Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

WtpCpudcm.

MR LLOYD GEORGE AR Y GYLLIDEB.

News
Cite
Share

MR LLOYD GEORGE AR Y GYLLIDEB. ANERCHIAD ODIDOG. Dydd Gwener diweddaf, bu Mr Lloyd George yn anerch cyfarfod neillduol o frwdfrydig yn Edinburgh Castle, Lime- house. Ei destyn oedd y Gyllideb, a phan ymdddangosodd ar y llwyfan, caf- odd groesaw diail. Cododd y gynulleidfa enfawr ar eu traed fel un gwr, a chanasant For he's a jolly good fellow." Dywedodd fod y cyfoethog yn gwaeddi yn erbyn y Gyllideb am ei fod yn pwyso ychydig ar ei ysgwyddau. Yr oedd y gweithiwr, gyda'i geiniog, yn barod i dalu ei ran at angenion y wlad, ond pan alwyd ar y cyfoethog i wneyd hyny, ni fu y fath lefain erioed. Dywed y cyfoethog yn awr nad yw yn gwrthwynebu gwario arian ar longau rhyfel, ond yr oedd yn erbvn eu gwario ar flwydd.daliadau. -( cywilydd). Os oedd y Toriaidyn erbyn blwydd-dal- iadau, paham y darfu iddynt eu haddaw ? Enillasant etholiadau ar bwys yr addewid yna. Y mae twyll yn isel-wael bob am- ser; ond mae twyllo'r tlawd yn fwy isel- wael na dim y gellir meddwl am dano. e. Ood," dywedant, "pan addawsom flwydd-daliadau, yr oeddym yn meddwl blwydd-daliadau ar draul y bobl a'u cafF- fent." Bwriadent ddwyn Mesur yn mlaen i orfodi gweithwyr i dalu ar gyfer eu blwydd-daliadau. Os hyoyoa oeddyot yo feddwl, paham na ddywedasant hyny yn grroew ?—(cym.) Y mae yn gywilydd fod gwlad gyfoeth- og fel yr eiddom ni yn gadael i rai sydd wedi llafurio yn galed ar hyd eu hoes i ddiweddu eu dyddiau mewn cyni. Ymae yn gywilydd fod yn rhaid i hen weithiwr deimlo ei ffordd at ei fedd a'i draed yn friwiediga gwaedlyd wedi teithio ohono trwy ddraia tlodi {cym ) Yr ydym wedi tori Uwybr newydd iddo—(cym.)—llwybr ysgafnach a haws ei droedio trwy faesydd Hawn p rawn. Yr ydym yn codi arian at y llwybr newydd i'w wastadhau a'i ledu fel y gall 200,000 o dlodion uno yn yr orymdaith. Ondbwriadwn wneyd mwy trwy gyfJ, rwng y Gyllideb. Codwn arian i wrth- weithio y drwg a'r dioddet sy'n dilyft methu cael gwaith. Codwn arian i gyn- orthwyo y Cymdeithasau Cyfeillgar i ddarpar ar gyfer y gwael, y weddw, a'r amddifad. Nis gaUyr un dyn a rywfaint o degwch yn ei natur beidio cymeradwyo ein cynllun, ond,eto dywedir fod y tollau yn 14 aonheg, anghyfartal, a gorthrymus," y.n,to"*g felly y doll,, ar dir. Ya y dyf. odol rhaid i berchenogion tir dalu yn deg [ at anghenion y wlad dim ond dimai y bunt, a dyna yw achos yr holl lefain. Yr wyf fi yn aelod o Gynghor Sir yn Nghymru. Nid yw y landlord hyd yn oed yn Nghymru yn rhesymol. Y dydd o'r blaen yr oedd ar Bwyllgor yr Heddlu eis- ieu tir i adeiladu gorsaf heddgeidwadol arno. Wel, buasech yn meddwl y buasai landlord yn gwerthu tir yn rhad at adeil- adu gorsaf heddgeidwadol os y buasai yn ei werthu yn rhad at rywbeth, ond gofyn- wyd £2,5°0 yr acr am ddarn o dir, a'i drethiant yn ddim ond dau swllt y flwydd- yn (syndod.) Cyfeiriodd Mr Lloyd George at achos yn Greenock yn mha un y gofynai land- lord ^37,224 i Swyddfa'r Lynges am ddarn o dir wedi ei drethu yn ol -i i 2s y fiwyddyn. (Lieisiau "Ysbail.") A dyma y bobl sydd yn ein cyhuddo ni o ys- beilio." ebe Lloyd George. Y mae y landlordiaid," ebai Mr Lloyd George, yn mhellach, "am ddifetha eu heiddo fel na raid iddynt dalu trethi. Y cyfan a ddywedaf yw hyn Nid rhywbeth i'w fwynhau yw perchenogaeth tir. Gor- uchwyliaeth yw, ac os na wna y landlord- iaid eu dyledswydd, daw amser i ail- ystyried y telerau dan ba rai y delir y tir." Ond," meddai, "nid wyf yn credu yn eu bygythion. Y maent wedi bygwth fel yna o'r blaen, ac wedi canfod nad yw er eu budd i wneyd yr hyn a fygythiant. Protestiant yn erbyn talu eu rhan deg, gan ddweyd Yr ydych yn beichio diwyd- iant. Rhoddwch feichiau nas gallant eu I cynnal ar ysgwyddau y bobl." Paham y dylwn i roi beichiaa ar ysgwyddau y bobl' gofynai Mr Lloyd George. "Yr wyf yn un o blant y bobl." Dilynwyd hyn gan olygfa nodedig. Co- dodd y gynulleidfa ar eu traed a rhoisant cheers fyddarol i Ganghellydd y Trysorlys a gwaeddai rhai, Good old David," a Saf wrth y bobl, a bydd iddynt hwythau sefyll wrthyt tithau." Dygwyd fi i fyny yn mhlith y bobl," ebe Mr Lloyd George drachefn, ac yr wyf yn gwybod eu treialon. D.uw am cadw rhag ychwanegu y gronyn Ueiat o drwbwl at y pryderon y niaerit yn eu dwyn gyda'r fath amynedd." Eisteddodd Mr Lloyd George i lawr yn nghanol cymeradwyaeth na chlywyd ei fath erioed.

EISTEDDFOD COR WEN.I