Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

—[ Jlppwyntiad Mr Herbert…

^OHEBIAETH. -

[No title]

"'_.-.....--------__-"--_...._-------j…

OYFKROHIAD YR ORSEDD.1

GWEITHRED ANFAD YN LLANRWST.

News
Cite
Share

GWEITHRED ANFAD YN LLANRWST. Taro Swyddog Cyhoeddus a Mar- wolaeth yn dilyn. Yn hwyr nos Lun Uflsvyd tref LIanrwst i gyffro difrifol oherwydd y" newydd am ym- osodiad mileinig ar Mr R R Owen un o'r trigolion mwyaf ei barch yn y dref. Yr amgylciadau a arweinient i fyny ato ydyw y rhai canlynol. Yn ystod prydnawn Llun gwelwyd Hugh Lloyd Roberts, labrwr, yn Uercian o amgylch y dref o dan ddylanwad diodydd. Yn ystod yr adeg hwn haera iddo gael ei lysenwi gan un o blant ieuengaf Mr Owen. Achwynodd am hyn wrth Mrs Owen. Nos Lun yr oedd Mr Owen yn Horeb. Capel y Wesleyaid, lie y gwasan- aethai fel organydd, a chyn myned adrefi cymerodd ran mewn cyfarfod gweddi a gynhelid y noson hono. Ar ei ffordd adref pan yn agos at y ty cafodd ymgom fer gyda Mr Malek, archadeiladydd, ac yna croesodd, y trordd i fyned i'w dy yn Car- rington terrace Yn gydfynedol, gwelwyd dyn fu yn Uerciano gwmpas yn croesi'r ffordd hefyd. Yn canfod hyn daeth Mrs Owen o'r ty a gafaelodd yn mraich ei phriod gyda'r diben o'i brysuro yn mlaen i'r ty, ond i rhuthrodd y dyn, yr hwn ai drodd allan fel Hugh Lloyd Roberts, at Mr Owen, a gafaelodd yn ei fraich Ceisiod Mr Owen ymryddhau o Jafael ond methodd am adeg Yn y diwedd, fei yr oedd Mr Owen yn cyfhaedd y I llidiart tarawodd Roberts ef ar ei arlais gyda ffon onen a gariai. Yna ymlusgodd Mr Owen, yn caet ei gynorthwyo gan Mrs Owen, i'r ty. Cym-' erwyd y ffon oddiar Roberts gan ddyn elai heibio. Pah gyrhaeddodd Mr Owen yr ystafell gyntaf syrthiodd i'r. llawr, a galwyd ar Drs Owen, Tompson, a Hill i mewn ar unwaith. Cawsant fod Mr Owen wedi ei batlyBu yn ei oehr dde, a bu yn ■ any mwy- bodol hyd dydid l«fawrtH y boreu pryd y bu farw. Yr oedd y diweddar Mr Owen yn 48 mlwydd oed, a gadawa weddw a naw o blant. Yn 1903 appwyntiwyd ef yn Glerc i Warcheidwaid Llanrwst. Yn ddilynol llan- wodd y swyddi o Glerc i Gynghor Dosbarth Gwledig Llanrwst, Clerc Cynghor Dosbarth Gwledig Geirionydd, Clerc Pwyllgor Ar- drethol, Cynghor Betters-y-Coed, ac yn Gofrestrydd Arolygol Genedigaethau, Piiod- asau, a Marwolaethau. CYHUDDIAD 0 LOFRUDDIAETH. Dygwyd Hugh Lloyd Roberts, labrwr, Scotland street, Llanrwst, i fyny o flaen Llys yr Ynadon dydd-Mawrth ar y cyhuddiad o lofruddiaeth. Ar y Fainc yr oedd Mr Is- goed Jones, ac Ynadon eraill. Yr Heddgeidwad J Jones a ddywedodd iddo fyned i Carrington terrace oddeutu 8-30 nos Lun. Yno gwelodd y carcharor yn sefyll gyferbyn a thy Mr Owen. Yr oedd tyrfa fawr o bobl yno. Yr oedd y car- charor yn detnyddio iaith hynod o fygythiol Mor fuan ag y gwelodd y tyst symudodd y carcharor ymaith. Aeth y tyst i dy Mr Owen a chafodd y boneddwr hwnw yn an- ymwybodol. Siaradodd ag ef ond ni chaf- odd atebiad. Yna dilynodd y carcharor, a daeth o hyd iddo fel-yr elai dros gamfa ar gyrion y dref. Dywedodd wrth y car- charor ei fod am ei gymeryd i'r ddaita. Ymwylltiodd at hyri, a dechreuodd ymryson. Fodd bynag llwyddodd i'w gael ar lawr, a chyda chynorthwy yr Heddgeidwad Owen dygwyd ef i'r ddalfa. Yr Arolygydd Wyse a ddywedodd iddo fyned i Carrington terrace am ddeg o'r gloch boreu Mawrth, ac yno gwelodd gorph Mr Owen. Yna dychwelodd- i'r Orsaf Hedd- geidwadol a chyhuddodd y carcharor o lofruddiaeth. Ni atebodd air. Gofynai i'r achos gael ei ohirio hyd foreu dydd lau, yr hyn a ganiatawyd. TRENGHOLIAD. Cynhalivrydlrengholiad ar y corph dydd tau yn Llanrwst, a dywedai y Orwner wrth grynhoi nad oeM: y dystiolaeth feddygol yn dangos fod gan y ddyrnod ddim i wneyd a'r gorlifiad gwaed. Yr hyn achosodd farwolaeth, a'r hyn » achoswyd trwy oi^jynhyrfiad. Wedi ymneilldao anv, ychydig, dychwelodd y rheithwyr ddyfarnad o Ddyn-^ddiad" yn erbyn Boberta. Yb ddilynol dygwyd y cyhuddedig o flaen y Fainc, ac wedi tystiolaeth ffarfiol gohiriwyd y* achos kyd ddydd Mercher fiMai

RHOS PARISH MEETING.

'RUABOlf' POLICE COURT.

Crime in Denbighshire.

Advertising