Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

WtpCpudcm.

MR LLOYD GEORGE AR Y GYLLIDEB.

EISTEDDFOD COR WEN.I

News
Cite
Share

EISTEDDFOD COR WEN. I Y DYFARNIADAU. Englyn, "Gwen Baban," allan o 73 o ymgeiswyr, dyfarnwyd RRoberts (Gwaen- fab) yn oreu gyda'r englyn canlynol Gwawr hynaws dengar anian-gwyn enaid Yw gwan anvvyl baban; Dibechod fflachiad bychan 0 healwen lwys calon ldn." Unawd ar y berdoneg, Vera Jones, Cefn Mawr. I Cyfansoddi darn i Gor Plant, Mr W H Ibberstoo, Ilkley, Yorkshire, yn oreu gyda chanmoliaeth uchel. Telyneg, yr ymgeisydd i ddewis ei des- tyn. Yr oedd cynifer a 69 o delynegion wedi eu hanfon i mewn, a llawer ohonynt yn rhai gwych. Goreu, Parch H Emyr Davies, Pwllheli. Ail gystadleuaeth Corau Meibion, II Cydgan y Morwyr," Gwobr, -,Cio. Canodd y Corau yn y drefn ganlynol r, Cor Meibion Glyn Ceiriog (Mr Ellis Hughes); 2, Birkenhead Apollo (Mr T Lloyd) 3, Prysor Glee Party (Mr J R Jones); 4, Parti Meibion Glyndyfrdwy (Mr W D Jones); 5, Parti o Gwyddelwern (Mr H Hannam) 6, Cor Meibion Llanfor (Mr D Roberts); 7, Parti Llanerch (Mr W A Hughes). Canodd yr oil ond yr: ail gor yn Gymraeg. Safai y gystadleuaeth rhwng y cor cyntaf a'r trydydd a ganodd. Rhoddwyd canmoliaeth i'r ail gor, sef Cor Apollo, Birkenhead, am ganu yn gryno a destlus, ond collent mewn cydbwysedd. Rhagorai datganiad Cor Glyn Ceiriog1 mewn gwresogrwydd, a chafwyd ysbryd y darn ganddynt, ond nid oedd y d6n yn hollol gyfoethog drwy'r darn. 'Roedd gan y cor hwn well lieisiau hefyd, ond nid oedd y ddiweddeb i un ran o'r darn yn dda ganddynt, a thynai hyny oddiwrth worth y datganiad. Felly rhanwyd y wobr rhwng Corau Glyn Ceiriog a Phrys- or. Unawd tenor" Marchogion Arthur" J Corris Jones, Dolgellau, gyda chanmol- iaeth uchel. Traethodau (a) "Tom Ellis, Cynlas" rhanwyd y wobr rhwng Mr 0 Llewelyn Owain, Swyddfa'r Genedl, Caernarfon, a'r Parch W Wilson Roberts, Rhondda, gynt o Landdulas. (b) 0 Dylan wad golygfeydd ar feddwl ac athrylith." Edward Williams, Derwen House, Dinbych. Unawd baritone "The Lord worketh wonders." H R Humphreys, Machyn- lleth. I Adrodd "Briatlen Sul y Blodau" (Eifion iWyn) i rai dan 18 oed. i, Miss Elizabeth Margaret Edwards, Hendre 2, Rosana Hughes, Ponkey. Myfyrdraeth, loan yn Patmos." Ped- war o gyfansoddiadau. Goreu, Parch H Emyr Davies, Gellidara, Pwllheli. Cywydd "Hwyrddydd y Cynhauaf," Goreu, ParchtH Emyr Davies. Areithtb am 7 munyd ar Wladgarwch Gymreig." J W Kyffin, Llangollen. I" Y BRIF GORAWL. Yr oedd tri o gorau yn cystadlu yn, y gystadleuaeth hoo. Y darnau oeddynt (a} We never will bow down {Handel) (b) Oleuni Mwyn (D Lloyd Evans). Gwobr laf, ^40 ail, £ 10. Canodd y corau yn y drefa ganlynol :-i, Cor Prys- or, Trawsfynydd (Mr Edwin Lloyd) z, Cor Dolgellau (Mr R Davies); 3, Cor Cefn Mawr (G W Hughes). -Z!1 Cor Prysor.—Basses da, sopranos ych- ydig yn wan. Gwnaed ymdrech ganmol- adwy gyda'r dernyn "Oleuni mwyn," ond yr oedd y donyddiaeth braidd yn wael. H We never will bow down," cydsymud- iad anfoddhaol mewn rhai manau, yr entries ddim digon tarawiadol." Ym- gais dda i fyned i mewn i ystyr y darn. Cor Dot,-elley. -G well lieisiau ac yU asio'n well. Yr accenu eto'n well. Gait- as a i'r diweddeb yn y 3ydd tudalen 0' i Oleuni mwyn" fod yn fwy boddhaol. Darn Handel, dim digon o accen mewn mannau, nac o rhythmic, feeling, a'r cyd- symudiad heb fod mor foddhaol ag ar y darn cyntaf ond ar y cyfan yn ddatgan- znl iad da. Cor Cefn Mawr.-Lleisiau rhagorol, y y don yn llyfn drwy'r datganiad. Canu gyda mynegiant a theimlad, a'r donydd- iaeth yn dda. Amseriad darn Handet braidd yn rhy araf Da fuasai cael ych- ydig mwy o'r organ quality yn y datgan- iad. Un o'r basses yn syrthio deirgwafthr i'r tramgwydd o ddal ei ddiwedd brawdd- eg ar ol gweddill y cor. Tonyddiaeth bur, ar cor yn feistriaid ar ganu rhangan. Datganiqd rhagorol. Elai y wobr gyntaf i Gor Cefn Mawr, ar ail wobr i Gor Dol- gellau. CYFARFOD Y PRYDNAWN. Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn drwy ganu penillion gyda'r Delyn gan Mr Jacob I Edwards. Adroddiad "Gwledd Belsassar" i rai I mewn oed, Mr Willie Griffiths, Penycae. 1 Unawd soprano, "Hen Walia Fendig- aid," Bessie Jones, Abermaw. Unawd ar y Crwth, Master Wiliant Glyn Walters, Dinbych. Hir a Thoddaid i Rhuddfryn. Goreu, Llifon, allan o 27 o ymgeiswyr. Corau Plant, Pwy yw Sylvia?" (D T Evans), darn buddugol Eisteddfod Corwen, 1908. Gwobr, ^7, Dau gor, Cor Plant Bethlehem (Mr Dan Roberts), a'r Llantysilio Juvenile Choir (Mr J Jen- a'r Llantysilio Juvenile Choir (Mr J Jen- kins), Llongyfarchai Mr Harry Evans bwyll- gor Eisteddfod Corwen am roddi gwobr yn flynyddol am gyfansoddi darn cerddor- ol, ac yn arbenig am roddi'r darn buddug- ol i gystadlu arno yn yr Eisteddfod ddit- ynol. 'Roedd y dernyn Pwy yw Sylvia yn rhagori yn fawr ar liaws o ddarnau a osodir gan bwyllgorau eisteddfodol' i gystadlu arnynt. Cor Bethlehem -Lleisiau da, yn cyd- bwyso a chydasio'n rhagorol. Yr amser braidd yn araf mewn un man. Tuedd t beidio dal digon ar nodau hirion ar ddiw- edd rhai o'r brawddegau. Mynegiant da a thonyddiaeth bur. Cor Llantysilio.—Lleisiati swynol, ond nid mo'r dda ag eiddo'r cor cyntaf. Yr oedd rhai o'r diweddebau yn wan. Myn- egiant gweddol dda. Y datganiad heb fod mor orffenedig a chaboledig ag eiddo'r cor cyntaf. Goreu, Cot-Bethlehem. Beirniadaeth ar destyn y Gadair, Y Drws Byth Agored." Traddodwyd y feirniadaeth gan Silyn. Yr oedd tri ya y gystadleuaeth hon yn rhagori ar eu cyd- ymgeiswyr, ac yr oedd pryddestau y trt hyn yn wir dda. Canai Gery Jrothwy I Ddrws Marwolaeth Oscar Fanel yn canu i II Ddatblygiad a Gwyn yn rhamt ei bryddest i dair rhan :-i, Y Breudd- wyd 2, "Y Cais 3, Y Datgudd- iad." Meddai Gwfnar awen gref. Edrychal ar bobpeth gyda llygad bardd. Yr oedd ei gyfansoddiad yn fwy barddonol nag; eiddo Ger y Trothwy ac Oscar Fanct. Llawn deilyngai'r gadair a"c wobr o Æ6 Wedi galw'r enw, cododd y Parch H Emyr Davies, Bardd Coronog Eisteddfod- (II au Cenedlaethol Caernarfon a Llangollen, ar ei draed, ac arweiniwyd ef i'r llwyfan gan Gynfor a Gwilym Ceiriog, a'r Sein- dorf yn canu See the conquering hero comes." Gweiniwyd y cledd, a chadeir- iwyd ef gan y beirdd, o dan arweiniad Llifon. Wedi i Mr Jacob Edwards ganu can y cadeirio gyda'r tannau, anerchwyd y bardd buddugol yn wresog gan-, tilir Aled, Gwilym Ceiriog, E 0 Jones, Gwilynt Derfel, Caerwyn, Dewi Ffraid, Abon, a Llifon. Tri Englyn "Yr Amheuwr, y Gwadwr, a'r Brad-wr. ;,C, i is. Goreu o ddeunaw, GT Levi (Gweledydd), Abercraf. Unawd Contralto, "0 Divine Redeem- er." Gwyn Jones, Caernarfon. Englyn i'r arweinydd, Llifon. Gwobr o 2/6 gan y Ficer Pritchard. Abon, Cefn Mawr, yn oreu. Prif Gystadleuaeth Corau Meibioø, On the Ramparts." Gwobr, ^30, a chwpan arian i'r arweinydd. Canwyd yo y drefn ganlynol-i, Cor Meibion Dyff- ryn Maelor, (Mr J Wright); 2, Warring- ton, (W S Nesbitt); 3, Cilgwyn, Nantile (Mr W Roberts); 4, Moelwyn (Mr Cad- waladr Roberts); 5, Rhuthyn (Mr R A Jones). Traddodwyd y feirniadaeth gan Mr Harry Evans. Canmolailr corau Cymreig am ganu darn o waith cyfansoddwr Ffrengig—darn anhawdd gwneyd dim ohono—mor dda. Gwrthbrofai'r gystad- leuaeth haeriad rhai beirniaid na allaiV corau Cymreig ganu darn di-gyieiliant, a chadw tonyddiaeth bur. Gan tnai geiriati Seisnig oedd i'r darn, rhoddwyd y feir- niadaeth yn yr iaith hono. >;