Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Achos pwysig o lawn-daliad…

RHOS.-

Advertising

IfwEpudau.

,-PONKEY*

CYFARFOD PLWYFOL.

News
Cite
Share

CYFARFOD PLWYFOL. Cwestiwn y Drol Ddwfr i'r Rhos. Cynhaliwyd Cyfarfod Plwyfol yn y Public Hall, Rhos, nos Fercher, i ystyried y priod- oldeb o sicrhau trol i ddyfrhau heolydd y Rhos Mae'r mater, ers peth amser, wedi bod dan ystyriaeth gan y Cynghor Plwyf, ac yn ddilynol penderfynwyd i gymeryd llais y trethdalwyr ar y mater. Dylid dweyd fod y Cynghor Plwyf yn unfrydol yn ffafr y cynygiad. Llywyddai Mr W M Jones, a daeth cyn- ulliad lied gryno yn nghyd. Wrth osod y mater gerbron y cyfartod, dywedodd y Cadeirydd y byddai cost pwrcas trol ddwfr yn £80, a'r treuHau blynyddol o'i chadw o £50 i £60. Golygai hyn dreth o tua cein- iog. Ar y cyntaf tyb'.d y byddai yn angen- rheidiol cael stand pipes i gyflenwi dwfr, ond wedi ystyriaeth pellach, cawsent y medrent gael cyflenwad o ddwfr o'r gwa- hanol hydrants yn yr ardal. Yr oil oedd yn angenrheidiol fyddai gosod meters dwfr at y drol, fel y gellid mesur a chymedroli y cyflenwad yn briodol. Gellid gwneyd ikyny ar gost o £3 10s. Mr W 0 Jones A fydd un drol ddwfr yn ddigon i'r holl gylch ? Y Cadeirydd Rwyf yn credu y bydd. Yr oedd Mr John Evans, Victoria, street, eisiau gwybod, os pendetfyneni., gael trol ddwfr, a fyddai gan Gynghor Dosbarth Gwrecsam unrhyw reolaeth arni. Atebodd y Cadeirydd y byddai y drol yn eiddo Cynghor Plwyf y Rhos, ac ni byddai gan y Cynghor Dosbarth reolaeth arni o gwbl Yr oil fyddai a wnelo y Cynghor Dosbarth a hi oedd, y byddai yn rhaid iddi gael ei phwrcasu trwy y corph hwnw. Nid oedd gan Gynghor Plwyf y Rhos awdurdod i brynu trol ddwfr eu hunain, felly yr oedd yn rhaid iddynt ofyn i'r Cynghor Dosbarth ei phrynu drostynt, y Rhos, wrth gwrs, yn talu y gost. Ystyriai Mr Wm Thomas, Johnson street, nad oedd ond chwarett plant a gwastraff ar %mser i ystyried mater, mor ddibwys mewn Cyfarfod Plwyfol. Yroedd yn wrthun fod tile o faintioli'r Rhos. gyda phoblogaeth o J t 000, heb hyd yn oed allu i bwrcasu trol ddwfr iddynt eu hunain. Yr oedd yn ben amser iddynt symud., yn mlaen am Allu BwrdeisioL Yr oedd yn cynyg fod cwestiwn y drol ddwfr yn cael ei ohirio hyd nes y sicrhaent. Allu Bwrdeisidl. Eiliwyd gan Mr Joseph Phillips, Broad street. Yr oedd angen arnynt am ffyrdd priodol cyn pwrcasu trol ddwfr. Dywedodd y Cadeirydd mai nid amcan y cyfarfod oedd trafod GalIuBwrdeisiol ar hyn o bryd. Am gwestiwn y ffyrdd, yr oeddynt yn ystod y pedair blynedd diweddaf wedi gosod 20 o ffyrdd ar y Cynghor Dosbarth, y gost i fod yn daladwy dros yr holl Ddos- barth, ac nid i Blwyf y Rhos fel o'r blaen. Yr oedd rhestr bellach o heolydd yr oedd y Cynghor Plwyf yn ceisio eu trosglwyddo i'r Cynghor Dosbarth, ond nid yw y trefn- iadau eto wedi eu cwblhau yn nglyn a'r rhai hyn. Yr oeddynt wedi anfoq at Fwrdd y Llywodraeth Leol i sicrhau eu cynorthwy, ac yn gofyn iddynt i orfodi y Cynghor Dos- barth i gymeryd drosodd yr ail restr o heol- ydd, ac yn awr yr oeddynt yn aros i gael yr atebiad i'w happel. Yn cyfeirio at gwestiwn y Gallu Bwrdeisiol, yr oedd yn credu y dylent symud yn mlaen yn araf, ac yn gyntaf oil gael gan y Cynghor Dosbarth i roddi yr holl heolydd ar y rhestr mewn cyflwr priodol. Pe yr aent i mewn am Allu Bwrdeisiol, gwnai byny olygu ychwanegiad araU yn y trethi o 2/- i 3/ Yr oedd y trethi eisioes yn 8/6, ac' yn lawn digon i'w dwyn. Yn bersonol nid oedd yn barod i ystyried y cwestiwn yn ffafriol. .Cynygiodd Mr Ken Wynne fod trol ddwfr yn cael ei phwrcasu, a chredai y byddai o fudd cyffredinol i'r gymyddgaetb. Eiliwyd hyn gan Mr W O Hughes. Mr Thomas Jones, Victoria street, a ddy- wedodd na wnai dyfrhau yr heolydd ond tueddu i gynyrchu ychwaneg o laid. Yr oedd y trethi uchel presenol yn ddigon difri- fol. Cofiai yr adeg pryd nad oedd y trethi ond 1/9, ond gyda dyfodiad y Cynghor hwn a'r Cynghor arall yr oeddynt, wedi cynyddu yn aruthrol. Mr C Morgan, Johnstown, a ddywedodd lei fod yn gredwr cryf mewn Gallu Bwrdeis- iol, ac ystyriai y by-ddai sicrhau trol ddwfr yn gam yn y cyfeiriad priodol. Yr oedd yn galonog yn cefnogi y penderfyniad oedd gerbron. Mr John Roberts, Mount View, Erw- gerrig, a ddywedodd y dylent wneyd fel y gwnaiy Rhufeinwye-gwneyd ffyrdd priodol yn gyntaf, ac yna ymofyn gwelliantau. Yr oedd y llaid, y cerrig a wthient i'r golwg, ac ystad druenus yr heolydd, yn fwy o waradwydd nag absenoldeb trol ddwfr. Yr oedd yn credu mewn gohirio y mater hyd 98% y rhoddir yr heolyod mewn cyflwr Mr John Thomas, Erwgetrig, a ddywed- toe! yn barotach i oddef y Kirch nag i ml# ychwaneg o drethi nag a wnant yo I. Y«a fhoddwyd y pepdyniad i bleidlajs y cyfarfod, gyda'r canlyniaa hwn '^O blaid trol ddwfr.48 erbyn.46 Mwya&cf

...1tiItM1 ._----Y GLOWR A'R…