Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Wwfpubau.

-0-I AREITHIAU ERAILL.

PONKEY.

Advertising

MR LLOYD GEORGE.

.-0-BETH AM Y "RHOS ?

CYNGH08 PLWYF, EH0S. 1

[No title]

NODION 0 AMERICA.

News
Cite
Share

NODION 0 AMERICA. Mr Golygydd,-Diau y bydd Uawer o'm hen gyfeillion yn falch o gael gair oddi- wrthyf trwy gyfrwng yr "Herald." Gall- af eu cyrhaedd oil felly yn rhwyddach na thrwy un cyfrwng arall. Y mae deuddeg mlynedd a'r hugain oddiar y gadewais ardal anwyl a chysseg- redig- fy maboed, ac erbyn y bydd y nod- ion hyn wedi ymddangos yn yr Herald, byddaf wedi treulio chwarter canrif yn Ngwlad Machlud Haul. Gwlad fawr, gwlad dda, uchel ei breint- tau, ac eang ei hadnoddau, ydyw gwlad fy Ewyrth Sam." Ac y mae rhyw lan- erch o'i daear, lie y gorwedda fy rhieni ac eraill o'm hanwyliaid, hyd fore mawr y codi, yn anwyl a chyssegredig i mi-er hyny, ni allaf byth anghofio, chweithach rhoddi anair i'r wlad fach sydd yr ochr araH i'r pysgodlyn mawr, ac yn enwedig hen ardal anwyl fy maboed yn mhlwyf Ruabon. Yr wyf wedi gweled thai ffyl- iaid yn gallu gwneyd hyny. Gas gwr na charo'r wlad a'i macco." Tra y mae llawer o'm cyfoedion yn ar- os, gwn fod llu mawr ohonynt wedi croesi i'r byd tragwyddol, ac yr wyf yn edrych yn mlaen gyda hyfrydwch at adeg yr ad- uniad yn Ngwlad y Gan, a'r Gynau Gwynion." Ar fy nheithiau yn y wlad fawr hon, yr I wyf wedi cwrdd a llawer o blant Plwyf Rhiwabon, amryw ohonynt yn gwneyd I yn dda, ac yn ymddwyn yn weddaidd ac anrhydeddus, ac mewn parch mawr, ac I wrth gwrs ambell i un dipyn yn esgeulus o hono ei hun. Nis gallaf ddarlunio mewn geiriau fy nheimlad pan yn cyfarfod a phlant Pen- ycae a'r Rhos. Bydd fy nghalon yn llamu gan lawenydd, a bydd llu o hen adgofion melus yn yrnvvthio fel ysbrydion i'm meddwl. f Ychydig dros ugain mlynedd yn ol, cyfarfyddais a phregethwr galluog iawn yn y wlad hon, yr hwn a ddechreuodd ei yrfa weinidogaethol heb fod yn mhell o t ardal fy maboed, a'r hwn a adwaenai fy rhieni yn dda. Pan ddywedais wrtho pwy oeddwn, gwelwn y dagrau gloewon ya treiglo dros ei ruddiau, a chydiodd yn fy Illawyn dyn, a gofynodd 11 Ai loan mab Joseph Llwyd o Pentre Christionydd,-y dyn hwnw a fedrai adrodd pregeth bob gair ar ol ei chlywed unwaith-wyt ti ? Yr wyf yn dy gofio fachgen yn blentyn yn dy gryd, pan yn ymweled a thy dy rieni gyda'r diweddar Barch William Roberts, o'r Rhos. Amheuthyn o beth oedd clyw- ed dy dad yn adrodd darnau o bregethau y diweddar John Williams, ac enwogion ergiill. perthynol i'r gwahanol enwadau." Brodor o'r de ydoedd y pregethwr hwn, ond yn meddu serch neilldilol at Blvvyf Ruabon am mai yn y Plwyf hwnw y dechreuodd ei yrfa weinidogaethol, a bydd bob amser yn falch O son am y lie. Gwelais ef fis yn ol, ac nid oedd ddim YN fwy boddhaus ganddo na son am hen breswylwyr Plwyf Ruabon. Pa faint mwy felly y fi sydd yn frodor o'R lie ? Y mae cael cwrdd a rhywun o'r hen ardal, ac ymgom am yr hen gyfeillion, pe byddai ond am haner awr, yn llawer gwell na moddion y meddyg goreu yn y wlad. Oddiar wyf yn y wlad hon, yr wyf wedi bod lawfer gwaith yn gwasanaethu Eglwys Johnstowri, Pa.,—dinas y diluw mawr. Yn nechreu Mai diweddaf, bum yno yn gwasanaethu mewn Cymanfa, a chyfar- fyddais yno ag amryw o fechgyrt Y Rhos a Phenycae, ac o mor dda oedd genyf eu gweled, a chlywed y bobl yn canmol eu ffyddlondeb i'r achos da. Gan iod y gweinidog, y Parch J D Roberts, yn ym- weled a'r Hen Wlad, trefnwyd i nti fyned yno drachefn am Sabboth yn niwedd I MeheSn, a phenderfynais aros wythnos yno gyda phlant y Rhos a Phenycae. Trefnais i aros gydag Emmanuel Jones, a'i briod, sef Elizabeth, merch William Valentine y crydd, o'r Drefechan. Gyda hwy yr erys Ernest Ellis, mab Robert Ellis, o'r Rhos, yr hwn oedd un o'r rhai cyritaf i ddod i'm gweled, pan ymwelais aV" Hen Wlad, chwe' mlynedd yn ol. ,G,Welais,yno hefyd Edward Francis, mab Thomas Francis, Penycae, Gethin Davies, a Samuel Roberts, o'r Rhos, ac eraill nad wyf yn cofio eu henwau yn awr. Bum ynot yn agos i wythnos, a chefais amser neitiduol o dda gyda hwy. Deuent oil i dy Emmanuel Jones yn yr hwyr, a threul- iwyd oriau bob nos i ganu a son am hen gymeriadau y dyddiau gynt, a chyn ym- wahanu caem gwpanaid o de gan Mrs Jones. Nid yw peth felly i'w gael gan y Yankees. Y mae Edward Francis a'i deulu yn bur gysurus, ac yr oedd Edward wedi prynu ceffyl a cherbyd, er myn'd a'i deulu allan am dro wedi dod o'r gwaith. Caw- som, lawer o ddifyrwch gydag Edward a Robby y ceffyl. Y mae Gethin Davies wedi priodi un o rianod kianaf a goreu Johnstown. Yr wyf yn et hadwaen hi a'i rhieni er's dros ugain mlynedd. Ei thad yn ddiacon ffyddlon yn yr Eglwys yno. Y mae Gethin wedi myned i mewn i un o deulu- oedd parchusaf yr holl wlad, ac y maent yn meddwl yn fawr o hono. Cefais fwy o gymdeithas Emntanuel Jones a'i briod, ac Ernest, na'r Iteill, am mai gyda hwy yr oeddwn yn aros. Cef- ais fwynhad ac adloniad neillduol yn eu gymdeithas, ac y mae y cyfarfyddiad wedi codi hiraeth mawr aui YR Hen Wlad. Bu fy mrawd Joseph gyda ni yr wyth- nos hon, ac yr ydyw wedi dod i'r pander- fynlad o ymwaled a Chymru eto, yr haf nesaf, neu yr haf wedi hyny. Ceir gair ar hyn eto. Da genyf glywed plant y Rhos a Phenycae yn siarad mor uchel a pharchus am y gwahanol weinidogion yno, sef y Parchn W B Jones, Penycae, E Williams, Penuel, E Mitchell, Ponciau, Robert Jones, Capel Mawr, R Roberts, Capel Bychan, ac eraill. Ar fy ffordd i Johnstown, arhosais noson yn Homestead, Pa., gyda theulu o Benycae, hen gyfeill- ion bore oes, sef W Christmas Williams, a'i briod. Bydd pobl Penycae yn ei ad- waen yn well wrth ddweyd Will bachgen Nedi, a'i briod Jane, merch Twmni a Hannah Tai Newydd. Byddaf yn mynd yno bob tro yr af i gyfnniau Pittsburg, ac yn cael bias yn nghymdeithas y teulu. Mae yno hefyd amryw o'r Rhos, sef loan Jones, Dan Jones, ac eraill. Dylwn ddweyd fy mod yn deall fod y Parch William Williams yn dod yn mlaen yn dda, ac yn gwneyd ymdrechion clod- wiw i gael addysg, er ei addasu i waith pwysig y weinidogaeth. Y mae yn Streic yn awr yn amryw o'r Melinau Alcan a Dur yn y wlad. Ym- ddengys fod y Meistradoedd wedi pender- fynu na chydnabyddant yr Undebau Llaf- ur mwy. Pe deuid i ddealldwriaeth ar y mater hwn, credwn fod rhai blynyddau o amser da o'n blaen. Y mae wedi bod ya wael iawn am fwy na dwy flynedd. Rhagymadrodd gwasgarog i ysgrifau eraill yw y nodion hyn. Cofion at fy hen gyfeillion oil, Youngstown, Ohio. J. T. LLOYD.

RHOS.