Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Eisteddfod Gadeiriol Rhos,…
Eisteddfod Gadeiriol Rhos, 1910. Cynhaliwyd pwyllgor cyffredinol perth- ynol i'r uchod Nos Iau, yn y Public Hall, o dan lywyddiaeth Mr C Morgan. Cym- eradwywyd gwaith y pwyllgor arianol yn caniatau 9150 o wobrwyon ar y gwahanol adranau. Llawenydd calon i bawb oedd deall fod A E Evans, Ysw., Bronwylfa, yn cynyg gwobr o 95 5s mewn aur am yr un- awdydd goreu. Darllenwyd testynau cer- ddorol gan y Parch J Menlove, ac f e'a cy- meradwywy d gyda eitbriad o ddewisiad y challenge solo. Cymeradwywyd gwaith y pwyllgor llenyddol, ond pasiwyd i'r pwyllgor hwn ail ystyried pe un, ai awdl neu bryddest fyddai oreu am y Gadair. Derbyniwyd gwaith y Pwyllgor Celt gydar C, 0 In cymeradwyaeth uchsl iawn. Dyma testy- nau yn deilwng o'r Eisteddfod Genedlaeth- ol. Pasiwyd fod y rhai c'anlynol i fod yn llywyddionttm y dydd :—Syr Watkin W Wynn A E Evans, Bronwylfa Dr J 0 Davies, Plas-yn-Rbos. Arweinyddion Parchn Charles Jones, Llanfyllin, a Rich Williams, Rhos. Mae rhagolygon Eis- teddfod 1910; yr hon a gynhelir Gorphen- af 4ydd, yn rhagorol iawn. Gyda chyd- weithrediad bydd yr Eisteddfod nesaf ya goron ar y rhai blaenorol. Hyderwn yn fawr mai felly y bydd.
Cor Plant Capel Mawr.
Cor Plant Capel Mawr. Y mae y Cor uchod yn parhau i enill cym- eradwyaeth i ba Ie bynag yr elo, ac yn dal i fyny yr anrhydedd a enillasant yn ein gwyl genedlaethol. Nos Fercher diweddaf fe fu yn cynhal cyngherdd uwchraddol yn Nghaer mewn perthynas ag Eglwys M C. St John Street, a gwnaeth argraff ragorol iawn ar bawb oedd yn bresenol. Cawsant gymer- adwyaeth uchel i bob dernyn a ddatganwyd, a gorfu iddynt ail-ganu ragor nag unwaitb mewn atebiad i encore. Yr oedd amryw o'r plant yn datganu un- awdau, ac yn eu plith fe wnaeth Miss Sarah Jones, Smith street, ei rhan yn ddeheuig iawn; cafodd encore ddwy waith, ac fe sylwodd y Llywydd, ac hefyd Mr Yerburgh, Cyn-aelod Seneddol dros ddinas Caer, fod yna ddyfodol disglaer yn aros y ferch fach hon. Fe dderbyniodd Miss Mary Davies hefyd encore a chymeradwyaeth uchel iawn, Ac am Master R, Powell Edwards nid oes raid i ni ymhelaethu oherwydd y mae ei ddoniau yn wybyddus eisoes. Yn cynorthwyo y plant roedd Mr R I Jones, a gwnaeth yntau gyfrif da iawn a hono ei hun Hefyd cafwyd dwy unawd gao Arweinydd y Cor, Mr J Hartley Davies, yn dda a meistrolgar tu hwnt. Yn ychwanegol at hyn cafwyd Organ Recital gan R A Oulton, Esq., B.A., Mus Bac, a goleg Dublin, perfformiad medrus gan feistr ar ei waith. Gyda Haw, cymerodd y gwr bonheddig ieuanc hwn sylw arbenig o Miss Sarah Jones, a chafodd ymgom bersonol a hi. Hefyd cafwyd violin a piano duett gan y ddau frawd, Masters Walter a William Phillips, Osborne street, pa rai oedd yo ychwanegu yn ddirfawr at amrywiaeth y cyngherdd, ac fe wnaeth Miss Laura Prit. ard ei rhan gyda'r cyfeilio yn wir deilwng fel arfer. UN OEDD YNO.
PONKEY.
PONKEY. CYMDEITHAS BETHEL.-—Treuliwyd nosoo ddyddarol gan aelodau y Gymdeithas uch- od i drafod "Trethiad Tirol y Gyllideb." Agorwyd dros y Weinyddiaeth gan Mr E R Roberts, a thros yr wrthblaid gan Mr R W Williams, Grango. Cefnogid y rhai hyn gan amryw eraill, a phan roddwyd y mater i bleidlais cafwyd fod mwyafrif yo ffafr y trethiad. CVMDEITHAS MYNYDD SEION.—Nos Wen- er diweddaf bu y Parch R Roberts, Rhos, yma yn rhoddi anerchiad ar "Ddechreuad a chynydd Annibyniaeth yn y Cylchoedd." Dangosai y siaradwr ymgydnabyddiaetb drylwyr a'i fater, ac olrheiniodd hanes yt enwad o'i gychwyniad yn Ngwrecsam yn adeg Walter Caradog a Morgan Llwyd hyd yr adeg bresenol, gan roddi lie man- wi a maith i weinidogaeth y seraph-breg- ethwr Williams o'r Wern, a'i ddylanwad ar y cylchoedd. Cafwyd anerchiad ragor- ol, am yr hon y diolchwyd yn galonog. Llywyddwyd gan y Parch J Howell. BEDYDDWYR ALBANAIDD.-Cyfarfydd. odd yr uchod nos Fercher (wythnos) i wrando anerchiad ar y Gyllideb gan y Cynghorwr Jos S Jones. Aeth Mr Jones i mewn i ddarpariadau Mr Lloyd George yn fanwl, gan egluro y modd y gweithred- ent, a'r elw ddygent i'r wlad yn y dyfodol, Yr oedd yn anerchiad wir oleuedig ar gwestiwn llosgawl y dydd, a gofidiem yo fawr, er fod cynlliad lluosog wedi dod yn nghyd, na fyddai yn fwy cyhoeddus. Byddai yn adeiladaeth a chryfhad i Rydd- frydwyr yr ardal i'w gwrando. Llywydd- wyd gan Mr David Davies, Glasgow House. Nos Fercher diweddaf trefnwyd y Gymdeithas yn Ddosbarth i ddarllen ac efrydu y 11 Mabinogion." Yr athraw oedd Mr A D Eoulkes. o VsgoJ y Grango, a llwyddodd i roddi goleuni ar, ac i grell dyddordeb newydd yn y ienyddiaetb rhamantus a henafol hon.
Advertising
TO LET BODAWELON, Hill Street, Rhos B two entertaining rooms, kitchen, wash-house, bathroom and W.C.-Apply Liverpool House, Johnstown. WANTED A HOUSE AND SHOP near the Cross, Rhos.—Apply X, Herald Office. MOLES. Gerrard Brothers, Furriers, Edinburgh, pay highest price for 1l furred Winter Skins. Send for par- ttculars. ESTABLISHED 1898. A SSISTANT INSPECTORS OF A OF MINES. Mine Managers' jgxams., Scholarships, and Associateship |p MINING, &c,, Candidates prepared. private Lessons hy Post. Geology, Min- Ing, Engineering, Electricity and Survey- g. Certificates awarded. Write for Syllabus. CAMBRIAN MINING SCHOOL, Ulanffrwd, Porth, Glam. LONDON IMPERIAL HOTEL, RUS- sell Square. Orchestra daily in Winter Gardens. Bedford Hotel, South- ampton Row. Central for business or ijeasure j near chief railway stations, iheatres and shops. "Premier" Hotel. Southampton Row. Quiet, comfortable liptel. Room, breakfast and bath from 3lfJ. Pension, 6/ Meetings & Entertainments PWY AWR DDIDDAN Public H.ll, Rhos Rhoddir PerfFormiad o'r DDRAMA GYSSYGREDIG 'Moses, o'r Cawell i'r Mor Coch' CAN DDOSBARTH CYMRAEG SILOH, M.C., Johnstown, IfOS LUN, TACHWDBD 22, '09 Hewn Gwisgoedd Dwyreiniol Drudfawr, Darluniau, a Tableaux." -Urysau yn agored 7, ddechreuir am 7-30. Tocynau, 1/6; is; a 6ch. 40.- "Y DDAU DEILIWR." Tradddir Darlith W CAPEL BETHEL, M.C. PONKEY NOS LUN, CHWEFROR 14, igto, Gan y $ARCH. R. R. JONES Abergynolwyn. -0- Many lion i ddilyn. RHOS SILVER BAND. -d-: Special Engagement of Professor CHEETHAM With his EylYograph Animated Pictures 4-t THE PUBLIC HALL, RHOS, DECEMBER 13, 14, 15, 1909. Particulars to follow. «■— •. ——-—;— i■ '• JOHN JONES. Traddodir DARLITH ;i YN NGHAPEL PENUFI, RHOS, 80S FERCHER, RHAG. JS, 1909 GAN OR W. O. JONES, ABER it budd Mary Ann Jones, Xow st. < WYlYGIWB Y MYNYDDOEDD.' ";l" Bydd y PRIF-FARDD ELFED Yn traddocli ei IMarlitf? Boblotaidd Ar y testyn uchod ITos XftU, 3Urtn 16, 1009. MR ABEL HUGHES desires to thank j the numerous friends for their kind expressions of sympathy shown in his re- cent sad bereavement. Nag's Head Hotel, Rhos. fN''i8
7gwrpuz)au.
7gwrpuz)au. (PULPIT SUPPLIES) SABBOTH, TACHWEDD 14, 1909. ? WBTHODI8TIAID OALFTNAICD Qa^pel Maw—10 a 6, D Williams, Llauwnda Ssthel, Poufcay—-10 a 6, Owen Lloyd Meriah, Ponkey-10 a 6, R Hughes, Weston Rhyn ffill-st,-10-30 & 6, D W Elias, Wrexham Johnstoion—10-30 a (;, T B Williams PentrefeZin-2, D Willi-ims groes-E Edwards Carrag Tctinant-E Edwards Rho sty lien—-10 and 6 Thomas Jones fa 'A.NNIBYIITWYU. Bethlehem, Ithos-10 Lloyd, Bangor, 6 R Roberts Salem, Bank-st-10 R Roberts, 6 Lloyd, Bangor Mynydd Saitm,—10 a 6, Evans, Nant Ebenezer, Queen St.-lO a 6, Evan Roberts, Brynteg Johnstown (S)—10-30 & 6-T Arthur Thomas Y SRDYDDVv Yb P«nuel,—10 Christmas Evans, Cefn, 6 E Williams Methamia, Church St—10 E Williams, 6 0 Evans as,m, Ponkey-IU a 6, E Mitchell Tabernacle Ponkoy-10 a 6 James Jones Boar, AberlerfVn-10 James Davies, 6 Thos Hughes Oal/aria, Rhos-10 Daniel Davies, 6 W 8 Jones Ut Pleasant, Ponkey—10-30, & 6, J W Humphreys Noddfa, tohnstown—10-30 a 6, P;Lnycae-lo a 6, W B Jones firoes-at 2 W B Jones DISGYBLION ORIST. Bethel, Campbell St-reet-10 a 6, Y wms LEY AID. IhQs-IO a 6, Cyfarfodydd Adfywiadol—Hugh Hughes, Old Colwyn Johnstown—10-30 Wm Price, Rhos, 6 B 8 Price S't-yt 18811-10 T Nicholls- Roberts, 6 Wm Price Piasbenmon—10" Thos Evans, 6 Edward Morris PRIMITIVE Shot—10-30 & 6, 8 Lloyd, Rhosymedre Copperas—2-30 & 6, A Humphreys, Cefn YR tHQhWVti t»JDJrYDbaD £ G. Vicar, Rev J H Thomas Onrat4m Jenkins. Ntenlove. I Jtihn' Ohureh—8«rvio«afc 10.80, and 6. Bgiwys St, David—Gwaaanaeth am 10 a t Bt .M.a.f"V" Qhurah. Tnhnstown—Bervic# at 3 & 6 PENYOAE Vicar—Rev Joseph Davies Bt Thomas s Church,-Servioe at 10-80 and 6 SALVATION ARM?. Barracks, Sauvag* Stroef-11-15, 2, 6-45 Ensign Shepherd, & Lieutenant R LazzelL 11""
I CYNGHOR PLWYF RHOS.
I CYNGHOR PLWYF RHOS. Cynhiliwyd cyfarfod rheolaidd yr uchod yn y Public Hall, nqs Iau, y Cynghorwyr a ganlyn yn bresenol :-Mri W M Jones (Cadeirydd), Richard Jonas, Wm Garner, Samuel Roberts, Cadwaladr Morgan, Ted Jones, Sam Pritchard, Jos Griffiths, Ken Wynne, D L Price, Isaac Smith, Watkin Jones, David Davies, Joseph Charles, a'r Clerc, Mr J Trevor Jones. IAWN-DAL. Darllenodd y Clerc lythyr oddiwrth Mr Joseph Wright, Campbell street, yn bys- bysu fod cludwr y carthion tra yn nglyn a'i waith wedi niweidio gwal perthynol iddo yn Campbell street. Yn ostyngedig gofynai i'r Cynghor Plwyf wneyd y golled ifyny. Ystyriai y Cynghor mai y He priodol i anfon yr appel oedd i'r Cynghor Dosbarth, a phasiwyd fod cais Mr Wright yn cael | ei anfon yno. LLYTHYRDAI Y PONKEY. Darlienwyd gohebiaeth oddiwrth Bost- feistr Ruaboij yn hysbysu y telid sylw i gindiad y Ilythyraa ar nos Fercher 0 lythyrdai y Ponkey. Gobeithiai y gwnai hyn gyfarfbd a gofynion y preswylwyr. Datganodd y Cynghor eu boddhad am y trefniadau wnaed. TIR-DDOSRANTAD. Cofus i'r Cynghor Plwyf beth amser yn 01 benderfynu i ysgrifenu at y Cynghor 9 Sirol parthed y camrau goreu i'w cym- eryd i sicrhau tir ar gyfer allotments yn Johnstown. Mewn atebiad i'r ohebiaeth ysgrifenodd Clere y Cyngbor Sirol yn hysbysu yr ymddangosai iddo ef y gallai y Cynghor Plwyf wneyd Arcbeb Gorfodol (ampulsory Order) am ran o'r cae (Tay- lor) pe y dymunai, ond byddai yn rhaid cael yr Archeb Gorfodol trwy y Cynghor Sirol, ae- wrth gwrs byddat hawl gan y tirfeddianwr i ailgymeryd meddiant o un- rhywran o'r tir y byddai aagen arno i ddibenion adeiladu. Feallai y gallai eu cyoorthwyo pe rhoddai y Cynghor Plwyf iddo wybodaeth beth ydyw maintioli a safle y cae y cyfeirir ato, ac faint 0 bono fyddai angen ar y Cynghor ar gyfer tir- ddosraniaxi. Trosglwyddwyd y mater er cael ym- drafodaeth peliach i Bwyllgor y Man- ddaliadavL TREULIAU Y RHOS, Yn ngfhyfarfod diweddaf y Cynghor darlienwyd rhestf o dreuliau arbenig oddi- wrth y Cyngbor Dosbarth, yn dangos fod y trealiau arbenig a godir ar drethoedd cylchredol y Rhos am yr haner blwyddyn yn diweddu Medi SOun, 1909, yn J61202 9s 6c; a'r treuliau arbenig am yr haner blwyddyn yn diweddu Mawrth, 1910 yn L1150. Gwnaed y treuliau ar- benig am yr haner blwyddyn yn diweddu Medi, 1910 i fyny fel y canlyn :-Carth- ffosyd i (yn cynwys belaetbiad Furnace Bank), £ 136 7s 10c; Symudiad Carth- ion, £ 99 15s 9c; Cludiad tomenydd, .£198 16s Ie; treuliau arbenig eraill, E50 12-i 6c; ad-daliad arian benthyg a llogau, E716 17s 4c. Ceisiodd Overseers y Rhos, Mr Joseph Charles a Mr Saml Roberts, ymgom a Mr J Oswell Bury parthed y gofynion arbenig byn, gyda'r diben 0 gael dealldwriaeth sut y daethpwyd atynt, ac a oeddynt wedi eu dosranu yn gyfiawn. Yn ei adroddiad o'r ymgom fu rhyng- ddvnt a Mr Bury, dywedodd Mr Charles i Mr Bury eu derbyn yn foesgar, ac hefyd datganodd ei gydymdeimlad oherwydd trymder beichiau y Rhos. Yn eyfeirio at y swryi hawlid am hel- aethiad y earthffosydd dywedodd Mr Charles fod tybiaeth yn Rhos fod y swm i ddod o'r drysorfa fenthyciol, ac nid o'r trethi cylchredol. Atebodd Air Bury nad oedd hyn felly, ac vchwanegodd fod cynrychiolwyr lleol y Rhos i'w beio am nad ystyriasant eu gofynion yn flaenorol. Yna gofynodd Mr Charles yn nghylch y gost am symud tomenydd oddiwrth y tai, a dywedodd eu bod yn Rhos o dan yr argraff mai 2/2 y flwyddyn y ty oedd y pris. Atebodd Mr Bury mai y pris oedd 2/6. Y treuliau eraili a eglurwyd oeddynt gyfran o gyflog y peirianwyr, wedi eu trefuu ar nifer yr outfalls yn y plwyf. Mr David Davies, un o'r cynrychiolwyr lleol ar y Cynghor Dosbarth y cyfeiriwyd atynt gan Mr Bury, a ddywedodd mai gorchwyl hawdd iawn, pan wneir cam- gymeriad, ydyw taflu y bai ar ysgwyddau pobl eraili. Cododd y cynrychiolwyr Aleol eu lleisiau mewn gwithdystiad parhaus, ond yr oedd mwyafrif i'w herbyn. Mr Ted Jones a ddywedodd yr ym- ddangosai iddo ef fod y Cynghor Dosbarth a materion y Rhos yno o dan reolaeth Mri Babb, Cromer, a Bury, yr uchel-ly- wyddion hyn !-(chwerthin). Y n derfynol penderfynwyd i ysgrifenu at Mr Bury yn hysbysu eu bod o dan yr argraff fod y gost yn nglyn ag helaethiad y earth-ffosydd i'w chyfarfod trwy fenthyc- iad, ac yn gynwysedig yn y ;613,000 a fenthyciwyd ac fod pob costau helaeth- iad yn y dyfodol i fod trwy fenthyciad, ac nid eu cyfarfod trwy y trethi cylch- redol. Bydd y PwyHgor Cyllidol yn trafod y mater yn mhellach. ) GWELL CYFLEUSDERAU LLYTHYROL. Galwodd Mr D L Price sylw at yr ang- en mawr am well cyfleusderau llythyrol yn y cylch. Arwyddid y llythyrau yn Ruabon am 4-15 y boreu, ac eto nid oedd- ynt yn cyrhaedd rhai tai yn Rhos hyd 11 o'r gloch. Yr oedd y dosbarthiad hwyrol yn waeth hyd yn oed na'r boreu—rhai tai heb fod yn derbyn eu llythyrau hyd 8 o'r gloch. Credai fod lie mor fawr a'r Rhos yn haeddu gwell cyfleusderau. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn creda fod y Rhos ddigon y maint i gael llythyf- dy ar wahan i Ruabon. Ystyriai ef y gellir cael gan y Llywodraeth i redeg modur am chwech y boreu i gludo llyth- yrau i'r Rhos, ac felly estyn iddynt well cyfleusderau. Meddyliai Mr Ted Jones ei bod yn bosibl i wella materion o dan y trefniadau presenol. Yn y cyfamser gellid ffdrfio Pwyllgor bychan i ystyried y cwrs goreu i'w fabwysiadu er sicrhau gwell cyfleus- derau llythyrol. Carai hefyd weled y trefniadau yn nglyn a chymundeb pell- ebrol yn cael eu ewblhau yn llythyrdy y Ponkey. Penderfynodd y Cynghor i weithredu ar gyfarwyddyd Mr Ted Jones, ac ap- pwyntiwyd Pwyllgor o bump i edrych i mewn i'r mater. OSBORNE STREET. Dywedodd Mr David Davies fod Pwyll- gor Byelaw y Cynghor Dosbarth ar waeth- af gwrthdystiad aelodau y Rhos, wedi pasio y planiau i newid y ffordd newydd Osborne street. Nid oedd y planiau i adeiladu ty newydd yno eto wedi eu pasio. Credai ef y dylai y Cynghor Plwyf anfon gwrthdystiad pybyr at y Pwyllgor yn erbyn iddynt basio y planiau cyn i'r lie gael ei drefnu yn heol briodol. Pasiwyd yn unfrydol benderfyniad yn cynwys sylwadau Mr Davies. ELUSENAU PLWYFOL. Appwyntiwyd y Cadeirydd a'r Clerc fel cynrychiolwyr i uno a Ficer y Rhos a'r Wardeiniaid Eglwysig i ddewis derbyn- wyr yr Elusenau Plwyfol.
[No title]
Pan oeddis yn tybied fod y wawr ar dori ar y fasnach lechi, wele gwmwl du yn gwneyd ei ymddangosiad yn Nyffryn Nant- lle, sef atal 150 o weithwyr yn Chwarel Pen- yrorsedd. Am ba reswm nis gwyddom. Y Mae pump, ar hugain o weithwyr wedi e* haital yn Chwarel Alexandra.
RHOS.
RHOS. Y FORO GRON -Cyfarfyddodd y gym- deithas uchod nos Wener diweddaf yn ysgoldy y Capel Mawr, pryd y cafwyd dadl odidog ar y testyn A ydyw Credin- iaeth yn Athrawiaethau Sylfaenol Crefydd yn anebgorol er Iawchawdwriaeth ?" Agforwyd ar yr ochr gadarnhaol gan Mr William Hughes, Osborne street yn cael ei attegu gan y Mri Edward Thos Banks, John Griffiths, Market street, a Thomas Phillips, Furnace Bank. Agorwyd ar yr ochr wrthwynebol gan Mr Thos Sauvage, Campbell street, ac attegwyd gan y Mri William John Edwards, Michael Roberts, a William Edwards, Hall streeet. Siar- adwyd yn mhellach gan y Mri E Fred Williams, Joseph Davies, Llew Phillips, John Davies, a Glyndwr, Phillips. Lly- wyddwyd gan y Parch R Jones. CYMDEITHAS PENUEL A BETHANIA.— Cynhaliwyd cyfarfod o'r uchod nos Wener diweddaf o dan lywyddiaeth y Parch E Williams, pryd y traddododd y Parch E Mitchell, Ponkey anerchiad benigamp ar Demtasiynau'r Ardal." Y mae y testyn wedi ei fabwysiadu gan Undeb Pobl Ieuanc Bedyddwyr Cymru, i gaet siarad arno yn mhob ardal lie mae cinghen o'r undeb, a teimlad y pwyllgor wrth ddewis Mr Mitchell oedd, ei fod yn gymwys i drin y fath destyn, am ei fod yn frodor o'r ardal, wedi cael profiad maith o waith gweinidogaethol, ac wedi cael cyfle i fyned "i mewn ac allan yo eia plith ni/' Cyfyngodd eu nodtadau yn arbenig i daf- arndai, anwadalwch, ymarferiadau corph- orol, gwenwyn (eiddigedd), cymdeithasau tai (fel y maent yn ddrwg mewn hanes llawer achos eglwysig), a darbodaeth. ar y pen hwn treuliodd amser maith, i ddangos ei rhagoriaethau a'i diffygion, fel y maent yn neillduol yn ein hardal ni. Yr oedd cynulliad da, a phawb yn gwrando yn I astud, a'r areithydd a'r ei uchel-fanau. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mr I Mitchell ar gynygiad Mr John Jones, Pant, yn cael ei eilio gan Mr John Roberts, (Penuel). Terfynwyd trwy I weddi gan y llywydd, a theimlad pawb oedd mae "da oedd bod yno." AELOD. CYFARFOD PREGETHU.—Y Sabboth ar LIuo diweddaf cynhaliodd Eglwys Eben- ezer, Queen street, ei chyfarfod pregethu. Dydd Sul pregethwyd gan y Parch T Rhys Williams,, Ynysgau, ger Merthyr Tydfil, a dydd Llun gan Mr Williams a'r Parch T E Thomas, Coedpoeth. Yr oedd y cynulliadau y ddau ddydd yn lluosog ar genadwri yn cael ei thraddodi gyda grym neillduol. BEDYDD.—Boreu Sul diweddaf, yn Penuel gweinyddwyd yr ordinhad o Fed- ydd trwy drochiad gan y Parch E Williams, ar foneddiges o'r America. Ar hyn o bryd arhosa yn y Waen. a datgan- odd ei dymuniad beth amser yn 01 i gael ei bedyddio yn yr un man ag y cafodd ei thad o'i blaen. HEDDWCH.—Yn Ysgol Sul Capel Mawr, y Sabboth diweddaf. Yn unol a chais Pwyllgor Cyngrair Cenedlaethol yr Eg- lwysi Rhyddion fu ar ymweliad yn ddi- weddar a Germani, pasiwyd penderfyniad unfrydol yn anog heddwch rhwng-gened- laethol. Yn ei happel dywedai y Pwyll- gor iddynt, tra yn Germani yn Mehefin, f 1909, ddod i gyffyrddiad agos ag arwein- wyr crefyddol yn y wlad hono, ac ar- gyhoeddwyd hwy fod yn mhlith hot! rengoedd crefyddol Germani awyddrfyd cryf am gael mwy o gyfeillgarwch a chyd- weithrediad a chrefyddwyr yn y wlad hon er meithrin ysbryd o heddwch ac ymddir- iedaeth rhwng y ddwy wlad. Credai y Pwyllgor y caiff gweithrediad unol adran- au crefyddol y wlad hon effaith cryf ar berthynas y Galluoedd Gwleidyddol yn y dyfodol. MARWOLAETH.—Boreu Mercher diwedd- af bu farw Mr Frank Jones, Queen street ac efe yn yr oedran cynar o 23 mlwydd. Mab ydoedd i Mr a Mrs Wm Jones, a ga- dawa weddw ac un plentyn i alaru ei golli Mawr gydymdeimtir a'r teulu yn eu trallod ORGANYDD PENUEL.-Wedi bod yn ed- rych o amgytch am organydd a chorfeistr cymwys i Penuel, penderfynodd yr Eglwys yr wythnos hon i rhoddi galwad unfrydol i Mr E. Emlyn Davies, A. R.C.O., Rhos. Deallwn i ddirprwyaeth o'r Eglwys ym- weled a Mr Davies a gosod llais a dymun- iad yr aelodau ger ei fron, ac mae yntau ar hyn o bryd yn ystyried y cwestiwn. Mawr hyderir y gwel ei ffordd yn glir i dderbyn y cais, a sicrheir ef y caiff gyd- weithrediad calonog gan bawb yn yr Eg- lwys. "OLIVER CROMWELL.—Dyna y testyn gymerodd y Prifathraw Rees, M.A., Ban- gor, i anerch Gymdeithas Ddiwylliadol | Bethlehem a Salem nos Sadwrn diweddaf. Llywyddwyd gan y Parch R. Roberts, a daeth cynulleidfa luosog yn nghyd, yn mysg y rhai yr oedd amryw o weinidog- ion y cylch. Rhoddodd y Prifathraw ddar- lun cywiro yrfa y gwron hanesyddol, gan ddangos ei le yn, a'i ddylanwad ar y wtad Dywedai mai ffolineb oedd rhanu hanes gwtad i frenhiniaeth, Brenhinoedd a Brenhinesau, dynion mawr mewn teyrnas oedd yn gwneud ei hanes. Yr oedd Crom- well yn ddyn o'r werin, eto wedi ei eni i fod yn arweinydd i ddynion. Er da neu ddrwg credai Cromwell yn ddiysgog fod ei lwyddiant mewn bywyd yn dod yn un- iongyrchol oddiwrth Dduw, ac fod Duw gydag ef yn ei holl waith, ac yn ei gor- oni a'i fenditl\. Tra yr anghytunai gyda rhai pethau a wnaeth Cromwell fel Rhag- law y wlad, eto yr, oedd yo credu iddo wneyd llawer i ddwyn trefn oddiamgylcft yn Lloegr, ac i wneyd ei henw'n barchus oddicartref. Gosodwyd sylfaeni cydradd- oldeb crefyddol a gwleidyddol, ar y rhai y mae Lloeg-r yn para i adeiladu. Cynyg- iwyd diolchgarwch i'r darlithydd gan y llywydd, a'r Parch J Howell yn eilio, a diweddwyd gan y Parch E Williams, (B),