Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Wwfpubau.

-0-I AREITHIAU ERAILL.

PONKEY.

Advertising

MR LLOYD GEORGE.

.-0-BETH AM Y "RHOS ?

CYNGH08 PLWYF, EH0S. 1

News
Cite
Share

CYNGH08 PLWYF, EH0S. Cynhaliwyd cyfarfod misol rheolaidd yr uchod yn y Public Hall, nos Iau, pryd y rhoddodd y rhai canlynol eu presenoldeb Mr Richard Jones (yn y gadair), a'r Mri C Morgan, D L Price, W Garner, K Wynne, Joseph Charles, Tom Roberts, Jos Griffiths, Watkin Jones, Ted Jones, Samuel Roberts, a'r Clerc, Mr J Trevor Jones. SWLLT Y FLWYDDYN. Anfonodd Cwmni Rheiiffordd y Great Western lythyr yn cynwys taliad o i/- am y caniatad dderbyniant i osod nod ar y) lamp ar y Groes. DOSRANIAD CAE ENION. Darllenodd y Clerc ohebiaeth oddiwrth y Cynghor Sirol yn hysbysu eu bod wedi pwr- casu yrnaes a adwaenir fel Cae Enion, yn cynwys 180 aceri, am £5°0 a chynygient i'r Cynghor Phvyfol _un acr o'r eiddo fel tir-ddosran. Dywedodd y Clerc fod y tir wedi ei hysbysebu, ond nid oedd un appel wedi ei dderbyn am dano. Dywedodd Mr Tom Roberts y carai gael un neu ddau o bwyntiau wedi eu clirio yn nglyn a'r mater. Deallai fod yr oil oddi- eithr un acr wedi eu dosranu i ddau ddyn. Nid oedd yn credu fod hyn yn hollol deg. Ystyriai ef y dylai pawb gael cyfle i wneyd cais am fan-ddaliad. Yn ol ei farn ef dylai y Cynghor Sirol hysbysu eu bod wedi pwr- casm Cae Enion, ac yna gwahodd ceisiadau, a dewis y rhai llwyddianus yn y drefn arfer- ol. Eto, nid oedd yn gweled mai priodol peth i'w wneyd oedd cymeryd tir oddiar un tenant a'i ranu rhwng dau, a hyny heb roddi un math o rybudd i'r tenant presenol am hyny. Yn ateb Mr Roberts, dywedodd y Clerc ei fod yn meddwl i'r Cynghor Sirol bwrcasu Cae Enion oblegid i ddau ddyn o'r Rhos wneyd appel atynt am dir-ddosran. Cynygiodd Mr C Morgan, ac eiliodd Mr Tom Roberts, eu bod yn hysbysu y Cyng- hor Sirol na wnaed ceisiadau am dir-ddosran. ond eu bod yn credu pe byddai i'r Cynghor Sirol gynyg mwy o dir i fan-ddaliadau y ceid yn ol pob tebyg geisiadau am danynt. Pasjwyd hyn. LLWYBR Y SUN INN. Darllenwyd y llythyr Canlynol oddiwrth Gwmni Brag Bents, Gwrecsam, parthed llwybr y Sun Inn :— We understand that the question of diverting a footpath by the side of the Sun Inn, Ponkey, belonging to us, is being discussed by your Council If this is the case we should like to intimate that we should object to the diversion of the said footpath. At the time we purchased the Sun Inn, Ponkey, together with the I adjoining land, the footpath in question was shown upon the sale plans as a right of way Dywedodd Mr Ted Jones fod y llythyr fel pe yn cydfyned a dymuniadau y Cynghor yn nglyn a chyfnewidiad Safle y llwybr. Fel raater O ffaith nid oedd Y Cynghor yn awyddus i gyfnewid y llwybr, ond yn hyt- rach i'r hen Iwybr Barhau fel yr oedd. Gadawyd y llythyr ar y bwrdd. PLANIAD TAI. Pasiodd y Cynghor benderfyniad i, ofyn i'r Cynghor Dosbarth wrthod planiau i adeil- adu tai mewn lleoedd nad oedd heolydd. GARDDEN ROAD. Darllenodd y Clerc lythyr oddiwrth y Cynghor Dosbarth mewn atebiad i gais Y Cynghor Plwyf ar iddynt adgyweirio Gar- dden road. Hysbysai yr atebiad na fedrai y Cynghor Dosbarth ei hadgyweirio Mr C Morgan: Paham; tybed? Mae'r Ilwybr yn un hen. Mr Watkin Jones: Maent wedi adgy- weirio Stryt Las, ac mae Gardden Road ar un ystyriaeth yn rhan O honi. Os ydynt yn derbyn Stryt Las. fel hen ffordd, yna yn sicr dylent dderbyn Gardden Road. Penderfynwyd ianfoneto at y Cynghor Dosbarth mewn perthynas a'r llwybr, yn gofyn eu rheswm dros wrthod ei rhoddi dan adgyweiriad. YCHWANEG 0 LAMPAU. Gwnaed cesiadau am lampau oddiwrth y preswylwyr yn New Street a Beech Avenue, Rhos. Trosglwyddwyd hwy i sylw, Y Pwyll- gor Goleuo. F MR WOODFORD. Rhoddodd Mr C Moigan adroddiad o waith y ddirprwyaeth fu yn ddiweddar ar ymweliad-a Mr G Woodford parthed gosod i lawr bibellau dwfr tair modfedd yn y lie- oedd hyny nad oeddynt eisioes wedi eu gos* od ynddynt. • HysbysoddMr Woodford y gwnai ddwyn y mater o flaen y Cyfarwyddwyr. DWFR DROL. Cofus i benderfyniad, mewn Cyfarfod Plwyfol yn ddiweddar, gael ei basio trwy fwyafrif O 2, i sicrhau dwfr drol i'r cylch. Yr oedd yn awr yn ddyledswydd ar y Cyng- hor Plwyfol i basio penderfyniad ar y mater. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn sicr fod Uawer yn siomedig ar y mwyafrif bychan a sicrhawyd yn y Cyfarfod Plwyfol. Wedi peth trafodaeth gohiriwyd y mater am fis.

[No title]

NODION 0 AMERICA.

RHOS.