Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Eisteddfod Gadeiriol Rhos,…

Cor Plant Capel Mawr.

News
Cite
Share

Cor Plant Capel Mawr. Y mae y Cor uchod yn parhau i enill cym- eradwyaeth i ba Ie bynag yr elo, ac yn dal i fyny yr anrhydedd a enillasant yn ein gwyl genedlaethol. Nos Fercher diweddaf fe fu yn cynhal cyngherdd uwchraddol yn Nghaer mewn perthynas ag Eglwys M C. St John Street, a gwnaeth argraff ragorol iawn ar bawb oedd yn bresenol. Cawsant gymer- adwyaeth uchel i bob dernyn a ddatganwyd, a gorfu iddynt ail-ganu ragor nag unwaitb mewn atebiad i encore. Yr oedd amryw o'r plant yn datganu un- awdau, ac yn eu plith fe wnaeth Miss Sarah Jones, Smith street, ei rhan yn ddeheuig iawn; cafodd encore ddwy waith, ac fe sylwodd y Llywydd, ac hefyd Mr Yerburgh, Cyn-aelod Seneddol dros ddinas Caer, fod yna ddyfodol disglaer yn aros y ferch fach hon. Fe dderbyniodd Miss Mary Davies hefyd encore a chymeradwyaeth uchel iawn, Ac am Master R, Powell Edwards nid oes raid i ni ymhelaethu oherwydd y mae ei ddoniau yn wybyddus eisoes. Yn cynorthwyo y plant roedd Mr R I Jones, a gwnaeth yntau gyfrif da iawn a hono ei hun Hefyd cafwyd dwy unawd gao Arweinydd y Cor, Mr J Hartley Davies, yn dda a meistrolgar tu hwnt. Yn ychwanegol at hyn cafwyd Organ Recital gan R A Oulton, Esq., B.A., Mus Bac, a goleg Dublin, perfformiad medrus gan feistr ar ei waith. Gyda Haw, cymerodd y gwr bonheddig ieuanc hwn sylw arbenig o Miss Sarah Jones, a chafodd ymgom bersonol a hi. Hefyd cafwyd violin a piano duett gan y ddau frawd, Masters Walter a William Phillips, Osborne street, pa rai oedd yo ychwanegu yn ddirfawr at amrywiaeth y cyngherdd, ac fe wnaeth Miss Laura Prit. ard ei rhan gyda'r cyfeilio yn wir deilwng fel arfer. UN OEDD YNO.

PONKEY.

Advertising

7gwrpuz)au.

I CYNGHOR PLWYF RHOS.

[No title]

RHOS.