Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Achos pwysig o lawn-daliad…

News
Cite
Share

Achos pwysig o lawn-daliad o'r Rhos. Dydd Mercher diweddaf, yn Llys Sirol Gwr- ecsam, o flaen y Barnwr Moss, gwnaed appel gan y Ruabon Coal and Coke Company am ad- ystyriaeth i'r archeb i dalu 15/- yr wythnos i Robert Thomas, Princes street, Rhos. Ym- ddangoswyd ar ran y Cwmni gan Mr Allen, ? thros y gwrthatebwr gan Mr Downea Powell. Dywedodd Mr Allen fod y gwrthatebwr mewn canlyniad i friwiau dderbyniodd yn di- oddef oddiwrth dorgest (hernia) ma.wr, yr hyn oedd yn ei hollol analluogi. Sicrhawyd cyng- hor gwr medrus, yr hwn a dystiai y gwnai gweithred lawfeddygol, yn ol pob tebyg, achosi gwellhad, ond gwrthodai y dyn gydymffurfio a hyny oherwydd y perygl. Yr oedd ef (Mr Allen) yn barod i ddangos fod y perygl yo neillduol fach, ac fod y dyn yn agored i berygl llawer mwy wrth beidio cydymffurfio. Y Barnwr Ond tybier fod ei feddyg ei hun yn ei anog i beidio cydymffurfio. A yw ei iawn-daliad i gael ei atal oa gwrthoda fyned ? Mr Allen: Y cwestiwn ydyw, ai rheaymol y cyfryw anogaeth yn ngwyneb opiniynau gwyr hyfedr.; (experts). Dc George Newbold, Liverpool, a ddywedodd iddo archwilio y gwrthatebydd, a chafodd ef yn dioddef oddiwrth dorgest mawr anadferadwy. Nid oedd yn ei ystyried yn ddiogel iddo weithio yn ei gyflwr presenol, gan y medrai y torgest chwyddo a pheri afdrwyth, ac yna byddai gweithred lawfe(ldygol yn anocheladwy ac yo fwy peryglus. Yn ei farn ef gwnai gweithreda llawfeddygiaeth yn ei gyflwr presenol achosi meddyginiaeth. Ni wnai Owmniau morwrol Lerpwl gyflogi dynion yn dioddef oddiwrth dorgest heb iddynt yn gyntaf fyned dan law- feddygiaeth, a chyflawnid hyn yn barhaus gyda llwyddiant mawr. Nid oedd marwolaethau yn yr achos hwn ond *2 y cant. Cytunai Dr Richard Williams, Gwrecsam, a hyn. Dros yr amddiffyniad, dywedai Dr J O Davies, Rhos, meddyg y gwrthatebwr, fod y dyn yn 56 mlwydd oed, yr hyn oedd yn mil- wrio yn erbyn llwyr wellhad. Yr oedd yn dil- yn bywyd hynod dawel, ac nid mwy y perygl yr oedd yn agored iddo yn awr na thrwy law- feddygiaeth. Yn ngwyneb yr holl amgylch- iadau nid oedd yn cynghori llawfeddygiaeth. Dr Moss a ddywedodd ei fod o'r farn, wedi archwilio y gwrthatebwr, y dylai gydymffurfio a llawfeddygiaeth. Cytuhai yn hollol a thyst- iolaeth Dr Newbold. Dywedodd y gwrthatebwr ei fod yn anfodd- Ion i'r lawfeddygiaeth. Dywedodd' y Barnwr pe bai'r amddiffyniad wedi dibynu ar dystiolaeth meddyg y gwrth- atebwr yn unig, byddai yn, Itawer cryfach nag yw yn awr. Galw odd Mr Powell am dystiol- iaeth Dr Moss o'i du, ond yr oedd hwnw yrt gefnogol i'r ochr arall. Yr oedd yn fater pwy- sig, ac mewn trefn iddo gael darllen achosiort eraill ar y pwynt;" gwnai ohirio ei ddyfarniad. Cyn cau y Llya datganodd y Barnwr ei fod yn barod i roddi dyfarniad yn yr achos. T, cwestiwn i'w benderfynu ganddo oedd, ai rhesymol yn y gwrthatebwr oedd gwrthod myn- ed dan lawfeddygiaeth yn ngwyneb y cyfar- wyddyd gafodd gan ei feddyg ei hun. Wrtb edrych ar y dystioWeth nid oedd ganddo am- heuaeth yn ei feddwl ei hun na phrofai y law- feddygiaeth yn fuddiol, ond peth Anarferot gryf ynddo fyddai dweyd, a hyny yn ngwyneb y cyfarwyddyd roddodd meddyg y dyn; ei hun, ei fod yn gweithredu yu afresymol trwy wrth- od. Wedi y dystiolaeth gafwyd y diwrnod hwnw feallai y gwnai Dr Davies ystyried ai nl allesid. gwneyd rhywbeth.

RHOS.-

Advertising

IfwEpudau.

,-PONKEY*

CYFARFOD PLWYFOL.

...1tiItM1 ._----Y GLOWR A'R…