Hide Articles List

4 articles on this Page

CADAIR UNDEB ANNIBYNWYR CYMRU.

News
Cite
Share

CADAIR UNDEB ANNIBYN- WYR CYMRU. Anerchiad y Parch R. Roberts, Traddodwykanerchiad o Gadair Undeb Annibynwyr Cymru, yn Mhontardulais, dydd Mercher, gailY Parch R Roberts, Rhos. Yn canlyn ceir crynhodeb lied gyfiawn o honi Aowyl, Pharchus Frodyr,Caniatewch i mi, yn gyntaf pll, gyflwyno i cbwi fy niolchgarwch mWyaf dUSFuant am eidb car- edigrwydd yn rhoddi yr aadijrdedd hwn arnaf yn Rhosilanerchragog y A "Yn ddiweddaf. Gwn yn burion mai eich hynawsedd a'ch brawdgarwch chwt yn fwy na dim arall sydd yn cyfnf am hyny, a buasai yn dda genyf atlu ad-daiu eicti. mawrfrydigrwydd mewn gwasanaeth gwell i fy Meistr, yr Enwad, a chwithau. Hys- bys ydyw rat ddarfod i mi gael fy ngoddiweddy4 gsM^ «§(echyd bMa ar ddecbreu y flwyddya hoo 0iiuu y «bat agosaf ataf fod y diwedd wedi dyfod, a i meddyliais innau un adeg fy mod yn tynu at y terfynau eithr ni phallodd*gras Duw, yr hwn yn helaeth a fu gyda mi mewn pob daioni, ac a'm cododd o'r dyfnder i'r lan, gan roddi i mi eto ychydrg egwyl cyn croesi at fy nhadau. Yn ystod y ped- air biynedd a deugain disveddaf, cefais y fraint o ymweled a'r rhan fwyaf o ddinas oedd Israel, a thramwyo y wlad o Dan i Beerseba, a cheisio gwarchod gartref. Er hyny, ni chollais yr un Sabbath na'r un ymrwymiad wythnosol hyd eleni. Yr Arglwydd a wnaeth hyn, a rhytedd ydyw yn fy ngolwg i. Gyda golwg ar destyn i'ch anerch yma heddyw, gallaf ddweyd y bum mewn peth pryder, ond nid cyfyng-gynghor. Curais unwaith a dwywaith wrth rai drysau mewn heol barchus a elwir Uniawn a phat, yo methu cael ateb boddhaol aeth- um at ddrws yn uwch i fyny, ac agorwyd i mi yn ebrwydd, ac yno yr arosais. Fodmeithrin yr Ysbryd Cenhadol fel En-wad, yn lzanfodol er ein llnoydd- iant, gartref acoddicartref. Nis gallwn fod yn elfen effeithiol yn nghynydd Teyrnas Crist, heb ein Uwyr feddianu gan Ei ysbryd Ef. Yr ysbryd sydd yn creu awyrgylch ac yn rhoddi tro yn mhob olwyn yn symud y greadig- aeth, ac yn rhoddi cymetiad i bob peth. Ysbryd teulu, ysbryd eglwys, ysbryd cenedl, ac ysbryd enwad sydd yn pender- fynu eu nodwedd, eu nertb, a'u dylanwad. Mae yr Eglwys yn Nghrist, a Christ yn yr Eglwys,; nyni yn Nuw, a Duw ynom ninau. Ysbrydolrwydd yr Eglwys ydyw yr unig feddyginiaeth i holl friwiau yr Eglwys ei hun, a gobaith iachawdwriaeth y byd. Nid oes dadl nad ydyw gor- Annibyniaeth wedi llesteirio ein llwydd- iant mewn llawer lie, ac yn fagl i ni ar lawer achlysur, ac yn wanychdod i'n sef- ydliadau a'r Enwad yn gyffredinol. Bell- ach, teimlir yn gyffredin y dylem wasgu at ein gilydd, a chyfuno holl nerth Anni- byniaeth mewn cyfluniad effeithiol i gyr- haedd amcanion mawrion Cristionogaeth. Arw.yddion yr 3mserau ydyw undeb. Nid oes eisieu i ni gilio drwch y blewyn oddi- wrth ein hegwyddorion sylfaenol a gwa- haniaethol, eithr eu gweithio allan yn y ffurf a'r drefn fwyaf effeithiol. Costiodd ein llacrwydd a'n hannibendod i ni yn ddrud, trwygolli tir lawer y dylasem fod wedi ei feddianu, a thrwy wneyd cam a'r ysbryd goreu oedd ynom ac a'r wlad. Trwy,draul fawr bu y tadau yn arloesi y tir, gan godi eu bwyeill yn y dyrysgoed, a pharotoi ffordd yr Arglwydd- Daeth eraill i mewn i'w llafur hwy oedd yn meddu gwell trefn, os nad cynesach ys- bryd, ac mewn byr amser a ymdaenasant dros ranau helaeth o'r wlad ac yr ydym yn ol ein hanianawd fel Enwad, yn ddi- gon mawrfrydig i ddymunno Duw yn rhwydd iddynt, ac i gyd-lawenhau am ddyfodiad y cynhauaf. Maey graddau o Iwyddiant a fu arnom trwy rad y nef i'w briodoli, nid yn gym- aint i'n cynlluniau a'n trefniadau ni, ag i'r ffaith fod genym ynffortuous nifer o ddynion o nodwedd neiliduol wedi bod yn llafurio yn ngwahanol barthau y wlad. Dyma y g wroniaid fu yn arloesi yr anial- dir, yn eangu terfynau ein hetifeddiaeth, ac yn allu aruthrol er daioni yn yr ardal- oedd lie buont yn llafurio. Pan y mae ardal newydd yn agor, a'r rhagolygon yn ffafriol, a gwir angen am achos yn y lie, efallai mai ychydig bobl druain, dlodion, o'r eiddom ni sydd yno eto. Nid oes ganddynt nerth na chalon i gychwyn dim ar ifurf achos eu hunain gallai fod y gweinidog agosaf atynt yn tewi a son, ac yn teimlo yn wan-galon i symud, rhag ofn y byddai i hygy dolli ar ei gynulleidfa ef. Beth a ddaw o'r rhai hyn ? Mewn ach- osion fel yma, yrydym ninau ar ein prawf, a chrefydd, mor bell ag y cynrychiolir hi genym ni yn yr ardal hono, yn y glorian. Oni ddylai fod genym wyr cymhwys yn ein henwad i'w hanfon yno ? Cawsid felly gyfle i ystyried yr amgylchiadau, i galonogi, i ym- gynghori o barthed i ffurfiad eglwys, sicrhau tir i adeiladu addoldy arno, rhoddi cyfarwyddiadau angenrheidiol yn nglyn a'r capel rhag i'r costau fyned yn faich ar y lie ac yn boen afreidiol ar yr Enwad. Felly, byddai calon a nerth yr Enwad yn euro yn y fan hono, ac fe gawsai outlet newydd i'w hymadferthoedd, Dilys yd- yw fod genym amryw eglwysi bychain mewn lleoedd anghysbell a diarffordd yn galw am bob cydymdeimlad ac ymgeledd a ellir estyn idd- ynt. Pa nifer o'n gweinidogion sydd yn y lle- oedd goreu sydd trwy aberth yn ymweled a'r lleoedd hyn yn awr ac eilwaith ar y Sabbath ? Rhaid i ddyn fod, yn arwr yn y bychan cyn y gall fod yn arwr gwirioneddol yn y mawr. Mae gwir arwriaeth yn goch ei gwisg yn dyfod i fyny o Edom, ac yn sathru y dreigiau dan ei thraed. Yr ydym yn falch o'r Gronfa, ac o'n cenhadon, Miss Davies, a'r Parch Towyn Jones, a'r gwaith effeithiol a gyflawnir ganddynt yn ein gwlad a chyda'r Cymry sydd a'r wasgar eto, mae lluaws o'n gweinidogion yn llafurio o dan anfanteision mawr oherwydd bychander y gydnabyddiaeth, a roddir iddynt. Llawenhawn fod ein brodyr y Saeson wedi trefnu yn Mai diweddaf i gasglu trysorfa o 2250,000 i'r perwyl yma. Nid oes dadl i fod yn nghylch teilyngdod yramcan ac osllwydd- ir, fel mae pethau yn argoeli yn awr, bydd y canlyniadau yn dra boddhaol i'r eglwysi yn Lloegr a'r eglwysi Seisnig yn Nghymru. Teim- la llawer ya siomedig, 08 nad yn chwerw; am na buasai y cynllun yn cynwys yr eglwysi Cym- reig, gan ein bod yu rhan o'r Undeb. BelUch, y mae ganym Undeb mewn Undeb i ameanion o'i wddo ei hun, 4 ninau wedi ein can allan* Tybiwn y dyltftid, ,0 leiaf, ymyj^nghori aQbym> M CJM ^.irblhati$tnfuiaat. £ r hjny, 4ylem _A_ feddianu ein henaid mewn amynodd, am na wyddom pa dda all ddigwydd ar y ddaear. Mae ein hadnoddau yn fwy nag yr ydym erioed wedi dychmygu, ond i ni gael ysbryd a threfn i'w gweithio allan. Ni byddai casglu deng mil at y mater hwn yn ystod y ddwy neu dair blyn- edd nesaf ond gwaith cymharol hawdd, pe bydd- em o ddifrif. Dylem gredu yn Nuw nes meddu hyder ynom eia hunain. Ysbryd, gwaith, a threfn symudai y mynyddoedd i ganol y mor. Ysbryd yr Efengyl a roddai nerth mwy yn ein pwlpudau, a dylanwad nefol yn ein cyflawniad- au, a nerthoedd y byd a ddaw i weithio yn ein cynulleidfaoedd Da genym weled ein myfyrwyr a'n gwein- idogion yn rhagori mewn addysg a diwylliant, ac yn enill eu graddau gyda'r fath anrhydedd yn y Prifysgolion. Llonir ni yn fawr wrth weled talent ac athrylith yn ymagor yn ein pwl- pudau. Dylai y pwlpud osod y greadigaeth faterol a meddyliol o dan deyrnged iddo ei hun, ac ni ddylid gwarafun iddo eu trethu yn drwm, oblegid erddo ef ac iddo y crewyd hwynt oil. Ni ddylid byth anghofio nas gellir gwneyd gwir bregethwr o unrhyw ddyn, os na bydd wedi ei lwyr feddianu gan ysbryd pregethu. Er pob mantais arall, os heb hwn, ni bydd graen na gwawr ar y gwaith. Nid bywoliaeth ydyw y weinidogaeth, ond allor i aberthu oin hunain arni yn aberthau byw a chymeradwy gan Dduw a dynion. Gwaredwr ydyw y pregethwr, ac y mae yn rhaid iddo, fel ei Feistr, ddwyn ei groes i ben y bryn ei hunan. Na feddylied y dyn ieuanc wrth nesu at faes ei lafur ei fod wedi ei alw i fyned i Ganaan, gwlad yn llifeirio o laeth a mel ac ymenyn, eithr, yn hytrach, i anialwch gwag, erchyll, yn llawn pyllau clai, lie mae seirff ac ysgorpionau, a dynion wedi eu brathu yn angeuol yn ochain ac yn marw yn eu harch- ollion ar bob llaw. Llef un yn llefain yn y diffaeth wch a fydd ef hyd nes y bydd y mil blwyddi hedd yn agor eu dorau ar ddynolryw.. Rhaid i'r sedd fawr hefyd gael ei llenwi a'r ysbryd hwn, a'i gwneyd fel cylch o d&n amgylch gwr Duw pan y byddo yn proffwydo. Mae y naill a'r llall yn dylanwadu yn ddirfawr ar eu gilydd, ac yn arwain defosiwn y gynulleidfa, ac yn rhoddi ton i'r addoliad Dwyfol. Ofnir fod lluaws yn ein plith, a rhai cynulleidfaoedd, yn dra amddifad o'r dylanwadau grasol, 8.C, fel Gilboa, heb na, gwlith na gwlaw. Mae Iluaws yn difetha eu Sabbath ar nos Sadwrn, ac iddynt hwy mae wedi ei ladd cyn iddo wawrio. Yr olygfa ogoneddusaf ar y ddaear hon ydyw gwel- ed cynulleidfa yn addoli dan ddylanwad yr Ysbryd tragwyddol, a'u heneidiau fel echel mewn olew yn tioi yn esmwyth a hyfryd. Paham na byddai ein lleygwyr yn llawer mwy cyffredinol wedi eu tanio a sel genhadol ? Ysbryd Crist wedi eu hysu, a llwyddiant Ei Deyrnas yn nod uchaf eu bywyd. Yn y fan yma mae genym fel corff crefyddol adnoddau cyfoethog heb eu cyffwrdd ond yn ysgafn iawn oto-plyg ar blyg yn haenau trwchus ar eu gilydd yn dysgwyl ac yn brysio am ddyfodiad dydd yr Ysbryd i roddi anadl einioes ynddynt. Mae yr arweinydd yn greadigaeth noillduol yn mhob oes ac yn mhob cylch, yn argraffiad ar- benig o'r natur ddynbl i gyfarfod ag agenion yr amserau. Mae genym fasnachwyr, a dynion yn troi yn holl gylchoedd bywyd-dynion sylwgar a chraff; oni fyddai cael cynyrch profiad, doethineb, a medr y rhai hyn yn gaffaeliad an- rhaethol werthfawr yn ein llysoedd eglwysig 1 Os ydym am eu cael, mae yn rhaid eu magu, eu cefnogi, eu gwerthfawrogi, a thaln y warogaeth ddyladwy iddynt. Nid ydym, ychwaith, wedi cael y cynorthwy arianol a ddylasem gael o'r ffynonell hon at ein mudiadau cyhoeddus. Pa le y mae ein tywys- ogion mewn cyfranu yn Nghymru ? Gelwir ni yn fynych yn Gymru fechan dlawd. Mae hyn yn athrod ar ein gwlad. Ofnwn mai tlodi ysbryd sydd yn ein llethu. Ni bu ein cenedl erioed mewn amgylchiadau bydol mor gom- fforddus a heddyw. Fel y mae cyfoeth y wlad yn cynyddu, dylai trysorau yr Arglwydd lenwi, a'i chynyrch masnachol gael ei offrymu ar Ei allorau Ef. Onid oes angen i ni sylweddoli mai nid perchenogion ydym, ond goruchwylwyr ar amryw ras Duw. Dylai yr ysbryd cenhadol redeg yn gryf trwy ein Colegau, a llwyr feddianu ein myfyrwyr duwinyddol, a'u llenwi a brwdfrydedd sanctaidd dros ledaeniad Teyrnas Dduw. Dylai dyn ieu- anc roddi ei oreu yn y lie anhawddaf-aredig y tyndir, dryllio y creigiau, nofio yn erbyn y Ilifeiriant; nid chwilio am baradwys i eistedd dan y coed, ond am anialwch i'w gwneyd yn baradwys well; nid edrych o hyd am Ganaan er mwyn sipian y grawnsypiau, ond am Aifft i oleuo ei thywyllwch a throi pob cwys ohoni yn Ganaan nefol. 0 na fyddai i feibion y proff- wydi yn Nghymru feddianu deuparth o ysbryd Crist, a gwroldeb i gerddad yn ol ei draed. Yr ysbryd yma a iachiii fywyd moesol ac ysbrydol ein cenedl, ac a ysgubai ymaith y drygau sydd yn ein blino, ac sydd yn achlysur i eraill estyn bysedd atom a'n cablu. Mae crefydd wedi moesoli miloedd yn Nghymru, er iddynt beidio ei phroffesu, ac y mae miloedd yn ei phroffesu heb eu mosesoli—y naill yn pwyso ar weithredoedd, a'r lleill ar broffes. Meddylier am ein capelau yn britho y wlad, a'r moddianau a gynhelir ynddynt o Sab- bath i Sabbath, ac o wythnos i wythnos. Eto y mae y ffrwyth mewn ysbrydolrwydd a moes- oldeb yn mhell o fod yn foddhaol. Nid ydym yn barod i gredu pob cyhuddiad, nac i goelio pob amddiffyniad, ac yr ydym yn amheu yn gryf fod sail i'r oil o'r cyhuddiadau er hyny, nis gellir gwadu, nad ydyw sefyllfa pethau yn ein plith yn hynod o anfoddhaol, ac yn peri i ni yn fynych gywilyddio a gostwng pen—heb son am y difrawder oerfelgarwch presenol sydd wedi ymdaenu fel ia difaol dros yr eglwysi, a'r blys anniwall am bleserau a moethau a welir ac a deimlir ar bob llaw. Yn awr, y cwestiwn cyntaf sydd yn ein gwynebu ydyw, Pa fodd i wella iechyd merch ein pob!? Nid y bobl sydd barotaf i'n pardduo ydywy rhai cyntaf i geisio atal y pla. Nid oes ond un feddyginiaeth eff- eithiol a trwyadl, sef yr Ysbryd o'r uchelder, i lwyr feddianu yr Eglwys a'i Ilenwi a'r. nefoedd Efe a agorai ffenestri palasdai Seion i oleuni y byd ysbrydol, a burai ac a ffurfiai gydwybod yn y genedl, a sancteidd- Ui ei hegwyddorion a'i chymhellion, a'! lien- walag awydd angerddol i ledaenu Teyrnas Crist. Beth a iachai Gymru yn ei chalon, a --M- _n. roddai iddi lendid buchedd, ai gwnai yn esiampl i'r gwledydd, ac yn berarogl i Dduw? Ysbryd y Netoedd ynddi a wnai nefoedd o honi, yna caem we!ed daear new- ydd a nefoedd newydd, yn y rhai y byddai cyfiawnder yn cartrefu Yr un Ysbryd ynom fel Cristionogion yn y deyrnas hon a fyddai yn gynoithwy eff- eithiol i drafod ein cwestiynau cyhoeddus a'n mesurau Seneddol yn deg ac er budd i bawb. Mae cwestiynau cymdeithasol a gwleidyddol yn grefyddol yn eu gwreiddyn, ac yn dylmwadu yn rymus ar ein bywyd cenedlaethol. Nid ydoedd Mesur Addysg y Weinyddiaeth bresenol ond cynyg i hedd- yehu pleidiau crefyddol. Cnewullyn y mater ydyw, Pwy gaiff y plant heddyw a'r genedl yfory ? Dyma y pegwn mae y ddadl yn troi arno. Pe byddem yn llawn o ffydd a'r Ysbryd Glan-yr Ysbryd sydd yn ein codi uwchlaw man wahaniaethau, acyn peri i ni feddwl yn well o'n gilydd na ni ein hunain —ciliai ein hanawsderau fel mwg, a therfynid ein cwerylon yn ebiwydd, a byddai heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tonau y mor. Yr un dynged flin ddaeth i ran Mesur Lle:hau Tafarndai yn ein plith, ac a aeth yn ddrylliau ar yr un creigiau duon Beth pe buasai holl adranau yr Eglwys yn y wlad wedi eu llenwi a'r Ysbryd Tragwyddol, a'ti huno yn un fyddin fawr o dan arweiniad Tywysog Tangnefedd ? Ni safasai y gelyn foment yn ngwyneb y fath arfog lu. Buasai eu sel a'u brwdfrydedd ysbrydol yn rhedeg yn Ilifeiriant anwrthwynebol, ac yn rhuthro gyda'r fath nerth ar sylfaeni y Ty Arglwydd- aidd sydd ar y tywod nes y buasai ei gerryg yn rhoi, ac yntau yn syrthio yn merw y llif, a'r wlad yn bloeddio mewn gorfuledd, "Ei gwymp a fu fawr." Yn ddiau nid oes deimlad cryf&ch yn y meddwl Cymreig na'r awydd i Ddadgysyllttt a Dadwaddoli yr Eglwys Sefydledig yn Nghymru, ac y mae sefyllfa y cwestiwn yn awr yn y Senedd yn mhell o fod yn fodd- haus i lawer. Yr ydym wedi ein cynghori a'n cymhell i fod yn dawel ac amyneddgar mor hir nes y mae y rhinweddau gwerth- fawr hyn wedi eu^treulio allan. Beth ai rhyddhai hi yn esmwyth o'i chadwynai? Nid dadleuon yn nghylch gwisgoedd, ffurf- iau, olyniaeth, awdurdod, a honiadaeth wag, eithr ei thrwytho ag ysbryd Iesu o Nazareth., Mae y lefain yn gweithio yn y blawd, a chydrhwng y nerthoedd yn gweithio oddi- fewn ac oddiallan, sylweddolir ein delfrydatf yn y man. Er gofid i bob gwir ddyngarwr, cynhyrfif y wlad gan yr ysbryd milwrol. Mae adrail o'r wasg yma ac ar y Cyfandir fel wrth ei swydd yn cwythu bygythion a chelanedd, Ymegnia swyddogion milwrol i gael ein dynion ieuainc dan arfau, ac aid yw y Wein- yddiaeth heb gael ei blino ganddo. Ym" wthia i rengoedd Ymneillduaeth Cymru, a gwneir rhai o'n gweinidogion yn gaplaniaid, ac edrychir ar y swydd fel safle o anrhyd- edd. Trefnwyd gorymdaith filwrol yn ddi- weddar o dref i deef, a hyny ar ddydd yr Arglwydd; aed i addoldy Ymneillduol » gynal yr hyn a elwid yn wasanaeth cre- fyddol. Yr amcan trwy y cwbl oedd enill adgyflenwad i'r fyddin, a chryfhau ysbryd rhyfel. Nid yn ei byddin, a'i llynges, na'i masnach a'i chyfoeth, mae nerth cenedJ, eithr yn Arglwydd Dduw y lluoedd. Mae ysbryd yr Efengyl yn hollol wrthwynebol i ysbryd rhyfel. Duw yr heddwch ydyw yr Arglwydd, Tywysog Tangnefedd ydyw Iestff tangnefedd a llawenydd ydyw ffrwyth yr Ysbryd Glan. Cariad at Dduw a dynioo ydyw rhwymyn y greadigaeth foesol; a phan ddelo yr Ysbryd yn Ei rym daw yr amser hyfryd pan na ddysgant ryfel mwyach. Rhaid i lanw ein hysbryd cenhadol fedd- ianu y byd-llenwi y ddaear a chofleidiG dynoliaeth yn ei chrynswth. Y maes yw y byd, ac y mae yn rhaid trin pob troedfedd a hono. Pan y cyfyd llanw ein brwdfrydedd yn uchel gartref yna teifl y tonau ar bob traeth is y nef. Po fwyaf a roddwn ni i'r byd, mwyaf a gawn gan Dduw. Mae dyn, yr eglwys, a'r enwad sydd yn peidio rhoddi, yn marw, ac yn sicr o gael ei gladdu mewn bedd dienw. Tybed a ydym eto wedi gwel. ed mawredd a gogoniant Teyrnas Dduw fel ftrwyth y cariad a'r bwriadau tragywyddol yn yr lawn i ymgeleddu dynion, a'n braint ninau i gael bod yn gydweithwyr yn ei pherffeithiad ? Yn ngoleuni yr Ysbryd, ym. ddangosai yn ddisglaer a gogoneddus. Mae Duw wedi rhoddi y ddaear yn etifeddiaetb i'r Eglwys, ac y mae drysau y byd yn Ilawn agored heddyw, a dynion bellach yn nes i'w gilydd, fel pe baent yn byw yn yr un dref. 0 na chaem yr anadl, fel yr elem ac y meddianem y wlad. Iesu biau y dyfodol oherwydd yr hyn a wnaeth yn y gorphenol. Caiff yr haul godi rhyw foreu, ac, er ei syndod, weled y ddaear yn ysgwyd gan wenith, a hwnw yn gorch- uddio y bryniau-bydd dyrnaid o yd ar y ddaear yn mhen y mynyddoedd. Yna llama y seithfed angel i'w bwlpud i draddodi y bregeth sydd ganddo mewn manuscript er cyn cofAeth teyrnasoedd y byd yo eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist Ef, ac Efe a deyrnasa yn oes oesoedd."

[No title]

Advertising

Wwtpudau.