Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

PONKEY.

Gwarcheidwaid Gwrecsam aI…

Dr Spinther James a'r Tir.

I Marwolaeth yn Tyldesley.

Y Ddyfrdwy, o'i Tharddiad…

News
Cite
Share

Y Ddyfrdwy, o'i Tharddiad Fw Hymarllwysiad. [Gan DAVID ROBERTS, Plas Issa.] Yn nesaf deuwn at le o'r enw Bangor-is- y-Coed. Nis gallaf basio y lie hwn yn ddisylw heb ddweyd ychvdig o'i hanes boreucl. Ceir fod ystyr i'r enw Bangor. Y mae yn rhaid gwahaniaethu rhwng y Bangoran a'r Mynachlogydd sefydliadau y cynoesoedd oedd y rhai cyhtaf, a sefydliadau y canoloesoedd oedd y rhai diweddaf. Y Bangorau oedd cyn cael y Mynachlogydd, ac wedi hyny fe ddarfu am danynt, ond y rhai a droisant i fod yn Fynachlogydd. Bangor y mae "Cor" yn dynodi cylch, neu gauadle. Enw ar gor ychain yw beudy, a gelwir y lleoedd cauedig mewn Eglwysi yn Gor. Cor canu yw llu o gantorion, a gelwid cynulleidta mwy na Llan cyffredin yn Gor o Saint. Y mae Bangor yn golygu Cor uchel. Cor Mawr, y Prif Gor. Yr oedd Ilanau cyffredin yn Gorau, ond gelwid y Prif Eglwysi yn Fangorau Y mae tri lie yn Nghymru yn cadw yr henw hyd heddyw, sef Bangor Fawr yn Arfon, Bangor ar lan y Teifi, a Bangor-is-y-Coed. Gosodir y Bangorau allan yn gyffredin fel math o Golegau Duwinyddol i ddysgu myfyrwyr yn mhrif addysg yr hen oesoedd, a thybir eu bod mewn cyflwr blodeuog o ran rhif eu myfyrwyr. Gallwn enwi pump ar hugain o Fangorau, ond a Bangor-is-y- Coed y mae a fynom ni ar hyn o bryd. GeJwid Bangor-is-y-Coed ar wahanol enwau, megis Bangor Maelawr, Bangor Dunawd, Bangor Fawr ym Maelawr, Bangor Maelawr yng Nglan Dyfrdwy. Dyna yw y gwahanol enwau a roddid ar y Fangor hon. Dywedir fod yn hon unwaith ddwy fil a phedwar cant o ddisgyblion. Dunawd Fawr ap Pabo Post Prydain oedd ei Llywydd. Ac ar cl hyny danfonwyd Gwarthan ap Dunawd a'i frodyr Deiniol a Chynwyl i lywyddu Bangor yn Maelor yng Nglan y Ddyfrdwy, ac o ddoethineb, agallu, a duwioldeb y tri brawd hyn aeth Bangor- is-y-Coed yr mddasolaf ac amlaf ei saint o holl Fangorau Ynys Prydain Yr oedd yn Mangor-is-y- Coed lyfrgelloedd mwyaf cyf- oethog yn Nghymru. Yr oedd yn y He pan ddaeth byddin greulon y Sneson i'w chym- eryd oddiar y Cristionogion, 1200 mewn nifer, a II addwyd hwv oil cddigerth haner cant, y rhai a fu rnpr ffortunus a llwyddianus i allu dianc am eu helnlol-s. Dmystriwyd yr athrofa, a llosgwyd y llyfrau gweithfawr oedd yn y llyfrgell, a gwasgarwyd yr haner cant a lwyddodd i ddianc, yn nghyda naw cant eraill y rai oedd yn absenol ar y pryd, yn cyflawni eu goruchwylion tymhorol, ac yn pregethu yr efengyl mewn gwahanol barthau o'r wlad. Gwasgarwyd hwy fel defaid yn mysg y mynyddoedd tiIw BARHAU. I

Advertising

|CORRESPONDENCE

I j LABOUR AND LIBERALISM.

RHOS.

Y diweddar Mrs Catherine Parry,…

BARDDONIAETH. I