Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y PARCH ROBERT ROBERTS, BETHLEHEM,…

----------ANRHEGU Y PARCH…

News
Cite
Share

ANRHEGU Y PARCH ROBERT ROBERTS, RHOS. Nos Fawrth cynhaliwyd cyfarfod yn Beth- lehem, Rhos, i ganu'n iach i'r Parch a Mrs R Roberts, ac i wneyd amryw anrhegion, yn cynwys un gan Eglwys Bethlehem, gan Gymdeithas Ddiwylhadol Bethlehem a Sal- em, gan Gynghor Eglwysi Rhyddion Rhos a'r Cylch, gan Ferched a Phlant Bethlehem, a chan Ddosbarthiadau Mr a Mrs Roberts yn yr Ysgol Sul. Llywyddwyd gan Mr John Parry, Bank Street, ac ar y dechreu darllenodd nifer o lythyrau yn datgan gofid oherwydd anallu i fod yn bresenol. Agorwyd y cyfartod trwy weddi gan y Parch J D Jones, Brynteg Yn ddilynol canodd Cymdeithas Gorawl Bethlehem, (dan arweiniad Mr Dan Roberts, A.C.,) "Great Dagon (Handel) Y PARCH T ARTHUR THOMAS yn cynrychioli Cynghor yr Eglwysi Rhydd- ion, a siaradodd am y gwasanaeth mawr a roddodd Mr Roberts i'r Cynghor er ei gor- phoriad. Yn datgan ei deitnlad personol tuag at Mr Roberts, dywedodd ei fod yn wirioneddol ddiolchgar iddo am ei gynghor profiadol a'i gyfarwyddyd doeth Edrychai Gweinidogion ieuainc y cylch ar Mr Roberts fel eu Hesgob, a phryd bynag y siaradai yr Esgob canfyddent ddoethineb dealltwr- iaeth clir, ac hefyd y rhinwedd gwerthfawr- ocaf o galon fawr yn llawn daioni. Yr oedd yn falch i wybod nad oedd Mr Roberts yn mynd o'u bywydau yn hollol, ond yn unig ei fod yn ceisio cysgod fyfargar pilmwydaen hwyrddydd, megis i rodSi y cyffyrddiadau terfynol 1 waith ei fywyd. Gobeithiai y caiff Mr Roberts amser i ysgrifenu llyfr o hanes ei fywyd, a chysylltiadau crefyddol Sir Ddinbych. Y PARCH R JONES (Capel Mawr,) ar ran Cynghor yr Eglwysi Rbyddion a gyflwynodd Album, ac ynddo arysgrifiad priodol i Mr Roberts. Dywed- I odd fod Mr Roberts, trwy ei bresenoldeb, wedi cryfhau ac ysbrydoli y Cynghor, a'u llanw gydag ysbryd gwaith i ddwyn oddi- amgylch bobpeth oedd a thuedd i glymu yn dynach rwymau brawdoliaeth. Y PARCH R ROBERTS a ddiolchodd i Gynghor yr Eglwysi Rhydd- ion am eu harwydd o'u caredigrwydd a gallai eu sicrhau y gwnai ei werthfawrogi yn fawr. Yr oedd yn falch i ychwanegu er ei fod yn gadael Bethlehem, nad oedd yn tori ei gysylltiad a Chynghor yr Eglwysi Rhydd- ion y Rhos a'r Cylch. PARCH 0 J OWEN. Dywedodd i Mr Roberts ddechreu ei wein- idogaeth yn Rhos 29 mlynedd yn ol, ar yr Sul ag y dechreuodd yntau ar waith y wein- dogaeth. Cafodd .Mr Roberts bob amser yn\ Ilanw cymeriad Mawrgalon yn mhlith dyn- ion. Yr oedd yn ieuanc ei ysbryd, llawen mewn gobaith, yn unplyg ei weithredoedd, ac yn eofn gan eofndra y cristion. Yn bersonol yr oedd yn ddyledus iddo am lawer o weithredoedd careflig. Y PARCH T ROBERTS, Wyddgrug, a ddywedodd er fod MrRoberts yn gadael Bethlehem nad oedd yn mynd i roddi fyny gwneyd gwaith da. MRI JOS GREEN AC S ROBERTS. Yna cyflwynodd Mr Joseph Green hugan teithio hardd i Mr Roberts, a throsglwydd- odd Mr Samuel Roberts ffon gerdded iddo, j at y rhai y tanysgriifwyd1 gan Aelodau Cym- j deithas Ddiwylliadol Bethlehem a Salem. Wrth drosglwyddo yr anrhegion drosodd datganodd Mr Green a Mr Roberts eu I diolchgarwch i Mr Roberts am ei wasan- I aeth i'r Gymdeithas. Un o'r pethau cyntaf wnaeth Mr Roberts pan sefydlodd yn Rhos oedd ffurfio cyfarfod i'r dynion ieuainc ar Nos Sadwrn, ac o hyn y tyfodd y Gym- deithas lewyrchus yr oeddynt yn awr yn gynrychiali. MR JOHN PARRY. Ar ran Eglwys Bethlehem gofynodd y Llywydd, (yn absenoldeb anocheladwy Mr Wm E Jones, Ysgrifenydd yr Eglwys,) i Mr Roberts dderbyn anerchiad oreuedig ysblenydd. Darllenai fel y canlyn:— I BARCHEDIG AC ANWYL WEINIDOG, Teimlwn yn falch fel Eglwys, o gael cyflwyno i chwi yr Anerchiad hon. Yr ydym yn llawen- han fod yr Arglwydd wedi eich harwain i'n plith, ac am iddo eich nerthu i wneyd gwaith mor rhag- orol, a'ch cynorthwyo drwy ystod eich gyrfa weinid,,gaethol i fuchedda mor deilwngo'r ofeugyl, a'ch llwyddo mor helaeth, a rhoddi nerth corph a meddwl i chwi i gyflawni eich dyledswyddaa. Diolchwn, hefyd, am iddo ganiatau i ninoau fel Eglwys gyfleusdra i ddangos ein gwerthfawrogiad o'ch llafur diSino, am yn agos i ddeg mlynedd ar hagain. Wrth edryoh yn ol, nid ydyw ond fal de, er pan y daethoch yma. Er hyny y mae cyfnewid- iadau mawrion wedi oymeryd lie. Y mae y rhan fwyaf o'r rhai blaenllaw yr adeg hono, wedi hiino yn yr angau, ac y mae yr Arglwydd wedi galw ilu mawr ereill i gymeryd eu He yn y winllan fel ag y gallwn bron ddweyd fod Y-080 Eglwys new- ydd, ac fel yr oeddych yn serch y rhai Bydd wedi eu cymeryd ymaith, hyderwn eich bod yn un mor gu yn serch yr aelodau presenol. Y mae eich gweithgarweh, Bel, ffyddlondeb, ac yn enwedig eich prydlondeb yn hysbys i bawb. Yr ydych wedi bod yn weithiwr mawr, diwyd a chyson. Yr ydych wedi gwneyd eich goreu ynglyn a llwyddiant yr enwad. Y mae yr Anni- bynwyr yn lluosocach o lawer yn y cylch, drwy eich ymdrech chwi, a brodyr ffyddlawn eraill. Cychwynwyd achosion newyddion, ac y mae' gwedd lewyrchus arnynt, a gosododd eich Enwad yr anrhydedd uwchaf posibl arnoch am eich gwasanaeth ffyddlawn. Hefyd y mae eich ymdrechion chwi a'ch priod ynglyn a'r plant wedi bod o werth anmhrisiadwy a'ch ymweliadau mynych a'r cleifion, y tlodion, a'r anghenus, wedi cael ei werthfawrogi gan gan- oedd yn ein hardal; gwnaethoch hefyd eich rhan ynglyn a gwahanol symadiadau yn y gy,"Oog. aeth pa rai nad ant byth yn anghof. Y mae eich cynghorion, eich gweddiau, a'ch parodrwydd i gynorthwyo pawb mewn gwahanol gyfyngderau wedi eich dwyn i gysyllfciadau agos a'r rhan fwyaf o deulaoedd yr ardal, fel ae y mae eich enw yn air teuluafdd, Y mae hyd yn nod y plant bach yn eich adwaen yn dda. a sicr gen- ym y bydd eich coffadwriaeth yu fendigedig gan blant eu plaiit. Dymnuwn i chwi bob bendith dymhorol, a(7 ysbrydol, a nawnddydd tawel a hyfryd, ac y cewch oes hir i wasanaethu eich Harglwydd. A phan y gelwir am danoch i ymudael a'r ddaear hon, y cewch fynediad helaech i mewn i'r orphwyRfa dragwyddol sydd wedi ei darparfl gan yr Arglwydd i'r sawl a'i carant Ef. Arwyddwyd dros yr Eglwys. I Jonathan Thomas, John Roberts, John Parry, William Jones, William Roberts, John W Thomas, Edward Ellis, William E Jones. (Diaconiaid). Tachwedd 29ain, 1909. Cyflwynwyd autograph album i Mr Roberts gan Master Albert Jones ar ran ei Ddos- barth yn yr Ysgol Sdl. PARCH R ROBERTS. Wrth gyfl wyno. diolchgarwch am yr an- rhegion dderbyniwyd dywedodd Mr Roberts y teimlai anfeawsder i ddatgan ei ddiolch- garweh mewn geiriau, Os bydd byw yn ddigon hir dymunai roddi datganiad o hono mewn gweithredoedd. Bu yn weinidog i dair eglwys arall yn ei ddydd, ond yn Bethlehem y treuliodd y rhan oreu o'i fywyd. Yr oedd Bethlehem a'r Rhos wedi suddo yn ddwfn i'w enaid, ac wedi dod yn rhan o hono ei hun Yr oedd yn ddiolchgar i'r Eglwys am yr anerchiad, ac am y car- edigrwydd fyrdd a dderbyniodd yn ystod ei ymdaith yn eu mysg Yr oedd yn ddiolch- i Gymdeithas y Bobl Ieuainc am yr hugan a'r ffon, ac yn neillduol ddiolchgar i'w Ddos- barth yn yr Ysgol Sul am eu hanreg hwy. I ymadael a phlant y Capel, ac yn wir plant y gymdogaeth fyddai un o'r rhwyg- iadau mwyaf poenus yn yr ymadawiad. Datganodd Mr Jacob Edwards nifer o benillion cyfansoddedig yn arbenig ar gyfer yr amgylchiad. Hefyd adroddwyd rhai o waith Huwco Penmaen, Rhyl, gan Mr a Mrs James Cornellius Williams. Ar ran chwiorydd a phlant Bethlehem cyf- lwynodd Mrs Jacob Williams anrheg o umbrella hardd i Mrs Roberts. Ar ran y Gobeithlu cyflwynodd Miss Blodwen Thomas album i Mrs Roberts, a lady's handbag ar ran ei Dosbarth yn yr Ysgol Sul. Diolchodd Mrs Roberts yn wresog i bawb am yr anrhegion, ac yn arbenig am y teim- ladau da a gynrychiolent. PARCH R PERIS WILLIAMS, Gwrecsam, ar ran Undeb Cyffredinol yr Annibynwyr, a siaradodd am Mr Roberts fel yr engraifft uwchaf o fonheddwr cristion- ogol. Heblaw hyn yr oedd yn bregethwr mawr, yn weledydd prophwydol, ac yn fugail gofalus. Yr oedd rhywun yn dweyd y dylai'r gweinidog llwyddianus ddarllen llyfrau yn y boreu, ac astudio platiau drysau yn y prydnawn. Gwnaeth Mr Roberts hyny, a gwnaeth hyny yn rhagorol. MR WILLIAM ROBERTS Princes Road, a ddywedodd nid yn unig ddarfod i Mr Roberts astudio platiau y drysau, ond hefyd gwnaeth astudiaeth o'u ceginau a u ceginau cefn, ac hyd yn oed 0 lawer cwppwrdd pan y tybiai y gellid gwneyd efo rywbeth ynddynt. Yr oedd yn sicr y teimlai yr Eglwys a'r gymydogaeth golled fawr ar ol Mr Roberts. MR EDWARD ELLIS, Campbell st, a ddywedodd fod Mr Roberts wedi pregethu o bwlpud Bethlehem am yn j agos i 29 o flynyddau, ac yn ystod yr adeg yna arllwysodd ffrwd gyfoethog o syniadau gwreiddiol i'w meddyliau, a pharodd weled- iad cliriach i'w golwg ysbrydol. Gwnai ei eiriau fyw yn eu plith er fod y llefarydd wedi symud oddiwrthynt. MR WILLIAM 3ONES, Pentredwr, a sylwodd ar ffyddlondeb mawr Mr Roberts i, bob cyfarfod yn nglyn a'r capel, ac ar yr esiampl aruchel a osododd i eraill trwy ei fywyd. MR JONAH HUGHES a ddywedodd er nad oedd ei enw i lawr ar y rhaglen nad oedd yn foddlon gadael i Mr Roberts fynd heb ddweyd wrthynt mor ddiolchgar y teimlai iddo am y mawr gar- edigrwydd dderbyniodd oddiar ei law. PARCH E WILLIAMS, PENUEL, a gyfeiriodd at y dylanwad mawr a ddilyn- ai Mr Roberts y tuallan i'w Eglwys ei hun. Fel cymydogaeth diolchent i Dduw am dano. Wedi cynygiad o ddiolchgarwch i Mr John Parry am lywyddu mor ddeheuig, ter- fynwyd y gweithrediadau trwy i'r Cor ganu Then round about the Starry Throne" (Handel). Gwasanaethwyd wrth yr organ Mr Caradog Roberts, Mus Bac.

Advertising

wrpubau.

Cyfarfod Gweithwyr yr Hafod.

RHOS.