Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

iWrpubau.

GYNGHOR PLWYF RHOS.

RHOS.

News
Cite
Share

RHOS. YMDDISWVDDIAD.—Wedi ugain mlyn- edd o wasanaeth ffyddlem a liwyddianus fel gweinidog y Cape[ Mawr, Rhos, cyf- iwynodd y Parch R Jones ei ymddiswydd- iad y Sabbath diweddaf. Yn naturiol parodd hyn gryn ofid i'w edmygwyr a'i gyfeillion, nid yn unig yn yr Eglwys hon, ond hefyd trwy'r ardal yn gyffredinol. Er dyfodiad Mr Jones i'r Rhos, mae llawer cyfnewidiad wedi bod yn nglyn a'r achos. Un o'r pethau cyntaf yn ei weinidogaeth oedd sefydlu Cymdeithas y Ford Gron, yr hon byth er hyny fu yn hynod lew- yrchus. Yn ystod gweinidogaeth Mr Jones yr adetiadwyd Cape! Siloh, John- stown, ac y corphorwyd Eglwys yno, yr aelodau gan mwyaf, yn cael eu dewis o'r Capel Mawr. R'oedd ymddiswyddo yn fwriad gan Mr Jones rai blynyddau yn ol, ond cofir i'r Eglwys yr adeg hono erfyn ar iddo adystyried y mater, gan wasgu arno i aros yn mheilach. Yn ot fel y deallwn, y rheswm dros y cwrs a gymer ydyw am ei fod yn teimlo y rhwymedigaethau perth- ynoi i fugeiliaeth eglwys mor fawr a dylanwadol a'r Capel Mawr yn dod yn drymach bob blwyddyn, ac fel yr el yntau yn mlaen mewn bywyd, yn anhawdd- ach iddo ef yn bresenol eu dwyn Creda hefyd fod y fath of at yn gofyn am rywun ieuenach nag ef. Ei fwriad ydyw ym- neillduo o fugeiliaeth eglwysig, a gwneyd ei gartref yn y Drefnewydd, lie fel y gwyddis y mae ei fab, Mr R Ivor Jones, yn Ysgolfeistr Ysgol y Sir. Mae'r Eglwys ar hyn o bryd yn ystyried yr ymddiswydd- iad, a cheir gwybod yn fuan eu bwriad. Pa beth bynag wneir credwn fod pawb yn gyffredinol yr barod i gyduno a ni mewn dymuno nawnddydd tawel a dymunoli Mr Jones a'i briod, a llwyddiant i'r teulu oil.

PONKEY.

Iii AT EIN GOHEBWYR.

[No title]

! EISTEDDFOD GADEIRIOL Y RHOS.…