ddwy fil a haner eto cyn y byddo Casgliad yr Ugain Mil wedi ei crphen. Yn awr rhaid i'r Casgliad arbenig hwn gael i droi o'r ffordd am rai misoedd er mwyn i'r Casgliai arferol gael chware teg. Nid wyf heb ofn rhag i'r ymdrech gyda'r llall ar hyd y flwyddyn effeithio yn niweidiol ar hwn. Byddai hyny yn drychinol, yn wir yn golygu dinystr. Y Casgliad Blynyddol ydyw spring fawr yr holl beiriant, a phe y deuai amhariaeth ar hon safai y cwbl. 0 hono y telir cyflogau yr efengylwyr, ac y cyfarfyddir a holl draul y neuaddau. Mewn gair hwn i'w ein bara beunyddiol dyma ddefnydd ein cynhaliaeth trwy yr holl flwyddyn, a phe y cymerai lleihad o bwys le ynddo, nid yn unig gwanychai yr ymdrech ond byddem dan orfodaeth i gau rhai o'r gorsafoedd. Yr wyf am appelio at yr eglwysi trwy y wiad ar iddynt wneyd casgliad gweli nag arfer y tro hwn. Bydd y Trysorydd ddechreu y flwyddyn nid yn unig heb geiniog yn y banc, ond bydd y fantol yn drom yn ei erbyn. Gofid dwys i ni i'w ein bod o herwydd prinder arian heb allu symud nemawr yn y blaen na meddianu cwys o dir newydd ers tair blynedd. Yr ydym yn cael ein gorfodi i orphwys ar ein rhwyfau heb wneyd dim mwy na'r hyn a eilw y Saeson yn marking time. Yr un pryd cymer dadblygiadau pwysig le yn Morganwg a I Mynwy. Neidia pentrefydd poblog i fod megis mewn un dydd daw dynion wrth y canoedd i breswylio i ardaloedd lie nad oedd na thy na thwle bum mlynedd yn ol, a lie nad oes nemawr darpariaeth i gyfar- fod a'u anghenion ysbrydol. Yr ydym yn barhaus yn cael galwadau taer o'r Ueoedd hyn 14 Deuwch trosodd a chyn- orthwywch ni." Yr ydym ninnau wedi cael ein parlysu ac yn methu symud o herwydd prinder cyllid. A thra yr ydym ni yn aros y mae dynion ieuainc Cymru o'r De ac o'r Gogledd yn cyflymu i ddinystr, heb nemawr ymgais i'w hachub. Truenu ydyw meddwl fod merched o Sir Aberteifi ac o rai siroedd y Gogledd, yn cerdded yr ystryd yn Nghaerdydd y dydd hwn bod gweithwyr o ardal y chwareli amrywohonynt wedi ffeindio eu ffordd i'r carchar. Nid oes diffyg gweithwyr. Da genyf gael tystiolaeth i grefydd ac i ysbryd cenhadol ein p-egethwyr ieuiinc sydd yn y colegau. Y mae gwreiddyn y mater ynddynt. Yn ystod eu hymweliad a'r gorsafoedd adeg y gwyliau y maent wedi gweithio yn egniol, gan ymweliad a thai butrat y slums, pregethu yn yr awyr agor- ed, adeiladu eglwysi, a llafurio mewn amser ac allan o amser. Enillodd amryw o honynt serch y bobl i'r fath raddau fel y mynai yr eglwysiganddynt dori eu cwrs athrofaol a dyfod yn efengylwyr iddynt I ar unwaith. Yn erbyn hyn bu raid i ni sefyll yn gryf. Cafodd yr oil o honynt I syniad newydd am y gwaith sydd i'w wneyd yn Nghymru, a byddant yn wein- idol-ion mwy egniol o herwydd yr ymwel- iadau hyn, pa un bynnag a ymunant a'r j Symudiad Ymososodol a'i peidio. Y mae fy nghalon wedi cynhesu at y to o breg- ethwyr sydd yn awr yn hogi eu crymanau, ac yr wyf yn credu y gwnant fedelwyr ardderchog yn y man. Ni bydd prinder efengylwyr o'n pobl ni ein hunain yn y dyfodol agos. A wna yr eglwysi ddang- os haelioni digonol i'w cynal ? Hyderaf y ceir ateb ftafriol ddechreu y flwyddyn sydd wrth y drws. Pe codai casgliad y Symudiad Ymosodol i lefel casgliad y Genhadaeth Dramor gallwn newid ag- wedd Cymru. Gallaf yn onest ddweyd fod y gorsaf- oedd ar y cyfan mewn cyflwr iachus a'u bod yn gwneyd cynydd canmoladwy, er nad oes cyffroadau grymus yn eu medd- ianu yn bresenol. Y maent yn raddol yn dyfod yn eglwysi teyrngarot. Pregetha yr efengylwyr brif wirioneddau ein cref- ydd nid glasdwr geir yn ei gweinidog- aeth ond hufen -Pthrawiaeth- iachus. Nid anyddorol i ni yw y ffaith mai Mr Houghton un o efengylwyr y Symudiad Ymosodol, sydd ar ben y rhestr y flwydd- yn hon yn yr Arholiad Cymdeithasol. Yr wyf yn cyflwyno y casgliad i hynawsedd swyddogion yr eglwysi. Hyderaf y gosodant ef ger bron yn ddeheuig ac yn gynhes ac yr ymdrechant gael nifer dda o danysgrifwyr, fel na byddo yn disgyn i fod yn gasgliad qeiniog. Caerdydd. J. MORGAN JONES.
Taflu tringain allan o waith.
Taflu tringain allan o waith. Ataliwyd gwaith yn chwarel Bryn- eglwys, Abergynolwyn, dydd Gwener, a thrwy hyny, taflwyd tu i triugain o weith- wyr allan 0 waith. Parodd y newydd dristwch cyffredinol. Er fod yma ofn ers tro mai i hyn y deuai pethau, disgwylid iddi fynd dros y gauaf. Mae y rhagolyg- on yn dywyll iawn ar hyn b bryd, ac anhawdd gwybod lie y try y gweithwyr eu hwynebau fel hyn yn nhrymder gauaf. Maent gan mwyaf yn bobl mewn oed, lawer ohonynt yn rhy hen i feddwl mynec oddiyma i un man,
Advertising
"=J\i"ä:¡:¡\C.1{,> v THE EASIEST WAY TO FURNISH YOUR HOME is without a doubt, to furnish it on the gradual payment system. This rational and straightforward plan has made home furnishing an easy matter for hundreds of couples of limited means. f The gradual payment system- ours. for instance, which is absolutely fair and simple and demands no annoying interest payments-enables you to furnish your home completely and to pay for the good.s in easy amounts. week by week or month by month. IF Let us explain the matter to you. THOMAS AND SON,. Furnishing Department, 40, HOPE STREET, WREXHAM.
Mr Herbert Lewis, A.S., a…
Mr Herbert Lewis, A.S., a Gwaith yr Eisteddfod i Gymru. Talodd Mr Herbert Lewis, A.S., Ysgnfen- ydd Seneddol i Fwrdd y Lywodraeth Lleol, ymweliad annisgwyliadwy ag Eisteddfod a gynhelid yn Rhyl dydd Llun, a chydsymodd a'r gwaeddiadau brwdfrydig am anerchiad. Dywedodd na's gwyddai y gallent gaei i ffordd ragorach i dreulio eu gwyhau na thrwy fynychu Eisreddfod, gyda'i au uchel a dyrchafol. Yr oedd yn sefydliad poblogaidd nid yn unig yn N ghymru, ond yn Lloegr hefyd, lie yr oedd yn ymledu yn fawr iawn. Nid oedd yn sicr a wyddent pa fodd i seinio y gair Eisteddfod yn briodol yn Lloegr, ond nid oedd hyny o fawr bwys cyhyd ag yr oedd ganddynt y peth ei hun. O'r Eisteddfod yr aeth allan y gallu mawr hwnw, yr hwn yn y diwedd a lwyddodd i sefydlu Prifysgol Cymru. Mor llwyddtanus fu gwaith y Colegqu fel y .hoddwyd ych- wanegiad o £ 16,000 y flwyddyn iddynt fel cydnabyddiaeth am eu gwaith ardderchog yn y gorphenol ac o'r gwaith ragorol ddis- gwylir gael 'ganddynt yn y dyfodol. Yr oedd diolchgarwch mewn mesur helaeth yn ddy- ledus i'r Eisteddfod am ffaith sylweddedig y Lyfrgell a'r Greirfa Genedlaethol Gymreig! Fel y gwelent y sefydliadau mawrion hyn w;edi eu gwreiddio yn, ac yn tyfu allan or Eisteddfod, ac yn gwneyd gwaith mor odid- og, yr oedd ganddynt tel Cymry bob He i deimlo yn falch o honi, a dywedyd, 4 Hir y teyrnased yr Eisteddfod."
IIEisteddfod Caer. -0-
II Eisteddfod Caer. -0- Cynhalwyd hon dydd Ltun diweddaf yn y Music Hall, a phrofodd mor llwyddianus ag erioed. Llywyddwyd gan yr Henadur J M Frost. Beirniadwyd y canu gan Mr Harry Evans, Lerpwl. A ganlyn oedd y r)rif ddyfarniadau:- aa I" I Adroddiad, Myfanwy (Ceinogj. Gwobr £ u Thomas Williams, Tynymyn- ydd, Glyn Ceiriog- Unawd Baritone, "Eleanore" (Cole- ridge Taylor). Zi LI. Powell, Rhydy- mwyn. Corau Cymysg, heb fod 70 mewn nifer Molawd Cariad (Harry Evans). £ 15 a S1 i'r arweinydd (rhoddedig gan yr ael- od seneddol dros Gaer). Cor Unedig Llangollen a Chymdeithas Gorawl Caer yn ymgiprys, a'r olaf yu trechu tan fatwn Mr J Seldon. Mr J Seldon. Unawd Soprano, 44 Songs my mother taught me (Dvorak). £ 1 Carrie Hastings, Warrington. „ Corau Meibion Hymn before Action" (Waif ord Davies). £ \$ a gTini *'r ar" weinydd. Daethchwe chor ymlaen, ac fel hyn y safent yn pi teilyngdod, a'r mar- ciau a roddwyd iddynt allan o 80 gan y beitniad:— 1 Cor Habergham (Ernest Hitchen) 72 2 Cor Warrington (W S Nesbitt) 68 3 Cor Apollo, Warrington (H Berry) 66 4 Cor Fron, Llangollen (J A Jones) 51 s Cor Brunswick, Lerpwl (Knight) 58 6 Cor Maelor (J Wright) 50 Adroddiad Saesneg 44 Soldier, Soldier" (Kipling). £ 1 Margaret Crosier, Manchester. Unawd Tenor, "Thou shall break them" (Handel). Mr Tom Morris, Brymbo. Unawd Contralto, Pleading (Elgar.) Mrs R T Hammond, Whitchurch. Pedwarawd (S.C.T.B.)4 Phoebe (Stan- ford). £ 1 Party J W Formston, Caer. CYNGHERDD. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyngherdd mawreddog o dan lywyddiaeth y Maer, yr Henadur Hewitt. Cymerwyd rhan ynddo gan Madame Maggie Davies, Soprano; Miss Mabel Braine, Contralto Mr Ivor Walters, Tenor Mr Charles Tree, Bar- itone. Cyfeiliwyd gan Miss R A Evans.
Y Ddyfrdwy, o'i Tharddiad…
Y Ddyfrdwy, o'i Tharddiad i'w Hymarllwysiad. [Gan DAVID ROBERTS, Plas Issa.] Y mae Bangor-is-y-Coed wedi cael ei orchuddio gan ddyfroedd y Ddytrdwy lawer tro, a'r trigolion yn gorfod S* i'r rhanau uwchaf o'u haneddau am nodded rhag y dyfroedd ac nis gallant fyued o'u tai ond mewn badau ar hyd yr ystrydcedd pa rai sydd wedi eu gorlifo gan ddyfroedd. Pan y bydd gwlawogydd, trymion, a'r gwynt yn chwythu yn gryf oddiar Lyn Tegid, dyna'r pryd y gorlifa y Ddytrdwy dros ei glanau gan orchuddio aceri o dir a'i dytroedd. Ceir pont henafol iawn yn croesi'r Ddyfrdwy yn Bangor, yr hon sydd yn myned o dan adgyweiriad yr adeg bresenol. Saif Bangor yn°nyffryn prydferth Maelor, ac nid rhyfedd i'r bardd gael ei swyno gymaint wrth edrych ar ei brydferthwch uddiar y Wern, ger y Rhos, y man lie gellir gweled y dyffryn yn ei ogoniant, nes tori allan i ganu y penill canlynol 0 gwr y Wem, sydd ger y Rhoe, Golygfa dlos sy'n agor, Mae golwg ar y dyffrjn- hardd, Yn swyn i fardd a cherddor; Nid oes dyffrjm dan y Nef Yn ail i Ddyffryn Maelor. Oideutu deg t-nlynedd a thriugain yn ol yr oeddynt rn ai-tpryd a gweithio badau yn ol a blaen er mwyn dwyn trafnidiaeth yn mlaen ar y Ddyfrdwy rhwng Bangor a Chaer. Fe ddywedodd hen wr wrthyf fod !'ei dad wedi bod yn gweithio ar un o'r cychod hyo am lawer blwyddyn. Rhwng Bangor a Holt ceir tri o gafnau i groesi yr afon. Fe u gelwir gan rai yn gafnau, a chan eraili yn gychod. Ceir un o'r rhain ar gyfer y PickhiU Hall, a gelwir ef wrth yr enw hwn. Cawn un araH yn cael ei alw wrth yr enw Wern Boat; ac un arall wrth Bleuddyn Boat. Yn nesaf deuwn at le o'r enw Holt. Holt sydd dref fechan oddeutu saith millair i'r Gogledd-Ddwyreiniol o Wrexham, wedi ei hadeiladu wrth yr afon Ddyfrdwy, i groesi yr hon y mae bont o ddeg bwa, a adeiladu wyd yn 1345. Pan ddechreuwyd adeiladu Castell Holt, gan un o'r enw John, Earl Warren, yr oedd preswylwyr glanau r Ddyfr- dwy yn cael eu blino yn fawr gan ladron, y 'rhai a ymfyddinent a'u gilydd gan yspeilio pawb a phobpeth. Yn yr adeg hon hefyd, blinid trigolion y rhantarthau hyn gan fleiddiaid, y rhai a ruthrent o'r mynyddoedd gan ladd a difa. eu haniteiliaia. Yn yr adeg gythryblus hon fe benderfynwyd rhoddi gwobrwycn i bwy bynag a ddaliai gynifer o'r bleiddiaid, gan ddwyn eu penau 1 dref Amwythig. Yr oeddynt i gael eu gwobrwyo am eu hymdrech, ac yn y ffordd hon y llwydwyd i ddifa'r bleiddiaid rheibus. [I'w BARHAU.J
Eisteddfod Gen. Colwyn Bay.
Eisteddfod Gen. Colwyn Bay. Mewn cyfarfod o Bwyllgor Gwei:hiol yr uchod penderfynwyd i gydnabod fel amcan cyfaddas tuag at yr hwn y gellir estyn cyn- orthwy arianol o weddill elw yr Eisteddfod, (os bydd elw ar oi cyfarfod yr holl ofynion,) y mudiad sydd ar droed i godi cotgoJofn i gyfansoddwyr yr Anthem Genedlaethol Gym- reig. John James, yr hwn a ysgrifenodd y geiriau, a'i fab Evan James, yr hwn rai blyn- yddoedd yn ddiweddarach a gyfansoddodd y gerddoriaeth. Darllenwyd Uythyr oddiwrth Mr Lloyd George yn hysbysu ei barodrwydd i dderbyn gwahoddiad y PwyHgor i -lywyddu yn yr Eisteddfod'ar Ddydd y Cadeirio. Deibyn- iwyd yr hysbysrwydd gyda chymeradwyaeth uchel, ac hefyd dangoswyd boddhad gan y Pwyllgor pan ddeallwyd yn rnhellach fod Esgob Llanelwy a Mr J Pritchard-Jones, Newborough wedi cydsynio i lywyddu dau o'r cyngherddau, ac tod Syr Heibert Roberts A.S., Lywydd yr Eisteddfod, yn cymeryd y gadair yn un o'r cyfarfodydd, ac wedi pen- derfynu tanysgrifio £ 50 yn ychwanegol at y £ 50 yr oedd eisoes wedi ad daw.