Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

.."."..---"--'_._------! *…

RHOS

.-. PONKEY*

- GOHEBIAETH.

News
Cite
Share

GOHEBIAETH. BEIRNIADAETH AR FEIRNIADAETH. At Olygydd Heraldy Rhos. SYR.—Llawn dyddordeb oedd beirniadaeth y prif draethawd ymddangosodd yn eich colofnau yn ddiweddar—dyddorol ar lawer ystyr. Llon- gyfarchaf Mr Roberts ar ei waith yn enill safle mor anrhydeddus yn y gystadlouaeth-y mae yn glod nid bychan iddo ond yn fy myw nis gallaf ymatal rhag dwyn i pylw eich darllenwyr mor anheg ac anghywir ydoedd llawer o sylwad- au y beirniaid ar ,y cyfansoddiadau. Oenfydd y sawl a edwyn dull picturesque y Vicer Prich- ard o ysgrifenu, mai ei nod ef welir ar y feir- niadaeth :/a chyfarwydded ydym a llif ei hy- awdledd a min ei arabedd fel y gallam yn hawdd roi'r goreu i'r enw Robert Jones" sydd ar ddiwedd yr ysgrif, ac edrych ami fel cynyrch digymysg "Thomas Prichard" yn unig, Ond gan fod enw'r ddau wrthi teg ydyw roddi y ddau yn y clorianau, a cheisiaf ddangos y gaily fath awdurdodau (ij a 'Thomas Prichard' a I Robert Jones' wneyd camgymeriadau dybryd. Un o'r choice phrases y feirniadaeth a ddefn- yddir am un cystadleuydd ydyw Chaos o gymysgedd yw ei draethawd." Dywedaf fin- nau etomai 'Imbroglio' o eiriau difudd ac yn ami o sylwadau anghywir yw cynwys y feirniad- aeth. O'r ystyriaethau a esyd y beirniaid ar ben y feirniadaeth wele un: "Cywirdeb y ffeithiau a groniclir." Ymddengys i mi nad ydynt mewn safle i wybpd beth sydd gywir. G- wrandewch ar a ddywedir am y bardd hwn "Owen Cyfeil- iog- Maldwyo a'i piau." Os Maldwyn a'i piau pa sail sydd gan O. M. Edwards, M. A. i alw Glynceiriogyn wlad Owen Cyfeiliog? Dyma ei eiriau ef ei hun wedi eu codi o'r Oymruam Chwefror, 1909: Y mae Glyn Ceiriog am fyn- nu neuadd, llyfrgeU, a cho%olofn i gofio am Geiriog, ac i wasanaethu pobl ei hen ardal. Pob hwyl i blant bra Owen Cyfeiliog, a Huw Morus a Chynddelw, a Oheiriog ddwyn eu gwaith i ben." Bro Owen Cyfeiliog, felly, oedd Glyn Ceiriog-cartief Huw Morus, a Chyn- ddelw a Cheiriog ac (mid cartref i Owen hef- yd 1 Tybed mai y lienor a'r hanesydd byd- enwog O.M.' sydd yn %vroni], a Thomas Prieh ard a Robert Jones yn right ? Gad^vaf i'ch darllenwyr benderfynu. Nid. wyf am nad oedd gan Owen diroedd yn Si.rDref;iidwyn—eio oedd Arglwydd MaId wyn ya ei d I %I I Onid oas gan Syr Watkin yn y dyddiau prerenal dir- oedd ym Maldwyn ? Eto, yn Wynnstay, Rhuaboa, Sir Ddinbych y mae ei drigfan. Baraaf fi, gyda awdnrdod penal hanes Cymru ar y p>tne, mai yng Nglya Ceiriog yr oidd y bardd yn cartrefu. Fel bardd ° Sir Ddinbych y dylid ei gyfrif, heb os nac oni bai. Druan o loan Ddu Er iddo fyw am flyn- yddoedd yn Llanelwy, pe gwypai fel y maa y beirniaid yma yn gwarafun iddo gael ei gyfrif ymysg beirdd Sir Ddinbych, yn ddiauiheu ni fyddai esmwyth yn ei fedd. A dyma i chwi frawddeg ysgubol, yn desgrifio un cystadleuydd: Fel yr a, rhagddo. a yn ei ol! Dyna i chwi strolce of genius Camp i Bleriot nen Latham wneyd peth fel yna Mae gwyddonwyr pob gwlad wedi bod am o'esoedd yn ceisio dadrys y pwnc o perpetual motion, ac wedi methu ond mae y beirniaid galluog yma wedi medru pen- derfynu problem rhyfeddach fyth ei bod yn bossibl i fyneçf ymhen, a myned yn ol yr un pryd. Gwell fuasai i'r beirniaid, chwedl hwy- thau, "sychu y pin" cyn ysgrifenu ffiloreg o'r fath. Ni rhaid tramwy ymliell i gael rhagor o ber- lau. Byr i-neddir "Yw Gwydion ar Hir- aethog; cwta iawn ar Iorwerth Glan Aled." Onid Traethawd byr a chryno oedd y pen- awd ? A faidd neb osod Iorwerth Glan Aled wrth ymyl Hiraetheg fel birdd 1 Os byr Hir- aethog, cwta felly y lie ddylid ei roi i Iorwerth. A phaham, ysgatfydd, y goyodir y fath bwys ar y ffaith fod Tudur Aled yn fynach o C rdd St Francis? Ceir y syhv bedair gwaith yn y feir- niadaeth. A. ydyw bod un yn fynach yn goly- gu ei fod, o glyweci swn yr udgorn yna yn nein- io yn ein clustian mor ami. Condemnia y beir- niaid un o'r cystadleuwyr buddugbl am sylwi mai trwsiwr esgidiau oedd un bardd, heb son am dano fel awenydd ond yn y frawddeg nesaf rhoddir cymeradwyaeth iddo am wneyd sylky o gof golofn Tudur Aled. Gofynaf, a ydyw un I yu well bardd o fod carreg uwch ei fedd, na phe buasai wedi trwsio esgidiau ar byd ei oes ? Croesaw i'r beirniaid feddwl hynny. Cymer y beirniaid yn ganiataol, yn y rhestr o feirdd a ddyfynir o un casgliad, mai brodor o 'Sir Ddinbych ydoedd Hywel ab Einion Lly- gliw. Gwell genyf gredu gyda Rhys Jones, mai rhywle yng ngolwg yr Aran yr oedd ei drig- fan, lie y gwelai bob bore o aeaf. Liw eiry cynar pen Aran a'r eira hwnw yn peri iddo feddwl am rudd Myfanwy. I Nage. leir iiaid, clo lwiw, nid Talhaiam Bryd- r ydd Mawr ond Trahaiam Brydydd Mawr oedd awdwr ffurfweddi'r orsedd. Gof ded y beirniaid I eu hunain, am f)d yn ofalus beth a ysgrifenent I cyn rhoi gwersi i eraill mewn cywirdeb. Am Ddafydd Ddu Hiraddug, damcaniaeth hollol, yw ei dSod fel bardd o Sir Ddinbych. Dywedir wrthym yng Nghorchestion Beirdd I Cymru, yn bendant, mai fel Vicer Tremeirch- ion, Sir Fflint, yr adnabyddid ef, a'i fod yn ei flodau 1330 (circa). Ychydig- a wyddis o'i hanes, ond nid oes son iddo erioed dd.4 cysyllt- iad a. Sir Ddinbych. Gellid ychwanegu yn ddidor at feirdd y ddeuddegfed a'r drydedd ganrif a'r ddeg—beirdd fel Hywel ab Einion, Casnodyn, Gwilym Ryfel, Gwilym Canoldref, Y Prydydd Moch, &c- mae genyf restr faith o honynt wrth fy ymyl- ond ysywaith pa hanes sicr sydd am danynt ? Mae gymaint o niwl a tharth y canol oesoedd wedi ymgasglu o gylch enwau y beirdd hyn fel nas gajlwn benderfynu nemawr o'i hanes, nag i ba sir y perthynent. Nid oes neb cyhrwydd a llenyddiaeth y cyfnod yma, a wad nad oedd beirdd ym Mhowys y pryd hwnw-erys y Myfyrian byth i'n atgoffa gryfed oedd dawn gosod canu yr hen feirdd. Ond ai rhesyradl Sir Ddinbych yn gyfystyr a Phowys ? Rhaid cofio nad oedd y rhaniad presenol i siroedd wedi cymeryd lie yn y ddeuddegfed ganrif-gwaith Harri'r VIII ydoedd—pan y gwnaethpwyd hyny trwy yr Act of Union yn yr unfed ganrif a'r bymtheg. A dymi'r perygl y eyrth rhai or cystadleuwyr iddo—edrych ar Powys a Din- bych fel yn golygu yr un poth; ac mwy yw cwymp y beirniaid o gyd-olygu a hwy. A barnu oddiwrth y rhestr o feirdd, y gwnaed cyfeiriad ati uchod, amlwg ydyw fod y beirniaid wedi rhoddi gormod o raff i'w dychymyg, ac wedi cael eu denu gan hud a lledrith hen draddddiadau disail. Hawdd gosod bardd yn- mhlith Sir Ddinbych, profi ei hawl i hyny sydd beth arall. Ffeithiau, os gwelwch yn dda -y gwir yn unig a saif. Nid- af i ymhelaethu; ond awgrymai i'r pwyllgor os ydynt am gadw safon uchel o feir- niadu o'n blaen yn ein heisteddfodau, eled y beirniaid lleol a'u tylwyth i'r pedwar gwynt! Pam y, mae yn rhaid wrth wyr graddedig i farnu cerddoriaeth—rhai wedi rhoddi eu bywyd i'r gwaith—ac ym myd lien, thywun wnaiff y tro 1" Nid prin dynion cymwys y "dyddiau hyn^—dydd y Specialist ydyw. Trowch eich wynebau at y colegau os myn neb Eglwyswr, cofiwch am Arthur Hughes, os am Methodist, ywy wdll na John Morris Jones ? CAMBRENSIS.

NODION.

Advertising

EISTEDDFOD COR WEN.I