Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Wwfpubau.
Wwfpubau. (PULPIT SUPPLIES) I SABBOTH, AWST 15, 1909. I I Y MBTHODISTLAID OALFINAIDD I Gap* I Mator—10 a 6, Ezra Jones, Prestatyn Bethel, Ponkiy-10 a 6. H Jones Davies Ho-riah, Poitkay-10 a 6, J T Williams. Llanfrothen Eill-st,—10-80 & 6, William Phillips, Rhos johnstewn—10-80 a 6, Tteopliilos Lewis, Llanbedr Pentref,eUn-10 a 6, Groes—10, R Lewis, Crewe Tenant- 2 a 6, R Lewis, Crewe S!iostyllftv—10 a 6, Thomas Jones rut >,ANIB¥1SWYB. Bethlohem, Rkos-10, Williams. Faint, 6, R Roberts WynydcL 8e\m—10 a 6, J Howell Salem,Banh-st—10, R Roberts, 6, Williams Ebenezer, Queen. St.-H) a R. 0 J Owen Johnstown {&} -• 1.0-30 & 6—T Arthur Thomas fthostylUn-2, Y HtJDYDDWYR. P'.nual—10 a 6, E Williams Bethania, Chweh St—10 a 6, Sion, POUkey-10 a E Mitchell Tabemael* Ponkcv 10 a 6, James Jones Boar, A-bs'sdw/y?'' • 1' Jos S Jones, 6, John Jones Calf aria, Rhos-10, John Jones, 6, W S Jones M4 PUasant, Pmtkm. 10-30, 4 6. J W Humphreys Noddfa, »ohnsP/utm—10- 30 a S, J Charles Jones Penycae—10 a 8, W B Jones Groes-st 2 W B Jones Rhost,yzle,n-10 a 6, DIBSYBLIOM CRIST. Bethel, Campbell Street—10 a 6, Y WFISLE YAID. Rhos-10, Miss J A Evans, 6, William Price Johnstown- 10-30, Oyf Gweddi, 6. Miss J A Evans Storyt Issa—10, Thoh Roberts, 6. William Lloyd Plasbennior—10-30, Cyf Gweddi, 6, Enoch Jones PRIMJTIV'Il MKT HOLHSTM Hkos—10-30 & 6, R W Evans, Rhosymedre 0opperas—S-30 & 6, A Humphreys, Cefn 'I YU H&WYOL&DI& Viøar. J K Thomas Curates „ Jenkins- Atenlove. B Jchn' Qhwreh—8«nrio«»tr 10-B0, •nd fl. Mglwys St. Dovvi—Gwaaanaetham 10 a gt. MarV's Church JohnsiMe*—S«rvio« at 3 & 16 PBSYCAE Vicar-Rev Joseph Davies St Thimas s Ohurch-Servios at 10-30 and -6 SALVATION ARM?. Barracks, Sauvage >Street—11-15, 2, 6-45 Ensign Shepherd, & Lieutenant ft Lazzell.
-0-I AREITHIAU ERAILL.
-0- AREITHIAU ERAILL. Er pan y traddodes Mr Lloyd George ei anerchiad mae eraill ar du'r Rhyddfrydwyr wedi bod yn manteisio ami i ddeffro yn mhellach y bobl. Cafwyd areithiau mawr- ion gan Mr Winston Churchill a Syr Edward Grey, y naill fel y Hall yn tynu dan seiliau honiadau a dadieuon y Toriaid ar y Gyllid- eb. O'r ochr arall mae y blaid Geidwadol fel yr amlygir drwyei newyddiaduron, yn y dyryswch mwyaf. Yn absenoldeb dim vaeb- iad iddo, maent wedi troi i'w faeddu a'i ys- nafaeddio, ond mae'n.rhy hwyr; mae.r wlad wedi cael agoryd ei llygaid, ac ni chant yn awr gyfle mewn dim o'u cyfarfodydd i osofl eu twyll resymeg gerbron. Ni chant gym- aint ag un penderfyniad yn conderanio gwaith Y, y Liywodraeth os na chant ef mewn cyfarfod 0 denajitiaid ryw Arglwydd neu Ddue. I^AE golwg wir resynus arnynt.
PONKEY.
PONKEY. DAMWEINIAU.-Cyfarfyddodd Mr John Williams, Bank street, a damwain itw d-rcied dde trwy ddisgyniad darn o lo tra gyda ei orchwyl yn Nglofa'r Hafod dydd Mawrth. Digwyddodd damwain boenus i Mr Sylvanus Williams, pedwerydd mab Mr a Mrs Robert Williams, Bank street, e dydd Iau diweddaf. Yr oedd yn camu oddiar y carrier yn Nglofa'r Hafod, un troed Arno a'r Hall ar y tir, pryd yn ddi- symwyth y disgynodd y carrier gan et wasgu yn ddifrifol. Yr oedd pwysau y carrier arno, a'r syndod yw iddo ddianc heb ei tadd yn y fan. Pan ryddhawyd ef. yr oedd yn anymwybodol, ond dygwyd ef adref gyda phob brys. Wedi archwiliad, nid oedd y meddyg yn gwybod i sicrwydd a oedd rai o'r aetodau wedi eu tori, er el fod yn lied gredu nad oedd wedi derbyn dim ond ysigiad trwm. Deallwn ei fod mewn poenau mawr. Mae ei ddiangfa bron yn wyrthiol. ANRHEG,—Prydnawn dydd Llun di- wed4af cyfarfu dosbarth Mt Jo Phillips o ysgol Sul Mynydd Seion, yn ei dy yn Park Road, Ponciau, gyda't, amcan o fwynhau cwmni eu gilydd, a chyfranogi o'r danteithion Huosog oedd yn ddarpar- edig ar eu cyfer, yr hyn a adlewyrcha glod i barodrwydd Mrs Phillips i wneyd y cwmni yn llawen a chartrefol. Amcan teilwng arall o'n cyfarfyddiad ydoedd cyflwyno Beiblau heirdd a chostfawr yn anrheg gan yr athraw a'i ddosbarth i'r ddau ddyn ieuanc Mr Edward Daniel Roberts, a John Edwin Pemberton, fel danghoseg o'n dymuniad am fywyd hapus a llwyddianus iddynt ar ddechreu eu gyrfa briodasol. Yn abseholdeb y Parch J Howell ag sydd oddicartref ar ei wyliau, cyflwynwyd y 'Beiblau gan y Parch Llewelyn Bowyer, Llundain, yr hwn a'tt cymhellasant i wneyd astudiaeth gyson a manwl o Air Duw, ac i fod yn ffyddlon bob amser j'r Ysgol Sul. Gwasanaethid wrth y bwrdd gan Mrs Phillips gyda sirioldeb ar medrusrwydd mwyaf dymunol. Yr oedd yn amlwg fod pawb wrth eu bodd. Talwyd y diolchiadau cynhesaf i Mr a Mrs Phillips am eu caredigrwydd yo> gwahodd y dosbarth i'w ty ar yr gcblysur,, dyddorolhwn.—UN OEDD YN^. ,„ "V" t'
Advertising
WANTFD A GOOD STRONG GENERAL, about 20.—Apply, 22 Regent St., Llangollen. ) ON SALE GENTS' First Grade CYCLE, « Royal Prince'—Free-wheel—Front and back rim brakes with Dunlop rims—guar- anteed four years. Price ^5 55. -Apply B. WILLIAMS, Mona Stores, Rhos. GREAT BARGAIN HIGH-GRADE Gents' Bicycle, brand new, not soiled, two best roller le- ver rim brakes, ball bearing free wheel, atest 1909 pattern, best tyres, mudguards plated rims, coloured centres and lined frame. All accessories, lamp, etc. Will sacrifice for £3 9s 6d worth double. Approval before cash sent.—F. J. HANDO, 6 Southbourne terr., Weston-super- Mare ESTABLISHED 1898. ASSISTANT INSPECTORS OF OF MINES. Mine Managers' Exams., Scholarships, and Associateship in MINING, See,, Candidates prepared. I Private Lessons hy Post. Geology, Min- ing, Engineering, Electricity and Survey- ing1. Certificates awarded. Write for Syllabus. CAMBRIAN MINING SCHOOL, Glanffrwd, Porth, Glam. NOTE CHANGE OF DATE. -0- Wednesday, February 16th, 1910 —O Grand performance of HANDEL'S 'SAMSON' By the Bethlehem United Choral Society Assisted by MADAME £ AURA EVANS, (Soprano) MISS HANNAH MORGAN, (Contralto) MR GWILYM RICHARDS, (Tenor) MR ARTHUR WEBER, (Bass) CAPEL M.C., GROES, PENYCAE. Cynhelir y seithfed, Cyfarfod Cystaclleuol Yn y lie uchod, DYDD CALAN, ION. 1, 1910 Beirniad Ce> ildorol, MR W. iVfe ROBERTS, Wrexham. Manylion i ddilyn. Preliminary Announcement. RHOS MALE VOICE CHOIR GRAND -VD EVENING iOTCERT Will be held on Wednesday, November 3, '09. -I VOICE PRODUCTION MR. POWELL EDWARDS BEGS to announce that he now gives lessons in Voice PRODUCTION and SINGING. Terms moderate.-Apply MARKET STREET, RHOS. J IBALL S AUCTIOff BOOM 9 cu Street, (Opposite Messrs '2j?< T Jones' Corn Wwefyuse) SALES BY AUCTION Every MONDAY. ,'i "i -S Valuable Sousiiliold Furniture >, ,i" .'i' of all descriptions. Large: Variety of Bedjitsadst Bedding. i, Every necessity for HOUSEKEEPING ;{- Attend these SALES and save at least 30 per cent. A Magnificent Selection of S,perior Furniture is always on hand, and anything may be purchased. by Private Treaty, GOODS STORIT, '¡ Co view each day from,g a.m. to 7 P. M. Saturdays 9 V Uksfcjiss, ft
MR LLOYD GEORGE.
MR LLOYD GEORGE. Cyn dyfodiad Cyllideb a Mesur Arianol MR Lloyd George O flaen Ty'r Cyffredin yr oedd yn amlwg ddigoa i bawb a ddilyn AI cwrs politicaidd y wlad fod y Uanw Rhydd, frydol yn cilio. Elai etholiad wedi etholiad yn ffafr y Ceidwadwyr, nes bod y rhagol- ygon yn anffafriol iawn. Ond gyda i Mr Lloyd George ddwyn ei fesur yn milaen rhoddwyd atalfa ar rwysg y Ceidwadwyr, ac yn raddol dechreuodd yr ethölaethau ddod unwaith eto o blaid y Llywodraeth. Gwnaed hyn oherwydd fod y Canghellydd yn gosod y trethi ar yr ysgwyddau ablaf eu dwyn. Er fod cyfnewidiad wedi cym- eryd lie, nid oedd ryw lawer O frwdfrydedd yn deimladwy, ac ofnid pe yr elent allan at y wlad mai bychan iawn fyddai mwyafrif y Llywodraeth os caent un o gwbl. Ond er- byn hyn mae pob amheaaeth wedi ei chwalu yn llwyr. Cynhyrfodd araeth ryfeddol a godidog Mr Lloyd George yn Limehouse bythefnos yn ol, y wlad ben bwy gilydd. Rhoddodd egiurhad newydd ar ei gynygion, a dadlenodd mewn modd diarbed waith Duciaid ac Arglwyddi y wlild yn ngtyn a'r tir. Y canlyniad ydyw fcdfton Rhyddfryd- iaeth wedi ysgubo dros y wlad. gan daflu y rhengoedd Toriaidd I gythrwfl ac anrhefn. Mewn gwirionedd, mae Mr Lloyd George, trwy ei Gyllideb ddemocrataidd, a thrwy rym ei hyawdledd gwefrol wedi achub y sefyllfa
.-0-BETH AM Y "RHOS ?
-0- BETH AM Y "RHOS ? i' Yn nghanol y brwdfrydedd tra mae pob rhan o'r wlad wedi ymddeffro o ddifrif, ■nid ydym yn deall fod dim yn cael ei wneyd yn nglyn afr mater yn Rhos. Teimlem yn siomedig na buasai y mater wedi cael sylw yn nghyfarfod y Gymdeith- as Ryddfrydol yr wythnos ddiweddaf, a threfniadau wedi eu gwneyd ar gyfer cyfarfod cyhoeddus, pe na byddai ond t gael cyfle i basio pen y iad rryf o. blaid y Llywodraeth tra y maent yn mhoethder y rhyfel. Sut mae ein haelod gymaint ar 01 yn y mater, ac na byddai cyn hyn wedi symud. Rhad ydyw, hyawdledd pan eisiau pleidlais, ac yna peidio cymeryd mantais i oleuo yr etholwyr mewn argyfwng mor bwysig a hwn. Hyderwn y bydd i'r Gymdeithas Ryddfrydol symud yn y.
CYNGH08 PLWYF, EH0S. 1
CYNGH08 PLWYF, EH0S. Cynhaliwyd cyfarfod misol rheolaidd yr uchod yn y Public Hall, nos Iau, pryd y rhoddodd y rhai canlynol eu presenoldeb Mr Richard Jones (yn y gadair), a'r Mri C Morgan, D L Price, W Garner, K Wynne, Joseph Charles, Tom Roberts, Jos Griffiths, Watkin Jones, Ted Jones, Samuel Roberts, a'r Clerc, Mr J Trevor Jones. SWLLT Y FLWYDDYN. Anfonodd Cwmni Rheiiffordd y Great Western lythyr yn cynwys taliad o i/- am y caniatad dderbyniant i osod nod ar y) lamp ar y Groes. DOSRANIAD CAE ENION. Darllenodd y Clerc ohebiaeth oddiwrth y Cynghor Sirol yn hysbysu eu bod wedi pwr- casu yrnaes a adwaenir fel Cae Enion, yn cynwys 180 aceri, am £5°0 a chynygient i'r Cynghor Phvyfol _un acr o'r eiddo fel tir-ddosran. Dywedodd y Clerc fod y tir wedi ei hysbysebu, ond nid oedd un appel wedi ei dderbyn am dano. Dywedodd Mr Tom Roberts y carai gael un neu ddau o bwyntiau wedi eu clirio yn nglyn a'r mater. Deallai fod yr oil oddi- eithr un acr wedi eu dosranu i ddau ddyn. Nid oedd yn credu fod hyn yn hollol deg. Ystyriai ef y dylai pawb gael cyfle i wneyd cais am fan-ddaliad. Yn ol ei farn ef dylai y Cynghor Sirol hysbysu eu bod wedi pwr- casm Cae Enion, ac yna gwahodd ceisiadau, a dewis y rhai llwyddianus yn y drefn arfer- ol. Eto, nid oedd yn gweled mai priodol peth i'w wneyd oedd cymeryd tir oddiar un tenant a'i ranu rhwng dau, a hyny heb roddi un math o rybudd i'r tenant presenol am hyny. Yn ateb Mr Roberts, dywedodd y Clerc ei fod yn meddwl i'r Cynghor Sirol bwrcasu Cae Enion oblegid i ddau ddyn o'r Rhos wneyd appel atynt am dir-ddosran. Cynygiodd Mr C Morgan, ac eiliodd Mr Tom Roberts, eu bod yn hysbysu y Cyng- hor Sirol na wnaed ceisiadau am dir-ddosran. ond eu bod yn credu pe byddai i'r Cynghor Sirol gynyg mwy o dir i fan-ddaliadau y ceid yn ol pob tebyg geisiadau am danynt. Pasjwyd hyn. LLWYBR Y SUN INN. Darllenwyd y llythyr Canlynol oddiwrth Gwmni Brag Bents, Gwrecsam, parthed llwybr y Sun Inn :— We understand that the question of diverting a footpath by the side of the Sun Inn, Ponkey, belonging to us, is being discussed by your Council If this is the case we should like to intimate that we should object to the diversion of the said footpath. At the time we purchased the Sun Inn, Ponkey, together with the I adjoining land, the footpath in question was shown upon the sale plans as a right of way Dywedodd Mr Ted Jones fod y llythyr fel pe yn cydfyned a dymuniadau y Cynghor yn nglyn a chyfnewidiad Safle y llwybr. Fel raater O ffaith nid oedd Y Cynghor yn awyddus i gyfnewid y llwybr, ond yn hyt- rach i'r hen Iwybr Barhau fel yr oedd. Gadawyd y llythyr ar y bwrdd. PLANIAD TAI. Pasiodd y Cynghor benderfyniad i, ofyn i'r Cynghor Dosbarth wrthod planiau i adeil- adu tai mewn lleoedd nad oedd heolydd. GARDDEN ROAD. Darllenodd y Clerc lythyr oddiwrth y Cynghor Dosbarth mewn atebiad i gais Y Cynghor Plwyf ar iddynt adgyweirio Gar- dden road. Hysbysai yr atebiad na fedrai y Cynghor Dosbarth ei hadgyweirio Mr C Morgan: Paham; tybed? Mae'r Ilwybr yn un hen. Mr Watkin Jones: Maent wedi adgy- weirio Stryt Las, ac mae Gardden Road ar un ystyriaeth yn rhan O honi. Os ydynt yn derbyn Stryt Las. fel hen ffordd, yna yn sicr dylent dderbyn Gardden Road. Penderfynwyd ianfoneto at y Cynghor Dosbarth mewn perthynas a'r llwybr, yn gofyn eu rheswm dros wrthod ei rhoddi dan adgyweiriad. YCHWANEG 0 LAMPAU. Gwnaed cesiadau am lampau oddiwrth y preswylwyr yn New Street a Beech Avenue, Rhos. Trosglwyddwyd hwy i sylw, Y Pwyll- gor Goleuo. F MR WOODFORD. Rhoddodd Mr C Moigan adroddiad o waith y ddirprwyaeth fu yn ddiweddar ar ymweliad-a Mr G Woodford parthed gosod i lawr bibellau dwfr tair modfedd yn y lie- oedd hyny nad oeddynt eisioes wedi eu gos* od ynddynt. • HysbysoddMr Woodford y gwnai ddwyn y mater o flaen y Cyfarwyddwyr. DWFR DROL. Cofus i benderfyniad, mewn Cyfarfod Plwyfol yn ddiweddar, gael ei basio trwy fwyafrif O 2, i sicrhau dwfr drol i'r cylch. Yr oedd yn awr yn ddyledswydd ar y Cyng- hor Plwyfol i basio penderfyniad ar y mater. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn sicr fod Uawer yn siomedig ar y mwyafrif bychan a sicrhawyd yn y Cyfarfod Plwyfol. Wedi peth trafodaeth gohiriwyd y mater am fis.
[No title]
Dydd Mercher bu farw Mr S Parry-Jones, un b ddynion cyhoeddus amlycaf Croesos- wallt. Yr oedd ar ymweliad a Germani, a chymerodd ei farwolaeth le yn hynod sydyn yn y wlad hone. Dygwyd ef adref, a chludwyd et yn Nghladdfa gyhoeddus Croesoswalh, y cynhebrWng yn un o'r rhai mwyaf yn y dref eriocd. S .>:
NODION 0 AMERICA.
NODION 0 AMERICA. Mr Golygydd,-Diau y bydd Uawer o'm hen gyfeillion yn falch o gael gair oddi- wrthyf trwy gyfrwng yr "Herald." Gall- af eu cyrhaedd oil felly yn rhwyddach na thrwy un cyfrwng arall. Y mae deuddeg mlynedd a'r hugain oddiar y gadewais ardal anwyl a chysseg- redig- fy maboed, ac erbyn y bydd y nod- ion hyn wedi ymddangos yn yr Herald, byddaf wedi treulio chwarter canrif yn Ngwlad Machlud Haul. Gwlad fawr, gwlad dda, uchel ei breint- tau, ac eang ei hadnoddau, ydyw gwlad fy Ewyrth Sam." Ac y mae rhyw lan- erch o'i daear, lie y gorwedda fy rhieni ac eraill o'm hanwyliaid, hyd fore mawr y codi, yn anwyl a chyssegredig i mi-er hyny, ni allaf byth anghofio, chweithach rhoddi anair i'r wlad fach sydd yr ochr araH i'r pysgodlyn mawr, ac yn enwedig hen ardal anwyl fy maboed yn mhlwyf Ruabon. Yr wyf wedi gweled thai ffyl- iaid yn gallu gwneyd hyny. Gas gwr na charo'r wlad a'i macco." Tra y mae llawer o'm cyfoedion yn ar- os, gwn fod llu mawr ohonynt wedi croesi i'r byd tragwyddol, ac yr wyf yn edrych yn mlaen gyda hyfrydwch at adeg yr ad- uniad yn Ngwlad y Gan, a'r Gynau Gwynion." Ar fy nheithiau yn y wlad fawr hon, yr I wyf wedi cwrdd a llawer o blant Plwyf Rhiwabon, amryw ohonynt yn gwneyd I yn dda, ac yn ymddwyn yn weddaidd ac anrhydeddus, ac mewn parch mawr, ac I wrth gwrs ambell i un dipyn yn esgeulus o hono ei hun. Nis gallaf ddarlunio mewn geiriau fy nheimlad pan yn cyfarfod a phlant Pen- ycae a'r Rhos. Bydd fy nghalon yn llamu gan lawenydd, a bydd llu o hen adgofion melus yn yrnvvthio fel ysbrydion i'm meddwl. f Ychydig dros ugain mlynedd yn ol, cyfarfyddais a phregethwr galluog iawn yn y wlad hon, yr hwn a ddechreuodd ei yrfa weinidogaethol heb fod yn mhell o t ardal fy maboed, a'r hwn a adwaenai fy rhieni yn dda. Pan ddywedais wrtho pwy oeddwn, gwelwn y dagrau gloewon ya treiglo dros ei ruddiau, a chydiodd yn fy Illawyn dyn, a gofynodd 11 Ai loan mab Joseph Llwyd o Pentre Christionydd,-y dyn hwnw a fedrai adrodd pregeth bob gair ar ol ei chlywed unwaith-wyt ti ? Yr wyf yn dy gofio fachgen yn blentyn yn dy gryd, pan yn ymweled a thy dy rieni gyda'r diweddar Barch William Roberts, o'r Rhos. Amheuthyn o beth oedd clyw- ed dy dad yn adrodd darnau o bregethau y diweddar John Williams, ac enwogion ergiill. perthynol i'r gwahanol enwadau." Brodor o'r de ydoedd y pregethwr hwn, ond yn meddu serch neilldilol at Blvvyf Ruabon am mai yn y Plwyf hwnw y dechreuodd ei yrfa weinidogaethol, a bydd bob amser yn falch O son am y lie. Gwelais ef fis yn ol, ac nid oedd ddim YN fwy boddhaus ganddo na son am hen breswylwyr Plwyf Ruabon. Pa faint mwy felly y fi sydd yn frodor o'R lie ? Y mae cael cwrdd a rhywun o'r hen ardal, ac ymgom am yr hen gyfeillion, pe byddai ond am haner awr, yn llawer gwell na moddion y meddyg goreu yn y wlad. Oddiar wyf yn y wlad hon, yr wyf wedi bod lawfer gwaith yn gwasanaethu Eglwys Johnstowri, Pa.,—dinas y diluw mawr. Yn nechreu Mai diweddaf, bum yno yn gwasanaethu mewn Cymanfa, a chyfar- fyddais yno ag amryw o fechgyrt Y Rhos a Phenycae, ac o mor dda oedd genyf eu gweled, a chlywed y bobl yn canmol eu ffyddlondeb i'r achos da. Gan iod y gweinidog, y Parch J D Roberts, yn ym- weled a'r Hen Wlad, trefnwyd i nti fyned yno drachefn am Sabboth yn niwedd I MeheSn, a phenderfynais aros wythnos yno gyda phlant y Rhos a Phenycae. Trefnais i aros gydag Emmanuel Jones, a'i briod, sef Elizabeth, merch William Valentine y crydd, o'r Drefechan. Gyda hwy yr erys Ernest Ellis, mab Robert Ellis, o'r Rhos, yr hwn oedd un o'r rhai cyritaf i ddod i'm gweled, pan ymwelais aV" Hen Wlad, chwe' mlynedd yn ol. ,G,Welais,yno hefyd Edward Francis, mab Thomas Francis, Penycae, Gethin Davies, a Samuel Roberts, o'r Rhos, ac eraill nad wyf yn cofio eu henwau yn awr. Bum ynot yn agos i wythnos, a chefais amser neitiduol o dda gyda hwy. Deuent oil i dy Emmanuel Jones yn yr hwyr, a threul- iwyd oriau bob nos i ganu a son am hen gymeriadau y dyddiau gynt, a chyn ym- wahanu caem gwpanaid o de gan Mrs Jones. Nid yw peth felly i'w gael gan y Yankees. Y mae Edward Francis a'i deulu yn bur gysurus, ac yr oedd Edward wedi prynu ceffyl a cherbyd, er myn'd a'i deulu allan am dro wedi dod o'r gwaith. Caw- som, lawer o ddifyrwch gydag Edward a Robby y ceffyl. Y mae Gethin Davies wedi priodi un o rianod kianaf a goreu Johnstown. Yr wyf yn et hadwaen hi a'i rhieni er's dros ugain mlynedd. Ei thad yn ddiacon ffyddlon yn yr Eglwys yno. Y mae Gethin wedi myned i mewn i un o deulu- oedd parchusaf yr holl wlad, ac y maent yn meddwl yn fawr o hono. Cefais fwy o gymdeithas Emntanuel Jones a'i briod, ac Ernest, na'r Iteill, am mai gyda hwy yr oeddwn yn aros. Cef- ais fwynhad ac adloniad neillduol yn eu gymdeithas, ac y mae y cyfarfyddiad wedi codi hiraeth mawr aui YR Hen Wlad. Bu fy mrawd Joseph gyda ni yr wyth- nos hon, ac yr ydyw wedi dod i'r pander- fynlad o ymwaled a Chymru eto, yr haf nesaf, neu yr haf wedi hyny. Ceir gair ar hyn eto. Da genyf glywed plant y Rhos a Phenycae yn siarad mor uchel a pharchus am y gwahanol weinidogion yno, sef y Parchn W B Jones, Penycae, E Williams, Penuel, E Mitchell, Ponciau, Robert Jones, Capel Mawr, R Roberts, Capel Bychan, ac eraill. Ar fy ffordd i Johnstown, arhosais noson yn Homestead, Pa., gyda theulu o Benycae, hen gyfeill- ion bore oes, sef W Christmas Williams, a'i briod. Bydd pobl Penycae yn ei ad- waen yn well wrth ddweyd Will bachgen Nedi, a'i briod Jane, merch Twmni a Hannah Tai Newydd. Byddaf yn mynd yno bob tro yr af i gyfnniau Pittsburg, ac yn cael bias yn nghymdeithas y teulu. Mae yno hefyd amryw o'r Rhos, sef loan Jones, Dan Jones, ac eraill. Dylwn ddweyd fy mod yn deall fod y Parch William Williams yn dod yn mlaen yn dda, ac yn gwneyd ymdrechion clod- wiw i gael addysg, er ei addasu i waith pwysig y weinidogaeth. Y mae yn Streic yn awr yn amryw o'r Melinau Alcan a Dur yn y wlad. Ym- ddengys fod y Meistradoedd wedi pender- fynu na chydnabyddant yr Undebau Llaf- ur mwy. Pe deuid i ddealldwriaeth ar y mater hwn, credwn fod rhai blynyddau o amser da o'n blaen. Y mae wedi bod ya wael iawn am fwy na dwy flynedd. Rhagymadrodd gwasgarog i ysgrifau eraill yw y nodion hyn. Cofion at fy hen gyfeillion oil, Youngstown, Ohio. J. T. LLOYD.
RHOS.
RHOS. DAMWAIN.-Tra yn dilyn ei alwedigaeth yn nglofa Bersham, dydd Llun, derbyn- iodd Mr Thomas Roberts, High street, niweidiau i un o'i lygaid trwy gael ei daro a chwympiad o lo. 11 CASGLIAD MAWR.—Y Sul diweddaf, gwnaeth Ysgol Sul Ebenezer, Queen st, eu casgliad mawr chwarterol. Nid oedd y rhif ond ychydig dros 100, gan fod am- ryw o'r aelodau ar eu gwyliau. Er hyny, sicrhawyd y swm o ,,Ci i 8s 6c, ac yn ych- wanegol derbyniwyd ^4 2s 6c gan y Parch 0 J Owen, y rhai yr oedd wedi u: casglu gan gyfeillion. MARWOLAETH. -Bu farw dydd Gwener diweddaf, Mrs Hannah Lewis, priod Mr Thomas Lewis, Mountain street, Rhos, yn ei 45 mlwydd o'i hoedran. Gadawa weddw achwech o blant'i alaru oherwydd ei cholli. Yr oedd yn aelod ffyddlawn O Eglwys Dewi Sant, Broad street. Cym- erodd yr angladd le, oherwydd amgylch- iadau neillduol, prydnawn Sul diweddaf, yri; Nghladdfa y.,i R,hos, pryd- y daeth torf fawr ynghyd. Gvvein'yddwyd ar yr ach- lysur gfan y Parch G. Jones, (curad). IBDAITH -Gw -Dydd Mercher aeth ael- odau o ddosbarth Mrs Sarah Green, O Ysgol Sul y Capel Mawr, am bleserdaith i Langollen. Cymerwyd hwy yno mewn cerbydau, a mawr fwynhawyd y daith. Wedi cyrhaedd aethant mewn eweh ar y gamlas i Berwyn, ac yn ddilynol dringodd amryw ifyny i gopa Castell Dinas Bran.